Cwestiynau Cyffredin: y fframwaith arolygu o Fedi 2017

A oes cylch saith mlynedd newydd yn dechrau ym Medi 2017?

Mae’r cyfnod arolygu saith mlynedd newydd yn dechrau’n ffurfiol o Fedi 2016.  Fe wnaeth y cyfnod saith mlynedd newydd gynyddu’r hyblygrwydd o ran pryd y gellir cynnal arolygiad o fewn y cyfnod saith mlynedd.  Bydd y Fframwaith Arolygu Cyffredin newydd a threfniadau arolygu newydd yn dechrau ym Medi 2017, h.y. blwyddyn i mewn i’r cyfnod arolygu newydd hwn

A yw Estyn yn defnyddio unrhyw ddadansoddiad risg wrth benderfynu pa ysgolion i’w harolygu?

Nid ydym yn defnyddio unrhyw ddadansoddiad risg ar hyn o bryd wrth benderfynu pa ysgolion y byddwn yn eu harolygu, er bod gan y Prif Arolygydd y pŵer i alw am arolygiad o hyd ar unrhyw adeg, er enghraifft o ganlyniad i bryderon am yr ysgol yr ydym wedi clywed amdanynt ‘ar lawr gwlad’.  Fodd bynnag, pan gaiff ysgol gwbl newydd ei ffurfio, ein bwriad yw cynnal arolygiad o’r ysgol newydd o fewn 12-18 mis ar ôl iddi agor.    

A oes unrhyw newid yn sefyllfa Estyn ynghylch arolygu dosbarthiadau chwech ysgolion o Fedi 2017?

Rydym wrthi’n rhoi ystyriaeth ofalus i’n dull o arolygu dosbarthiadau chwech.  Mae’n bosibl y bydd ein trefniadau newydd yn cynnwys arolygu dosbarthiadau chwech fel rhan o arolygiadau uwchradd. 

Pa le sydd gan bresenoldeb yn y Fframwaith Arolygu Cyffredin newydd?

Bydd arolygwyr yn ystyried presenoldeb yn bennaf yn y Maes Arolygu 2 newydd (Lles ac agweddau at ddysgu).  Byddant yn ystyried ystod eang o dystiolaeth yn ymwneud â phresenoldeb, gan gynnwys data wedi’i feincnodi, a byddant yn arfarnu p’un a oes gwendidau sylweddol mewn perthynas â phresenoldeb yr ysgol o gymharu ag ysgolion tebyg eraill.  Bydd arolygwyr yn ystyried unrhyw ddadansoddiad a gynhaliwyd gan ysgolion hefyd i nodi ffactorau lliniaru a allai fod wedi effeithio ar gyfraddau presenoldeb cyffredinol.  Pan fydd presenoldeb yn sylweddol wan, gallai arolygwyr ystyried barnu bod y Maes Arolygu yn ddigonol, angen gwella neu’n Anfoddhaol, neu angen gwelliant brys. 

Pam mae Estyn wedi ychwanegu ‘angen gwella’ at y farn Digonol ac ‘angen gwelliant brys’ at y farn Anfoddhaol?

Rydym yn gobeithio bod hyn yn gwneud disgwyliadau Estyn yn gliriach. Rydym wedi defnyddio ‘Digonol’ ac ‘Anfoddhaol’ yn y fframwaith arolygu presennol a, thrwy barhau i’w ddefnyddio, mae dilyniant da rhwng y graddfeydd arfarnu presennol a newydd.  Cynhaliom ymgynghoriad eang y llynedd ac roedd y mwyafrif helaeth o randdeiliaid o’r farn bod y termau yn dderbyniol.

Gwnaethom ychwanegu ‘ac angen gwella’ nid i ddiffinio ‘Digonol’ fel petai, ond i ddangos beth sy’n digwydd nesaf pan roddir y farn honno ac i egluro mai ‘Da’ yw’r safon leiaf rydym yn chwilio amdani.  Nid yw ‘Digonol’ yn derm sy’n dynodi perfformiad hollol foddhaol neu ddigonol mewn fframwaith ansawdd. Ble ceir sawl graddiad o farnau, mae’r rhan fwyaf o bobl yn deall bod ‘Digonol’ yn dynodi’r lefel islaw ‘Da’, ac y dylai pobl, ysgolion a sefydliadau anelu i fod yn ‘Dda’ (neu’n well).

Rydym yn disgwyl i bob ysgol/darparwr ddarparu addysg neu hyfforddiant o ansawdd da bob dydd.  Pan fydd ysgolion/darparwyr yn disgyn islaw’r disgwyliad hwn, mae’r geiriau newydd a ychwanegwyd at y barnau ar gyfer Digonol ac Anfoddhaol yn ei gwneud yn gliriach bod angen i’r ysgolion/darparwyr hyn wella er mwyn bodloni’r disgwyliad hwn. 

A yw’r diffiniadau newydd o’r barnau yn golygu bod Estyn yn credu nad oes angen i ysgolion Rhagorol a Da wella?

Nac ydyn, bydd pob ysgol yn derbyn argymhellion ar ddiwedd eu harolygiad i’w helpu i wella.  Mae hyn hefyd yn wir am ysgolion sy’n derbyn barnau Da a Rhagorol.

Pa wybodaeth fydd ei hangen ar Estyn gan awdurdod lleol cyn arolygu un o’i ysgolion?

Rydym yn disgwyl i’r awdurdod lleol roi brîff i ni am yr ysgol cyn i’r arolygiad ddechrau, gan gynnwys eu barn am berfformiad yr ysgol.  Os yw adroddiad categoreiddio diweddaraf yr ysgol yn darparu hyn, yna nid oes angen i’r awdurdod lleol greu adroddiad ychwanegol.  Bydd arolygwyr yn ystyried pa mor hir cyn yr arolygiad yr ysgrifennwyd yr adroddiad hwn.  Fodd bynnag, mae’r awdurdod lleol yn rhydd i ddarparu gwybodaeth ychwanegol neu wybodaeth wedi’i diweddaru os yw’n teimlo y byddai hyn yn helpu’r tîm arolygu.  Rydym hefyd yn disgwyl i’r awdurdod lleol rannu unrhyw wybodaeth bwysig gyda ni am gyd-destun yr ysgol y byddai’n ddefnyddiol i’r arolygydd cofnodol fod yn ymwybodol ohoni.  Er enghraifft, gallai hyn gynnwys gwybodaeth yn ymwneud â staffio yn yr ysgol neu achosion arwyddocaol yn y gymuned.

Mae’r wybodaeth gan yr awdurdod lleol, ynghyd â’r holl dystiolaeth arall, yn helpu’r arolygydd cofnodol i gynllunio gweithgareddau arolygu a datblygu cwestiynau priodol i’w gofyn yn ystod yr arolygiad.  Mae’n helpu arolygwyr i ystyried materion perthnasol hefyd, er enghraifft wrth ddadansoddi data neu wrth ystyried materion yn ymwneud â darpariaeth neu arweinyddiaeth.  Ar ôl cwblhau’r arolygiad, bydd yr arolygydd cofnodol yn myfyrio ar y wybodaeth a ddarparwyd gan yr awdurdod lleol ac yn rhannu ei safbwyntiau a’i sylwadau ar ei defnyddioldeb gyda thîm Estyn o arolygwyr cyswllt awdurdod lleol (eto, gan ystyried pryd ysgrifennwyd yr adroddiad, os bydd angen).  Mae arolygwyr cyswllt yn ystyried adborth gan arolygwyr cofnodol dros gyfnod i greu darlun o ba mor dda y mae awdurdodau lleol yn adnabod eu hysgolion.