Gweithio i ni

Share this page

Rydym yn cyflogi Arolygwyr Ei Fawrhydi (AEF) a staff cymorth arolygu fel ei gilydd.


Diweddarwyd y dudalen hon ar 17/04/2024
Publication date

Arolygwyr Cymheiriaid Cynradd

Rydym yn chwilio am uwch arweinwyr mewn ysgolion cynradd i fod yn Arolygwyr Cymheiriaid.

Fel Arolygydd Cymheiriaid, byddwch yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at arolygiadau Estyn. Byddwch yn cael cyfle gwych i weld arfer effeithiol lle mae’n digwydd bob dydd, a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch lleoliad i gefnogi gwelliant.

Pan fyddwch chi’n gymwys, byddwch yn defnyddio’ch gwybodaeth a’ch medrau i arsylwi sesiynau, siarad â dysgwyr, ac edrych ar samplau o’u gwaith.

I gael mwy o wybodaeth am y rôl, lawrlwythwch y pecyn cais.

Dyddiad cau: 5pm 22 Ebrill 2024

Byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 17 Mai 2024.

Rydym yn arbennig yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol a’r rhai sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Os ydych chi wedi ymgeisio i fod yn Arolygydd Cymheiriaid, yn Arolygydd Ychwanegol neu’n Bartner Gwella yn y gorffennol ond na chawsoch wahoddiad i’r digwyddiad hyfforddiant cychwynnol, byddem yn hapus i ystyried cais newydd.

docx, 34.47 KB

Arolygwyr Cymheiriaid Gwaith Ieuenctid

Rydym yn recriwtio arolygwyr cymheiriaid i weithio gyda ni yn ystod ein harolygiadau ieuenctid.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr unigol sydd:

  • Ag o leiaf 3 blynedd o brofiad mewn sefydliad gwaith ieuenctid neu ym maes gwaith ieuenctid;  
  • Â phrofiad â thâl neu heb dâl (gwirfoddolwr) yn eu rôl gwaith ieuenctid, yn amser llawn neu’n rhan-amser;
  • Â phrofiad o waith ieuenctid mewn rôl ansawdd.

Mae cymhwyster wedi’i gymeradwyo’n broffesiynol mewn gwaith ieuenctid (neu brawf eich bod yn gweithio tuag at un) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar hyn o bryd, gan fod y proffesiwn yn gweithio tuag at lefelau cymhwyster a chofrestru llawn. Bydd hyn yn ofyniad hanfodol o fis Medi 2026 ymlaen.

Dyddiad cau: 10yb ddydd Llun, 29 Ebrill 2024

Arolygwyr Cymheiriaid Addysg Bellach (AB)

Rydym ni’n chwilio am unigolion sydd â thros bum mlynedd o brofiad i fod yn Arolygwyr Cymheiriaid. Ydych chi’n arweinydd neu’n ymarferwr profiadol mewn coleg addysg bellach? Mae gennym ni gyfleoedd gwerthfawr i chi gyfrannu at ein gwaith maes ac ymuno â’n timau arolygu. Dysgwch fwy am fod yn arolygydd cymheiriaid.

Croesewir pob disgyblaeth, ond mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn recriwtio Arolygwyr Cymheiriaid ag arbenigeddau yn y meysydd canlynol: 

  • Iechyd a gofal cymdeithasol; gofal plant
  • Y cyfryngau a’r celfyddydau creadigol
  • Adeiladu a pheirianneg

Mae bod yn Arolygydd Cymheiriaid yn gyfle ardderchog i weld arfer effeithiol lle mae’n digwydd bob dydd, a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch darparwr i gefnogi gwelliant.

Os byddwch yn cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus, bydd eich enw’n cael ei ychwanegu at ein cofrestr o Arolygwyr Cymheiriaid.

Ymgeisiwch erbyn 10am ddydd Mercher, 15 Mai 2024

Arolygwyr Cymheiriaid yn y Sector Cyfiawnder (Carchardai a Sefydliadau Troseddwyr Ifanc)

Rydym ni’n chwilio am unigolion sydd â thros bum mlynedd o brofiad yn y sector cyfiawnder i fod yn Arolygwyr Cymheiriaid.

A oes gennych chi brofiad mewn addysgu / asesu neu rôl sydd wedi’i chysylltu’n agos a dwy flynedd o brofiad mewn rôl arwain yn goruchwylio ansawdd addysg, gwaith a medrau? Mae gennym ni gyfleoedd gwerthfawr i chi gyfrannu at ein gwaith maes ac ymuno â’n timau arolygu. Dysgwch fwy am fod yn arolygydd cymheiriaid.

Mae bod yn Arolygydd Cymheiriaid yn gyfle ardderchog i weld arfer effeithiol lle mae’n digwydd bob dydd, a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch darparwr i gefnogi gwelliant.

Mae arolygwyr cymheiriaid yn y sector cyfiawnder fel arfer yn cael eu defnyddio mewn arolygiadau thematig neu arolygiadau mewn sectorau addysg eraill, fel colegau addysg bellach neu ddysgu oedolion.

Os byddwch yn cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus, bydd eich enw’n cael ei ychwanegu at ein cofrestr o Arolygwyr Cymheiriaid.

Ymgeisiwch erbyn 10am ddydd Mercher, 15 Mai 2024

Swyddi gwag

Cofrestrwch am ddiweddariadau i gael gwybod am gyfleoedd newydd.

Mae Estyn wedi’i achredu yn sefydliad Buddsoddwr mewn Pobl er 1999. Rydym yn cydnabod bod pob unigolyn yn cynnig medrau a phrofiad gwahanol i’n sefydliad, ac rydym yn annog pob un o’r staff i ddatblygu eu doniau. Ar yr un pryd, rydym yn croesawu amrywiaeth ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau.

Ymholiadau

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gweithio i ni, cysylltwch â:

Adnoddau Dynol
02920 446336
[email protected]

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynglŷn â hyfforddiant i fod yn Arolygydd Cymheiriaid, Arolygydd Cofrestredig neu Arolygydd Ychwanegol cysylltwch â:

Digwyddiadau
02920 446510
[email protected]


Mae Estyn yn croesawu galwadau ffôn yn y Gymraeg.
 

Y Gwasanaeth Sifil

Trowch at wefan Swyddi’r Gwasanaeth Sifil i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gyrfaol yn y Gwasanaeth Sifil.   

Manteision gweithio i ni
 

pptx, 59.54 KB

pdf, 268.81 KB

Graddfeydd cyflog

Rhan o Gweithio i ni