Arolygiaeth Dysgu - Adolygiad annibynnol o Estyn

Prif Arolygydd Addysg EM, gyda chefnogaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a gomisiynodd yr Adolygiad hwn o agweddau allweddol ar rôl a gweithrediad Estyn. Prif ddiben yr Adolygiad oedd dadansoddi goblygiadau agenda diwygio addysgol Cymru i waith Estyn, gyda ffocws penodol ar arolygu ysgolion. Er na ofynnwyd i’r Adolygiad edrych ar waith Estyn yn ei gyfanrwydd, mae wedi nodi nifer o oblygiadau ehangach yn ogystal.
 
Ymgysylltodd yr Adolygiad ag ystod eang o unigolion a sefydliadau ar hyd a lled Cymru. Yn ogystal ag archwilio corff helaeth o ddogfennau, cynhaliwyd cyfweliadau gyda staff Estyn, grwpiau o benaethiaid ac athrawon, disgyblion a rhieni, a staff mewn llywodraeth leol a chenedlaethol, gan gynnwys o’r consortia rhanbarthol. Ymwelwyd ag ysgolion a oedd wedi cael eu harolygu’n ddiweddar, ac arsylwyd ar agweddau ar arfer arolygu cyfredol. Yn ehangach, dadansoddwyd ymchwil a thystiolaeth arall o dueddiadau ac arfer yn rhyngwladol. Yn sgil Cais ffurfiol am Dystiolaeth, yr ymgymerwyd ag ef gan WISERD o Brifysgol Caerdydd, derbyniwyd 505 o ymatebion dilys drwy holiadur ar-lein.
 
Er y cymerwyd llawer o’r dystiolaeth o brofiad arolygu presennol a phrofiad blaenorol uniongyrchol, mae byrdwn yr adroddiad hwn yn edrych i’r dyfodol. Yn gyntaf, mae’r adroddiad hwn yn ystyried nodweddion allweddol diwygiadau addysgol presennol yng Nghymru a’u goblygiadau ar gyfer arolygu, atebolrwydd a gwelliant. Wedyn, mae’n archwilio natur ymagweddau Estyn at ei rolau amrywiol ac yn nodi materion perthnasol i fynd i’r afael â nhw. Mae Adrannau 5 a 6 yn argymell ffyrdd i allu gwella ymhellach gyfraniadau Estyn at ddarparu sicrwydd a gwelliant. Yn olaf, mae’r adroddiad yn nodi goblygiadau ehangach i waith Estyn ac addysg yng Nghymru.
Document thumbnail
Document type size date

pdf, 2.28 MB