Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Share this page

Diweddarwyd y dudalen hon ar 21/02/2023
Owen Evans

Caiff penodiad, swyddogaethau a phwerau Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (PAEF) eu pennu gan ddeddfwriaeth: yn Neddf Addysg 2005, Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 a Deddf Plant 2004. Mae ei swydd statudol wedi’i hamlinellu yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae Owen Evans yn gyfrifol am arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn ogystal â rheolaeth, staffio a threfniadaeth Estyn. Mae’n rhoi cyngor annibynnol i Weinidogion Cymru, sy’n cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau yng Nghymru. Yn ogystal, mae Owen yn chwarae rôl allweddol yn gweithio’n agos gyda chyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio eraill yng Nghymru, i roi sylfaen i gynllunio a gweithio ar y cyd. Yn ogystal, fel Swyddog Cyfrifyddu Estyn, mae’n sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n briodol a’u bod yn rhoi gwerth am arian. Yn ogystal, mae’r Prif Arolygydd yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar safonau ac ansawdd addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Cafodd Owen, sy’n Gymro Cymraeg, ei addysg yn Ysgol Penweddig a Choleg Ceredigion, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ymunodd Owen ag Estyn o’i swydd fel Prif Weithredwr S4C, y darlledwr Cymraeg. Cyn ymuno ag S4C, roedd yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus. Rhwng 2008 a 2010, roedd yn gyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned Cymru, ac am 10 mlynedd cyn hynny bu’n gweithio i BT, gan gynnwys fel aelod o dîm y DU yn datblygu strategaeth band eang BT. Mae wedi gwasanaethu fel aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn flaenorol bu’n gadeirydd Bwrdd Datblygu Addysg Caerdydd. 

Ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd cynghori Marie Curie yng Nghymru, yn rhan o’r rhaglen Siaradwyr i Ysgolion ac mae’n gadeirydd WEPCo. Mae’n aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth.

Rhan o Pwy yw Pwy: Cyfarfyddwch â’r Prif Arolygydd a’i dîm