Erthyglau newyddion |

Partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned yn dangos ymrwymiad cadarn i ddarparu dysgu i ddysgwyr anodd eu cyrraedd

Share this page

Mae partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned wedi dangos ymrwymiad cadarn i ddarparu dysgu i oedolion yng Nghymru, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Estyn.

Darganfu adroddiad Estyn, ‘Dysgu Oedolion yn y Gymuned yng Nghymru’, fod y 15 partneriaeth sy’n gyfrifol am ddysgu oedolion yn y gymuned yn parhau i ateb amrywiaeth eang o anghenion dysgu a lles, er y bu gostyngiadau mewn cyllid.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:

“Mae dysgu oedolion yn y gymuned yn chwarae rhan bwysig ym mywyd dysgwyr dros 25 oed, yn enwedig y rhai â medrau cyflogadwyedd isel a, hefyd mewn lles pobl dros 65 oed.  Y flaenoriaeth i bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned yw mynd i’r afael â thlodi trwy helpu pobl â lefel isel o fedrau i fod yn fwy cyflogadwy.  Mae partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned wedi dangos ymrwymiad cadarn i ddarparu ar gyfer y bobl sydd â’r angen mwyaf.”

Mae’r rhan fwyaf o bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned wedi dangos eu bod yn wydn a dyfeisgar, ac maent wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o barhau i ddarparu cyrsiau.  Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys partneriaethau sy’n cyflwyno cyrsiau ar gyfer sefydliadau a ariennir, fel Cymunedau yn Gyntaf, mewn lleoliadau ‘un stop’ megis llyfrgelloedd.  Fodd bynnag, mae’r diffyg cymorthdaliadau sydd ar gael ar gyfer cyrsiau hamdden, fel celf a chrefft, wedi arwain at anghydraddoldeb yn y gallu i fanteisio ar ddysgu oedolion.  Mae rhai cyrsiau hamdden yn parhau ar sail adennill costau yn llawn, ond maent yn llai hygyrch wedyn i ddysgwyr ag incwm isel am nad ydynt efallai’n gallu fforddio ffioedd y cwrs.  I bobl hŷn yn arbennig, mae diffyg dosbarthiadau hamdden yn golygu colli cyfleoedd gwerthfawr i gymdeithasu a chadw’r meddwl a’r corff yn iach.

Darganfu’r adroddiad fod un o bob deg oedolyn sy’n dilyn ac yn cwblhau cwrs llythrennedd neu rifedd sylfaenol, TGCh neu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, yn peidio â rhoi cynnig ar y cymhwyster cysylltiedig neu maent yn aflwyddiannus ynddo.  Mae hyn oherwydd bod gan lawer o ddysgwyr sy’n oedolion ymrwymiadau eraill yn eu bywyd sydd efallai yn eu hatal rhag rhoi cynnig ar y cymhwyster, fel gweithio sifftiau neu ofalu am berthnasau.  

Yn ogystal, mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion i bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned a Llywodraeth Cymru.  Dylai partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned barhau i sicrhau ansawdd yr addysgu a’r dysgu er mwyn rhoi gwerth am arian i ddysgwyr sy’n oedolion.  Dylai Llywodraeth Cymru hefyd adolygu ei pholisi a’i strategaeth ariannu ar gyfer y sector dysgu oedolion yn y gymuned.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘Dysgu Oedolion yn y Gymuned yng Nghymru’ gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae ar gael yn llawn yn ar https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig
  • Comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad allanol o ddysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru i helpu i lywio datblygiad polisi at y dyfodol.  Cyhoeddwyd hwn ar 21 Hydref 2016 ac mae i’w weld ar: http://gov.wales/topics/educationandskills/learningproviders/communitylearning/review-of-adult-community-learning-wales/?lang=cy 
  • Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn defnyddio tystiolaeth o gyfarfodydd ag arweinwyr strategol a gweithredol o’r holl bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru, gydag uwch arweinwyr o WEA/YMCA Cymru, a Llywodraeth Cymru, ynghyd â chraffu ar ddata deilliannau wedi’i wirio, cynlluniau cyflwyno gwasanaethau, ffeiliau cwricwlwm a dogfennau perthnasol eraill.