Recriwtio Arolygydd Cymheiriaid – Cynradd


A allech chi fod yn Arolygydd Cymheiriaid cynradd?

Rydym yn chwilio am uwch arweinwyr mewn ysgolion cynradd i fod yn Arolygwyr Cymheiriaid.

Fel Arolygydd Cymheiriaid, byddwch yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at arolygiadau Estyn. Byddwch yn cael cyfle gwych i weld arfer effeithiol lle mae’n digwydd bob dydd, a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch lleoliad i gefnogi gwelliant.

Pan fyddwch chi’n gymwys, byddwch yn defnyddio’ch gwybodaeth a’ch medrau i arsylwi sesiynau, siarad â dysgwyr, ac edrych ar samplau o’u gwaith.

I gael mwy o wybodaeth am y rôl, lawrlwythwch y pecyn cais.

Dyddiad cau: 5pm, 12 Tachwedd 2024

Byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 6 Rhagfyr 2024.

Rydym yn arbennig yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol a’r rhai sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.