Erthyglau newyddion |

Ysgolion a lleoliadau addysg eraill yn cael eu cydnabod am eu rhagoriaeth

Share this page

Mae ysgolion a darparwyr eraill addysg a hyfforddiant yng Nghymru wedi cael eu cydnabod gan Estyn am eu rhagoriaeth mewn noson wobrwyo. Derbyniodd staff yn y sefydliadau hyn dystysgrif a gair o longyfarch gan Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd, a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar 9 Mawrth.

Roedd y gwobrau yn cydnabod y 28 o ysgolion, colegau a lleoliadau eraill y barnwyd eu bod yn rhagorol ar gyfer un o’r barnau cyffredinol neu’r ddwy farn gyffredinol ar gyfer perfformiad presennol a rhagolygon gwella yn y flwyddyn academaidd 2015-2016.

Dywed Meilyr Rowlands,

Mae’n bwysig dathlu’r rhagoriaeth a gyflawnir gan waith caled ac ymrwymiad mewn addysg yng Nghymru.  Gall cydnabod a rhannu’r rhagoriaeth hon helpu i ysbrydoli gwelliant yn yr ystafell ddosbarth ac, yn yr ysbryd hwn, mae Estyn wedi cyhoeddi llyfryn byr yn tynnu sylw at rai o nodweddion llwyddiannus y 28 o ysgolion a darparwyr addysg eraill a gyflawnodd ragoriaeth yn ystod arolygiadau 2015-2016.

Y rhai a dderbyniodd wobrau:

Abertawe
Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed
Ysgol Gyfun Pontarddulais
Ysgol Gynradd Penllergaer
Ysgol Gynradd San Helen

Bro Morgannwg
Ysgol Gynradd Albert
Ysgol Gynradd Dinas Powys

Caerdydd
Ysgol Gynradd Birchgrove
Ysgol Gynradd Kitchener
Ysgol Gynradd Severn

Caerffili
Ysgol Gynradd Cwmfelinfach
Ysgol Gynradd Gilfach Fargoed

Casnewydd
Ysgol Gynradd Maendy
Ysgol Gymraeg Ifor Hael

Castell-nedd Port Talbot
Partneriaeth Sgiliau Galwedigaethol

Ceredigion
Cylch Chwarae Aberporth (Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru)

Conwy
Ysgol Bryn Elian

Gwynedd
Ysgol Gynradd Cae Top
Ysgol Morfa Nefyn

Merthyr Tudful
Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa

Pen-y-bont ar Ogwr
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu(CITB)
Ysgol Iau Llangewydd

Sir Gaerfyrddin
Ysgol Gymraeg Teilo Sant

Sir y Fflint
Coleg Cambria
Toy Box

Sir Fynwy
Ysgol Haberdashers i Ferched, Trefynwy

Torfaen
Ysgol Feithrin Brynteg

Wrecsam
Meithrinfa Rossett House