Gweithio i ni

Share this page

Rydym yn cyflogi Arolygwyr Ei Fawrhydi (AEF) a staff cymorth arolygu fel ei gilydd.


Diweddarwyd y dudalen hon ar 28/03/2024
Publication date

Arolygwyr Cymheiriaid ac Ychwanegol Uwchradd a Phob Oed

Rydym yn recriwtio Arolygwyr Cymheiriaid neu Ychwanegol i weithio gyda ni yn ystod ein harolygiadau o’r sectorau uwchradd a phob oed.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr unigol sydd â: 

  • o leiaf ddwy flynedd o brofiad mewn rôl uwch arweinydd, (fel Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, Pennaeth Cynorthwyol, Athro â Gofal am UCD)
  • o leiaf 5 mlynedd o brofiad addysgu
  • cefnogaeth gan eich Pennaeth / Athro â Gofal neu Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr neu’ch Perchennog neu Gadeirydd y Llywodraethwyr (os ydych chi’n Bennaeth / Athro â Gofal eich hun) i fynychu’r cwrs a chael eich defnyddio fel Arolygydd Cymheiriad (yn y sector uwchradd rydym yn arolygu rhwng Medi a diwedd hanner cyntaf tymor yr haf)

Rhaid i Arolygwyr Cymheiriaid fod yn gweithio yn y sector uwchradd neu bob oed ar hyn o bryd i fod yn gymwys ar gyfer y rôl hon.

Mae Arolygwyr Ychwanegol yn arolygwyr sydd â phrofiad o arwain yn y sectorau uwchradd neu bob oed ond gall eu bod wedi neu ar fin ymddeol neu adael. Maent yn tendro am waith.

Mae recriwtio’n dechrau o ddydd Llun, 11 Mawrth tan ddydd Gwener, 12 Ebrill 2024

docx, 343.6 KB

docx, 342.93 KB

Arolygwyr Cymheiriaid Cynradd

Rydym yn chwilio am uwch arweinwyr mewn ysgolion cynradd i fod yn Arolygwyr Cymheiriaid.

Fel Arolygydd Cymheiriaid, byddwch yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at arolygiadau Estyn. Byddwch yn cael cyfle gwych i weld arfer effeithiol lle mae’n digwydd bob dydd, a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch lleoliad i gefnogi gwelliant.

Pan fyddwch chi’n gymwys, byddwch yn defnyddio’ch gwybodaeth a’ch medrau i arsylwi sesiynau, siarad â dysgwyr, ac edrych ar samplau o’u gwaith.

I gael mwy o wybodaeth am y rôl, lawrlwythwch y pecyn cais.

Dyddiad cau: 5pm 22 Ebrill 2024

Byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 17 Mai 2024.

Rydym yn arbennig yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol a’r rhai sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Os ydych chi wedi ymgeisio i fod yn Arolygydd Cymheiriaid, yn Arolygydd Ychwanegol neu’n Bartner Gwella yn y gorffennol ond na chawsoch wahoddiad i’r digwyddiad hyfforddiant cychwynnol, byddem yn hapus i ystyried cais newydd.

docx, 34.47 KB

Arolygwyr Cymheiriaid Gwaith Ieuenctid

Rydym yn recriwtio arolygwyr cymheiriaid i weithio gyda ni yn ystod ein harolygiadau ieuenctid.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr unigol sydd:

  • Ag o leiaf 3 blynedd o brofiad mewn sefydliad gwaith ieuenctid neu ym maes gwaith ieuenctid;  
  • Â phrofiad â thâl neu heb dâl (gwirfoddolwr) yn eu rôl gwaith ieuenctid, yn amser llawn neu’n rhan-amser;
  • Â phrofiad o waith ieuenctid mewn rôl ansawdd.

Mae cymhwyster wedi’i gymeradwyo’n broffesiynol mewn gwaith ieuenctid (neu brawf eich bod yn gweithio tuag at un) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar hyn o bryd, gan fod y proffesiwn yn gweithio tuag at lefelau cymhwyster a chofrestru llawn. Bydd hyn yn ofyniad hanfodol o fis Medi 2026 ymlaen.

Dyddiad cau: 10yb ddydd Llun, 29 Ebrill 2024

HEO Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd

Rydym yn chwilio am Reolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd galluog i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cyfathrebu ac ymgyrchoedd marchnata effeithiol i gryfhau a gwella delwedd brand Estyn a chynyddu ymwybyddiaeth o’n gwaith.

Byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod ymdrechion cysylltiadau cyhoeddus a marchnata’n cyd-fynd ag amcanion strategol cyffredinol.

Bydd y Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd yn:

  • Creu a gweithredu ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith Estyn a gwneud y brand yn fwy amlwg – gan ddefnyddio sianeli cyfathrebu Estyn ac archwilio cyfleoedd newydd i gael yr effaith fwyaf.
  • Sicrhau ansawdd gwaith tîm bach i wneud yn siŵr bod gwasanaeth cyson broffesiynol yn cael ei ddarparu sy’n cynnig gwerth am arian.  
  • Datblygu perthnasoedd gweithio effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ar draws y sefydliad. 
  • Datblygu a chynnal perthnasoedd â’r cyfryngau, newyddiadurwyr, a dylanwadwyr i gynyddu diddordeb yng ngwaith Estyn a sicrhau sylw yn y wasg a chefnogaeth.
  • Cydlynu cyhoeddiadau a diweddariadau allweddol trwy baratoi datganiadau i’r wasg, pecynnau i’r cyfryngau, pecynnau cymorth i randdeiliaid a deunyddiau hyrwyddo eraill, a’u dosbarthu mewn modd targedig.
  • Monitro a dadansoddi sylw yn y cyfryngau a metrigau cysylltiadau cyhoeddus i fesur effeithiolrwydd ymgyrchoedd.
  • Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Cyfathrebu Digidol i gynllunio cynnwys a sicrhau negeseuon a brand cydlynol ar draws holl sianeli cyfathrebu Estyn.
  • Gweithio’n agos gyda’r tîm digwyddiadau i sicrhau bod negeseuon corfforaethol Estyn yn cael eu cyfleu trwy’r rhaglen amrywiol o hyfforddiant a digwyddiadau i randdeiliaid. Cefnogi’r broses o hyrwyddo digwyddiadau allweddol a datblygu deunyddiau diddorol i amlygu negeseuon corfforaethol allweddol.
  • Gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Cyfathrebu, Digwyddiadau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid i reoli cyfathrebiadau argyfwng yn effeithiol a chynnal delwedd frand gadarnhaol.
  • Gwerthuso ymgyrchoedd yn seiliedig ar ystod o ddadansoddeg ac adborth er mwyn amlygu ffyrdd o wella gwaith y tîm yn barhaus.
  • Cynnal gwybodaeth am dueddiadau’r diwydiant i amlygu cyfleoedd ar gyfer mentrau cysylltiadau cyhoeddus.
  • Sicrhau arfer orau yn y tîm trwy fonitro diweddariadau diweddaraf Gwasanaeth Cyfathrebu’r Llywodraeth (GCS) a fframweithiau cyfathrebu eraill perthnasol, gan eu gweithredu yng ngwaith y tîm.

Dyma gyfle gwych i weithiwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd proffesiynol profiadol weithio gyda’r Pennaeth Cyfathrebu, Digwyddiadau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid i sbarduno strategaeth gyfathrebu sy’n creu effaith.

Croesawn geisiadau yn arbennig gan bobl o gefndir ethnig leiafrifol, yn ogystal â phobl sy’n byw gydag anabledd.

Cyflog: £34,083 - £41,675

Gradd: Swyddog Gweithredol Uwch (Gradd HEO)

Patrwm gweithio: Amser llawn

Lleoliad: Mae’r rôl wedi’i lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Rydym yn gweithredu trefniadau gweithio hybrid anffurfiol ar hyn o bryd.

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth a’r ddogfen ganllaw i gael rhagor o wybodaeth am y rôl a manylion ynghylch sut i ymgeisio.

Dyddiad cau i ymgeisio: 10am ddydd Mercher 17 Ebrill 2024

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar [email protected]

Swyddi gwag

Cofrestrwch am ddiweddariadau i gael gwybod am gyfleoedd newydd.

Mae Estyn wedi’i achredu yn sefydliad Buddsoddwr mewn Pobl er 1999. Rydym yn cydnabod bod pob unigolyn yn cynnig medrau a phrofiad gwahanol i’n sefydliad, ac rydym yn annog pob un o’r staff i ddatblygu eu doniau. Ar yr un pryd, rydym yn croesawu amrywiaeth ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau.

Ymholiadau

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gweithio i ni, cysylltwch â:

Adnoddau Dynol
02920 446336
[email protected]

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynglŷn â hyfforddiant i fod yn Arolygydd Cymheiriaid, Arolygydd Cofrestredig neu Arolygydd Ychwanegol cysylltwch â:

Digwyddiadau
02920 446510
[email protected]


Mae Estyn yn croesawu galwadau ffôn yn y Gymraeg.
 

Y Gwasanaeth Sifil

Trowch at wefan Swyddi’r Gwasanaeth Sifil i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gyrfaol yn y Gwasanaeth Sifil.   

Manteision gweithio i ni
 

pptx, 59.54 KB

pdf, 234.81 KB

Graddfeydd cyflog

Rhan o Gweithio i ni