Recriwtio Arolygydd Cymheiriad – Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol
A hoffech chi ddatblygu eich medrau proffesiynol a chyfrannu at wella yn eich sector chi?
Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad perthnasol o uwch arweinyddiaeth mewn gwaith ieuenctid gwirfoddol i fod yn Arolygwyr Cymheiriaid.
Cymhwysedd
Byddwch yn gallu arolygu trwy gyfrwng y Gymraeg a/neu’r Saesneg a bydd gennych:
- o leiaf dair blynedd o brofiad mewn sefydliad Gwaith Ieuenctid/maes Gwaith Ieuenctid;
- profiad o Waith Ieuenctid mewn rôl o arfarnu ansawdd.
Mae cymhwyster wedi’i gymeradwyo’n broffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid (neu weithio tuag at un) yn ddymunol er nad yw’n hanfodol ar hyn o bryd, wrth i’r proffesiwn gweithio tuag at lefelau cymhwyster a chofrestru llawn. Bydd hyn yn ofyniad hanfodol o fis Medi 2026 ymlaen.
Fel Arolygydd Cymheiriaid, byddwch yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i arolygiadau Estyn. Byddwch yn cael cyfle unigryw i weld arfer effeithiol lle mae’n digwydd bob dydd a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch lleoliad chi i gefnogi gwelliant.
Rydym yn cynnig hyfforddiant llawn ac, os byddwch yn ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwn yn eich ychwanegu at ein cofrestr o Arolygwyr Cymheiriaid.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan y rhai sydd o gefndiroedd amrywiol a’r rhai sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Lawrlwythwch y pecyn cais i gael mwy o wybodaeth am y rôl a manylion am sut i wneud cais.