Erthyglau newyddion |

Cydnabod ysgolion a lleoliadau addysg eraill am eu rhagoriaeth

Share this page

Mae ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill yng Nghymru wedi cael eu cydnabod gan Estyn am eu rhagoriaeth mewn noson wobrau. Derbyniodd staff yn y sefydliadau hyn dystysgrif a chael eu llongyfarch gan Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, mewn seremoni a gynhaliwyd ar 12 Hydref.

Fel rhan o ddathliad blynyddol yn cydnabod a rhannu rhagoriaeth mewn addysg, cydnabu’r arolygiaeth yr ysgolion a’r lleoliadau nas cynhelir a gyflawnodd farn ‘rhagorol’ ym mwyafrif eu barnau arolygu a’r gwasanaeth addysg awdurdod lleol y barnwyd ei fod yn ‘rhagorol’ am ei arweinyddiaeth a rheolaeth yn 2017-18.

Dywed Meilyr Rowlands,

Bydd dathlu’r rhagoriaeth yn ein system addysg a chydnabod sut y cafodd ei chyflawni yn helpu ysgogi gwelliant ledled Cymru.  Mae gwobrau Estyn yn canmol gwaith caled ac ymroddiad gan amlygu strategaethau sy’n arwain at lwyddiant.  Ar wefan Estyn, rydym ni wedi rhannu hanesion llwyddiant yr ysgolion a’r darparwyr eraill sydd wedi cyflawni rhagoriaeth yn ystod arolygiadau 2017-2018 i ysbrydoli pobl eraill.