Erthyglau newyddion |

Dylai ysgolion ddarparu mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu a defnyddio eu medrau ariannol

Share this page

Nid yw lleiafrif o ysgolion cynradd a mwyafrif o ysgolion uwchradd yn rhoi digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso eu medrau ariannol mewn gweithgareddau heriol a pherthnasol ar draws y cwricwlwm.

Canfu adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn ar Addysg ariannol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru fod newidiadau diweddar i’r cwricwlwm wedi helpu’r rhan fwyaf o ysgolion i nodi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau ariannol mewn gwersi mathemateg ac mewn pynciau eraill.  

Yn yr ysgolion gorau, mae athrawon yn cynllunio amrywiaeth o weithgareddau sy’n gweddu i oedran a gallu disgyblion ac yn eu herio i ddatblygu eu medrau ariannol ar draws y cwricwlwm.  Er enghraifft, mewn un ysgol gynradd, mae disgyblion yn mynychu clwb cynilo wythnosol ble maent yn bancio ac yn cadw golwg ar eu cynilion a chwarae gemau sy’n datblygu eu medrau trin arian. 

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

“Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i sicrhau bod disgyblion yn datblygu’r wybodaeth, y medrau a’r agweddau i allu trin arian yn hyderus.  I wneud hyn, dylen nhw ddarparu digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso eu medrau ariannol ar draws y cwricwlwm.  Er enghraifft, mewn ysgolion cynradd, gallai disgyblion gymharu gwahanol wefannau i gynllunio gwyliau a dysgu am gyllidebu a gwerth am arian.” 

Canfu’r adroddiad hefyd, er bod mwyafrif yr ysgolion yn asesu medrau rhifedd, mai ychydig iawn ohonynt sy’n canolbwyntio’n benodol ar fedrau ariannol.  Mae’r adroddiad yn argymell y dylai ysgolion fonitro ac arfarnu ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn y maes hwn yn agosach. 

Dylai ysgolion ddarparu hyfforddiant priodol ar gyfer staff i wella’r addysg ariannol y maent yn ei chynnig, a dylai awdurdodau lleol a chonsortia adolygu eu rhaglenni hyfforddiant rhifedd.  Dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo ei harweiniad ar addysg ariannol effeithiol a’i gynnwys mewn cronfa ddata o adnoddau defnyddiol i gynorthwyo athrawon. 

Ynglŷn â’r adroddiad

Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘Rheoli Arian: Addysg ariannol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru’ gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn llawn yn https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig

Mae canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yn defnyddio dadansoddiad o ganfyddiadau arolygu, cyfweliadau ffôn ag ysgolion yr ymwelwyd â nhw ar gyfer yr adroddiad cylch gwaith blaenorol neu ysgolion sydd ag arfer dda mewn addysg ariannol, ac arolygon ar-lein o ysgolion a chynrychiolwyr consortia rhanbarthol.

Dyma’r ysgolion a gymerodd ran yn yr arolwg ffôn: 

  • Ysgol Uwchradd Gatholig yr Esgob Hedley, Merthyr Tudful 
  • Ysgol Gynradd Y Coed-duon, Caerffili 
  • Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd 
  • Ysgol Gynradd Kymin View, Trefynwy 
  • Ysgol Gyfun Pontarddulais, Abertawe 
  • Ysgol Gynradd Tredelerch, Caerdydd 
  • Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen, Caerdydd 
  • Ysgol Golwg y Cwm, Powys 
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd