Erthyglau newyddion |

Y Prif Arolygydd yn adrodd bod rhywfaint o welliant mewn addysg, ond mae heriau sylweddol yn parhau o hyd

Share this page

Mae perfformiad addysg yng Nghymru yn dangos rhai arwyddion o welliant, yn ôl Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi 2013-2014, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw. Mae cyfraddau presenoldeb yn gwella, tra bod cyfran y disgyblion sy’n absennol yn barhaus yn gostwng. Mae’r bwlch mewn perfformiad rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion eraill yn lleihau ychydig, ac fe wnaeth cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ostwng eleni.

Dywed Ann Keane, y Prif Arolygydd,

"Mae nifer o ddangosyddion pwysig yn awgrymu bod ymdrechion y sector addysg yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr. Fodd bynnag, mae heriau sylweddol yn parhau o hyd.

“Mae’n destun siom bod safonau mewn ysgolion cynradd wedi dirywio. Mae cyfran yr ysgolion da neu ragorol wedi gostwng o saith o bob deg y llynedd, i ychydig dros chwech o bob deg eleni.

“Mae ysgolion uwchradd wedi gwella, er bod hynny o sefyllfa gymharol wan y llynedd. Ym mlwyddyn academaidd 2013-2014, ni fu angen rhoi mesurau arbennig ar waith mewn unrhyw ysgolion uwchradd, o gymharu â chwe ysgol yn y flwyddyn flaenorol.

“Mae ansawdd yr arweinyddiaeth yn parhau’n her. Dros y pum mlynedd diwethaf, gwelwyd arwyddion calonogol fod arweinwyr a rheolwyr yn dechrau edrych yn ehangach ar eu rolau a’u cyfrifoldebau. Mae gallu arweinwyr i feddwl ymhellach na’u sefydliad eu hunain yn nodwedd allweddol o’r hyn sydd ei angen i wella ein system addysg.

“Er nad yw Cymru yn gwneud cystal â gwledydd eraill, mae momentwm newydd ar gyfer gwella a rhaid i hyn barhau os yw pobl ifanc i ddatblygu mor llawn ag y gallant a llywio dyfodol ein gwlad.”

Er bod safonau yn yr ysgolion cynradd a arolygwyd wedi dirywio, maent yn dal yn well yn gyffredinol nag mewn ysgolion uwchradd. Nododd arolygwyr wendidau ym medrau llythrennedd disgyblion a safonau mewn Cymraeg ail iaith, sydd heb wella ers y llynedd.

Mae ysgolion uwchradd wedi gwneud cynnydd mewn sawl maes, gan gynnwys deilliannau, lles disgyblion, y ddarpariaeth ar gyfer gwella medrau disgyblion, addysgu a dysgu, ac arweinyddiaeth. Mae angen cyffredinol o hyd ym mhob ysgol uwchradd bron, hyd yn oed y goreuon, i wella safonau mewn mathemateg a rhifedd a’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus.

Yn unol â’r sefyllfa blynyddoedd blaenorol, mae safonau mewn ysgolion arbennig a gynhelir ac ysgolion annibynnol yn arbennig o gadarn. Fodd bynnag, mae pryderon yn parhau ynghylch unedau cyfeirio disgyblion sy’n wannach yn nodedig na sectorau eraill.

Mae pob awdurdod lleol wedi’u harolygu erbyn hyn ac mae’n destun pryder bod wyth ohonynt yn dal i gael eu monitro, a bod angen mesurau ar waith yn hanner y rheini. Eleni, fodd bynnag, tynnodd Estyn pum awdurdod lleol o gategorïau o fod angen gweithgarwch dilynol, ac roedd cynnydd o ran defnyddio cydweithredu rhwng awdurdodau a rhwng ysgolion er mwyn gwella darpariaeth yn nodedig yn yr awdurdodau hyn.

Ni wnaeth Estyn arolygu unrhyw sefydliadau addysg bellach yn ystod 2013-2014, ond datgelodd ymweliadau monitro fod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud yn dda, yn gyffredinol. Mewn dysgu yn y gwaith, roedd safonau fymryn yn well nag oeddent y llynedd. Mae deilliannau dysgwyr yn y ddau ddarparwr dysgu oedolion yn y gymuned a arolygwyd gennym ymhlith y gorau yn y sector.

Dywed Ann Keane eto,

“Mae dysgwyr sydd mewn perygl o dangyflawni yn ffocws arbennig yn fy adroddiad blynyddol eleni, ac rwy’n annog pob arweinydd, rheolwr, athro a gweithiwr proffesiynol arall i ddarllen fy nghanfyddiadau. Gellir gweld astudiaethau achos o arfer orau drwy’r adroddiad cyfan, ac mae ffilm fer am y prif negeseuon yn rhoi trosolwg sydyn.”

Nodiadau i Olygyddion

Astudiaethau achos o arfer orau

Abertawe
Ysgol Gyfun Gellifedw, tud 44
Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, tud 56

Bro Morgannwg
Ysgol Gynradd Ynys y Barri, tud 50

Caerdydd
Ysgol Gynradd Herbert Thompson, tud 21 & 44

Casnewydd
Ysgol Gynradd Eveswell, tud 59 & 65
Ysgol Gynradd High Cross, tud 31 & 69

Ceredigion
Uned Cyfeirio Disgyblion Ceredigion, tud 104
Ysgol Aberporth, tud 141

Conwy
Ysgol y Foryd, tud 29

Pen-y-bont ar Ogwr
Canolfan Ddydd Fingers and Thumbs, tud 110
Ysgol Gyfun Porthcawl, tud 77

Powys
Ysgol Babanod Mount Street, tud 52

Rhondda Cynon Taf
Ysgol Gynradd Meisgyn, tud 30

Sir Ddinbych
Ysgol Uwchradd y Rhyl, tud 57

Sir Fynwy
Ysgol Mynwy, tud 94
Meithrinfa Ddydd Tiny Beginnings, tud 109

Sir y Fflint
Ysgol Uwchradd Castell Alun, tud 73
St Winefride’s Playgroup, tud 28

Torfaen
Ysgol Gynradd Llanyrafon, tud 64
Ysgol Gyfun Gwynllyw, tud 75

Wrecsam
Ysgol Arbennig Sant Christopher, tud 80

Ynglyn ag Estyn

Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth mewn dysgu i bawb yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan, sef estyn.gov.uk