Erthyglau newyddion |

Mae angen cymorth cryfach ar leoliadau meithrin ar gyfer addysgu a dysgu

Share this page

Gall athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar gael effaith sylweddol ar y safonau y mae plant yn eu cyflawni, ond nid ydynt yn treulio digon o amser yn modelu addysgu da yn ystod eu hymweliadau â lleoliadau, yn ôl adroddiad Estyn a gyhoeddwyd heddiw. Canfu arolygwyr bod y mwyafrif o athrawon ymgynghorol yn darparu mwy o gymorth ar gyfer rheoli a gweinyddu nag ydynt ar gyfer addysgu a dysgu.

Mae adroddiad Estyn ar ‘Effaith athrawon ymgynghorol ar leoliadau nas cynhelir a ariennir’ yn archwilio rôl, cyfrifoldebau ac effeithiolrwydd athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar ledled Cymru.

Dywed y Prif Arolygydd, Ann Keane,

“Mae rhoi’r dechrau gorau posibl i blant yn eu haddysg a’u datblygiad yn hanfodol. Mae athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar yn chwarae rhan bwysig mewn cynorthwyo i gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen a herio lleoliadau meithrin i wella.

“Fodd bynnag, mae rôl a blaenoriaethau athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar wedi newid dros amser. Mae angen iddynt wneud mwy i fodelu addysgu da a gwella safonau a deilliannau i blant.

“Mae tua 60 o athrawon ymgynghorol yn cynnig cymorth i rhwng chwech a saith cant o leoliadau meithrin yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn dyrannu digon o amser athrawon ymgynghorol i leoliadau meithrin, i’w galluogi i arddangos arfer dda i ymarferwyr.”

Dylai athrawon ymgynghorol dreulio 10% o’r amser sy’n cael ei dreulio gan y lleoliad ar ddarparu addysg a ariennir â phob lleoliad meithrin, yn unol â gofynion Grant y Cyfnod Sylfaen. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol yn dyrannu llai o amser na hyn i lawer o leoliadau meithrin da, ac felly nid ydynt yn cael digon o gymorth i fod yn rhagorol.

Yn y lleoliadau meithrin lle mae athrawon ymgynghorol yn modelu addysgu da yn rheolaidd, mae ymarferwyr yn fwy hyderus o ran dod o hyd i ffyrdd i wella ac asesu safonau plant. Gall gweithgareddau fel modelu adrodd storïau gael effaith gadarnhaol ar safonau.

Mae’r adroddiad yn amlygu nifer o astudiaethau achos arfer dda. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith y consortiwm Gwasanaeth Cyflawni Addysg am eu defnydd o dechnoleg fodern i rannu negeseuon pwysig a darparu syniadau arloesol. Maent yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i arddangos lluniau o waith plant a rhannu adnoddau a syniadau. Mae hyn yn helpu i ysbrydoli’r rhai sy’n gweithio â phlant ifanc, ac mae athrawon ymgynghorol yn hyrwyddo’r dull cyfathrebu hwn ar gyrsiau ac wrth ymweld â lleoliadau.

Gwna’r adroddiad gyfres o argymhellion i awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, Llywodraeth Cymru ac athrawon ymgynghorol eu hunain. Dylai athrawon ymgynghorol barhau i gynorthwyo arweinyddiaeth a rheolaeth, ond dylent wneud mwy i fodelu arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth a rhannu syniadau newydd ag ymarferwyr. Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol sicrhau y darperir 10% o amser athrawon ymgynghorol i bob lleoliad; bod athrawon ymgynghorol yn ymweld â lleoliadau’n rheolaidd, a bod lleoliadau’n cael cymorth a hyfforddiant yn yr iaith y maent yn gweithredu ynddi. I gloi, dylai Llywodraeth Cymru ystyried clustnodi cyllid i sicrhau bod y 10% o amser cymorth ar gael i bob lleoliad, ynghyd â hyfforddiant rheolaidd.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

Roedd yr adroddiad wedi’i seilio ar:

  • ymweliadau â 14 o leoliadau
  • tystiolaeth gan 7 awdurdod lleol
  • tystiolaeth arolygu er 2010.

Astudiaethau achos arfer orau:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Consortiwm y Gwasanaeth Cyflawni Addysg
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor Sir Powys