Erthyglau newyddion |

Cydnabod ysgolion a lleoliadau addysg eraill am eu rhagoriaeth

Share this page

Mae Estyn wedi cydnabod ysgolion a darparwyr eraill addysg a hyfforddiant yng Nghymru am eu rhagoriaeth, mewn noson wobrwyo. Fe wnaeth staff yn y lleoliadau hyn dderbyn tystysgrif a llongyfarchiadau gan Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd, a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, mewn seremoni a gynhaliwyd ar 20 Hydref.

Cydnabu’r gwobrau’r 34 o ysgolion, colegau a lleoliadau eraill y barnwyd bod un o’r barnau cyffredinol ar gyfer eu perfformiad presennol a’u rhagolygon gwella, neu’r ddwy ohonynt, yn rhagorol mewn tri maes arolygu neu fwy yn ystod blwyddyn academaidd 2016-2017.

Dywed Meilyr Rowlands,

Bydd dathlu rhagoriaeth yn ein system addysg a chydnabod sut cafodd y rhagoriaeth honno ei chyflawni yn helpu i ysbrydoli ac annog gwelliant ledled Cymru.  Mae gwobrau Estyn yn canmol gwaith caled ac ymroddiad, gan amlygu strategaethau sy’n arwain at lwyddiant.  Rwy’n argymell i bob darparwr addysg a hyfforddiant ymweld â’n gwefan i archwilio astudiaethau achos sy’n disgrifio rhagoriaeth gan y 34 ysgol a darparwr addysg arall a gyflawnodd ragoriaeth yn ystod arolygiadau 2016-2017.”

Nodiadau i Olygyddion

Gellir gweld astudiaethau achos yn disgrifio’u rhagoriaeth yn https://www.estyn.gov.wales/effective-practice/search?tags=2642

Award recipients:

Pen-y-Bont ar Ogwr
Bryntirion Comprehensive School
Ysgol Cynwyd Sant

Caerffili
Hendredenny Park Primary School

Caerdydd
Fitzalan High School
Ysgol Pencae

Sir Gaerfyrddin
Ysgol Bryngwyn School
Heol Goffa School
Ysgol Glan-Y-Môr School
Ysgol Gynradd Bynea
Ysgol Gynradd Parcyrhun
Ysgol Gynradd Saron

Ceredigion
Gogerddan Childcare
Ysgol Comins Coch
Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Sir y Fflint
Ysgol Pen Coch Special School

Gwynedd
Ysgol Bodfeurig
Ysgol Gynradd Bontnewydd
Ysgol Gynradd Talysarn

Merthyr Tudfil
Greenfield Special School

Sir Fynwy
Llandogo Early Years

Castell-nedd Port Talbot
Dŵr-y-Felin Comprehensive School

Casnewydd
Rougemont School
Ysgol Gymraeg Casnewydd

Sir Benfro
Pembroke Dock CP School

Rhondda Cynon Taf
Ton Pentre Infants School
Y Pant Comprehensive School
Ysgol Ty Coch

Abertawe
Llanrhidian Primary School
Oakleigh House

Bro Morgannwg
Llansannor C.I.W. Primary School
Palmerston Primary School
United World College of the Atlantic Ltd

Colegau addysg bellach
Grŵp Llandrillo Menai
Coleg Sir Benfro