Ymgynghoriad – trefniadau arolygu arfaethedig Estyn ar gyfer arolygu carchardai dynion yng Nghymru o fis Ebrill 2025   - Estyn

Ymgynghoriad – trefniadau arolygu arfaethedig Estyn ar gyfer arolygu carchardai dynion yng Nghymru o fis Ebrill 2025  

Erthygl

Agoslun o law menyw fusnes yn teipio ar fysellfwrdd cyfrifiadur gliniadur gyda myfyrdod ar dabled digidol ar fwrdd swyddfa, gweithio ar-lein, pori’r rhyngrwyd, swydd o bell, cysyniad gwaith o bell.

Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn am y newidiadau yr ydym yn eu cynnig i’n trefniadau ar gyfer gwerthuso’r ddarpariaeth o ran gweithgareddau addysg, medrau a gwaith yng ngharchardai dynion yng Nghymru, gan gynnwys ein trefniadau ar gyfer ymuno ag Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi ar ei harolygiadau o garchardai.

Hoffem glywed syniadau pawb am ein cynigion ar gyfer peilota ein dull o arolygu gweithgareddau addysg, medrau a gwaith mewn carchardai dynion yng Nghymru yn 2025. 

Mae’r ymgynghoriad hwn i bawb fydd â budd yn y trefniadau arolygu ar gyfer carchardai yng Nghymru, yn cynnwys: 

  • Penaethiaid dysgu a medrau, rheolwyr meysydd galwedigaethol mewn carchardai 
  • Penaethiaid gweithgareddau addysg, medrau a gwaith a llywodraethwyr mewn carchardai  
  • Athrawon, tiwtoriaid, hyfforddwyr a staff cymorth sy’n gweithio mewn carchardai yng Nghymru 
  • Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol perthnasol  
  • HMPPS  
  • Rhanddeiliaid y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol 
  • Cyflogwyr 
  • Carcharorion, cyn-garcharorion, eu perthnasau neu ofalwyr 

Rhannwch eich barn gyda ni trwy lenwi’r holiadur hwn os gwelwch yn dda.

Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn llywio sut orau y gallwn ni ffurfio trefniadau arolygu newydd ac effeithiol o 2025 ymlaen.   

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn agor ar 15 Tachwedd am 2yha bydd yn cau ar 12 Rhagfyr 2024 am 11:59yh.