Ni fydd ein hadroddiadau arolygu yn cynnwys graddau crynodol mwyach (e.e. ‘Rhagorol’, ‘Da’ neu ‘Digonol’). Yn hytrach na chanolbwyntio ar raddau, bydd ein hadroddiadau’n manylu ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.
Bydd trosolwg allweddol o’r canfyddiadau yn cael ei gynnwys ym mhennawd yr adroddiad, yn canolbwyntio ar gryfderau’r ysgol a’i meysydd i’w datblygu.
Byddwn hefyd yn llunio adroddiad cryno ar wahân i rieni, a fydd yn galluogi rhieni i ddod o hyd i’r wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnynt am arolygiad yn gyflym.
Mae ein dull newydd yn alinio â natur bersonol y cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd ein harolygiadau hefyd yn cynnwys mwy o drafodaethau wyneb-yn-wyneb ac yn rhoi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.
Credwn y bydd ein dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon sy’n eu helpu i wella heb roi’r pwyslais ar farn.
Nid oes unrhyw newid i’r categorïau statudol, sef mesurau arbennig a gwelliant sylweddol. Rydym yn cadw’r categori adolygu gan Estyn a byddwn yn parhau i rannu arfer arloesol neu effeithiol hefyd.
Er mwyn ymateb i adborth, rydym wedi lleihau’r cyfnod rhybudd ar gyfer arolygiadau o 15 i 10 diwrnod gwaith. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, byddwn yn cydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid i gasglu eu safbwyntiau wrth i ni geisio esblygu ein fframwaith arolygu ymhellach, gan gynnwys symud tuag at arolygiadau mwy rheolaidd ar draws darparwyr.
Cynllunio
Mae cyfnod rhybudd o arolygiad yn wahanol i bob sector.
Nid yw dyddiad yr arolygiad nesaf yn gysylltiedig â dyddiad yr arolygiad blaenorol.
Sector | Cyfnod rhybudd |
---|---|
Lleoliadau nas cynhelir | 10 niwrnod |
Ysgolion a gynhelir ac UCDau | 10 niwrnod |
Ysgolion annibynnol | 10 niwrnod |
Addysg Bellach | 15 niwrnod |
Dysgu yn y gwaith | 15 niwrnod |
Dysgu Oedolion yn y Gymuned | 15 niwrnod |
Cymraeg i Oedolion | 15 niwrnod |
Addysg Gychwynnol Athrawon | 8 wythnos |
Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol | 10 wythnos |
Sut rydym ni’n arolygu
Credwn yn gryf y dylai arolygu fod yn brofiad cadarnhaol i bawb sy’n gweithio ym maes addysg a hyfforddiant.
Mae’r animeiddiad a’r ffeithluniau isod yn esbonio sut rydym ni’n mynd ati.
Ein meddylfryd
pdf, 2.1 MB Cymraeg
Ein hegwyddorion
pdf, 2.23 MB Cymraeg
Beth rydym ni’n ei arolygu
Beth a Sut rydym yn arolygu, arweiniad atodol, dilyniant a'r llawlyfr i enwebeion.
Gweithgarwch dilynol
Yn ystod arolygiad, rydym yn ystyried a oes angen unrhyw gefnogaeth bellach ar y darparwr. Rydym yn galw hyn yn 'weithgaredd dilynol'.
Gallwch ddod o hyd i’r holl ddogfennau gweithgarwch dilynol yn ein cyfleuster chwilio am arweiniad arolygu
Gwahanol fathau o weithgarwch dilynol
Ysgol | Nas cynhelir | Ôl-16** | Dysgu yn y gwaith | |
Adolygiad gan Estyn | x | x | x | |
Adolygu cynnydd | x | |||
Gwelliant â ffocws | x | |||
Gwelliant sylweddol* | x | |||
Mesurau arbennig* | x | |||
Ailarolygiad | x | x |
*Yn dynodi categori statudol **Ac eithrio darparwyr dysgu yn y gwaith
Esbonio arolygu - Rhestr chwarae
Dyma rai o’r pethau y mae penaethiaid ac uwch arweinwyr wedi dweud wrthym am y ffordd y mae arolygiadau wedi newid.