Erthyglau newyddion |

Gall y pandemig helpu i gryfhau addysg Cymru yn y tymor hwy

Share this page

Gallai gwersi a ddysgwyd o’r flwyddyn anarferol a heriol hon helpu i gryfhau agweddau ar addysg a hyfforddiant Cymru yn y tymor hwy, yn ôl y Prif Arolygydd yn ei Adroddiad Blynyddol 2019-20 a gyhoeddir heddiw.

Gall mwy o ffocws ar les, gwydnwch ac annibyniaeth dysgwyr, mwy o brofiad o ddysgu digidol, a chyfathrebu agosach â theuluoedd roi ysgol mewn sefyllfa well i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd

Bu’n flwyddyn anodd iawn i ddysgwyr ac yn flwyddyn bryderus i’w teuluoedd. Mae heriau cymhleth y pandemig wedi mynnu bod arweinwyr a staff ar hyd addysg a hyfforddiant yn gwneud penderfyniadau mewn amgylchiadau anodd a gweithio mewn ffyrdd newydd. Maent wedi ymateb yn dda i’r her a bu mwy o werthfawrogiad o’u gwaith ac o bwysigrwydd disgyblion yn mynd i’r ysgol.

Mae’r pandemig wedi creu’r angen i arloesi. Mae’r cyfnod dysgu gartref wedi golygu bod pob ysgol wedi gorfod meddwl o’r newydd am y ffordd y mae disgyblion yn dysgu a sut orau y gall addysgu wyneb yn wyneb hybu gwydnwch a sgiliau dysgu annibynnol.

Hefyd, mae’r arolygiaeth wedi cyhoeddi canfyddiadau o’i gwaith ymgysylltu ag ysgolion a darparwyr eraill yn ystod y cyfnod hwn. Mae Meilyr Rowlands yn parhau,

Gallai effaith hirdymor yr argyfwng hwn gryfhau’r paratoadau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Yn y cyfamser, mae athrawon wedi asesu cynnydd disgyblion a ddychwelodd i’r ysgol yr hydref hwn. Mae rhai wedi gwneud yn dda, ond gall sgiliau llawer ohonynt fod wedi llithro’n ôl, gan gynnwys mewn llythrennedd a rhifedd. Bydd helpu’r dysgwyr, yn enwedig y rhai agored i niwed a’r rhai dan anfantais, i ddal i fyny yn dasg fawr i’r system addysg a hyfforddiant at y dyfodol. Mae fy adroddiad blynyddol yn helpu i nodi’r arfer dda a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Mae ysgolion a darparwyr eraill addysg a hyfforddiant wedi blaenoriaethu lles eu dysgwyr yn ystod y pandemig, gan gynnwys eu hiechyd corfforol a meddyliol. Mae Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd yn amlygu Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands, Torfaen, sydd eisoes yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gefnogi lles emosiynol disgyblion trwy feithrin gwydnwch a datblygu’u hunan-barch a’u medrau cymdeithasol. Mae’r ysgol wedi gweld gwelliannau clir mewn presenoldeb, ymddygiad a chyflawniad disgyblion o ganlyniad.

Hefyd, mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau o arolygiadau a gynhaliwyd yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn academaidd mewn ysgolion, colegau a darparwyr eraill. Cyn y pandemig, cynhaliwyd rhyw dri o bob pum arolygiad a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd. Ar y cyfan, mae darlun tebyg i ddarlun y blynyddoedd diwethaf yn dod i’r amlwg o’r cyfnod hwn. Mae safonau yn dda neu’n well mewn rhyw wyth o bob deg ysgol gynradd ac mewn ychydig dros hanner yr ysgolion uwchradd.