Erthyglau newyddion |

Datganiad gan PAEM Owen Evans ynglŷn â chyhoeddiad heddiw o ‘Datblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd’ gan Lywodraeth Cymru

Share this page

Mae Estyn yn croesawu’r cynlluniau i ddatblygu ystod ehangach o wybodaeth i gefnogi trefniadau gwell ar gyfer gwerthuso a gwella. Rydym yn falch o nodi y bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ar y cyd ag ymarferwyr, awdurdodau lleol, rhanbarthau a phartneriaethau.
 
Mae Estyn yn rhoi arfer yn yr ystafell ddosbarth wrth wraidd ein gwaith, ond mae gwybodaeth werthusol yn werthfawr i ysgolion wrth iddynt ddiffinio eu blaenoriaethau. Ers 2017, mae Estyn wedi gweithio i leihau’r ffocws ar wybodaeth am berfformiad yn ystod arolygiadau o ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed a gwasanaethau addysg llywodraeth leol. Er ein bod yn croesawu unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhannu â ni yn ystod arolygiad, nid ydym yn adrodd ar ddangosyddion unigol ac ni fyddwn yn seilio barn ar un ffynhonnell  dystiolaeth sef, yr un achos hwn, gwybodaeth diwedd cyfnod allweddol.

Gan y bydd y data a fydd ar gael yn haf 2023 ar gyfer un flwyddyn yn y lle cyntaf, efallai byddwn yn ystyried sut mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn defnyddio’r wybodaeth hon i gefnogi eu cynllunio eu hunain ar gyfer gwerthuso a gwella, ond ni fyddwn yn gwneud unrhyw werthusiadau ar sail un flwyddyn yn unig o wybodaeth a gasglwyd yn genedlaethol ac a ddilyswyd yn allanol. Am y tro, byddwn yn parhau â’r ymagwedd rydym wedi’i mabwysiadu ers i ni ailddechrau arolygiadau yn 2022.

Datganiad y Gweinidog