Erthyglau newyddion |

Dylai ysgolion gynorthwyo disgyblion yn well i ddysgu sut i ddatblygu perthnasoedd personol diogel a pharchus

Share this page

Nid yw ysgolion yn neilltuo digon o amser i, nac yn rhoi digon o bwys ar, ddarparu profiadau dysgu a chymorth i ddisgyblion ddatblygu perthnasoedd personol diogel a pharchus. Canfu adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn fod cynnwys a chyflwyniad y maes hwn o addysg bersonol a chymdeithasol yn amrywio’n rhy eang mewn ysgolion ledled Cymru. Yn benodol, nid yw ysgolion yn paratoi disgyblion yn ddigon da i fyw mewn cymdeithas amrywiol, er enghraifft trwy eu haddysgu ynglŷn â mathau o drais yn erbyn menywod fel anffurfio organau cenhedlu benywod a thrais ar sail anrhydedd.

Mae adroddiad Estyn, Adolygiad o addysg perthnasoedd iach, yn argymell y dylai pob ysgol ddefnyddio canllaw arfer dda Llywodraeth Cymru ar berthnasoedd iach sy’n rhoi cyngor ar sut i gyflwyno addysg sy’n hyrwyddo cydraddoldeb o ran rhywedd ac yn herio trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Dywed Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd,

“Mae gan ysgolion rôl hanfodol mewn addysgu pobl ifanc sut gallan nhw gael yr iechyd gorau posibl a bod yn rhydd oddi wrth gamdriniaeth, erledigaeth a cham-fanteisio.  Trwy sicrhau bod negeseuon hanfodol am berthnasoedd iach yn y cwricwlwm yn cael eu hatgyfnerthu’n rheolaidd, bydd ysgolion yn gosod y sylfaen i bobl ifanc wneud a chynnal cyfeillgarwch, herio stereoteipiau a rhagfarn, ac ymdopi â dylanwadau negyddol.”

Nododd arolygwyr mai un ysgol sy’n cyflwyno addysg perthnasoedd iach yn dda yw Ysgol Uwchradd Pen-Y-Dre, sy’n hyrwyddo perthnasoedd iach trwy ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys gwasanaethau, diwrnodau thema, gweithdai rhieni a gwersi.  Mewn enghraifft arall o arfer orau, mae Ysgol Gynradd Sant Woolos yn gweithio gyda Cymorth i Fenywod, sy’n cynnal gweithdai gyda disgyblion cyfnod allweddol 2 sy’n hyrwyddo cydraddoldeb o ran rhywedd a pherthnasoedd diogel a pharchus.  Un o nodweddion cyffredin ysgolion sy’n dangos arfer orau yw eu bod yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau arbenigol fel rhan o gyfleoedd rheolaidd i archwilio perthnasoedd iach ar draws y cwricwlwm.

Mae’r adroddiad yn argymell hefyd y dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol sicrhau bod yr holl staff sy’n gweithio mewn ysgolion yn cwblhau’r hyfforddiant perthnasoedd iach a amlinellir yn Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn defnyddio:
• tystiolaeth o ddeilliannau arolygu
• tystiolaeth o holiadur yr arolwg
• ymweliadau ag ysgolion
• cyfweliadau â chynrychiolwyr asiantaethau arbenigol
• Dyma’r ysgolion yr ymwelwyd â nhw fel rhan o’r arolwg:
• Ysgol Gynradd Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr
• Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd
• Ysgol Uwchradd Cei Connah, Sir y Fflint
• Ysgol Gynradd Gymunedol Dinas Powys, Bro Morgannwg
• Ysgol Gynradd Gymunedol Maendy, Casnewydd
• Ysgol Arbennig Pen Y Cwm, Blaenau Gwent
• Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig Santes Helen, Caerffili
• Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseph, Wrecsam
• Ysgol Gynradd St Woolos, Casnewydd
• Ysgol Golwg Y Cwm, Powys
• Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd
• Ysgol Llanddulas, Conwy
• Ysgol Pen-Y-Dre, Merthyr Tudful
• Ysgol Uwchradd Tywyn, Gwynedd

Darparwyd tystiolaeth gan Ysgol Gynradd Gymunedol Sealand, Sir y Fflint dros y ffôn.

Dyma’r asiantaethau arbenigol a gyfrannodd at yr adroddiad:

• Prosiect Dyfodol Gwell Barnardo’s, Caerdydd
• BAWSO, Caerdydd
• Prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, Caerdydd
• Llywodraethwyr Cymru
• Gwent VAWDA
• Rhaglen Cyswllt Ysgolion Heddlu Cymru
• Iechyd Cyhoeddus Cymru
• Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru
• Ymgynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a mathau eraill o Drais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Lluniwyd canllaw arfer dda gan Lywodraeth Cymru a Cymorth i Fenywod Cymru yn 2015 sy’n darparu cyngor i ysgolion ar sut i ddatblygu, ymgorffori a chyflwyno dull addysg gyfan yn llwyddiannus ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb o ran rhywedd a herio trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/commsafety/151020-whole-education-approach-good-practice-guide-en.pdf

Yn 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol yn amlinellu Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol sy’n ei gwneud yn ofynnol i staff sy’n gweithio mewn ysgolion gwblhau hyfforddiant i sicrhau eu bod yn ymateb yn effeithiol i’r rheiny sy’n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/commsafety/160317-national-training-framework-guidance-en.pdf