Erthyglau newyddion |

Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd yn amlygu heriau ar gyfer addysg a hyfforddiant yng Nghymru

Share this page

Nid yw safonau addysg yng Nghymru wedi gwella ar y cyfan, yn ôl Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant 2012 - 2013. Fodd bynnag, mae rhai sectorau, fel ysgolion arbennig ac ysgolion annibynnol, yn cynnal eu perfformiad uchel.

Mewn ysgolion cynradd, mae safonau’n debyg i’r hyn oeddent y llynedd, gyda 72% yn dda neu’n well, a 28% yn ddigonol. Mae safonau mewn ysgolion uwchradd yn fwy rhanedig yn gyffredinol, gyda mwy o ragoriaeth nag mewn ysgolion cynradd, ond barnwyd hefyd fod mwy o ysgolion yn anfoddhaol. Ers y llynedd, mae cyfran yr ysgolion uwchradd sy’n anfoddhaol wedi cynyddu o 14% i 23%.

Mewn sectorau eraill, fel addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned ac awdurdodau lleol, mae safonau’n amrywio, ond ni nodwyd unrhyw ragoriaeth eleni.

Dywed Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Rydym wedi bod yn defnyddio’r un fframwaith yn ystod arolygiadau dros y tair blynedd diwethaf, ac roeddwn wedi gobeithio gweld gwelliannau mewn perfformiad erbyn hyn. Mae’n destun siom mai lleiafrif bach o hyd yw’r ysgolion hynny sy’n rhagorol, a bod angen arolygiadau dilynol ar gymaint o ysgolion uwchradd. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn dychwelyd i dros ddwy ran o dair o ysgolion uwchradd ac oddeutu hanner ysgolion cynradd i gynnal ymweliadau dilynol.

 

“Yr hyn y mae angen i ysgolion a’r sector ôl-16 ei wella yw ansawdd yr addysgu, asesu, llythrennedd a rhifedd, hunanarfarnu a Chymraeg ail iaith. Rwy’n gwybod y gellir gwneud gwelliant ac y gellir cyflawni rhagoriaeth, fel y gwelsom yn y llu o astudiaethau achos a ddyfynnir yn yr adroddiad blynyddol.

 

“Fodd bynnag, mae’r canlyniadau PISA siomedig yn awgrymu nad yw datblygiad proffesiynol athrawon ar hyd a lled Cymru wedi bod mor effeithiol ag y bu mewn gwledydd eraill. Nid ydym eto ychwaith wedi gweld effaith gynaledig yn sgil cyflwyno polisïau a mentrau diweddar. Mae angen cyflymu gwelliant ac mae angen i arweinwyr mewn ysgolion ddatblygu yr un mor gyflym â’r gorau, yng Nghymru a thu hwnt.”

Mae’n amlwg mai arweinyddiaeth gref â gweledigaeth yw un o’r ffactorau allweddol i sicrhau gwelliannau, ond mae ansawdd yr arweinyddiaeth mewn ysgolion yn parhau’n anghyson. Ychydig o ysgolion ac unigolion sy’n gallu cynnal ansawdd uchel ar eu pennau’u hunain, ac mae llawer o welliant sefydliadol yn mynnu ymdrechion cryfach i weithio mewn partneriaethau – gydag ysgolion eraill, rhieni, asiantaethau ac awdurdodau lleol.

Dywed Ann Keane eto,

“Mae angen seilwaith gwell ar Gymru i ysgogi mwy o gydweithio a chydweithredu mewn addysg a hyfforddiant. Mae angen i bawb yn y system addysg fod yn barod i ddysgu mwy, i ddysgu’n well a chymhwyso’u dysgu.

 

“Rwy’n annog yn gryf bod pob arweinydd, pob athro a gweithwyr proffesiynol addysg eraill yn defnyddio’r canfyddiadau yn yr Adroddiad Blynyddol i’w helpu i feincnodi cynnydd ac ysgogi eu cynlluniau gwella eu hunain. Mae ffilm fer ar wefan Estyn yn dangos sut mae tri darparwr wedi gwneud hyn drostynt eu hunain.”

 

Nodiadau i Olygyddion:

Astudiaethau achos arfer orau

Abertawe

  • Ysgol Gynradd Waunarlwydd, tud 61

Bro Morgannwg

  • Ysgol Feithrin Cogan, tud 65
  • Ysgol Headlands, tud 83
  • Ysgol Iolo Morganwg, - tud 36

Caerdydd

  • Ysgol Gynradd Mount Stuart, tud 9
  • Ysgol Gynradd Gatholig St Philip Evans, tud 20

Caerffili

  • Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields, tud 76

Casnewydd

  • Ysgol Gynradd Marshfield, tud 35
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant, tud 73

Castell-nedd Port Talbot

  • Ysgol Gymunedol Cwmtawe, tud 69

Conwy

  • Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru, tud 99
  • Ysgol Eirias, tud 57

Gwynedd

  • Ysgol Dyffryn Ogwen, tud 33
  • Ysgol y Garnedd, tud 63

Pen-y-bont ar Ogwr

  • ISA Training, tud 125
  • Ysgol Maesteg, tud 71

Rhondda Cynon Taf

  • Partneriaeth Sgiliau Galwedigaethol, tud 124
  • Ysgol Gyfun Y Pant, tud 35

Sir Benfro

  • Ysgol Arbennig Portfield, tud 20, tud 78

Sir Fynwy

  • CEM Brynbuga, tud 135

Wrecsam

  • Dysgu oedolion yn y gymuned, Wrecsam, tud 16
  • Coleg Iâl (Consortiwm Sgiliau Canolbarth a Gogledd Cymru), tud 12 & tud 39
  • Ysgol Penrhyn New Broughton Primary School, tud 16

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael rhagor o wybodaeth, trowch at ein gwefan, sef www.estyn.gov.uk