Math o Arweiniad Arolygu: Arweiniad atodol


Math o Arweiniad Arolygu: Arweiniad atodol


​Arolygu’r dulliau a ddefnyddir gan leoliadau nas cynhelir, ysgolion, UCD a gwasanaethau addysg llywodraeth leol i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a lles 

Math o Arweiniad Arolygu: Arweiniad atodol


Beth yw’r diben?
Mae’r ddogfen hon yn rhoi arweiniad pellach i arolygwyr ei ddefnyddio ochr yn ochr ag arweiniad y sector ar gyfer arolygu

Ar gyfer pwy mae’r arweiniad?
Ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol, lleoliadau nas cynhelir a’r sector ôl-16/AB

Pryd y dylid dechrau defnyddio’r arweiniad?
Medi 2019

Math o Arweiniad Arolygu: Arweiniad atodol


Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:

  • ysgolion a safleoedd meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
  • ysgolion cynradd
  • ysgolion uwchradd
  • ysgolion pob oed
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol
  • addysg bellach
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • hyfforddiant gwaith ieuenctid a chymunedol
  • gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • addysg a hyfforddiant athrawon
  • dysgu yn y gwaith
  • dysgu yn y sector cyfiawnder


Mae Estyn hefyd:

  • yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac eraill
  • yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu


Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:

Yr Adran Gyhoeddiadau
Estyn
Llys Angor
Heol Keen 
Caerdydd
CF24 5JW neu drwy anfon e-bost at 

Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan: www.estyn.llyw.cymru

Cyfieithwyd y ddogfen hon gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).

Hawlfraint y Goron 2021: 
Gellir ailddefnyddio’r adroddiad hwn yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei ailddefnyddio’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cydnabod y deunydd fel hawlfraint y Goron a rhaid nodi teitl yr adroddiad penodol.

Ynglŷn â’r arweiniad hwn

Overview

Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Fodd bynnag, rydym yn llunio arweiniad atodol hefyd i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach. 

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai bod y dogfennau’n datgan eu bod ar gyfer sector neu sectorau penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (er enghraifft arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (er enghraifft defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (er enghraifft arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).

Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.

Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i gael dealltwriaeth o drefniadau arolygu Estyn. Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran gwerthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.

Mae timau arolygu yn gweithio yn unol â saith egwyddor allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys bod timau arolygu:

  • yn arolygu ar sail dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr
  • bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd ac effeithiolrwydd yr addysgu a’r dysgu
  • yn sicrhau bod arolygu yn ymateb i anghenion yr holl ddysgwyr 
  • yn canolbwyntio ar y darparwr penodol ym mhob arolygiad ac yn addasu eu dulliau yn unol â hynny
  • yn mabwysiadu dull adeiladol sy’n gwneud y rhyngweithio gyda’r darparwr yn brofiad dysgu proffesiynol ar gyfer eu staff a’r tîm arolygu cyfan
  • yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig 
  • yn chwilio am arfer arloesol dra ystyriol 
  • yn sicrhau bod gwerthusiadau yn gadarn, yn ddibynadwy, yn ddilys ac yn seiliedig ar dystiolaeth uniongyrchol
  • yn sicrhau cyn lleied â phosibl o ofynion ar gyfer dogfennau a pharatoi gan y darparwr
  • yn cael safbwynt dysgwyr a rhanddeiliaid eraill.

Arsylwadau o wersi: Egwyddorion cyffredinol

Nod pob gweithgarwch arolygu yw i’r tîm gasglu digon o dystiolaeth o arsylwadau o wersi, teithiau dysgu a gweithgareddau eraill i asesu dilysrwydd a chywirdeb yr arfarniad y darparwr ei hun o’i gryfderau a’i wendidau mewn perthynas â deilliannau, ac ansawdd ei ddarpariaeth a’i arweinyddiaeth.

Yn ystod arolygiadau, bydd yr arolygydd cofnodol (ACof) yn trefnu nifer o arsylwadau o wersi a theithiau dysgu. Ni ddylai aelodau’r tîm arolygu gynnal arsylwadau o wersi neu deithiau dysgu ar eu liwt eu hunain, ond yn hytrach dylent bob amser gyfeirio’n ôl at yr ACof i drafod a sicrhau ei gytundeb/chytundeb.

Mae teithiau dysgu yn rhoi cyfle i dimau arolygu weld nifer fwy o ddysgwyr, dosbarthiadau, gweithgareddau ac athrawon. Nid oes gofyniad i’r tîm arolygu arsylwi pob athro neu bob pwnc neu faes dysgu. Ni ddylai’r ACof a’r tîm arolygu rannu’r amserlen o arsylwadau o wersi neu deithiau dysgu gyda’r enwebai fel arfer oni bai bod rheswm penodol, darbwyllol i wneud hynny, er enghraifft er mwyn hwyluso mynediad i ardal ddynodedig o’r safle neu i sicrhau iechyd a diogelwch arolygwyr.

Nid oes templed penodedig gan Estyn ar gyfer strwythur gwersi, na’r dulliau addysgu sy’n ofynnol. Dylai athrawon gynllunio profiadau dysgu yr ystyriant yw’r mwyaf priodol i’r dysgwyr yn y dosbarth a’r amcanion dysgu y dymunant iddynt eu cyflawni. Dylai arolygwyr ond gwerthuso addysgu mewn perthynas â pha mor effeithiol y mae’n helpu disgyblion i sicrhau dysgu a gwneud cynnydd dros gyfnod.

Bydd arolygwyr yn ystyried unrhyw gynlluniau y gallai athrawon eu defnyddio ar gyfer y wers a arsylwyd, ond nid ydynt yn mynnu bod athrawon yn gwneud unrhyw waith cynllunio gwersi pwrpasol yn benodol ar gyfer yr arolygiad. Mae arolygwyr am weld y cynlluniau y mae athrawon yn eu defnyddio fel arfer i arwain yr addysgu a’r dysgu. Nid ydynt eisiau cynyddu’r baich biwrocrataidd ar athrawon neu staff cymorth oherwydd gweithgarwch arolygu.

Mae’r tîm arolygu yn casglu ystod eang o dystiolaeth ar ansawdd yr addysgu a’r cynnydd a wna dysgwyr, er enghraifft trwy graffu ar gynllunio athrawon a siarad â dysgwyr am eu gwaith. Mae arsylwi gwersi a theithiau dysgu yn ffurfio un rhan yn unig o’r dystiolaeth honno. Bydd y tîm arolygu yn canolbwyntio ar sefydlu mynychter ac arwyddocâd cryfderau a gwendidau amrywiol yng nghynnydd a chyflawniad dysgwyr, ansawdd eu profiadau dysgu ac ansawdd yr addysgu ar draws y darparwr i’w trafod mewn cyfarfodydd tîm. 

Os nad yw arolygwyr yn gallu casglu digon o dystiolaeth yn ystod arsylwadau o wersi neu drwy deithiau dysgu am safonau dysgwyr, y cynnydd a wnânt, eu profiadau dysgu ac ansawdd yr addysgu, dylai arolygwyr siarad â’r enwebai a gofyn am sampl ychwanegol o waith dysgwyr, trafodaeth bellach gyda dysgwyr a chynlluniau athrawon i graffu arnynt ymhellach.


Arsylwadau o wersi

Mae arsylwadau o wersi yn canolbwyntio’n bennaf ar waith un dosbarth, sesiwn neu wers. Yn nodweddiadol, byddant yn golygu bod arolygydd yn arsylwi dysgwyr mewn lleoliad ystafell ddosbarth, labordy neu weithdy. Ar adegau, gall yr arsylwad o wers gynnwys arsylwi dysgwyr y tu allan i’r ystafell ddosbarth, er enghraifft mewn ardaloedd awyr agored, mewn neuadd chwaraeon neu fan perfformio neu yn y coridorau.

Mae arolygwyr yn arsylwi gwersi am o leiaf 30 munud. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddant yn arsylwi dysgu am gyfnod hwy na hyn. Yr amser arferol ar gyfer arsylwi gwers yw rhwng 45-60 munud, ond gallai fod yn fwy gan ddibynnu ar natur y wers a’r dystiolaeth a fynnir gan yr arolygydd. Ar adegau, gall arolygwyr dreulio 30 munud gyda dosbarth ar ddechrau sesiwn neu fynd yn ôl nes ymlaen i weld rhannau eraill o’r wers.

Ar ddiwedd pob arsylwad o wers, bydd yr arolygydd yn cynnig y cyfle i’r athro gael deialog broffesiynol fer ar y wers/gweithgaredd a arsylwyd. Pan na fydd hyn yn bosibl, dylai’r arolygydd a’r athro gytuno ar amser a lleoliad sy’n gyfleus i’r ddau i gynnal y ddeialog broffesiynol. Dylai’r arolygydd gynnig cyfle ar gyfer deialog broffesiynol bob amser, ond yr athro dan sylw sydd i ddewis p’un a yw’n dymuno derbyn y gwahoddiad neu beidio.

Dylai deialog broffesiynol gydag athrawon ganolbwyntio’n bennaf ar waith y dysgwyr. Dylai sylwadau ar ansawdd yr addysgu ymwneud â’r cryfderau a’r gwendidau yn y dysgu a welwyd a chyfraniad yr addysgu at hynny. 


Teithiau dysgu

Bydd arolygwyr yn cynnal teithiau dysgu yn ystod arolygiadau. Mae teithiau dysgu yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar waith dysgwyr ar draws nifer o ddosbarthiadau, er enghraifft safonau mewn llythrennedd neu TGCh, neu ansawdd y cymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Efallai y bydd un arolygydd yn ymgymryd â thaith ddysgu ar draws ystod o wersi neu efallai y bydd nifer o arolygwyr yn ymweld â dosbarthiadau, gweithdai neu ardaloedd darparwr yn unigol am gyfnod byr, gyda ffocws neu thema gyffredin dan sylw. 

O ganlyniad i natur ffocysedig y gweithgaredd taith ddysgu, a lledaenu gweithgarwch ar draws nifer o wersi / dosbarthiadau o fewn cyfnod cymharol fyr, ni fydd arolygwyr mewn sefyllfa i gynnig deialog broffesiynol i athrawon unigol ar ôl teithiau dysgu. Hefyd, yn ystod teithiau dysgu, efallai na fydd arolygwyr yn gweld llawer iawn o addysgu dosbarth cyfan o gwbl. Gallai arolygwyr ar deithiau dysgu ganolbwyntio ar y gwaith y mae dysgwyr yn ymgymryd ag ef yn hytrach nag ansawdd yr addysgu. 

Yn ystod y rhan fwyaf o arolygiadau, bydd gweithgareddau teithiau dysgu yn digwydd rhwng dechrau a chanol y cyfnod y mae’r tîm arolygu gyda’r darparwr, er y gallant ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod arolygu. Gallai deilliannau teithiau dysgu a gweithgareddau arolygu eraill lywio ffocws y gweithgarwch arolygu ar unrhyw ddiwrnod(au) canlynol. Bydd angen i arolygwyr cofnodol fod yn hyblyg o ran amserlennu arsylwadau pellach a gweithgareddau eraill er mwyn ymateb yn briodol i’r canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg o’r dystiolaeth a gafwyd o deithiau dysgu. 

Nid oes dyraniad amser dynodedig ar gyfer arsylwi taith ddysgu gan y gall ffocws yr arolygiad amrywio o daith ddysgu i daith ddysgu ac o ddarparwr i ddarparwr. Dylai’r ACof drafod nodweddion ymarferol gweithgarwch teithiau dysgu gyda’r tîm arolygu a darparu arweiniad addas ar ddechrau’r arolygiad.

Ar ddechrau arolygiadau, bydd yr ACof yn trefnu i aelodau’r tîm arolygu gynnal teithiau dysgu ar adegau penodol, a bydd yr ACof yn nodi’r ffocws penodol ar gyfer y teithiau dysgu. Fel arfer, bydd yr ACof yn sicrhau nad oes unrhyw orgyffwrdd yng ngwaith arolygwyr, er enghraifft dau arolygydd yn arsylwi’r un gweithgaredd yn yr un dosbarth. Fodd bynnag, mewn amgylcheddau dysgu cynllun agored, gall fod achlysuron pan fydd arolygwyr yn cynnal arsylwadau a theithiau dysgu mewn ardaloedd tebyg, er enghraifft mewn ardal fawr, cynllun agored y cyfnod sylfaen mewn ysgol, ar draws gweithdy mawr neu fan perfformio, neu mewn ardal awyr agored, fel iard chwarae neu gae chwarae.


Cofnodi canfyddiadau o arsylwadau o wersi a theithiau dysgu

Dylai arolygwyr nodi canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg yn electronig yn yr ardal berthnasol o’u ffurflenni barnau (FfBau) electronig wrth iddynt ymgymryd â gweithgarwch arolygu. 

Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai arolygwyr nodi eu canfyddiadau yn yr adran ‘Nodiadau arsylwi’ o’u FfBau, sy’n canolbwyntio ar safonau ac addysgu. Gall y rhain wedyn ffurfio’r sail ar gyfer trafodaeth tîm ar y cryfderau a’r gwendidau cyffredinol mewn dysgu, cynnydd, cyflawniad ac addysgu yn y darparwr. Dylai arolygwyr gofnodi eu canfyddiadau ar unrhyw agweddau eraill ar y ddarpariaeth, er enghraifft ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm, yn adran berthnasol eu FfF. 

Math o Arweiniad Arolygu: Arweiniad atodol


Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:

  • ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
  • ysgolion cynradd
  • ysgolion uwchradd
  • ysgolion pob oed
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol
  • addysg bellach
  • colegau arbenigol annibynnol
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • addysg a hyfforddiant athrawon
  • Cymraeg i oedolion
  • dysgu yn y gwaith
  • dysgu yn y sector cyfiawnder

Rydym hefyd:

  • yn adrodd i Senedd Cymru ac yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
  • yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu.

Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi.  Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:

Yr Adran Gyhoeddiadau
Estyn
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW   neu drwy anfon e-bost at 

Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan:  www.estyn.llyw.cymru

Cyfieithwyd y ddogfen hon gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).

Ynglŷn â’r arweiniad hwn

Trosolwg

Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Fodd bynnag, rydym yn llunio arweiniad atodol hefyd i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach.

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai bod y dogfennau’n datgan eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).

Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.

Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i gael dealltwriaeth o drefniadau arolygu Estyn hefyd. Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran gwerthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.

Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:

  • Bydd arolygwyr yn mynd ati i arolygu’n gadarnhaol, i sicrhau mai’r profiad dysgu proffesiynol gorau posibl fydd hwn ar gyfer y staff ym mhob darparwr
  • Bydd arolygwyr yn arolygu ar sail dull sy’n cael ei arwain gan y dysgwr
  • Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
  • Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol, graff
  • Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, cyhyd â phosibl
  • Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymateb i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac yn defnyddio ystod gynyddol yr adnoddau a dulliau arolygu sydd ar gael
  • Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr

Cyflwyniad

Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn creu gofyniad statudol ar ddarparwyr i roi sylw priodol i’r angen i hyrwyddo cydraddoldeb, dileu gwahaniaethu a meithrin perthnasoedd da ar sail ‘nodweddion gwarchodedig’ fel hil, rhyw ac anabledd. Rhoddir mwy o fanylion yn adran dau, ond yn y bôn, dylai arolygwyr edrych am dystiolaeth – fel amcanion cydraddoldeb a gwybodaeth berthnasol gyhoeddedig – fod darparwyr yn mynd i’r afael â materion allweddol sy’n effeithio ar grwpiau gwarchodedig gwahanol a bod camau effeithiol ganddynt i fynd i’r afael ag anfantais bosibl y gallant ei dioddef, fel cyrhaeddiad gwahaniaethol, cyfraddau gwahardd a bwlio.

Ymdrinnir ag agweddau ar gydraddoldeb a hawliau dynol drwy bum maes arolygu’r fframwaith arolygu cyffredin.

Mae’r maes arolygu cyntaf yn canolbwyntio ar ddysgu. O dan y maes arolygu hwn, dylai arolygwyr werthuso cynnydd yr holl ddisgyblion ar draws yr ysgol, yn cynnwys cynnydd gwahanol grwpiau o ddisgyblion. Yn dibynnu ar gyd-destun yr ysgol, gallai hyn gynnwys disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, bechgyn a merched, disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (SSIY), disgyblion sy’n fwy abl, disgyblion ag amserlenni amgen neu sy’n derbyn addysg oddi ar y safle yn rheolaidd a’r rhai o grwpiau ethnig lleiafrifol.

Mae’r ail faes arolygu yn ymwneud â lles ac agweddau at ddysgu. Yn y maes hwn, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae pob un o’r disgyblion yn datblygu i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus, er enghraifft trwy eu hymwybyddiaeth o degwch, cydraddoldeb, cynaliadwyedd a hawliau plant. Dylai arolygwyr ystyried tueddiadau yng nghyfradd bresenoldeb gyffredinol y darparwr a’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael, yn cynnwys unrhyw amrywiadau nodedig rhwng grwpiau penodol o ddisgyblion ac eraill, er enghraifft y rhai sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim.   

Mae’r trydydd maes arolygu yn ymwneud ag addysgu a phrofiadau dysgu. Wrth werthuso cwricwlwm y darparwr, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda:  

  • y mae’r darparwr yn datblygu’r Cwricwlwm i Gymru i adlewyrchu natur cyd-destun yr ysgol yn llawn, yn cynnwys cynllunio gweithgareddau dysgu sy’n adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol, ieithyddol ac ethnig Cymru ac ardal leol yr ysgol
  • y mae cwricwlwm y darparwr yn darparu ar gyfer grwpiau penodol o ddisgyblion, er enghraifft disgyblion mwy abl, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a disgyblion â Saesneg fel iaith ychwanegol. (Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ffrydiau cyfrwng Cymraeg, gallai hyn gynnwys darpariaeth ar gyfer disgyblion nad oes ganddynt ryw lawer o wybodaeth flaenorol am y Gymraeg. Mewn ysgolion sydd â disgyblion yn derbyn rhan o’u haddysg oddi ar y safle neu ar y safle mewn grwpiau anogaeth neu ddarpariaeth cynhwysiant, dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae’r cwricwlwm hwn yn diwallu anghenion y disgyblion hyn)

Dylai arolygwyr ystyried y graddau y mae gan athrawon ac ymarferwyr eraill ddisgwyliadau uchel o’r holl ddisgyblion. Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda mae athrawon yn datblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddilyniant i sicrhau bod eu hasesiadau yn ddilys, yn gywir ac yn ddibynadwy. Wrth werthuso defnydd athrawon o ddeilliannau eu hasesiadau eu hunain ac asesiadau allanol, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda maent yn defnyddio’r wybodaeth hon i:

  • asesu cynnydd a datblygiad unigolion a grwpiau penodol, er enghraifft y disgyblion hynny sydd mewn perygl o dangyflawni neu’r rhai sy’n fwy abl.

Y pedwerydd maes arolygu yw gofal, cymorth ac arweiniad. Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae’r ysgol neu’r UCD:

  • yn helpu disgyblion, gan gynnwys y rhai o wahanol grwpiau, fel y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ymgymryd â chyfrifoldebau a chwarae rhan lawn yn yr ysgol a’r gymuned ehangach
  • yn helpu disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth o’u diwylliant, y gymuned leol a’r byd ehangach
  • yn helpu disgyblion i ddeall materion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn datblygu gwerthoedd parch, empathi, dewrder a thosturi
  • yn meithrin gwerthoedd ar y cyd, fel gonestrwydd, tegwch, cyfiawnder a chynaliadwyedd, ac yn helpu disgyblion i ddeall anghenion a hawliau pobl eraill, yn lleol ac fel aelodau o fyd amrywiol
  • yn herio ystrydebau yn agweddau, dewisiadau a disgwyliadau disgyblion a pha mor dda y mae’n hyrwyddo hawliau dynol  
  • yn hyrwyddo egwyddorion sy’n helpu disgyblion i wahaniaethu rhwng da a drwg
  • yn darparu cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion ddatblygu gwerthoedd cadarn a sefydlu eu credoau ysbrydol a moesegol
  • yn datblygu gallu disgyblion i fyfyrio ar ymatebion crefyddol ac anghrefyddol i gwestiynau sylfaenol, a myfyrio ar eu credoau neu’u gwerthoedd eu hunain

Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda mae’r ysgol neu’r UCD:

  • yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion (yn unol â’u cyfnod datblygu) o ymddygiadau sy’n niweidiol yn emosiynol neu’n anniogel, er enghraifft meithrin perthynas amhriodol ar-lein, aflonyddu, gwahaniaethu, bwlio ac eithafiaeth
  • yn cadw disgyblion yn ddiogel rhag peryglon radicaleiddio a chamfanteisio
  • yn rheoli ac yn ymateb i unrhyw achosion honedig yn ymwneud â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn gysylltiedig â rhagfarn, p’un a yw hynny gan staff neu gan gyd-ddisgyblion, yn cynnwys atgyfeirio ymhellach, ac adrodd, pan fydd yn briodol
  • yn defnyddio’i threfniadau i hyrwyddo a chefnogi diwylliant gwrthfwlio ac ymagwedd gadarnhaol at reoli ymddygiad disgyblion
  • yn cofnodi ac yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwael a mathau penodol o fwlio, yn cynnwys y rhai sy’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig, a pha mor dda y mae arweinwyr yn defnyddio’r cofnodion i wella’r ddarpariaeth

Mae maes arolygu pump yn ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth. Mae tri gofyniad adrodd, ac mae’r pedwar yn ymwneud â’r effaith a gaiff arweinwyr a rheolwyr o ran diwallu anghenion dysgwyr o grwpiau gwahanol. Dylai arolygwyr werthuso’r graddau y mae arweinwyr a rheolwyr wedi sefydlu a chyfleu gweledigaeth glir. Dylent ystyried p’un a oes nodau, amcanion strategol, cynlluniau a pholisïau priodol sy’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion yr holl ddisgyblion i sicrhau eu bod yn cyflawni cystal ag y dylent, o leiaf. Dylent ystyried y flaenoriaeth y mae arweinwyr wedi’i rhoi i sicrhau bod pob un o’r staff yn deall ac yn hyrwyddo diwylliant diogelu’r ysgol. Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn gweithredu yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, a pha mor dda maent yn gwneud penderfyniadau, er enghraifft yn ymwneud â gwario, ac yn gosod blaenoriaethau ar gyfer gwella sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr, dybryd ac anghenion tymor hir disgyblion, y gymuned leol a Chymru.

Mae’r arweiniad atodol hwn yn rhoi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol ar gyfer arolygu’r meysydd hyn.


Gwerthuso cydraddoldeb a hawliau dynol

Amcanion cydraddoldeb a chynlluniau cydraddoldeb strategol

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn crynhoi ac yn disodli’r cyfreithiau gwrthwahaniaethu blaenorol mewn un Deddf.

Mae’r Ddeddf yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus newydd (y ‘ddyletswydd gyffredinol’), gan ddisodli’r dyletswyddau ar wahân yn ymwneud â hil, anabledd a chydraddoldeb rhywiol. Daeth hon i rym ar 5 Ebrill 2011.

Beth yw’r ddyletswydd gyffredinol?

Mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus[1] (darparwyr) roi sylw priodol i’r angen i:

  1. ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithiol ac ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf
  2. hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rhai nad ydynt
  3. meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt

Mae’r arweiniad hwn yn cyfeirio at y tair elfen hon fel tri ‘nod’ y ddyletswydd gyffredinol, ac felly pan fyddwn yn trafod y ddyletswydd gyffredinol, rydym yn golygu pob un o’r tair nod.

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn cwmpasu’r un grwpiau a oedd yn cael eu gwarchod gan ddeddfwriaeth bresennol yn ymwneud â chydraddoldeb – oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth – ond mae’n ehangu rhai nodweddion gwarchod i grwpiau nad oeddent yn cael eu cynnwys yn flaenorol, ac mae hefyd yn cryfhau agweddau penodol ar y gyfraith cydraddoldeb. Gelwir y rhain yn fwy cyffredin erbyn hyn fel y nodweddion gwarchodedig, a chyfeirir at y grwpiau fel y grwpiau gwarchodedig.

Nodwch hefyd, mewn perthynas â’r rhestr o nodweddion gwarchodedig, nad oes rhaid i ysgolion ystyried nodwedd warchodedig oed wrth ddarparu addysg i ddisgyblion, neu wrth ddarparu buddion, cyfleusterau neu wasanaethau iddynt. Nid oes rhaid i ysgolion felly ystyried hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng disgyblion o oed gwahanol, nac ystyried sut i feithrin perthynas dda rhwng disgyblion o oed gwahanol. Eithriad cyfyngedig yw hwn sydd yn gymwys yng nghyd-destun oed yn unig. Bydd angen i ysgolion roi sylw priodol o hyd i’r ddyletswydd gyffredinol mewn perthynas â phob un o’r nodweddion gwarchodedig eraill.

[1] Mae awdurdodau cyhoeddus yn cynnwys awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir, colegau AB ac AU.

Dyletswyddau penodol yng Nghymru

Mae ystod o ddyletswyddau penodol hefyd y mae angen i ddarparwyr roi sylw iddynt. Diben bras y dyletswyddau penodol yng Nghymru yw helpu darparwyr wrth iddynt gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol ac i gynorthwyo tryloywder.

Amcanion cydraddoldeb a chynlluniau cydraddoldeb strategol

Diben cynllun cydraddoldeb strategol yw dogfennu’r camau y mae darparwr yn eu cymryd i gyflawni ei ddyletswyddau penodol.

  • Rhaid i ddarparwyr gyhoeddi amcanion strategol a bod wedi llunio cynllun cydraddoldeb strategol erbyn 2 Ebrill 2012. Dylai amcanion strategol gael eu hadolygu bob pedair blynedd, o leiaf. Felly, er enghraifft, rhaid i ddarparwyr gael cynllun cydraddoldeb strategol cyfredol yn dyddio o 2020 ymlaen.
  • Rhaid i ddarparwyr hefyd gyhoeddi adroddiad cydraddoldeb blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn sy’n cynnwys manylion ar gynnydd tuag at gyflawni pob un o’r amcanion cydraddoldeb.

Rhestr wirio arolygu

At ddibenion Estyn, y prif bwyntiau y dylech eu hystyried yw:

  • a yw’r darparwr wedi cyhoeddi amcanion strategol (rhaid eu hadolygu o leiaf bob 4 blynedd), cynllun cydraddoldeb strategol ac adroddiad cydraddoldeb blynyddol
  • a yw’r cynllun yn cynnwys disgrifiad o’r darparwr a’i amcanion cydraddoldeb
  • y camau y mae wedi’u cymryd neu’n bwriadu’u cymryd i fodloni ei amcanion, ac o fewn ba raddfa amser
  • ei drefniadau ar gyfer monitro cynnydd o ran bodloni ei amcanion cydraddoldeb ac effeithiolrwydd y camau y mae’n eu cymryd i fodloni’r amcanion hynny
  • ei drefniadau ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb; mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd drwy ymgysylltu â grwpiau gwarchodedig ynglŷn â sut gallai gwaith y darparwr ymwneud â’r ddyletswydd gyffredinol
  • ei drefniadau ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb y mae’n ei chadw ac y mae’n ystyried ei bod yn briodol i’w chyhoeddi
  • ei drefniadau ar gyfer:
  • asesu effaith debygol unrhyw bolisïau ac arferion y mae awdurdod yn eu cynnig, eu hadolygu neu’u diwygio ar grwpiau gwarchodedig
  • monitro’u heffaith wirioneddol a’u heffaith barhaus
  • cyhoeddi adroddiadau lle mae asesiad yn dangos effaith sylweddol (neu effaith debygol) ar allu awdurdod i fodloni’r ddyletswydd gyffredinol
  • manylion ynglŷn â sut bydd darparwr yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ddyletswydd gyffredinol a dyletswyddau penodol ymhlith gweithwyr, gan gynnwys drwy weithdrefnau asesu perfformiad, er mwyn nodi a mynd i’r afael ag anghenion hyfforddi

Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol

Dylai arolygwyr cofnodol sicrhau eu bod, yn yr adran am gyd-destun y darparwr, yn cynnwys manylion, lle bo’n berthnasol, am yr ieithoedd sy’n cael eu siarad, a nifer y disgyblion y mae Saesneg / Cymraeg yn iaith ychwanegol iddynt. Dylai pob arolygydd tîm sicrhau eu bod yn defnyddio’r derminoleg gywir wrth gyfeirio at ieithoedd cymunedol ac osgoi enwau sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin os ydynt yn anghywir. Byddai’r arweiniad hwn yn berthnasol hefyd i ysgolion cyfrwng Cymraeg, i’r disgyblion hynny sydd â iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg yn famiaith iddynt.

Mewn darparwyr lle mae cyfran y disgyblion y mae’r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt yn nodwedd arwyddocaol, dylai sylwadau am faterion fel safonau, lles, profiadau dysgu ac ati, gael eu cynnwys yn yr adrannau perthnasol yn yr adroddiad llawn.

Mae cwestiynau i’w gofyn mewn perthynas â Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol yn cynnwys:

  • A oes polisi darparwr cyfan i gynorthwyo disgyblion sy’n dysgu Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol, ac os oes, a yw’n cael ei weithredu’n gyson?
  • A yw’r amgylchedd yn groesawgar i ddisgyblion sydd â Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol?
  • A yw’r athrawon yn defnyddio gwybodaeth am yr ieithoedd y mae’r disgyblion yn eu siarad?
  • A yw’r cwricwlwm cyfan ar gael i ddisgyblion sydd â Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol? 
  • A oes unrhyw athrawon prif ffrwd wedi cael hyfforddiant i’w helpu nhw i ddeall anghenion dysgu disgyblion sydd â Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol?
  • Pa mor agos yw’r cysylltiad rhwng staff cymorth Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol ac athrawon prif ffrwd?
  • Sut mae gwersi mewn dosbarthiadau prif ffrwd a, lle bo’n berthnasol, yn ystod unrhyw sesiynau tynnu allan o wersi, wedi’u trefnu i ddiwallu anghenion penodol y disgyblion sy’n dysgu Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol?
  • A yw’r darparwr yn olrhain llwyddiant ei ddarpariaeth Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol drwy werthuso cyraeddiadau’r disgyblion, ac a yw’n defnyddio’r wybodaeth i nodi targedau ar gyfer gwella?
  • Sut mae’r darparwr yn diwallu anghenion disgyblion sydd â Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol pan nad oes unrhyw staff ar gael?
  • A yw’r darparwr yn darparu cyfieithiadau o lythyrau a dogfennau’r darparwr mewn ieithoedd cymunedol?  Os nad ydyw, sut mae’n cyfathrebu â rhieni sydd ag ychydig o Saesneg/Cymraeg neu ddim o gwbl?
  • Sut mae’r darparwr yn asesu anghenion disgyblion sydd â Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol os oes amheuaeth bod ganddynt anghenion addysgol arbennig hefyd?

Math o Arweiniad Arolygu: Arweiniad atodol


Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:

  • ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
  • ysgolion cynradd
  • ysgolion uwchradd
  • ysgolion pob oed
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol
  • addysg bellach
  • colegau arbenigol annibynnol
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • addysg a hyfforddiant athrawon
  • Cymraeg i oedolion
  • dysgu yn y gwaith
  • dysgu yn y sector cyfiawnder

Rydym hefyd:

  • yn adrodd i Senedd Cymru ac yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
  • yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu.

Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi.  Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:

Yr Adran Gyhoeddiadau
Estyn
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW   neu drwy anfon e-bost at 

Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan:  www.estyn.llyw.cymru

Cyfieithwyd y ddogfen hon gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).

Arweiniad atodol

Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu.  Fodd bynnag, rydym yn llunio arweiniad atodol hefyd i helpu arolygwyr i ystyried agweddau pellach penodol ar addysg a hyfforddiant. 

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr.  Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai bod y dogfennau’n datgan eu bod ar gyfer sector penodol.  Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).

Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr.  Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad.  Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.

Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i gael dealltwriaeth o drefniadau arolygu Estyn hefyd.  Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran arfarnu agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.

Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:

  • Bydd arolygwyr yn mynd ati i arolygu’n gadarnhaol, i sicrhau mai’r profiad dysgu proffesiynol gorau posibl fydd hwn ar gyfer y staff ym mhob darparwr
  • Bydd arolygwyr yn arolygu ar sail dull sy’n cael ei arwain gan y dysgwr
  • Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
  • Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol, graff
  • Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, cyhyd â phosibl
  • Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymateb i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac yn defnyddio ystod gynyddol yr adnoddau a dulliau arolygu sydd ar gael
  • Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr

Arolygu llythrennedd

Mae llythrennedd yn fedr hanfodol sy’n galluogi disgyblion i ddeall iaith ysgrifenedig ac iaith lafar, dehongli’r hyn sydd wedi cael ei ysgrifennu neu’i ddweud, a llunio casgliadau o dystiolaeth.  Mae llythrennedd yn cyfeirio at y gallu i gyfathrebu’n rhugl, yn gymhellol ac yn berswadiol hefyd.

Y tasgau allweddol ar gyfer arolygwyr yw gwerthuso:

  • pa mor dda y mae disgyblion yn datblygu’r medrau llythrennedd sydd eu hangen arnynt i elwa ar y cwricwlwm cyfan a dysgu’n effeithiol
  • pa mor dda y mae addysgu a phrofiadau dysgu yn datblygu medrau llythrennedd disgyblion
  • ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth o ran cydlynu’r ddarpariaeth i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion

Dylai arolygwyr adrodd ar fedrau llythrennedd disgyblion ym mhob arolygiad, a phan fo’n briodol, adrodd ar unrhyw ddeilliannau neu ddangosyddion sy’n ymwneud â’r medrau hyn. 

  • Bwriad yr arweiniad canlynol yw cynorthwyo arolygwyr i werthuso ac adrodd ar safonau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu disgyblion ac ar eu gallu i ddefnyddio eu medrau llythrennedd mewn gwaith ar draws y cwricwlwm.  Er bod yr arweiniad yn cynnwys gwybodaeth am ddarpariaeth yr ysgol ar gyfer llythrennedd, dylai arolygwyr gofio y dylai’r prif ffocws fod ar yr effaith a gaiff ar ddysgu a chynnydd disgyblion.  Yn ychwanegol, wrth arolygu’r Gymraeg, dylai arolygwyr gyfeirio at yr Arweiniad Atodol: Y Gymraeg mewn lleoliadau nas cynhelir, ysgolion ac UCDau cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg.

Casglu ac adolygu tystiolaeth arolygu

Bydd y tîm yn cynllunio’r arolygiad er mwyn iddynt allu casglu tystiolaeth am lythrennedd o fewn y pum maes arolygu.  Bydd yr Arolygydd Cofnodol yn sicrhau bod gan y tîm ddigon o amser i adolygu’r dystiolaeth allweddol sydd ei hangen arno i lunio ei farnau.  Dyma’r prif ffurfiau tystiolaeth:

  • samplau o waith disgyblion mewn gwaith iaith, llythrennedd a chyfathrebu a Chymraeg / Saesneg (yn cynnwys gwaith sy’n cael ei gwblhau ar-lein)
  • samplau o waith disgyblion o feysydd dysgu a phynciau eraill
  • gwrando ar weithgareddau disgyblion, er enghraifft gwrando arnynt yn darllen ar goedd ac yn trafod testunau, trafodaethau gyda nhw am eu gwaith llythrennedd
  • trafodaethau gyda staff, arweinwyr, llywodraethwyr, rhieni a phobl eraill
  • arsylwi addysgu a gweithgareddau eraill, gan gynnwys tystiolaeth a gasglwyd trwy deithiau dysgu sy’n canolbwyntio ar agwedd benodol ar waith llythrennedd, er enghraifft siarad â disgyblion am eu darllen
  • tystiolaeth ddogfennol, gan gynnwys gwybodaeth am ddysgu a chynnydd disgyblion (fel dadansoddi sgorau darllen safonedig grwpiau penodol, a chynnydd disgyblion ar raglenni ymyrraeth llythrennedd), a gwerthusiadau o gynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu llythrennedd

Bydd y tîm yn defnyddio arsylwadau uniongyrchol o waith disgyblion, ble bynnag y bo modd, i gasglu tystiolaeth i gefnogi ei farnau.  Gallai arolygwyr ddewis sampl ychwanegol o waith disgyblion, os bydd angen, i ymestyn eu hymchwiliad mewn agwedd benodol ar lythrennedd.  Byddant yn arsylwi addysgu a gweithgareddau eraill.

Mae llais disgyblion yn ffynhonnell dystiolaeth allweddol ar gyfer arolygwyr.  Bydd trafodaethau gyda disgyblion yn rhoi cyfle i archwilio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u gwaith.  Bydd hefyd yn helpu arolygwyr i gael amcan o ba mor dda y mae’r ysgol yn cynorthwyo disgyblion ac yn cyfrannu at eu cynnydd. 

Dylai ysgolion drefnu bod gwybodaeth ar gael i’r tîm arolygu am y safonau llythrennedd a gyflawnir gan ddisgyblion, yn enwedig canlyniadau unrhyw brofion sgrinio cychwynnol ac unrhyw asesiadau eraill.  Bydd hyn yn helpu arolygwyr i werthuso cynnydd disgyblion, llunio barn am y safonau y mae disgyblion yn eu cyflawni o gymharu â’u mannau cychwyn, a’r ffordd y mae athrawon yn defnyddio’r wybodaeth o asesu i lywio eu cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol.

Bydd angen i’r tîm ystyried safbwyntiau rhanddeiliaid am yr ysgol a phrofi dilysrwydd y safbwyntiau hynny yn ystod yr arolygiad.

Pwyntiau i’w hystyried:

  • A yw disgyblion yn amgyffred ystyr, yn datblygu dealltwriaeth ac yn ymestyn eu geirfa trwy wrando ar bobl eraill?
  • A yw disgyblion yn dysgu’r wybodaeth a’r medrau sy’n cefnogi cyfathrebu effeithiol ar lafar mewn ystod o gyd-destunau a lleoliadau?
  • A yw disgyblion (mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn defnyddio medrau cyfryngu i gefnogi cyfathrebu effeithiol?
  • A yw disgyblion yn elwa ar destunau sy’n ddigon cyfoethog a sylweddol i ennyn eu diddordeb yn ddeallusol ac yn emosiynol?
  • A oes tystiolaeth o ddisgyblion yn datblygu eu medrau darllen trwy dasgau wedi eu seilio ar: ddealltwriaeth lythrennol a chasgliadol, gwerthuso a gwerthfawrogi, adalw gwybodaeth, dadansoddi a chyfosod?
  • A yw disgyblion (mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn defnyddio eu medrau trawsieithu, er enghraifft i ddarllen yn Saesneg a chyfosod eu canfyddiadau yn Gymraeg?
  • A yw disgyblion yn llunio rhagdybiaethau, yn crynhoi ac yn llunio casgliadau o’u darllen?
  • A yw disgyblion yn ysgrifennu ar draws y cwricwlwm i’r un safonau y maent yn eu cyflawni mewn sesiynau iaith, llythrennedd a chyfathrebu neu wersi Cymraeg / Saesneg?
  • A ydynt yn ysgrifennu ar draws ystod o genres ar gyfer gwahanol ddibenion a chynulleidfaoedd, gan strwythuro eu gwaith yn briodol?
  • A ydynt yn cynllunio, yn ailddrafftio ac yn golygu eu gwaith yn effeithiol?
  • A yw sillafu ac atalnodi yn briodol i oedran?
  • A yw llawysgrifen a chyflwyniad yn glir?
  • A yw gweithgareddau dysgu yn fwriadus ac a ydynt yn adeiladu’n llwyddiannus ar beth mae disgyblion yn ei wybod ac yn gallu ei wneud?
  • A oes tystiolaeth glir o her briodol i’r holl ddisgyblion?
  • A yw adborth yn helpu disgyblion i wella eu medrau llythrennedd?

Yn ystod yr arolygiad

MA1 Dysgu

Dylai arolygwyr adrodd yn glir ar ba mor dda y mae disgyblion yn gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu wrth werthuso datblygiad eu gwybodaeth, medrau a chyflawniadau mewn llythrennedd.  Dylent ystyried i ba raddau y mae disgyblion yn meddu ar y medrau sydd eu hangen i elwa ar y cwricwlwm cyfan a pha mor dda y mae’r cwricwlwm ehangach ei hun yn datblygu medrau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu disgyblion, yn briodol i’w hoedrannau a’u mannau cychwyn. 

Wrth werthuso cynnydd grwpiau penodol o ddisgyblion, er enghraifft y rhai sydd â’r Gymraeg / Saesneg yn iaith ychwanegol, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai sy’n fwy abl, dylai arolygwyr ystyried p’un a ydynt yn gwneud cymaint o gynnydd ag y gallent.  Mae’n bwysig fod arolygwyr yn ystyried lefel yr her y mae disgyblion yn ei hwynebu a’u dysgu blaenorol, wrth ddefnyddio eu medrau llythrennedd.

Dylai arolygwyr nodi sefyllfaoedd lle caiff disgyblion anhawster â’u medrau llythrennedd, a ble mae hyn yn rhwystro eu dysgu ar draws y cwricwlwm.  Bydd angen i arolygwyr nodi achosion posibl hyn, er enghraifft anallu disgyblion i wahaniaethu rhwng seiniau, eu diffyg ymwybyddiaeth ffonemig, geirfa gyfyngedig a gwybodaeth gyfyngedig am strategaethau ar gyfer sillafu.

Gwrando a siarad

Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion:

yn gwrando i ddeall, galw i gof, dehongli’r hyn y maent yn ei glywed, ac yn dod i gasgliad ynglŷn ag ef

yn gwahaniaethu seiniau, ac yn datblygu ac addasu eu geirfa a’u strwythur brawddeg wrth siarad (trwy wrando)

  • yn gwrando i ddatblygu eu dealltwriaeth o gysyniadau a syniadau allweddol, ac yn cymhwyso’r ddealltwriaeth hon i sefyllfaoedd newydd
  • yn cymryd eu tro mewn sgwrs, yn dilyn y testun, ac yn rheoli eu cyfraniadau a rhyngweithio yn briodol
  • yn gwrando ar bobl eraill (er enghraifft i gael gwahanol safbwyntiau a syniadau) ac yn defnyddio technegau i gofio prif bwyntiau eu sgwrs (er enghraifft gwneud nodiadau, crynhoi)
  • yn ymateb yn briodol i bobl eraill mewn ffordd sy’n gweddu i’r pwnc, y cyd-destun, y gynulleidfa a’r diben (er enghraifft herio’r hyn sy’n cael ei glywed ar sail rheswm, tystiolaeth neu ddadl i lunio eu casgliadau eu hunain)
  • yn gofyn ac yn ateb cwestiynau i egluro eu dealltwriaeth o’r hyn sydd wedi cael ei glywed, ac yn ymateb i bobl eraill trwy roi sylwadau ac awgrymiadau (er enghraifft i adeiladu ar farn pobl eraill mewn gwaith ar y cyd)
  • yn ynganu geiriau’n gywir ac yn siarad yn glir mewn cywair priodol
  • yn defnyddio strwythurau brawddeg yn gywir, ac yn gwneud dewisiadau priodol o ran geirfa
  • (mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn cyfleu ystyr o un person i un arall, yn yr un iaith neu o un iaith i un arall, er enghraifft trwy drosglwyddo, esbonio neu gyfieithu gwybodaeth neu syniadau?
  • yn cyfleu syniadau a gwybodaeth yn fanwl gywir, yn effeithiol ac yn hyderus (er enghraifft yn pwysleisio pwyntiau allweddol, gan roi esboniad yn ei drefn)
  • yn amrywio tôn, cyflymdra eu siarad ac yn taflu eu llais i weddu i’r gynulleidfa a’r diben 
  • yn dangos ymwybyddiaeth o’r gwrandäwr ac yn ystyried lefel dealltwriaeth y gynulleidfa (er enghraifft trwy dalu sylw i osgo, ystum, mynegiant yr wyneb, cyswllt llygad a defnyddio technegau rhethregol)
  • yn ymgymryd ag ystod o gyfrifoldebau i strwythuro a datblygu trafodaethau grŵp (er enghraifft cynnal ffocws ar y dasg, rheoli amser, crynhoi)
  • yn archwilio eu syniadau eu hunain a syniadau pobl eraill yn feirniadol ac yn sensitif
  • yn cynnal rôl neu safbwynt argyhoeddiadol

Darllen

Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion:

  • yn datblygu medrau cyn-darllen ac ymddygiadau darllen cynnar fel sylfeini hanfodol ar gyfer darllen (er enghraifft gwrando ar stori, trin a thrafod llyfrau fel darllenydd, canu caneuon a rhigymau, ac adnabod eu henwau eu hunain)
  • yn datblygu dealltwriaeth ffonolegol ac ymwybyddiaeth ffonemig
  • yn darllen ystod eang o destunau ar goedd â mynegiant, yn rhoi sylw i atalnodi, ac yn amrywio tonyddiaeth, llais a chyflymdra i gyfleu ystyr
  • yn dal ati i ganolbwyntio i ddarllen testunau yn annibynnol, yn cynnwys nofelau cyflawn
  • yn defnyddio ystod o strategaethau i wneud synnwyr o eiriau, brawddegau a thestunau cyfan (er enghraifft gwybodaeth ffonemig neu ffonolegol, bonion geiriau, teuluoedd geiriau, strwythur brawddeg, trefniadaeth testun, gwybodaeth flaenorol)
  • yn defnyddio eu darllen eu hunain, a bod rhywun yn darllen iddynt, i ddatblygu eu geirfa a strwythurau brawddeg, yn cynnwys geiriau yn benodol i ddisgyblaeth (er enghraifft condensation, tundra, modulation) a geiriau sy’n digwydd mewn testunau ar draws y cwricwlwm (er enghraifft reasoned, decline, integrate, entity), sy’n tueddu i beidio â digwydd mor aml wrth sgwrsio
  • yn nodi testun neu thema testun (print neu weledol) ac yn dangos eu dealltwriaeth o brif syniadau’r testun
  • yn defnyddio ystod o strategaethau i ddod o hyd i wybodaeth, dewis a defnyddio gwybodaeth o ystod eang o ffynonellau (er enghraifft darllen agos, anodi, crynhoi, cyfosod, dadansoddi)
  • yn defnyddio rhesymu a dod i gasgliad i ddeall testunau, ac ystyried dibynadwyedd yr hyn y maent yn ei ddarllen neu’n ei weld, gan wahaniaethu rhwng ffeithiau, damcaniaethau, barn a rhagfarn
  • yn darllen yn werthfawrogol (er enghraifft ystyried pa mor effeithiol y mae testunau yn cyfleu gwybodaeth, syniadau a barn, ac yn ennyn sylw’r  darllenydd)
  • yn ymateb i’r hyn y maent yn ei ddarllen neu’n ei weld, yn gofyn cwestiynau, gwneud cymariaethau, a mynegi safbwyntiau a ffafriaethau
  • yn gwerthuso gwahanol safbwyntiau yn feirniadol i lunio casgliadau ystyriol
  • yn deall ac yn archwilio’r modd y gellid dehongli testunau, gan nodi sut maent yn amrywio o ran diben ac effaith
  • yn ymateb (ar lafar neu yn ysgrifenedig) yn hyderus i syniadau a gwybodaeth y maent wedi eu darllen, gan ddefnyddio eu medrau darllen datblygedig
  • (cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn defnyddio medrau trawsieithu pan fyddant yn darllen (er enghraifft i esbonio syniadau cymhleth yn Gymraeg ar ôl ymchwilio i erthyglau a ysgrifennwyd yn Saesneg)
  • yn defnyddio eu medrau darllen i allu dysgu ar draws y cwricwlwm

Ysgrifennu

Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion

  • threbu trwy greu marciau, darlunio symbolau neu ysgrifennu llythrennau a geiriau mewn ystod o gyd-destunau
  • yn ffurfio llythrennau, ac yn defnyddio eu gwybodaeth am lythrennau a’r seiniau y maent yn eu cynrychioli, i ysgrifennu geiriau ac ymadroddion
  • yn defnyddio ystod o strategaethau i geisio sillafu geiriau dieithr (er enghraifft teuluoedd geiriau, bonion, patrymau llythrennau, morffoleg, gwybodaeth graffig, gwybodaeth ffonemig)
  • yn ysgrifennu’n gywir ac yn eglur (er enghraifft, defnyddio ffurfiau safonol iaith a sillafu, yn cynnwys treiglo pan fydd yn briodol yn Gymraeg)
  • yn defnyddio ystod o atalnodi yn gywir i amrywio cyflymdra, egluro ystyr, osgoi amwysedd a chreu effeithiau bwriadol
  • yn ysgrifennu gan ddefnyddio geirfa ddychmygus, amrywiol a manwl gywir yn gynyddol, ac amrywio strwythurau brawddeg i greu effaith
  • yn addasu eu harddull ysgrifennu i weddu i’r gynulleidfa, y diben a’r cyd-destun
  • yn ysgrifennu mewn ystod eang o fathau o destun yn annibynnol ac yn estynedig, heb ddibynnu’n ormodol ar gymorth oedolyn neu sgaffaldiau
  • yn cynllunio, trefnu a chyflwyno syniadau a gwybodaeth yn briodol (er enghraifft trwy drefnu eu hysgrifennu mewn dilyniant rhesymegol, gan strwythuro eu hysgrifennu mewn paragraffau)
  • yn myfyrio ar, ailddrafftio a golygu eu hysgrifennu i wella ei gynnwys a’i gywirdeb, gan ymateb yn adeiladol i adborth, pan fydd yn briodol
  • yn ysgrifennu yn holl feysydd y cwricwlwm a ph’un a ydynt yn ysgrifennu i’r un safon ag y maent yn eu gwaith yn Gymraeg / Saesneg

MA2 Lles ac agweddau at ddysgu

Wrth ystyried lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu, dylai arolygwyr ystyried:

  • pa mor dda y mae disgyblion yn defnyddio eu medrau llythrennedd i gefnogi a gwella eu lles a’u hunan-barch, er enghraifft p’un a ydynt yn gallu siarad ac ysgrifennu am eu teimladau a’u hemosiynau, a dangos empathi a pharch at bobl eraill
  • agweddau disgyblion at eu gwaith llythrennedd, er enghraifft p’un a ydynt yn gallu dal ati i ganolbwyntio yn ystod tasgau ysgrifenedig i fireinio a gwella ansawdd eu hysgrifennu
  • pa mor dda y mae disgyblion yn cynllunio, yn monitro ac yn gwerthuso datblygiad eu llythrennedd
  • p’un a yw disgyblion yn mwynhau darllen ac yn gwneud dewisiadau gwybodus am yr hyn y maent yn ei ddarllen
  • pa mor dda y mae disgyblion yn defnyddio hunanreoleiddio os ydynt yn wynebu anawsterau wrth ddarllen ac ysgrifennu yn annibynnol

MA3 Addysgu a phrofiadau dysgu

Nid oes gan Estyn unrhyw ddulliau y mae’n eu ffafrio ar gyfer addysgu llythrennedd.  Dylai athrawon fod yn ystyriol o ddatblygiad llythrennedd disgyblion a strwythuro sesiynau yn y ffordd sydd fwyaf priodol i’r disgyblion gyflawni’r deilliannau dysgu bwriadedig, yn eu barn nhw, a’r amcanion dysgu yr hoffent i’r dysgwyr eu cyflawni. 

Dylai arolygwyr werthuso addysgu mewn perthynas â llwyddiant y dysgu a’r cynnydd a wna dysgwyr, ac yng nghyd-destun eu dysgu a’u cynnydd dros gyfnod, nid ar y dulliau a ddefnyddir na’r math o arddull addysgu.

Dylai arolygwyr nodi a yw dulliau yn rhwystro datblygiad medrau disgyblion, er enghraifft:

  • lle mae’r addysgu yn rhy gyfarwyddiadol oherwydd bod gan ddisgyblion amgyffrediad digon da o’r cynnwys neu’r medrau i fynd ymlaen ar eu pennau eu hunain
  • defnydd diangen o daflenni gwaith sy’n cyfyngu ar gyfleoedd i ddisgyblion ysgrifennu’n annibynnol neu’n estynedig
  • peidio â darparu sgaffaldio digonol yn ddigon hir i ddisgyblion â medrau darllen ac ysgrifennu gwannach, neu
  • pan mae disgwyliad y bydd athrawon yn defnyddio dull penodol o gynllunio a chyflwyno gwersi, er nad yw bob amser yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu medrau llythrennedd yn ddigon da

Dylai arolygwyr werthuso p’un a yw’r cwricwlwm yn adeiladu’n systematig ac yn gydlynus ar wybodaeth, dealltwriaeth a medrau llythrennedd presennol disgyblion i sicrhau dilyniant wrth iddynt symud trwy’r ysgol.

Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae addysgu llythrennedd:

  • yn darparu modelau rôl iaith cryf ar gyfer disgyblion, sy’n dylanwadu ar ddatblygiad eu medrau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu
  • yn bodloni anghenion datblygiadol disgyblion mewn iaith a llythrennedd, er enghraifft trwy beidio â’u cyflwyno i addysgu ffoneg ffurfiol cyn iddynt fod ar gam datblygiadol addas 
  • yn sicrhau bod disgyblion yn meddu ar ddealltwriaeth briodol o’r hyn y byddant yn ei ddysgu, a sut mae hyn yn cysylltu â gweithgareddau iaith a llythrennedd blaenorol
  • yn sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth dda o sut i lwyddo yn eu dysgu, er enghraifft trwy ddarparu modelau effeithiol o wahanol fathau o ysgrifennu
  • yn sgaffaldio datblygiad medrau disgyblion yn briodol
  • yn modelu prosesau meddwl i ddatblygu medrau metawybyddol disgyblion, er enghraifft i egluro’r dewisiadau a wna siaradwr wrth gyflwyno dadl
  • yn archwilio dealltwriaeth disgyblion trwy holi treiddgar sy’n eu herio i ddatblygu eu hatebion ar lafar ar yr un pryd, er enghraifft trafod achos ac effaith, neu resymu a dadlau  
  • yn cynorthwyo disgyblion â medrau cyfathrebu gwan i gaffael geirfa a phatrymau brawddeg allweddol ar lafar
  • yn helpu disgyblion i ddysgu ‘siarad’ yn ogystal â dysgu ‘trwy siarad’, trwy ddatblygu’r amrywiaeth lawn o fedrau gwrando a siarad, fel: dadlau, chwarae rôl, cyfweld, cyflwyno, archwilio
  • yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth o dafodiaith, priodiaith a chywair fel rhan o gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • yn datblygu medrau darllen cynnar disgyblion trwy ymagwedd systematig a chyson at addysgu ffoneg a geiriau amlder uchel
  • yn adeiladu ar fedrau darllen cynnar disgyblion i sicrhau eu bod yn gallu cymhwyso ystod eang o strategaethau darllen pan fyddant yn darllen testun yn annibynnol, er enghraifft sut i ddefnyddio cliwiau i wneud synnwyr o’r hyn y maent yn ei ddarllen 
  • yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o destun, eu gallu i adalw a defnyddio gwybodaeth yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm, a datblygu medrau darllen uwch, fel cyfosod a gwerthuso 
  • yn annog agweddau cadarnhaol disgyblion tuag at ddarllen, ac yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu stamina darllen, er enghraifft fel eu bod yn mwynhau darllen testunau hwy a mwy cymhleth ac yn canolbwyntio wrth ddarllen am gyfnodau hir
  • yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o ddiben ysgrifennu a’u gallu i ysgrifennu ar gyfer ystod o ddibenion a chynulleidfaoedd, gan ddewis tôn ac arddull briodol
  • yn herio disgyblion i ddatblygu a chynnal eu syniadau yn gydlynus ac yn ddychmygus, ac ailddrafftio a golygu eu hysgrifennu i wella’i ansawdd
  • yn datblygu medrau cynllunio, cyfansoddi a thrawsgrifio disgyblion (er enghraifft strwythur a threfniadaeth syniadau, llunio brawddegau, sillafu, llawysgrifen / print digidol ac atalnodi)
  • yn datblygu gwybodaeth disgyblion am eirfa fel agwedd bendant ar ddysgu iaith mewn gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu, er enghraifft trwy ddefnyddio geirdarddiad
  • yn herio disgyblion i ddatblygu a chymhwyso eu medrau llythrennedd mewn cyd-destunau ystyrlon ar draws y cwricwlwm i’r un safon ag yn eu sesiynau iaith, llythrennedd a chyfathrebu neu Gymraeg / Saesneg

Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae staff:

  • yn darparu ystafelloedd dosbarth ac ardaloedd cymunol sy’n amgylcheddau dysgu cyfoethog o ran iaith a llythrennedd
  • yn darparu cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion ddatblygu eu medrau iaith a llythrennedd trwy ddarpariaeth barhaus ac estynedig dan do ac yn yr awyr agored, yn y cyfnod sylfaen
  • yn datblygu gweithgareddau wedi eu hysgogi gan ddisgyblion yn y cyfnod sylfaen
  • yn cynllunio ar gyfer datblygiad eglur medrau gwrando a siarad disgyblion, yn cynnwys cyfleoedd perthnasol i ddisgyblion hŷn gymryd rhan mewn profiadau dysgu sy’n canolbwyntio ar ddatblygu eu gallu i siarad yn hyderus ac yn briodol mewn ystod o gyd-destunau a lleoliadau
  • (mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu medrau trawsieithu a chyfryngu
  • yn cynllunio’n ofalus fel bod datblygiadau mewn un medr, er enghraifft siarad, yn gallu cefnogi ac ychwanegu at y datblygiad mewn medr arall, fel ysgrifennu
  • yn cynllunio ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion yn gynyddol, yn cynnwys cyfleoedd i wrando ar ddisgyblion eraill yn darllen, a darllen iddyn nhw eu hunain (yn dawel ac ar goedd)
  • yn meithrin mwynhad disgyblion o ddarllen trwy ystod eang o gyfryngau, yn cynnwys darllen delweddau (heb destun, neu wedi eu cyfuno â thestun) mewn llyfrau lluniau, animeiddiadau a ffilmiau
  • yn dewis testunau llenyddol ac anllenyddol gyda themâu a geirfa heriol addas, i ennyn diddordeb disgyblion ac ymestyn eu llythrennedd
  • yn sicrhau bod disgyblion yn cael cyd-destunau ysgogol a dilys ar gyfer ysgrifennu, yn cynnwys profiadau dychmygol a phrofiadau go iawn
  • yn adeiladu ar wybodaeth bresennol disgyblion am strwythur, trefniadaeth a nodweddion iaith mathau o destun i sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd yn eu hysgrifennu
  • yn cynorthwyo disgyblion i ddeall ysgrifennu fel proses a darparu cyfleoedd gwerth chweil iddynt feddwl am syniadau, eu cynllunio a’u trefnu ac ailddrafftio a mireinio eu hysgrifennu
  • yn nodi’n fanwl gywir y gwendidau ym medrau llythrennedd disgyblion i bennu’r camau nesaf gorau er mwyn iddynt wybod ble i ganolbwyntio eu hymdrechion ar gyfer gwella
  • yn cynorthwyo disgyblion i gynllunio, monitro a gwerthuso eu datblygiad llythrennedd
  • yn cynnwys disgyblion mewn asesu eu dysgu eu hunain a dysgu eu cyfoedion mewn llythrennedd
  • yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan mewn ystod o ymweliadau sy’n ymestyn y cwricwlwm llythrennedd, er enghraifft teithiau i lyfrgelloedd a  theatrau
  • yn gwneud defnydd da o ymwelwyr ag ysgolion i ennyn diddordeb disgyblion mewn gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu, er enghraifft awduron plant, beirdd ac actorion
  • yn defnyddio gweithgareddau allgyrsiol i hyrwyddo a datblygu medrau llythrennedd disgyblion, er enghraifft cymdeithasau trafod a drama, ysgrifennu creadigol a chlybiau llyfrau
  • yn addasu gwaith pan fydd disgyblion yn meddu ar fedrau llythrennedd sydd gryn dipyn uwchlaw neu islaw’r lefel ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran
  • yn creu cysylltiadau rhwng gwahanol feysydd dysgu a phynciau i sicrhau bod y medrau a enillir gan ddisgyblion mewn llythrennedd a gwersi Cymraeg / Saesneg yn cael eu hatgyfnerthu, eu datblygu a’u hymestyn ar draws y cwricwlwm
  • yn defnyddio platfformau ac offer digidol yn effeithiol i gefnogi datblygiad medrau llythrennedd disgyblion
  • yn datblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddilyniant i sicrhau bod asesiadau o lythrennedd disgyblion yn ddilys, yn gywir ac yn ddibynadwy
  • yn olrhain ac yn monitro cynnydd disgyblion mewn datblygu eu medrau llythrennedd wrth iddynt symud trwy’r ysgol, yn cynnwys y disgyblion hynny ag anghenion ychwanegol, er enghraifft anghenion addysgol arbennig, disgyblion dan anfantais neu ddisgyblion y mae’r Gymraeg / Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt
  • yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o asesiadau i osod targedau clir ar gyfer safonau gwell yn llythrennedd disgyblion

MA4 Gofal, cymorth ac arweiniad

Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda:

  • y mae’r ysgol yn cynorthwyo disgyblion â medrau llythrennedd gwan neu anawsterau dysgu penodol
  • y mae’r ysgol yn gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â pha raglenni ymyrraeth i’w defnyddio
  • y mae’r ysgol yn defnyddio rhaglenni ymyrraeth i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd da o’u mannau cychwyn unigol
  • y mae staff yn olrhain cynnydd disgyblion sy’n cael cymorth ychwanegol ar gyfer llythrennedd mewn perthynas â’r targedau yn eu cynlluniau unigol 
  • y caiff gwybodaeth am fedrau a chynnydd disgyblion mewn llythrennedd ei rhannu rhwng staff
  • y mae staff yn addasu strategaethau addysgu a dysgu ar gyfer disgyblion sy’n derbyn ymyrraeth ac yn darparu gwaith sy’n gweddu’n dda i anghenion llythrennedd disgyblion
  • y defnyddir asesu i lywio penderfyniadau ynglŷn â ph’un a yw disgyblion yn parhau mewn rhaglenni cymorth neu nid oes angen gwaith ymyrraeth arnynt mwyach 
  • y mae’r ysgol yn datblygu gallu rhieni i gefnogi datblygiad llythrennedd eu plant, er enghraifft trwy ddarparu gwybodaeth am y cwricwlwm neu’r gweithdai ar gyfer rhieni sy’n eu helpu i gynorthwyo eu plant
  • y mae’r ysgol yn defnyddio partneriaethau ag ysgolion neu asiantaethau eraill i ddarparu cymorth llythrennedd effeithiol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu’r rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt

Gellid defnyddio Dogfen C fel sbardun wrth ystyried effaith rhaglenni ymyrraeth llythrennedd ar ddysgu a chynnydd disgyblion.

MA5 Arweinyddiaeth a rheolaeth

Gallai arolygwyr gynnal trafodaethau gydag arweinwyr a rheolwyr i ystyried pa mor dda y maent yn dechrau a chefnogi dulliau effeithiol o ddatblygu llythrennedd disgyblion, a sut maent yn defnyddio canfyddiadau hunanwerthuso, ynghyd â gwybodaeth arall, i nodi a mynd i’r afael â blaenoriaethau gwella.

Dylai arolygwyr ystyried:

  • p’un a yw’r pennaeth a’r uwch arweinwyr yn wybodus am gryfderau a materion wrth addysgu a dysgu llythrennedd
  • p’un a yw arweinwyr ysgolion yn darparu arweinyddiaeth gref, ac yn cyfleu i ddysgwyr, staff, llywodraethwyr, rhieni ac aelodau eraill o gymuned yr ysgol, ddisgwyliadau addas o uchel am gyflawniadau disgyblion mewn llythrennedd
  • p’un a oes gan yr ysgol strwythurau arwain priodol ar waith i gefnogi cydlynu a datblygu ei darpariaeth ar gyfer llythrennedd, ac a gaiff y strategaeth ei deall yn glir
  • pa mor dda y mae’r ysgol yn cyflymu cynnydd disgyblion o’u mannau cychwyn, sut mae’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn llythrennedd, o ganlyniad i anfantais, ac yn datblygu medrau disgyblion mwy abl
  • p’un a yw’r ysgol yn cynnwys rhieni a’r gymuned ehangach mewn datblygu llythrennedd disgyblion
  • pa mor dda y mae arweinwyr yn datblygu diwylliant cydweithredol lle mae staff yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio gwybodaeth gyfunol yr ysgol am lythrennedd, ac elwa arni
  • a yw arweinwyr yn defnyddio staff â gwybodaeth arbenigol i rannu eu harbenigedd yn eu hysgol eu hunain a gydag eraill
  • pa mor dda y mae arweinwyr yn gweithio gyda staff i ddefnyddio’r corff cynyddol o dystiolaeth ac ymchwil ar lythrennedd i lywio penderfyniadau a chynlluniau ysgol gyfan
  • p’un a yw adolygiadau a gwerthusiadau’r ysgol yn nodi’n fanwl gywir agweddau ar addysgu a darpariaeth y mae angen eu gwella, ac yn galluogi staff i rannu’r arfer fwyaf llwyddiannus ar draws yr ysgol
  • a yw arweinwyr yn targedu adnoddau a grantiau’r ysgol yn ofalus, ac yn gwerthuso effaith yr addysgu ar safonau llythrennedd a’u cynnydd ynddo yn drylwyr
  • p’un a yw arweinwyr yn canolbwyntio’n ddigon agos ar agweddau ar addysgu iaith sy’n benodol i bwnc yn eu gweithgareddau monitro, ac yn nodi anghenion dysgu proffesiynol staff yn fanwl gywir 
  • p’un a yw cyfleoedd dysgu proffesiynol yn llwyddiannus o ran cynorthwyo staff i ddatblygu eu gwybodaeth bwnc a’u medrau addysgu mewn llythrennedd, a sut mae hyn yn troi’n arfer ysgol gyfan effeithiol

Dogfen A: Cwestiynau enghreifftiol ar gyfer gwrando ar ddisgyblion yn y cyfnod sylfaen

Darllen

Disgyblion iau yn y cyfnod sylfaen

  • Am beth mae eich llyfr?
  • Beth sy’n digwydd yn y lluniau?
  • Beth ydych chi’n meddwl fydd yn digwydd nesaf?
  • Sut ydych chi’n meddwl fydd y stori’n gorffen?
  • Beth ydych chi’n ei wneud os nad ydych chi’n gwybod gair?
  • A ydych chi’n gwybod enw’r llythyren hon?
  • A ydych chi’n gwybod pa sŵn/synau mae’r llythyren hon yn ei wneud/eu gwneud?
  • A ydych chi’n mwynhau darllen?
  • Pwy sy’n eich helpu chi gyda’ch darllen?
  • A oes unrhyw un yn darllen i chi?

Disgyblion hŷn yn y cyfnod sylfaen

  • Ai chi ddewisodd y llyfr hwn?
  • A oeddech chi’n gwybod unrhyw beth am y llyfr cyn i chi ddechrau ei ddarllen?
  • A ydych chi’n mwynhau darllen?
  • A oes gan yr ysgol y mathau o lyfrau rydych chi’n hoffi eu darllen?
  • A ydych chi’n darllen llyfrau gwybodaeth?
  • Pa mor aml ydych chi’n darllen?
  • A ydych chi’n darllen gartref?
  • A yw oedolion yn darllen i chi yn yr ysgol?  A ydych chi’n mwynhau hynny?
  • Pa gyngor y mae eich athro yn ei roi i chi am eich darllen?

Testun ffuglen

  • Beth sydd wedi digwydd hyd yma yn eich llyfr? 
  • Beth ydych chi’n meddwl fydd yn digwydd nesaf?  Beth sy’n gwneud i chi feddwl hynny?
  • Dywedwch wrthyf i am eich hoff gymeriad.  Pam ydych chi’n hoffi’r cymeriad hwn?
  • Beth yw eich hoff ran o’r llyfr a pham?
  • Sut ydych chi’n meddwl mae’r awdur eisiau i ni deimlo ar hyn o bryd yn y llyfr?
  • Beth ydych chi’n gwneud os dewch chi ar draws gair nad ydych chi wedi ei weld o’r blaen?

Testun ffeithiol

  • Am beth mae’r llyfr?
  • A allwch chi esbonio i mi sut galla’ i ddod o hyd i wybodaeth am y llyfr hwn?
  • Pryd fydden i’n defnyddio’r llyfr hwn, efallai?
  • Beth ydych chi’n gwneud os dewch chi ar draws gair nad ydych chi wedi ei weld o’r blaen?
  • Pa ran o’r llyfr ydych chi’n ei gweld yn fwyaf diddorol, a pham?

Pan fydd disgyblion yn darllen ar goedd, gallech chi ofyn:

  • A ydych chi wedi dod ar draws y gair hwn o’r blaen?
  • A ydych chi’n gwybod beth mae’r gair yn ei olygu, neu a ydych chi’n gallu datrys beth mae’r gair yn ei olygu yn y frawddeg hon?
  • Pa air arall allai’r awdur fod wedi ei ddefnyddio sy’n golygu’r un math o beth?
  • Pam wnaethoch chi newid eich llais pan ddarllenoch chi’r rhan honno o’r frawddeg?

Ysgrifennu

Disgyblion iau yn y cyfnod sylfaen

  • A ydych chi’n hoffi ysgrifennu?
  • Am beth rydych chi’n hoffi ysgrifennu?
  • A ydych chi’n gallu ysgrifennu eich enw, a beth ydych chi’n hoffi ei wneud yn yr ysgol, os bydda’ i’n eich helpu chi?
  • Beth ydych chi’n ei wneud os na allwch chi sillafu gair?
  • A ydych chi’n ysgrifennu ar liniadur neu lechen?
  • A allwch chi ddangos ychydig o’ch ysgrifennu i mi?
  • A yw oedolion yn eich helpu chi â’ch ysgrifennu?  Sut maen nhw’n eich helpu chi?
  • Ble ydych chi’n gwneud eich ysgrifennu?

Disgyblion hŷn yn y cyfnod sylfaen

  • Pa fath o ysgrifennu ydych chi’n ei hoffi orau – ysgrifennu storïau, cerddi neu ysgrifennu gwybodaeth?
  • Beth sy’n hawdd am ysgrifennu, yn eich barn chi?
  • Beth sy’n anodd am ysgrifennu, yn eich barn chi?
  • A ydych chi’n cynllunio eich ysgrifennu?  A ydych chi’n cynllunio gyda ffrind neu mewn grŵp weithiau?
  • Beth ydych chi’n ei wneud os na allwch chi sillafu gair?
  • Dywedwch wrthyf sut gwnaethoch chi ysgrifennu’r stori hon/cyfarwyddiadau hyn, ac ati?
  • A allwch chi ddangos darn o’ch ysgrifennu i mi rydych chi’n meddwl ei fod yn dda?
  • Ydych chi’n mynd yn ôl at eich gwaith o gwbl i geisio gwneud eich ysgrifennu yn well?
  • Sut ydych chi’n gwybod pa atalnodi i’w ddefnyddio?
  • Sut ydych chi’n gwybod sut i osod eich ysgrifennu?  Pam ydych chi wedi ysgrifennu hyn mewn rhestr, ac ati?

Dogfen B: Cwestiynau enghreifftiol ar gyfer gwrando ar ddisgyblion yng nghyfnodau allweddol 2 a 3

Darllen

  • Ydych chi’n mwynhau darllen?
  • A oes gan eich ysgol y mathau o lyfrau rydych chi’n hoffi eu darllen?  Os na, pa fathau o destunau fyddech chi’n hoffi cael mwy ohonyn nhw?  A ydych chi’n ymweld â llyfrgell yr ysgol?
  • Sut ydych chi’n dod i wybod am awduron neu lyfrau newydd y gallech chi fod eisiau eu darllen?
  • Beth yw eich hoff lyfr rydych chi wedi ei ddarllen yn yr ysgol eleni?  A yw eich athrawon yn argymell llyfrau maen nhw’n meddwl y byddech chi’n eu mwynhau o bosibl?
  • Pa gyngor y mae eich athro yn ei roi i chi am eich darllen?
  • A yw oedolion yn darllen i chi yn yr ysgol?  A ydych chi’n mwynhau hynny?
  • A ydych chi’n mynd â llyfrau adref?  Beth ydych chi’n ei ddarllen gartref?  Pa mor aml ydych chi’n darllen gartref?
  • Ai chi ddewisodd y llyfr hwn?
  • A oeddech chi’n gwybod unrhyw beth am y llyfr cyn i chi ddechrau ei ddarllen?
  • A allwch chi esbonio sut mae testunau ffuglen a ffeithiol yn wahanol?

Testun ffuglen:

  • Beth sydd wedi digwydd hyd yma yn eich llyfr?  Dywedwch wrthyf am y cymeriad/plot, ac ati?

Pan fydd disgyblion yn darllen ar goedd, gallech chi ofyn:

  • Pa strategaethau ydych chi’n eu defnyddio os nad ydych yn gwybod gair neu os na fyddwch chi’n gwybod mwyach beth sy’n digwydd yn y stori wrth i chi ddarllen? 
  • A ydych chi wedi dod ar draws y gair hwn o’r blaen?  A ydych chi’n gwybod beth mae’r gair yn ei olygu, neu a allwch chi ddatrys beth mae’r gair yn ei olygu yn y frawddeg hon?
  • Pa air arall allai’r awdur fod wedi ei ddefnyddio sy’n golygu’r un math o beth?
  • Pam wnaethoch chi newid eich llais pan ddarllenoch chi’r rhan honno o’r llyfr?

Testun ffeithiol:

  • A allwch chi ddangos i mi sut i ddod o hyd i…yn y cyfeirlyfr hwn?
  • Dywedwch wrthyf sut rydych chi’n chwilio i ddod o hyd i wybodaeth.  Ar gyfer beth mae mynegeion, tudalennau cynnwys, geirfaoedd a hyperddolenni yn cael eu defnyddio?
  • Pam mae gan yr adran hon is-benawdau a chapsiynau?
  • Os bydda’ i’n gofyn i chi frasddarllen y dudalen hon, beth fydda’ i’n gofyn i chi wneud?  A allwch chi frasddarllen y dudalen hon a dweud wrthyf am beth mae’n sôn?  Sut mae brasddarllen yn wahanol i lithrddarllen? 
  • A ydych chi’n defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer ymchwilio?
  • Os ydych chi’n defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i wybodaeth i ysgrifennu amdani, sut ydych chi’n mynd ati i wneud hyn?  A ydych chi’n gwneud nodiadau?  A ydych chi’n gallu dangos unrhyw enghreifftiau o’ch nodiadau i mi?  A ydych chi’n credu popeth rydych chi’n ei ddarllen mewn llyfr gwybodaeth neu ar y rhyngrwyd, pan fyddwch chi’n ymchwilio i’ch testun?
  • A allwch chi feddwl am adeg pan roedd rhaid i chi grynhoi rhywbeth rydych chi wedi ei ddarllen?  Beth am gyfosod?

Pan fydd disgyblion yn darllen ar goedd, gallech chi ofyn:

  • Pa strategaethau ydych chi’n eu defnyddio os nad ydych chi’n gwybod gair neu os na fyddwch chi’n gwybod mwyach beth sy’n digwydd yn y stori wrth i chi ddarllen llyfr gwybodaeth? 
  • A ydych chi wedi dod ar draws y gair hwn o’r blaen?  A ydych chi’n gwybod beth mae’r gair yn ei olygu, neu a allwch chi ddatrys beth mae’r gair yn ei olygu yn y frawddeg hon?
  • Pa air arall allai’r awdur fod wedi ei ddefnyddio sy’n golygu’r un math o beth?
  • Sut mae darllen testun ffeithiol yn wahanol i ddarllen llyfr ffuglen?
  • A oes gennych chi hoff gymeriad/hoff ran o’r llyfr?  Pam ydych chi’n hoffi’r cymeriad hwn / rhan hon o’r llyfr?
  • Beth mae’r awdur yn ei olygu wrth yr ymadrodd…?
  • Pa eiriau ydych chi’n meddwl oedd y rhai mwyaf effeithiol i ddisgrifio x?  Pam ydych chi’n meddwl y dewisodd yr awdur y rhain?  Sut ydych chi’n meddwl y mae’r awdur eisiau i ni deimlo ar yr adeg hon yn y llyfr?
  • A ydych chi’n meddwl y gallai x ddigwydd go iawn?
  • Ym mha ffordd arall mae awduron yn gwneud i ni feddwl am gymeriadau mewn ffordd benodol?
  • Pa fedrau darllen allai fod angen i chi eu defnyddio i ddeall hwyliau neu ymddygiad cymeriad?
  • A allwch chi esbonio pa fath o berson yw x?
  • A ydych chi wedi darllen unrhyw lyfrau / cerddi / dramâu eraill gan yr awdur hwn?
  • A ydych chi wedi darllen llyfrau fel hyn wedi eu hysgrifennu gan rywun arall?
  • A ydych chi wedi darllen unrhyw farddoniaeth neu ddrama yn ddiweddar?  A allwch chi ddweud unrhyw beth i mi amdano?

Ysgrifennu

  • A ydych chi’n hoffi ysgrifennu?
  • Am beth rydych chi’n hoffi ysgrifennu?
  • Beth ydych chi’n ei wneud os na allwch chi sillafu gair?
  • Pa fath o ysgrifennu ydych chi’n ei hoffi orau?
  • Beth sy’n hawdd am ysgrifennu, yn eich barn chi?
  • Beth sy’n anodd am ysgrifennu, yn eich barn chi?
  • A ydych chi’n cynllunio eich ysgrifennu?  Pa dechnegau ydych chi’n eu defnyddio i gynllunio?  Am beth ydych chi’n meddwl?
  • Ydych chi’n ailddrafftio neu’n golygu eich ysgrifennu?  Pam ydych chi’n gwneud hyn?
  • Sut ydych chi’n gwybod pa atalnodi i’w ddefnyddio?
  • Dywedwch wrthyf sut aethoch chi ati i ysgrifennu’r stori hon/adroddiad/llythyr perswadiol hwn, ac ati.  A gawsoch chi unrhyw gymorth â hyn?
  • Pam mae angen i chi ddeall diben eich ysgrifennu?
  • Pam mae’n bwysig gwybod pwy fydd yn darllen eich gwaith ysgrifennu?
  • A allwch chi ddweud wrthyf sut byddech chi’n gosod adroddiad/esboniad/ stori, ac ati?
  • Beth sy’n helpu i chi fod yn llwyddiannus pan fyddwch chi’n ysgrifennu?
  • A ydych chi’n cael dewis am beth i ysgrifennu neu ba fath o destun rydych chi’n ei ysgrifennu?
  • A ydych chi’n defnyddio llechi neu liniaduron i ysgrifennu?

Dogfen C: Sbardunau i’w hystyried wrth werthuso effaith rhaglenni ymyrraeth llythrennedd

  • Sut mae’r ysgol yn nodi’r disgyblion sydd angen cymorth i wella eu medrau llythrennedd?
  • Sut mae’r ysgol yn dewis y rhaglenni ymyrraeth y mae’n eu defnyddio? 
  • A yw rhaglenni ymyrraeth yn cefnogi ystod lawn y medrau llythrennedd, yn cynnwys gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu?
  • Pa hyfforddiant y mae cynorthwywyr addysgu sy’n cyflwyno rhaglenni ymyrraeth yn ei gael?
  • Beth yw fformat y sesiynau, a pha mor aml y cynhelir y sesiynau?
  • Pa mor effeithiol yw strategaethau ymyrraeth o ran helpu disgyblion i wneud cynnydd o’u mannau cychwyn?
  • Sut caiff cynnydd disgyblion ar y rhaglenni ymyrraeth ei gyfleu i reolwyr ac aelodau staff eraill?
  • Sut mae’r ysgol yn sicrhau bod athrawon ystafell ddosbarth yn ymwybodol o’r strategaethau addysgu a dysgu a’r adnoddau a ddefnyddir yn y rhaglenni ymyrraeth?
  • Pa strategaethau y mae’r ysgol yn eu defnyddio i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio strategaethau ac adnoddau tebyg yn eu gwersi?
  • Sut mae’r ysgol yn gwerthuso effeithiolrwydd ei hymyriadau i gefnogi llythrennedd disgyblion?
  • A oes gan yr ysgol feini prawf ymadael priodol i bennu pryd mae disgyblion yn gadael rhaglenni ymyrraeth, a sut maent yn parhau i’w cynorthwyo a monitro eu cynnydd dros gyfnod?

Math o Arweiniad Arolygu: Arweiniad atodol


The purpose of Estyn is to inspect quality and standards in education and training in Wales. Estyn is responsible for inspecting:

  • nursery schools and settings that are maintained by, or receive funding from, local authorities
  • primary schools
  • secondary schools
  • special schools
  • pupil referral units
  • all-age schools
  • independent schools
  • further education
  • independent specialist colleges
  • adult learning in the community
  • local authority education services for children and young people
  • teacher education and training
  • Welsh for adults
  • work-based learning
  • learning in the justice sector

Estyn also:

  • reports to Senedd Cymru and provides advice on quality and standards in education and training in Wales to the Welsh Government and others
  • makes public good practice based on inspection evidence

Every possible care has been taken to ensure that the information in this document is accurate at the time of going to press. Any enquiries or comments regarding this document/publication should be addressed to:

Publication Section
Estyn
Anchor Court
Keen Road
Cardiff
CF24 5JW or by email to 

This and other Estyn publications are available on our website: www.estyn.gov.wales

This document has been translated by Trosol (English to Welsh).

© Crown Copyright 2021: This report may be re-used free of charge in any format or medium provided that it is re-used accurately and not used in a misleading context. The material must be acknowledged as Crown copyright and the title of the document/publication specified.

Ynglŷn â’r arweiniad hwn

Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Fodd bynnag, rydym hefyd yn creu arweiniad atodol i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach. 

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai eu bod yn datgan eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ehangu ar agweddau penodol ar addysg / hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ar ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwys).

Nid amcan y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn hollgynhwysfawr wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg sy’n codi yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.

Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i ddeall trefniadau arolygu Estyn. Hefyd, gallent fod yn fuddiol i ddarparwyr wrth werthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.

Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:

  • Bydd arolygwyr yn ymdrin ag arolygu gyda meddylfryd gadarnhaol i sicrhau bod y staff ym mhob darparwr yn cael y profiad dysgu proffesiynol gorau posibl
  • Bydd arolygwyr yn defnyddio dull arolygu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr
  • Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
  • Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol dra ystyriol
  • Bydd arolygwyr yn teilwra’r gweithgareddau arolygu yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr cyhyd ag y bo modd
  • Bydd arolygwyr yn hyblyg ac ymatebol i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, a byddant yn defnyddio’r ystod gynyddol o offer a dulliau arolygu sydd ar gael
  • Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr

Arolygu rhifedd

Mae rhifedd yn fedr hanfodol sy’n galluogi disgyblion i gymhwyso eu ffeithiau, medrau a rhesymu rhifiadol i ddatrys problemau. Er bod disgyblion fel arfer yn dysgu’r medrau hyn yn ystod sesiynau mathemateg, i fod yn gwbl rifiadol, rhaid iddynt allu cymhwyso’r medrau hyn mewn meysydd pwnc eraill ac ystod eang o gyd-destunau.

Y tasgau allweddol i arolygwyr eu barnu yw:

  • safonau medrau rhifedd disgyblion 
  • p’un a oes gan ddisgyblion y medrau rhifedd sydd eu hangen i elwa ar y cwricwlwm cyfan
  • pa mor dda y mae’r cwricwlwm cyfan yn datblygu medrau rhifedd disgyblion
  • ansawdd yr arweinyddiaeth wrth gydlynu rhifedd, a’r ffordd o’i reoli 

Dylai arolygwyr adrodd ar fedrau rhifedd disgyblion ym mhob arolygiad, ac adrodd ar unrhyw ddeilliannau neu ddangosyddion sy’n ymwneud â’r medrau hyn, lle bo’n briodol.

Bwriad yr arweiniad canlynol yw cefnogi arolygwyr i lunio barnau ac adrodd ar safonau mewn rhifedd, ac ar allu disgyblion i ddefnyddio’r medrau hyn mewn gwaith ar draws y cwricwlwm. Er bod yr arweiniad yn cynnwys gwybodaeth am ddarpariaeth yr ysgol ar gyfer rhifedd, dylai arolygwyr gofio y dylai’r prif ffocws fod ar yr effaith a gaiff ar safonau disgyblion

Casglu ac adolygu tystiolaeth arolygu

Bydd y tîm yn cynllunio’r arolygiad er mwyn iddynt allu cwmpasu’r gofynion adrodd o fewn y pum maes arolygu. Byddant yn sicrhau bod ganddynt ddigon o amser i adolygu’r dystiolaeth allweddol sydd ei hangen arnynt i lunio eu barnau. Bydd arolygwyr yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau i gasglu tystiolaeth ar gyfer eu gwerthusiad o gynnydd disgyblion ac ansawdd darpariaeth yr ysgol. Gallai hyn gynnwys:

  • samplau o waith disgyblion.

    Bydd y tîm yn defnyddio arsylwadau uniongyrchol o waith disgyblion ble bynnag y bo modd i gasglu tystiolaeth i gefnogi eu barnau.  Gallai arolygwyr ddewis sampl ychwanegol o waith disgyblion, os oes angen, i ymestyn eu hymchwiliad i agwedd benodol.

    Pwyntiau i’w hystyried:
    • A yw disgyblion yn defnyddio ystod o fedrau rhif a mesur priodol?
    • A yw disgyblion yn defnyddio ystod briodol o fedrau trin data (er enghraifft casglu gwybodaeth mewn ffyrdd amrywiol, cofnodi, dehongli a chyflwyno’r wybodaeth mewn siartiau neu ddiagramau, nodi patrymau mewn data a chyfleu casgliadau priodol, dewis graff priodol i arddangos y data, defnyddio graddfa briodol a chywir ar bob echel, ac adrodd ‘stori graff’)?
    • A yw disgyblion yn cymhwyso’r medrau hyn mewn gwahanol gyd-destunau yn effeithiol i ddatrys problemau go iawn (pwyntiau i’w hystyried yw perthnasedd, her, cynllunio, prosesu a rhesymu)?
    • A yw gweithgareddau dysgu yn bwrpasol ac a ydynt yn adeiladu’n llwyddiannus ar yr hyn mae disgyblion yn ei wybod?
    • A oes tystiolaeth glir o wahaniaethu priodol?
    • A yw adborth yn helpu disgyblion i wella eu gwaith?
    • arsylwi addysgu a gweithgareddau eraill, gan gynnwys tystiolaeth a gasglwyd trwy deithiau dysgu
    • trafodaethau â rhanddeiliaid
  1.  trafodaethau â disgyblion am eu gwaith.
    Mae hon yn ffynhonnell dystiolaeth allweddol ar gyfer arolygwyr. Bydd trafodaethau â disgyblion yn yr ystafell ddosbarth ac mewn grwpiau ffocws yn darparu cyfle i archwilio gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o’u gwaith. Bydd hefyd yn helpu arolygwyr i farnu pa mor dda y mae’r ysgol yn cefnogi disgyblion ac yn cyfrannu at eu cynnydd a’u lles. Gellid defnyddio’r cwestiynau yn Nogfen A fel sbardun wrth drafod rhifedd â disgyblion.
     
  2.  trafodaethau ag athrawon unigol am ddysgu disgyblion yn eu dosbarthiadau a sut maent yn cynllunio gwaith i ddiwallu eu hanghenion,
  3.  trafodaethau ag arweinwyr, rheolwyr, llywodraethwyr, rhieni a phobl eraill

    Bydd angen i’r tîm ystyried barn rhanddeiliaid ar yr ysgol, a phrofi dilysrwydd y farn hon yn ystod yr arolygiad. Bydd y rhain yn cynnwys atebion i’r arolwg gan ddisgyblion, rhieni / gofalwyr, llywodraethwyr, staff addysgu a staff cymorth a gwybodaeth gan yr awdurdod lleol / consortiwm rhanbarthol
  • tystiolaeth ddogfennol, gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad a chynnydd disgyblion.

    Dylai ysgolion drefnu bod gwybodaeth ar gael i’r tîm arolygu am y safonau a gyflawnir gan ddisgyblion, yn enwedig canlyniadau unrhyw brofion sgrinio cychwynnol ac asesiadau eraill. Bydd hyn yn helpu arolygwyr i farnu cynnydd disgyblion, llunio barn am y safonau mae disgyblion yn eu cyflawni o gymharu â’u mannau cychwyn, a’r ffordd y mae athrawon yn defnyddio’r wybodaeth o asesiadau i ddylanwadu ar eu cynllunio a’u gwersi

Yn ystod yr arolygiad

MA1 Dysgu

Bydd arolygwyr yn barnu medrau rhifedd disgyblion sy’n briodol i’w hoedran a’u gallu a’r dasg, fel mynd i’r afael â phroblemau mewn cyd-destunau anghyfarwydd ac adnabod pa fedrau a chysyniadau sy’n berthnasol i’r broblem. Dylent farnu p’un a yw disgyblion yn dibynnu’n ormodol ar gymorth sy’n eu hatal rhag datblygu eu medrau rhif annibynnol.


Dylai arolygwyr nodi sefyllfaoedd lle caiff disgyblion anhawster â’u medrau rhifedd, sy’n rhwystro eu dysgu ar draws y cwricwlwm. Bydd angen i arolygwyr nodi’r achosion posibl ar gyfer hyn. Er enghraifft, diffyg gwybodaeth am ffeithiau rhif, tablau lluosi, gwerth lle, medrau amcangyfrif a dulliau gwirio arferol.     

Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion:

  • yn defnyddio ystod o fedrau rhif priodol (er enghraifft 4 rheol rhif, gwerth lle, amcangyfrif, ffracsiynau syml a chanrannau a dulliau cyfrif yn y pen)?
  • yn defnyddio ystod o fedrau mesur priodol (er enghraifft gweithio gyda graddfeydd, unedau mesuriadau, amser a thymheredd)?
  • yn defnyddio ystod briodol o fedrau trin data (er enghraifft casglu gwybodaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd, cofnodi, dehongli a chyflwyno’r wybodaeth mewn siartiau neu ddiagramau, nodi patrymau mewn data a chyfleu casgliadau priodol, dewis graff priodol i arddangos y data, defnyddio graddfa briodol a chywir ar bob echel, a gallu adrodd ‘stori graff’)?
  • yn cymhwyso eu medrau’n gywir wrth weithio’n annibynnol a gyda disgyblion eraill
  • yn gwerthuso eu hatebion
  • yn defnyddio medrau a chysyniadau a ddysgwyd yn flaenorol, a’u cymhwyso i’w dysgu newydd
  • yn cymhwyso eu medrau rhifedd mewn gwahanol bynciau a chyd-destunau, a ph’un a yw’r medrau ar yr un lefel ar draws y cwricwlwm ag y maent mewn gwersi mathemateg


Mae ffynonellau tystiolaeth yn cynnwys:

  • samplau o waith rhifedd a mathemateg disgyblion
  • teithiau dysgu ac arsylwadau sesiynau i farnu pa mor dda y mae disgyblion yn cymhwyso eu medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm
  • trafodaethau â disgyblion am eu gwaith
  • dadansoddi sgorau rhifedd safonedig grwpiau penodol, a’u cynnydd dros gyfnod
  • cynnydd disgyblion ar raglenni ymyrraeth rhifedd

MA2 Lles ac agweddau at ddysgu

Wrth ystyried lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu, dylai arolygwyr ystyried:

  • agweddau disgyblion at eu gwaith rhifedd.  Er enghraifft, pa mor dda y maent yn ymgysylltu â gweithgareddau rhifiadol, p’un a ydynt yn gallu dal ati i ganolbwyntio wrth fynd i’r afael â phroblemau, a pha mor dda y maent yn dyfalbarhau â thasgau mwy heriol 

MA3 Addysgu a phrofiadau dysgu

Nid oes gan Estyn unrhyw fethodoleg y mae’n ei ffafrio i athrawon ei dilyn. Dylai athrawon strwythuro’r wers yn y ffordd y maent yn ei hystyried yn fwyaf priodol ar gyfer y dysgwyr yn y dosbarth, a’r amcanion dysgu maent yn dymuno i’r dysgwyr eu cyflawni. Dylai’r arolygydd farnu addysgu yng nghyd-destun y dysgu dros gyfnod, ac mewn perthynas â llwyddiant y dysgu a’r cynnydd a wnaed gan ddysgwyr, nid ar y dulliau a ddefnyddir na’r math neu’r arddull y cyflwyno gan yr athro.

Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae’r addysgu:

  • yn hyrwyddo disgwyliadau uchel o ddisgyblion, gyda dilyniant clir yn ystod gwersi, a rhyngddynt, yn cynnwys safonau uchel o gywirdeb a manwl gywirdeb a defnydd cywir o derminoleg fathemategol
  • yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso eu medrau rhif, mesur a thrin data mewn mathemateg, ac ar draws y cwricwlwm
  • yn gwneud defnydd effeithiol o asesu ffurfiannol i sicrhau bod disgyblion yn defnyddio medrau rhifedd ar lefel briodol a bod cyflymdra da, a lefel gynyddol o her mewn tasgau
  • yn creu cysylltiadau mynych ar draws y cwricwlwm, fel bod cysyniadau a medrau yn cael eu datblygu ymhellach trwy gael eu cymhwyso mewn cyd-destunau gwahanol a pherthnasol
  • yn defnyddio gwybodaeth fathemategol i wella medrau rhesymu a datrys problemau disgyblion
  • yn annog disgyblion i siarad am eu gwaith, a’i esbonio, chwilio am batrymau, dehongli a llunio casgliadau dilys o’u data
  • yn defnyddio cwestiynau treiddgar i wella dealltwriaeth disgyblion ac annog disgyblion i esbonio eu meddyliau a chreu cysylltiadau dysgu
  • yn rhagweld ac yn mynd i’r afael â chamsyniadau disgyblion mewn modd amserol ac effeithiol, gyda chamgymeriadau’n darparu pwyntiau cynhyrchiol i’w trafod
  • yn gwneud defnydd effeithiol o dechnegau i wirio cywirdeb
  • yn elwa ar ddefnyddio TGCh i gefnogi datblygiad medrau rhifiadol a datrys problemau disgyblion, lle bo’n berthnasol

Dylai arolygwyr ystyried:

  • pa mor dda y mae’r ysgol yn olrhain ac yn monitro cynnydd disgyblion o ran datblygu eu medrau rhifedd wrth iddynt symud trwy’r ysgol, gan gynnwys disgyblion yn cymryd rhan mewn rhaglenni ymyrraeth
  • pa mor dda y mae staff yn addasu rhaglenni astudio pan fydd disgyblion yn gweithio gryn dipyn islaw neu uwchlaw lefelau disgwyliedig lefelau medrau rhifedd
  • pa mor dda y mae’r ysgol yn defnyddio data asesu i nodi disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol
  • pa mor effeithiol yw’r rhaglenni ymyrraeth i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd da
  • pa mor dda y caiff gwybodaeth am fedrau a chynnydd disgyblion ei rhannu rhwng staff
  • pa mor dda y mae staff yn addasu strategaethau addysgu a dysgu ar gyfer disgyblion sy’n derbyn ymyrraeth, a beth yw ansawdd yr hyfforddiant y mae cynorthwywyr addysgu sy’n cyflwyno’r rhaglen ymyrraeth yn ei gael  
  • pa mor dda y defnyddir asesu i lywio penderfyniadau ynglŷn â ph’un a yw disgyblion yn aros ar raglenni cymorth, neu nid oes angen gwaith ymyrraeth arnynt mwyaf
  • sut mae’r ysgol yn sicrhau bod athrawon dosbarth yn ymwybodol o’r strategaethau addysgu a dysgu a’r adnoddau a ddefnyddir yn y rhaglenni ymyrraeth?  
  • pa strategaethau y mae’r ysgol yn eu defnyddio i sicrhau bod athrawon yn defnyddio strategaethau ac adnoddau tebyg yn eu gwersi yn hyderus?

Dylai arolygwyr ystyried:

  • a oes polisïau ysgol gyfan i wella addysgu a dysgu rhifedd, a bod y polisïau yn cael eu rhoi ar waith yn gyson
  • a gaiff y wybodaeth a geir o asesu ei defnyddio i osod targedau clir ar gyfer gwella mewn rhifedd ar gyfer unigolion, grwpiau o ddisgyblion a’r ysgol gyfan
  • a yw athrawon yn glir ynglŷn â’r amcanion dysgu a dilyniant mewn perthynas â datblygiad medrau rhifedd disgyblion, ac mewn sefyllfa dda i rannu’r wybodaeth hon â disgyblion a rhieni
  • a gaiff disgyblion eu cynnwys mewn asesu eu gwaith eu hunain mewn rhifedd, ac mewn nodi amcanion ar gyfer gwella
  • a oes darpariaeth gydlynus ar gyfer defnyddio a chymhwyso medrau disgyblion mewn rhifedd ar draws y cwricwlwm cyfan
  • a gaiff tasgau eu gweddu’n briodol i anghenion a galluoedd datblygol y disgyblion  
  • a yw’r ysgol yn darparu cydbwysedd da rhwng gweithgareddau strwythuredig ar gyfer addysgu datblygiad mathemategol a dulliau gweithredol yn uniongyrchol, er enghraifft yn y cyfnod sylfaen, yn cynnwys dysgu’n seiliedig ar chwarae  
  • a oes cyfleoedd yn y cyfnod sylfaen i ddisgyblion ddatblygu eu medrau rhif, mesur, gofodol a thrin data mewn meysydd darpariaeth barhaus ac estynedig dan do ac yn yr awyr agored, fel ei gilydd  

MA5 Arweinyddiaeth a rheolaeth

Gallai arolygwyr gynnal trafodaethau ag arweinwyr a rheolwyr i ystyried pa mor dda y maent yn dechrau ac yn cefnogi strategaethau a pholisïau medrau effeithiol ar draws ystod gwaith yr ysgol.  

Gallai arolygwyr ystyried:

  • p’un a yw arweinwyr yn wybodus ynghylch datblygiadau o ran addysgu a dysgu rhifedd, yn darparu arweinyddiaeth gref ac yn cyfleu disgwyliadau uchel am gyflawniadau disgyblion  
  • pa mor dda y mae arweinwyr yn canolbwyntio ar godi safonau ac a ydynt yn gwybod pa mor dda y mae disgyblion yn gwneud cynnydd, gan gynnwys y rhai sy’n cael cymorth neu estyniad   
  • pa mor dda y mae arweinwyr yn mynd ati i fonitro a gwerthuso ansawdd y ddarpariaeth rifedd ar draws yr ysgol trwy ystyried ei heffaith ar gynnydd disgyblion  
  • p’un a roddir lefel briodol o flaenoriaeth i ddatblygu medrau rhifedd yn y cynllunio strategol a gweithredol
  • pa mor dda y mae’r cydlynydd rhifedd yn helpu athrawon eraill â’u cynllunio, ac yn rhannu arfer dda
  • p’un a yw dysgu proffesiynol yn datblygu medrau staff yn llwyddiannus i wella darpariaeth ar gyfer rhifedd, yn cynnwys rhannu arfer dda
  • pa mor dda y mae cydlynwyr ar gyfer pynciau eraill yn effro i’r cyfleoedd sy’n bodoli o fewn y pynciau hynny ar gyfer gwella medrau disgyblion mewn rhifedd
  • pa mor dda y caiff rhieni eu hysbysu am bolisi’r ysgol ar gyfer gwella safonau mewn rhifedd, a’u hannog i gymryd rhan trwy drafodaethau yn yr ysgol, a defnydd rheolaidd o waith cartref.

Dogfen A: Cwestiynau ar gyfer gwrando ar ddisgyblion

Disgyblion iau yn y cyfnod sylfaen

  • Ydych chi’n gallu chwarae gêm â mi? Ble fydden i pe bawn i (pwyntiwch): o dan y cwpwrdd / ar ben y gadair / wrth ochr y bwrdd gwyn / y tu mewn i’r ffrâm ddringo? (iaith leoliadol)
  • Gwasgarwch wrthrychau allan ar fwrdd: Faint o ‘lyfrau’ sydd ar y bwrdd? Rhowch nhw mewn pentyrrau / grwpiau yn ofalus: faint ohonyn nhw sydd yno nawr? (A ydynt yn gallu cyfrif/dirnad rhif?)
  • Beth ydych chi’n gwneud os na allwch chi ddatrys rhywbeth? 

Disgyblion hŷn yn y cyfnod sylfaen

  • Pa fath o rifedd / mathemateg ydych chi’n ei hoffi orau – gweithio gyda rhifau, mesur, dod i wybod am siapiau neu weithio gyda data? 
  • Beth ydych chi’n ei weld yn hawdd ynglŷn â rhifedd / mathemateg? 
  • Beth ydych chi’n ei weld yn anodd ynglŷn â rhifedd / mathemateg?  
  • Ydych chi’n gwybod pa barau o rifau sy’n mynd gyda’i gilydd i wneud 10? Beth am 20 neu 100?
  • Dywedwch wrthyf i beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n haneru neu’n dyblu rhif?
  • Ydych chi weithiau’n cynllunio sut i ddatrys problem rif? Ydych chi weithiau’n cynlluniogyda ffrind neu mewn grŵp? 
  • Beth ydych chi’n gwneud os na allwch chi ddod o hyd i ateb mewn mathemateg? 
    Ydych chi’n gwneud gwaith rhifedd / mathemateg ar y cyfrifiadur weithiau? 
  • Dywedwch wrthyf i sut gwnaethoch chi ddatrys hyn.

Disgyblion yng nghyfnod allweddol 2

  • Pa fath o rifedd / mathemateg ydych chi’n ei hoffi orau – gweithio gyda rhifau, mesur, dod i wybod am siapiau neu drin data? 
  • Ydych chi’n defnyddio medrau rhifedd / mathemateg mewn meysydd eraill fel daearyddiaeth a gwyddoniaeth? Os ydych chi, allwch chi feddwl am enghraifft?
  • Beth ydych chi’n ei weld yn hawdd ynglŷn â mathemateg? 
  • Beth ydych chi’n ei weld yn anodd ynglŷn â mathemateg? 
  • Ydych chi’n defnyddio’r cyfrifiadur i greu graffiau, siartiau a diagramau?
  • Beth ydych chi’n gwneud os na allwch chi ddod o hyd i ateb?
  • Ydych chi’n gwybod beth sy’n digwydd i rif pan fyddwch chi’n ei luosi neu’n ei rannu â 10 neu 100?
  • Pa strategaethau ydych chi’n eu defnyddio i helpu i chi gyfrif eich tablau?
  • Sut ydych chi’n gwirio eich atebion?
  • Dywedwch wrthyf i sut gwnaethoch chi gyfrif hyn.
  • Ydych chi’n gallu dangos darn o waith i mi lle gwnaethoch chi ddefnyddio mathemateg y tu allan i wers fathemateg?  
  • Ydych chi’n gallu esbonio beth rydych chi wedi’i wneud?
  • Ydych chi’n gallu dangos gwaith i mi lle rydych chi wedi datrys problem a oedd yn cynnwys rhifau? A ydych chi’n gallu esbonio eich ffordd o feddwl?

Disgyblion yng nghyfnod allweddol 3

  • Ydych chi’n gwneud cynnydd o ran gwella eich medrau rhifiadol? Sut ydych chi’n gwybod? 
  • Beth yw eich agwedd tuag at rifedd? A yw hi’n bwysig cael medrau rhifedd da, yn eich barn chi? Pam?
  • Ydych chi’n gwybod beth mae’n rhaid i chi wneud i wella eich medrau rhifiadol ymhellach? Enghreifftiau
  • Pa mor aml ydych chi’n defnyddio eich gwaith rhif mewn pynciau eraill?  
  • Ydych chi’n gallu meddwl am enghreifftiau lle rydych chi wedi defnyddio mathemateg fel gwaith rhif, graffiau, siâp, ac ati, mewn pynciau heblaw mathemateg?  
  • Pa mor hawdd neu anodd mae’r gwaith hwn wedi bod, e.e. ydych chi’n gallu defnyddio cyfrifiannell pan na fyddwch chi’n siŵr?
  • Ydych chi’n meddwl bod pynciau heblaw mathemateg yn eich helpu i atgyfnerthu a datblygu eich medrau rhif?  
  • A yw athrawon yn gadael i chi archwilio ar eich pen eich hun neu gyda’ch cyfoedion sut gallech chi fod eisiau defnyddio dulliau gwahanol ar gyfer cyfrifo atebion i’ch problem? 
  • Os byddwch chi’n cyfrif yn anghywir, ydych chi’n cael cyfle i drafod hyn â’ch athro a / neu gyfoedion, a chywiro / gwella’ch gwaith? Ydych chi’n gallu dangos enghreifftiau i mi?

Math o Arweiniad Arolygu: Arweiniad atodol


Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru.  Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:

  • ysgolion a safleoedd meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
  • ysgolion cynradd
  • ysgolion uwchradd
  • ysgolion pob oed
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol
  • addysg bellach
  • colegau arbenigol annibynnol
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • addysg a hyfforddiant athrawon
  • Cymraeg i oedolion
  • dysgu yn y gwaith
  • dysgu yn y sector cyfiawnder

Rydym hefyd:         

  • yn adrodd i Senedd Cymru ac yn darparu cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
  • yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu

Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi.  Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:

Yr Adran Gyhoeddiadau

Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan:  www.estyn.llyw.cymru

Hawlfraint y Goron 2021:  Gellir ailddefnyddio’r adroddiad hwn yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei ailddefnyddio’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.  Rhaid cydnabod y deunydd fel hawlfraint y Goron a rhaid nodi teitl yr adroddiad/y cyhoeddiad penodol.

Ynglŷn â’r arweiniad hwn

Arweiniad atodol

Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Fodd bynnag, rydym yn llunio arweiniad atodol hefyd i helpu arolygwyr i ystyried ymhellach agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant. 

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector yr ydym yn ei arolygu, oni bai eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).       

Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.    

Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i ennill dealltwriaeth o’n trefniadau arolygu hefyd. Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran gwerthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.   

Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:

  • Bydd arolygwyr yn mynd ati i arolygu gyda meddylfryd cadarnhaol, i sicrhau mai’r profiad dysgu proffesiynol gorau posibl fydd hwn ar gyfer y staff ym mhob darparwr  
  • Bydd arolygwyr yn arolygu ar sail dull sy’n cael ei arwain gan y dysgwr
  • Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
  • Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol, graff  
  • Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, cyhyd â phosibl  
  • Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymateb i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac yn defnyddio’r ystod gynyddol o offer a dulliau arolygu sydd ar gael  
  • Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr  

Rydym wedi ymgynghori â Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru er mwyn datblygu’r arweiniad hwn.


Cyflwyniad

Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adrannau canlynol yn ychwanegu at y wybodaeth yn yr arweiniad atodol ar anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’r wybodaeth sy’n dilyn yn benodol i angen dysgu ychwanegol ac/neu anabledd. 

Bydd yr arolygydd cofnodol yn ymwybodol o’r proffil ADY mewn ysgol, a bydd yn trefnu darpariaeth addas yn ystod yr arolygiad er mwyn gwneud yr ymholiadau dilynol. Mae angen i holl aelodau’r tîm arolygu fod yn ymwybodol o’r ystyriaethau cyffredinol ar gyfer arfer ystafell ddosbarth effeithiol a dylent farnu effeithiolrwydd safonau disgyblion a’r addysgu mewn perthynas â chynlluniau addysg unigol (CAUau), cynlluniau datblygu unigol (CDUau) neu ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig disgyblion.

Hefyd, dylai arolygwyr ystyried cyngor i leoliadau addysgol o ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gyflwr y sbectrwm awtistiaeth yn ‘Cymorth i Blant a Phobl Ifanc sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig mewn Lleoliadau Addysgol’ (Llywodraeth Cymru, Hawlfraint y Goron, Ionawr 2019): https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-01/ffyrdd-o-gefnogi-dysgwyr-ag-anhwylder-ar-y-sbectrwm-awtistig-asd.pdf  

Rydym wedi defnyddio’r term ‘anghenion dysgu ychwanegol’ yn yr arweiniad hwn, ond rydym yn cydnabod y gellir defnyddio ‘anghenion addysgol arbennig’ yn y cyd-destun hwn hefyd yn ystod cyfnod gweithredu’r diwygiadau. 

Diffiniadau

  • Mae Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth (CSA) yn anhwylder datblygiadol treiddiol sy’n cael ei nodweddu gan ddiffygion mewn rhyngweithio a chyfathrebu cymdeithasol a chan ymddygiad cyfyngedig ac ailadroddus, gan gynnwys gwahaniaethau synhwyraidd, sy’n cyfyngu neu’n amharu ar weithrediad bob dydd.  (Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders 5th edition DSM-V, 2013)
  • Mae CSA yn ddiagnosis meddygol ac argymhellir asesiad yn y ddogfen gan NICE (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal) ‘Autism Spectrum Disorder in under 19s: recognition, referral and diagnosis’ (Medi 2011, diweddarwyd Rhagfyr 2017 rhan 1.1.3) i’w gynnal gan grŵp amlddisgyblaethol neu ‘dîm awtistiaeth’, gan gynnwys fel y grŵp craidd, pediatregydd neu seiciatrydd y glasoed, therapydd lleferydd ac iaith a seicolegydd clinigol neu addysg.
  • Mae termau eraill am Gyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth yn cynnwys ‘anhwylder y sbectrwm awtistiaeth’, ‘ASA’, ‘bod ar y sbectrwm’ neu ‘awtistiaeth’. Mae’n debygol y bydd arolygwyr yn gweld amrywiad yn y termau a ddefnyddir mewn gwahanol ddarparwyr.  Dylai arolygwyr ddefnyddio’r term CSA neu gyfeirio at ddisgyblion / dysgwyr / plant awtistig, pa bynnag un sydd fwyaf perthnasol.
  • Mae cyflwr y sbectrwm awtistiaeth yn anabledd cydnabyddedig fel y dosberthir yn y Swyddfa dros Faterion Pobl Anabl: Deddf Cydraddoldeb 2010 Llywodraeth EM.  Fodd bynnag, nid oes anableddau dysgu cysylltiedig gan ddysgwyr â CSA bob amser.
  • Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod gan 1 ym mhob 68 o ddysgwyr CSA, neu o bosibl 1 ym mhob dosbarth ysgol gynradd sydd â chofrestriad dosbarth deuol, neu tua 3 mewn grŵp blwyddyn ysgol uwchradd o 200 o ddysgwyr (Canolfan Wybodaeth y GIG, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, Brugha, T. et al (2012). Estimating the prevalence of autism spectrum conditions in adults: extending the 2007 Adult Psychiatric Morbidity Survey. Leeds: Canolfan Wybodaeth y GIG ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol). Mae gan ddysgwyr â CSA gyfradd uchel o anawsterau cydafiach; hynny yw, efallai bod ganddynt anghenion ychwanegol eraill hefyd, neu efallai eu bod wedi cael diagnosis fod ganddynt anawsterau cydsymud datblygiadol (DCD), hypersymudedd, dyslecsia neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ymhlith cyflyrau eraill.                     
  • Mae gan hyd at 29% o ddysgwyr â CSA anhwylder gorbryder cymdeithasol cydafiach, mae gan 28% ohonynt ADHD cydafiach, mae 84% yn bodloni’r meini prawf ar gyfer o leiaf un anhwylder gorbryder arall, ac mae gan 70% ohonynt anhwylder cydafiach (Rosenblatt, M 2008. I Exist: the message from adults with autism in England. London: The National Autistic Society, tud.3).
  • Mae’n bwysig cydnabod bod dysgwyr â CSA ar ‘sbectrwm’, ac o’r herwydd, mae ganddynt anawsterau amrywiol ac anghenion dysgu gwahanol iawn. Mae gan ryw hanner y dysgwyr â CSA anhawster dysgu cysylltiedig tra bod dysgwyr eraill yn rhagori’n academaidd ond yn gallu cael anawsterau dwysach o ran rhyngweithio a chyfathrebu cymdeithasol.
  • Anhwylder cyfathrebu yw CSA, felly, gallai dysgwyr ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu, gan gynnwys symbolau gweledol a ffotograffau, gwrthrychau cyfeirio go iawn, systemau cyfnewid lluniau, dyfeisiau a thechnolegau cynhyrchu lleferydd neu iaith arwyddion Makaton.
  • Bydd pum gwaith yn fwy o ddynion â menywod yn cael diagnosis â CSA; fodd bynnag, mae gwaith ymchwil presennol yn awgrymu bod nifer y merched sydd wedi cael diagnosis o CSA yn hanesyddol, wedi cael ei danamcangyfrif, o ganlyniad i amlygu angen gwahanol.

Meysydd arolygu

Maes arolygu 1: Dysgu

Ystyriaethau cyffredinol o ran deilliannau ar gyfer dysgwyr â CSA.

A yw disgyblion…?

  • Yn gallu dilyn cyfarwyddiadau staff â’r adnoddau priodol?
  • Yn datblygu eu medrau, gan gynnwys gallu gweithio’n fwy annibynnol, yn unol â’u hanghenion a’u galluoedd?
  • Yn datblygu o ran hyder ac yn dod yn ddyfeisgar o ran cefnogi eu dysgu eu hunain?
  • Yn gallu cymryd rhan mewn deialog ystyrlon gyda staff a disgyblion eraill, yn unol â’u hanghenion cyfathrebu?
  • Yn gallu adnabod a ydynt wedi cyflawni amcanion dysgu?
  • Yn datblygu’r gallu i gyfathrebu i ddiwallu eu hanghenion a mynegi barn rydd neu o blith ystod o ddewisiadau?
  • Yn datblygu medrau cymdeithasol o fannau cychwyn unigol?

Maes arolygu 2: Lles ac agweddau at ddysgu

Ystyriaethau cyffredinol o ran deilliannau effeithiol i ddisgyblion â CSA

A yw disgyblion…?

  • Yn cael cyfleoedd rhesymol i ymdawelu a hunanreoleiddio os byddant yn orbryderus?
  • Yn gallu rhyngweithio â strategaethau i aros yn ddiogel neu adfer cyflwr pwyllog?
  • Yn gallu cymryd rhan mewn ystod o gyfleoedd allgyrsiol a chyfleoedd llais y disgybl?
  • Wedi eu cymell ac yn ymgysylltu â thasgau o ganlyniad i feini prawf llwyddiant wedi’u cyfleu yn glir?
  • Yn gallu datblygu eu gallu dros gyfnod i ymgymryd yn well â thasgau?
  • Yn gallu rheoli trosglwyddiadau rhwng tasgau, gwersi ac amgylcheddau?
  • Yn gallu cynnal eu disgwyliadau uchel eu hunain neu bobl eraill o ymddygiad ac ymgysylltiad, yn unol â’u gallu?
  • Yn gallu defnyddio amrywiaeth o ddulliau cofnodi mewn tasgau er mwyn cyflawni deilliannau gwersi?
  • Yn gallu myfyrio ar eu cynnydd a’u datblygiad dros gyfnod?

Syniadau buddiol ar gyfer hyrwyddo lles disgyblion, a’u hagweddau at ddysgu

Gall defnyddio dull effeithiol o gyfathrebu’n rheolaidd â rhieni neu ofalwyr helpu cynnal lles disgyblion a’u parodrwydd i ddysgu yn llwyddiannus. Gall safleoedd a chymwysiadau rhyngweithiol ar-lein, sesiynau adborth wythnosol wyneb yn wyneb neu mewn ffurf ysgrifenedig mewn llyfr ‘cartref-ysgol’ gynorthwyo cyswllt agos yn y cynllunio ar gyfer dysgwyr â CSA.

Gall ymgysylltiad y dysgwyr eu hunain â dulliau cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn eu helpu i roi mewnbwn i’r hyn sy’n bwysig ac sy’n gweithio iddyn nhw, er enghraifft wrth greu proffil un dudalen neu fel rhan o’u CAU, CDU neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig.  

Gall fod yn fuddiol caniatáu ar gyfer seibiannau cymdeithasol ar adegau anstrwythuredig pan fydd dysgwyr â CSA yn gweld y gofynion cymdeithasol yn heriol. Gall defnyddio ‘cyfeillion’ i helpu dysgwyr â CSA lywio trwy ddisgwyliadau cymdeithasol adegau anstrwythuredig prysur fod yn fuddiol hefyd.

Pan fo modd, gall caniatáu elfen o ddewis yn eu dysgu i ddysgwyr â CSA gynorthwyo agweddau tuag at ddysgu. Mae gan lawer o ddysgwyr â CSA ddiddordebau arbennig, neu ystod o ddiddordebau penodol a all helpu cymell a bod yn llwybr at brofiadau dysgu cyfoethog sy’n ennyn diddordeb ac yn cynnal cymhelliant. 

Maes arolygu 3: Addysgu a phrofiadau dysgu

Ystyriaethau cyffredinol o ran arfer ystafell ddosbarth effeithiol ar gyfer disgyblion â CSA

A yw athrawon / staff cymorth…?

  • Yn defnyddio enw’r dysgwr i gael ei sylw cyn rhoi cyfarwyddiadau?
  • Yn defnyddio ystod o adnoddau addas i gynnal cymhelliant ac ymgysylltiad?
  • Yn defnyddio iaith syml a manwl gywir, gan osgoi idiomau, cyfarwyddiadau â sawl cam ac esboniadau haenog?
  • Yn galluogi dysgwyr i gymryd rhan mewn tasgau pâr a grŵp gyda chymorth priodol?
  • Yn rhannu tasgau yn ddarnau llai, wedi’u cyflwyno’n weledol, lle bo’n briodol?
  • Yn caniatáu amser prosesu er mwyn i ddysgwyr allu prosesu ac ymateb?
  • Yn hyrwyddo annibyniaeth gyda strwythur a systemau gwaith targedig?
  • Yn cynnal ymgysylltiad a chymhelliant trwy system wobrwyo?
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o anghenion y disgyblion? A ydynt yn gallu cynorthwyo â datblygu medrau a dealltwriaeth newydd? A ydynt yn datblygu medrau annibyniaeth disgyblion yn briodol? A yw staff cymorth yn meddu ar wybodaeth ddigonol am y pwnc sy’n cael ei addysgu, ac anghenion y disgyblion?
  • Yn ystyried ac yn cynllunio ar gyfer effaith a symbyliad yr amgylchedd ar ddysgwyr?
  • Yn gwneud disgwyliadau a rheolau’n eglur, gan gynnwys y cymhellion i gydymffurfio?
  • Yn gwneud defnydd effeithiol o feysydd diddordeb arbennig i wella ymgysylltiad a chynnydd? Gallai maes diddordeb arbennig i rywun â CSA fod yn rhywbeth fel deinosoriaid, ‘Y Titanic’, y gofod a’r bydysawd neu dechnolegau fel cyfrifiaduron llechen neu lwyfannau fideo ar-lein.
  • Yn gosod disgwyliadau uchel o ran ymgysylltiad a chynnydd trwy dasgau a osodir ar lefel her briodol?
  • Yn deall ac yn cynllunio ar gyfer gwahaniaethau synhwyraidd disgyblion â CSA?
  • Sut mae’r ysgol yn sicrhau bod dysgwyr â CSA yn cael eu cynnwys yn ystyrlon yn y cwricwlwm prif ffrwd, mewn gweithgareddau dosbarth cyfan, grŵp a phâr?

Syniadau buddiol ar gyfer addasu adnoddau ac addysgu  

Yn aml iawn, mae disgyblion â CSA yn meddu ar gryfder mewn dysgu gweledol. Gall adnoddau gweledol fel amserlenni, systemau gwaith, rheolau a chyfarwyddiadau eglur, helpu darparu sefydlogrwydd, hyrwyddo annibyniaeth a lleihau’r gorbryder sy’n gysylltiedig â thasgau gwaith, newid a throsglwyddiadau.

Mae meddylfryd cyfyngedig, ailadroddus a llym yn rhan o’r meini prawf diagnostig ar gyfer CSA. O’r herwydd, mae ffyrdd cymhelliant estynedig fel cymhellion gweledol, pethau sy’n tynnu sylw a gwobrau yn aml yn effeithiol. Mae ‘amser dewis’ neu ‘amser aur’ yn rhoi nod penodol i’w gyflawni i ddysgwyr.

Weithiau, bydd egwyl symud yn helpu disgyblion â CSA i leihau’r gorbryder sy’n gysylltiedig ag ystafell ddosbarth brysur, canolbwyntio o’r newydd ac ymdawelu. Gall cyfnod byr o ymgysylltu mewn amgylchedd gwahanol neu ar dasg wahanol helpu cyflawni cyflwr lle maent yn barod i ddysgu.

Weithiau, bydd disgyblion â CSA yn ymateb yn ffafriol i allu defnyddio ‘tegan cyffwrdd’ neu rywbeth i’w ddal i gynorthwyo canolbwyntio ac ymgysylltu. Gall plastisin neu wrthrych bach cyffyrddol helpu disgyblion i ganolbwyntio a hunanreoleiddio, yn enwedig pan fydd gofyn iddynt eistedd neu wrando ar gyfarwyddyd oedolyn.

Mae rhannu tasg neu gynllunio adnoddau yn helpu dysgwyr â CSA i gwblhau tasgau sy’n gofyn am weithredu mewn sawl cam. Mae fformat sy’n debyg i rysáit coginio, ‘Mae angen i mi gael…’, ‘yn gyntaf…’, ‘wedyn…’, ‘nawr…’, ‘yna…’, ‘yn olaf…’ a ‘nawr, galla’ i…’ er enghraifft, yn gallu helpu disgyblion i ddatblygu annibyniaeth mewn tasgau a pheidio â dibynnu ar anogaeth gan oedolyn.

Yn aml, mae dysgwyr â CSA yn ei chael yn anodd deall a chyffredinoli rheolau cymdeithasol. Mae nifer fach o reolau eglur o ran ymddygiad neu baramedrau eraill, yn diffinio ffiniau cymdeithasol, sydd weithiau’n annelwig.

Mae lleoli dysgwyr â CSA y terfir arnynt yn hawdd yn nhu blaen yr ystafell, neu’n agos at y tu blaen, a rhoi cyfarwyddiadau neu geisiadau iddynt gan ddefnyddio eu henw, yn sicrhau bod dysgwyr yn deall y wybodaeth.

Yn aml, mae gan ddysgwyr â CSA lefelau gorbryder uwch. Gall olrhain heriau y maent yn eu hwynebu gan ddefnyddio model ymddygiad/canlyniad blaenorol helpu staff i nodi adegau problemus y dydd, yr amgylchedd, tasgau, dillad, tywydd neu unrhyw ffactorau eraill a allai gyfrannu at heriau na all dysgwyr eu hunain eu disgrifio.

Maes arolygu 4: Gofal, cymorth ac arweiniad

  • A yw unrhyw gymorth ychwanegol yn targedu datblygiad medrau bywyd ac yn meithrin annibyniaeth?
  • A yw’r ysgol wedi rhoi ystyriaeth ddigon da i anghenion disgyblion o ran addasu’r amgylchedd ffisegol?
  • Sut mae’r ysgol yn sicrhau bod dysgwyr â CSA yn cael cyfle i gymryd rhan yn llawn yn yr agweddau cymdeithasol ehangach ar fywyd ysgol?
  • A yw’r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol o dargedau ar CAUau, CYUau, CDUau neu ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig i wneud y mwyaf o gymorth a chynnydd?
  • A yw data cyrhaeddiad ar gyfer dysgwyr â CSA yn dangos bod cynnydd yn cael ei wneud? Pa mor dda y mae dysgwyr â CSA yn gwneud cynnydd mewn perthynas â’u mannau cychwyn dros gyfnod?
  • A yw targedau mewn CAUau, CYUau a CDUau yn berthnasol a phriodol i ddysgwyr â CSA?
  • A gynhelir cyfarfodydd adolygu blynyddol ar gyfer disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig, yn unol â chanllawiau cenedlaethol? A gaiff dysgwyr a rhieni eu hannog i ddefnyddio dulliau cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gymryd rhan yn llawn yn yr adolygiadau hyn?
  • A yw’r ysgol yn darparu lefel briodol o her o ran y cwricwlwm a her gymdeithasol i ddysgwyr â CSA?
  • A gaiff mesurau priodol eu nodi mewn asesiadau risg i sicrhau nad yw disgyblion â CSA dan anfantais? Er enghraifft, eu cynnwys mewn ymweliadau oddi ar y safle neu weithdrefnau trin yn gadarnhaol?
  • A roddir ffocws priodol i ddatblygiad personol a chymdeithasol ac annibyniaeth i wneud y mwyaf o fedrau dysgwyr â CSA?

Gall amgylchedd â symbyliadau isel fod yn fuddiol i ddysgwyr â CSA. Gall cael ardal mewn ystafell ddosbarth neu ardal waith sy’n llai prysur gyda llai o wybodaeth weledol ddieithr helpu dysgwyr â CSA i ganolbwyntio ar y dasg dan sylw. Mewn ystafelloedd lle mae llai o ofod rhydd, gall bwrdd mewn ardal dawelach o’r dosbarth, sy’n ddelfrydol yn edrych i ffwrdd oddi wrth y man gweithgarwch, er enghraifft, ar wal wag, fod yn fuddiol.

Yn aml, bydd gorbryder yn digwydd yn sgil llawer o ryngweithio cymdeithasol, cyfathrebu, ceisiadau i fod yn hyblyg a disgwyliadau i weithio yn ôl agenda rhywun arall. Gall dysgwyr â CSA newid o ymddangos yn bwyllog i fod yn ofidus iawn, yn gyflym iawn. Mae hyn yn debygol o ddigwydd o ganlyniad i orbryder gwaelodol wrth ymdopi â gofynion amgylchedd sy’n achosi straen. Gall gofod, ystafell neu ardal dawel y mae dysgwyr â CSA yn gwybod ei fod/bod yn ddiogel, fod yn llwyddiannus iawn wrth alluogi dysgwyr â CSA i ymdawelu a dychwelyd at ddysgu.        

Gall aelod allweddol o staff sy’n adnabod yr unigolyn fod yn effeithiol wrth helpu’r dysgwr â CSA i deimlo’n ddiogel.

Pan fydd dysgwyr â CSA yn profi lefelau uwch o orbryder, gall eu rhoi i eistedd yn agos at gefn ystafell neu’r drws fod yn effeithiol. Gall system ‘ymneilltuo’, er enghraifft ar ffurf cerdyn, leihau gorbryder ymhellach.

Mae’r gallu i gyrraedd gwersi’n hwyr, neu adael gwersi’n gynnar i osgoi adegau prysur mewn coridorau ac ystafelloedd cotiau, yn gallu cynorthwyo dysgwyr â CSA i aros yn bwyllog.

Gall cyfleoedd i fewngofnodi ac allgofnodi ar ddechrau neu ddiwedd y dydd gydag aelod allweddol o staff helpu dysgwyr â CSA i ymgyfarwyddo â’r amgylchedd newydd, datrys problemau ynghylch unrhyw bryderon sydd gan y disgyblion, neu ddatrys problemau a allai fod wedi digwydd trwy gydol y dydd. Mae rhai dysgwyr â CSA yn cael anhawster â chysylltiad corfforol, neu chwaraeon sy’n cynnwys gwlychu neu fynd yn fwdlyd. Gall addasiadau rhesymol fel ymgymryd â gweithgarwch corfforol yn y gampfa neu ar beiriannau ymarfer corff alluogi disgyblion i gyflawni nodau trwy ddulliau amgen.

Maes arolygu 5: Arweinyddiaeth a rheolaeth

A yw arweinwyr yn yr ysgol…?

  • Yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr â CSA?
  • Yn sicrhau bod pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant sylfaenol mewn CSA?
  • Yn sicrhau pan fydd dysgwyr yn cael diagnosis fod ganddynt CSA, y gofynnir am gyngor priodol gan asiantaethau allanol, lle bo’n berthnasol, fel timau athrawon arbenigol neu seicolegydd addysg, yn unol â’u gweithdrefnau cyfeirio, a bod unrhyw gyngor yn cael ei weithredu.
  • Yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o CSA yn yr ysgol, a gyda rhieni?

Math o Arweiniad Arolygu: Arweiniad atodol


Beth yw’r diben?
Mae hwn yn rhoi arweiniad pellach i arolygwyr ei ddefnyddio er gwybodaeth yn ystod arolygiad ochr yn ochr ag arweiniad y sector ar gyfer arolygu, i gefnogi trywyddau ymholi penodol.

Ar gyfer pwy y mae wedi’i fwriadu?
Ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol, colegau arbenigol ac unedau cyfeirio disgyblion.

Pryd y dylid dechrau defnyddio’r arweiniad?
Medi 2021

Math o Arweiniad Arolygu: Arweiniad atodol


Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:

  • ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
  • ysgolion cynradd
  • ysgolion uwchradd
  • ysgolion pob oed
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol
  • addysg bellach
  • colegau arbenigol annibynnol
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • addysg a hyfforddiant athrawon
  • Cymraeg i oedolion
  • dysgu yn y gwaith
  • dysgu yn y sector cyfiawnder

Rydym hefyd:

  • yn adrodd i Senedd Cymru ac yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
  • yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu.

Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi.  Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:

Yr Adran Gyhoeddiadau
Estyn
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW   neu drwy anfon e-bost at 

Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan:  www.estyn.llyw.cymru

Cyfieithwyd y ddogfen hon gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).

Ynglŷn â’r arweiniad hwn

Trosolwg

Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Fodd bynnag, rydym yn llunio arweiniad atodol hefyd i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach. 

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai bod y dogfennau’n datgan eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).

Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.

Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i gael dealltwriaeth o drefniadau arolygu Estyn hefyd. Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran gwerthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.

Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:

  • Bydd arolygwyr yn mynd ati i arolygu’n gadarnhaol, i sicrhau mai’r profiad dysgu proffesiynol gorau posibl fydd hwn ar gyfer y staff ym mhob darparwr
  • Bydd arolygwyr yn arolygu ar sail dull sy’n cael ei arwain gan y dysgwr
  • Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
  • Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol, graff
  • Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, i’r graddau ag y bo hynny’n bosibl
  • Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymateb i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac yn defnyddio ystod gynyddol yr adnoddau a dulliau arolygu sydd ar gael
  • Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr

Gwerthuso agweddau disgyblion at asesu ffurfiannol yn yr ystafell ddosbarth

Maes Arolygu 2: Lles ac agweddau at ddysgu.

  • pa mor dda y mae disgyblion yn deall adborth gan oedolion a’u cyfoedion, ac yn ymateb iddo
  • pa mor effeithiol y mae disgyblion yn defnyddio adborth i symud eu dysgu ymlaen

Bydd arolygwyr yn cynnal ystod o weithgareddau i gasglu tystiolaeth ar gyfer y meysydd hyn.

Gallai’r rhain gynnwys:

  • teithiau dysgu
  • sgyrsiau â disgyblion am eu gwaith
  • arsylwadau dysgu
  • craffu ar lyfrau a dysgu arall
  • Dylai’r pwyslais fod ar werthuso pa mor dda y mae disgyblion yn deall eu rôl nhw yn y prosesau adborth, a beth mae angen iddynt ei wneud i elwa ar adborth a symud eu dysgu ymlaen.

Yn yr un modd ag y dylai arolygwyr ystyried agweddau disgyblion tuag at adborth gan athrawon ac oedolion eraill, dylent hefyd werthuso pa mor dda y mae disgyblion yn defnyddio ac yn ymateb i adborth o weithgareddau asesu gan gyfoedion a hunanasesu i wella eu dysgu.

Mae trafodaethau â disgyblion yn ffynhonnell dystiolaeth allweddol ar gyfer y meysydd hyn. Bydd hyn yn darparu cyfle i archwilio dealltwriaeth disgyblion o’u rôl yn y broses adborth. Wrth lunio barn ar hyn, mae’n bwysig i arolygwyr gadw mewn cof oedran a gallu’r disgyblion dan sylw.

Dylai arolygwyr ystyried:

  • beth yw agwedd disgyblion at yr adborth a gânt? 
  • a yw disgyblion yn gwahodd adborth, ac a ydynt yn cael eu cymell ganddo? 
  • a yw disgyblion yn meddwl am adborth fel rhan gefnogol a buddiol o’r broses ddysgu?
  • a yw disgyblion yn gallu esbonio beth maent yn ei wneud â’r adborth a gânt, a sut byddant yn gweithredu yn unol â’r adborth i wella eu gwaith? 
  • pa mor dda y mae disgyblion yn gwneud gwelliannau neu’n cymhwyso strategaethau newydd o ganlyniad i’r adborth a gânt? 
  • a oes diwylliant lle caiff camgymeriadau eu gwerthfawrogi fel cyfleoedd dysgu, a bod cyfaddef i beidio â deall rhywbeth yn dderbyniol?

Bydd tystiolaeth a gesglir o’r gwaith hwn hefyd yn helpu arolygwyr pan fyddant yn ystyried arferion asesu yn yr ystafell ddosbarth ym maes arolygu 3 (3.2 Addysgu ac asesu). Bydd yn helpu arolygwyr i gael amcan o ba mor dda y mae’r ysgol yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o’u rôl yn y broses adborth wrth iddynt symud yn eu blaenau trwy’r ysgol. Nodir y rôl bwysig hon hefyd yn y canllawiau sy’n cyd-fynd â    ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu’[1] y Cwricwlwm i Gymru. Mae’n nodi mai rôl bwysig i ymarferwyr yw ‘datblygu sgiliau dysgwyr o ran gwneud defnydd effeithiol o adborth i symud eu dysgu yn ei flaen’.

[1] ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu

Maes Arolygu 3: 3.2 Addysgu ac asesu

Wrth werthuso ansawdd yr adborth gan athrawon ac ymarferwyr eraill, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae adborth llafar ac ysgrifenedig yn helpu disgyblion i wybod pa mor dda y maent yn gwneud a beth mae angen iddynt ei wneud i wella. Dylent werthuso effeithiolrwydd yr adborth a gaiff disgyblion am waith y maent wedi’i gwblhau ar-lein neu’n ddigidol.

Bydd arolygwyr yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau i gasglu tystiolaeth ar gyfer y meysydd hyn. Gallai’r rhain gynnwys:

  • trafodaethau ag athrawon ac oedolion eraill
  • craffu ar ddogfennau ysgol
  • teithiau dysgu
  • sgyrsiau â disgyblion am eu gwaith
  • arsylwadau o ddysgu
  • craffu ar lyfrau a dysgu arall, yn cynnwys dysgu ar-lein a digidol

Wrth werthuso ansawdd yr adborth, dylai arolygwyr gofio bod yna ystod o ffactorau a all bennu ei effaith ar gynnydd disgyblion. O’r herwydd, dylai arolygwyr ystyried:    

  • a yw adborth yn addas ar gyfer oedran a gallu’r disgybl?
  • a yw adborth yn glir, yn bersonol ac yn benodol?  
  • a yw’n canolbwyntio ar yr elfennau sy’n bwysig ac yn berthnasol?
  • a yw’n glir ynglŷn â’r camau nesaf? 
  • a yw’n darparu arweiniad buddiol ar sut i wella? (h.y. nid dim ond yn dweud wrth ddisgyblion pan fyddant yn anghywir)
  • a yw adborth wedi’i gysylltu’n fuddiol â bwriadau dysgu a/neu ddeilliannau arfaethedig?
  • a yw adborth yn amserol, fel ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer dysgu yn y dyfodol?
  • a gaiff disgyblion gyfle digonol i drafod a/neu weithredu i ymateb i adborth?  (D.S. mae’n annhebygol y bydd disgyblion yn elwa ar adborth oni bai eu bod yn cael amser priodol i ystyried ac ymateb) 
  • a oes tystiolaeth fod disgyblion yn cael cyfleoedd i fynd i’r afael â gwelliannau posibl yn ddiweddarach?

D.S. Nid oes angen i’r holl adborth gydymffurfio â phob un o’r meini prawf uchod i fod yn fuddiol.

Hefyd, bydd yn bwysig i arolygwyr ystyried:

  • pa mor dda y mae athrawon ac oedolion eraill yn addysgu disgyblion am sut i ddefnyddio adborth, er enghraifft trwy hyfforddi a modelu? 
  • pa mor dda y mae athrawon yn helpu disgyblion i ddatblygu’r medrau hyn wrth iddynt symud trwy’r ysgol? 
  • a yw disgyblion yn cael adborth o ansawdd da ym mhob pwnc / disgyblaeth a maes dysgu? 

Dylai arolygwyr ystyried:

  • y graddau y mae athrawon yn datblygu meddwl a dealltwriaeth disgyblion trwy gwestiynu a monitro dysgu disgyblion yn fedrus
  • pa mor effeithiol y mae athrawon ac ymarferwyr eraill yn ymateb i ddysgu disgyblion yn ystod gwersi a gweithgareddau, ac yn addasu eu dull yn unol â hynny


Wrth werthuso’r pwyntiau uchod, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda:

  • y mae cwestiynau yn denu disgyblion tuag at ddealltwriaeth allweddol ac/neu yn cynyddu lefel yr her wrth i wersi fynd rhagddynt?
  • y mae holi yn cynnwys yr holl ddisgyblion?
  • y mae cwestiynau yn hyrwyddo meddwl, cyfiawnhau a rhesymu?
  • y mae holi yn atgyfnerthu ac yn ailedrych ar fwriadau dysgu?
  • y mae holi yn annog disgyblion i fyfyrio a damcaniaethu?
  • y mae’r athro yn creu awyrgylch o ymddiriedaeth lle caiff atebion, barnau a syniadau disgyblion eu gwerthfawrogi?
  • y mae amgylchedd yr ystafell ddosbarth yn annog disgyblion i wrando ar ei gilydd, ac ymateb i’w gilydd, yn ogystal â’r athro?
  • y mae athrawon yn annog disgyblion i ofyn cwestiynau, yn ogystal ag ymateb iddynt?
  • y mae athrawon yn monitro dealltwriaeth disgyblion yn barhaus i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gywir o’u cynnydd yn ystod gwersi?
  • y mae athrawon yn addasu dysgu i ymateb i gamsyniadau y maent yn eu nodi trwy holi a chraffu ar ddysgu wrth i’r wers, neu gyfres o wersi, fynd rhagddi neu rhagddynt? 

Dylai arolygwyr ystyried:

pa mor llwyddiannus y mae athrawon yn darparu cyfleoedd perthnasol a phwrpasol i ddisgyblion asesu eu dysgu eu hunain, a dysgu eu cyfoedion
Wrth ystyried pa mor llwyddiannus y mae athrawon yn darparu cyfleoedd perthnasol a phwrpasol i ddisgyblion fyfyrio ar eu dysgu eu hunain a dysgu eu cyfoedion, dylai arolygwyr ystyried y cyfleoedd a gaiff disgyblion, ac effaith hyn ar eu dysgu.

Dylai arolygwyr ystyried:

  • p’un a yw’r diben ar gyfer defnyddio asesu gan gyfoedion a hunanasesu yn glir ar gyfer disgyblion a staff 
  • p’un a oes gan yr ysgol arferion a ddeellir yn dda ar gyfer datblygu medrau disgyblion mewn gwerthuso eu dysgu eu hunain, a dysgu disgyblion eraill 
  • pa mor dda y mae athrawon ac oedolion eraill yn addysgu disgyblion ynglŷn â sut i asesu eu dysgu eu hunain a dysgu ei gilydd, er enghraifft trwy hyfforddi a modelu 
  • pa mor dda y mae athrawon yn monitro adborth i sicrhau bod disgyblion yn elwa ar gyngor defnyddiol, ac yn gallu gwneud cynnydd o ganlyniad  
  • pa mor dda y mae athrawon yn helpu disgyblion i wneud dewisiadau am sut maent yn symud eu dysgu eu hunain ymlaen

Wrth werthuso arferion, dylai arolygwyr ystyried p’un a yw’r meini prawf ar gyfer gwerthuso dysgu yn glir i alluogi disgyblion i gael dealltwriaeth dda o nodau eu gwaith, ac o beth mae’n ei olygu i’w gwblhau yn llwyddiannus. Gallai athrawon ddatblygu a rhannu’r meini prawf hyn, neu wrth i ddisgyblion ddatblygu, dylent gymryd rhan yn gynyddol mewn datblygu’r meini prawf eu hunain.

Dylai arolygwyr ystyried:

  • pa mor dda y mae arferion asesu gan gyfoedion a / neu hunanasesu’r ysgol yn annog disgyblion i fyfyrio’n feirniadol ar eu dysgu a’u cynnydd eu hunain neu ddisgyblion eraill  
  • pa mor effeithiol y mae disgyblion yn nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu yn eu dysgu eu hunain ac yn nysgu disgyblion eraill
  • pa mor dda y mae asesu gan gyfoedion yn helpu disgyblion i ddysgu oddi wrth ei gilydd
  • pa mor dda y mae dealltwriaeth ac annibyniaeth disgyblion wrth asesu eu dysgu eu hunain, a dysgu eu cyfoedion, yn datblygu wrth iddynt wneud cynnydd