Cwestiynau Cyffredin: Arolygiadau peilot ar gyfer y trefniadau arolygu newydd


Tymor yr hydref 2016 a thymor y gwanwyn 2017


Sut gwnaeth Estyn ddewis yr ysgolion ar gyfer yr arolygiadau peilot?

Bob blwyddyn, rydym yn dewis sampl gynrychioliadol fras o ysgolion i’w harolygu.  Mae hyn yn sicrhau bod gennym amrywiaeth o ysgolion bob blwyddyn, er enghraifft ysgolion bach, canolig a mawr, ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, ac ysgolion sy’n cwmpasu ystod o ardaloedd daearyddol.  Rydym wedi dewis ysgolion peilot yn yr un ffordd ag yr ydym yn dewis o’r rhestr sy’n bodoli eisoes o ysgolion a fydd yn cael eu harolygu fel rhan o sampl gynrychioliadol fras.  Nid ydym wedi cymhwyso unrhyw feini prawf eraill wrth ddewis yr ysgolion peilot, er enghraifft nid oes meini prawf yn seiliedig ar risg na dadansoddiad blaenorol o ddata perfformiad.

A fydd ysgolion sy’n cymryd rhan yn yr arolygiadau peilot yn cael mwy na 3 wythnos o rybudd? 

Bydd ysgolion arolygiadau peilot yn derbyn hysbysiad ffurfiol 15 diwrnod gwaith cyn yr arolygiad.  Bydd hyn yn helpu Estyn i brofi ei systemau a’i brosesau er mwyn gweld yr effaith ar ei waith a gwneud yn siŵr bod cyfnod rhybudd o 15 diwrnod yn bosibl o safbwynt Estyn a’r ysgol beilot.  Fodd bynnag, byddwn yn cysylltu â’r ysgolion peilot yn anffurfiol cyn y cyfnod rhybudd o 15 diwrnod i roi amser ychwanegol iddynt ystyried yr arweiniad arolygu newydd sy’n berthnasol i’w sector.

A yw ysgolion yr arolygiadau peilot yn fwy tebygol o fod yn ysgol nad yw wedi cael ei harolygu dros y chwe blynedd ddiwethaf? 

Mae cyfnod arolygu 7 mlynedd newydd yn dechrau’n ffurfiol o Fedi 2016.  Felly, bydd y trefniadau arolygu newydd yn dechrau flwyddyn ar ôl dechrau’r cyfnod arolygu newydd hwn. 

Mae pob ysgol yn ‘mynd yn ôl i mewn i’r pair’ o Fedi 2016 pan fydd y cyfnod arolygu 7 mlynedd newydd yn dechrau.  Mae’r cyfnod newydd o 7 mlynedd yn cynyddu’r hyblygrwydd o ran pryd y gall arolygiad ddigwydd yn y cyfnod hwnnw.  Felly, gallai ysgolion arolygiadau peilot fod yn unrhyw ysgol, p’un a gafodd yr ysgol ei harolygu yn gymharol ddiweddar ai peidio. 

A fydd yn rhaid i ysgolion sy’n cymryd rhan yn yr arolygiadau peilot newid eu hadroddiad hunanarfarnu i gyd-fynd â’r fframwaith arolygu newydd?

Na.  Mae tir cyffredin rhwng yr hen fframwaith arolygu cyffredin a’r fframwaith arolygu cyffredin newydd.  Bydd arolygwyr yn gallu defnyddio hunanarfarniad presennol yr ysgol fel man cychwyn ar gyfer eu gwaith er y gallai fod yn seiliedig ar y fframwaith arolygu cyffredin presennol.  Yr ystyriaeth allweddol yw ansawdd systemau a phrosesau hunanarfarnu a’u heffaith ar wella ysgolion, nid ar gynnwys na fformat yr adroddiad ei hun.  Os bydd ysgol yn dymuno arbrofi â’r fframwaith newydd trwy newid eu hadroddiad hunanarfarnu yn unol â hynny, eu lle nhw yw penderfynu hynny, nid Estyn.  Byddwn yn ystyried yr adroddiad hunanarfarnu ym mha fformat bynnag y mae’r ysgol yn dewis ei ddarparu. 

A oes unrhyw newid yn sefyllfa Estyn o ran arolygu chweched dosbarth ysgolion, ac a fydd chweched dosbarth yn rhan o’r arolygiadau peilot?

Rydym yn ystyried ein dull o arolygu chweched dosbarth yn ofalus.  Efallai y bydd ein trefniadau newydd yn cynnwys dulliau gwahanol o arolygu chweched dosbarth fel rhan o’n harolygiadau peilot mewn ysgolion uwchradd. 

Os caiff ysgol ei rhoi mewn categori gweithgarwch dilynol yn ystod yr arolygiadau peilot, a fydd y prosesau dilynol yr un fath â’r rhai presennol neu a fyddant yn wahanol?

Bydd llawer o’r system gweithgarwch dilynol bresennol yn aros, ond rydym wedi dileu Monitro gan yr Awdurdod Lleol.  Rydym yn arbrofi ag ychydig o elfennau newydd i wneud y broses ddilynol yn fwy cefnogol ac adeiladol; er enghraifft, pan fydd angen gwelliant sylweddol ar ysgol, byddwn yn ymweld â’r ysgol yn fuan ar ôl yr arolygiad i gefnogi llunio cynllun gweithredu ôl-arolygiad yr ysgol.  Mae arweiniad newydd ar gael ar sut byddwn yn rheoli’r trosglwyddo oddi wrth y trefniadau dilynol presennol i drefniadau dilynol newydd eleni.  Gallwch weld yr arweiniad ar wefan Estyn yma:

https://www.estyn.gov.wales/inspection/inspection-explained/follow-up

Ble mae presenoldeb yn ymddangos yn y Fframwaith Arolygu Cyffredin newydd ac ar arolygiadau peilot?

Yn y fframwaith drafft newydd, mae presenoldeb yn dod o dan Faes Arolygu 2 yn bennaf – lles ac agweddau at ddysgu.  Mae’n un agwedd ar y maes arolygu hwnnw.  Rydym yn disgwyl i dimau arolygu adrodd ar bresenoldeb trwy eithriad yn y fframwaith arolygu newydd, h.y. ble mae tuedd gyson o berfformiad cymharol uchel neu berfformiad cymharol isel o gymharu ag ysgolion tebyg eraill.  Nid yw’r canfyddiadau ar bresenoldeb yn gyrru’r farn gyffredinol ar gyfer y maes arolygu, ond gallent ddylanwadu ar y farn lle mae cyfraddau presenoldeb yn gryfder neu’n wendid sylweddol.

Os defnyddir paragraff crynodeb yn hytrach na dwy farn gyffredinol, sut gall arweinwyr, staff a rhieni nodi ysgolion da yn hawdd?

Bydd y paragraff crynodeb yn rhoi crynodeb byr o ganfyddiadau’r arolygiad.  Bydd yn rhoi syniad clir a chytbwys o gryfderau a gwendidau’r ysgol.  Bydd arweinwyr, staff a rhieni yn gallu barnu a nodi p’un a yw’r ysgol yn dda ai peidio.  

Yn y Fframwaith Arolygu Cyffredin newydd, nid oes adran a barn ar wahân mwyach ar berfformiad cyffredinol a rhagolygon gwella, fel sydd ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, bydd y tîm arolygu’n adrodd ar safonau cyffredinol a lles, ac agweddau ar arweinyddiaeth sy’n ymwneud â rhagolygon gwella, yn yr adroddiad arolygu.  Er enghraifft, mae materion sy’n ymwneud ar hyn o bryd â rhagolygon gwella yn ymwneud â Maes Arolygu 5 – arweinyddiaeth a rheolaeth, sy’n newydd.  Bydd barn y tîm ynglŷn â gallu’r arweinyddiaeth i wella’r ysgol yn seiliedig yn bennaf ar ba mor effeithiol yw’r prosesau yn yr ysgol ar gyfer nodi meysydd i’w datblygu ac ar gyfer hyrwyddo gwelliant yn y meysydd hynny.  Bydd gan y tîm ddiddordeb yn y graddau y mae gan arweinwyr hanes cadarn o wneud gwelliannau a ble y gallant weld ei fod yn cael effaith wirioneddol ar gynnydd a lles disgyblion.

A fydd ysgolion peilot dan anfantais o ran barnau a chanfyddiadau’r arolygiad?

Na.  Mae cryn dipyn o dir cyffredin rhwng y fframwaith presennol a’r fframwaith newydd.  Mae llawer o barhad yn y raddfa farnau a ddefnyddir ar gyfer y fframwaith newydd a’r raddfa farnau 4 pwynt bresennol hefyd.  Nid nod cyflwyno’r fframwaith newydd yw gwneud y deilliannau arolygu’n anos neu’n haws.  Y prif nod yw gwneud y fframwaith yn addas at ei ddiben ac yn berthnasol mewn tirwedd addysgol sy’n newid yn gyflym.  Rydym wedi manteisio ar y cyfle hefyd i ddileu meysydd o ddyblygu a chanolbwyntio mwy ar addysgu a dysgu.

Pam ydych chi wedi penderfynu cyflwyno holiaduron cyn-arolygiad ar gyfer staff a llywodraethwyr?  A pham nad ydych yn cyhoeddi deilliannau’r holiadur ar ddiwedd yr adroddiad?

Mae gennym holiaduron cyn-arolygiad ar gyfer disgyblion a rhieni ar hyn o bryd.  Mae’r rhain yn llywio trywyddau ymholi ar gyfer y tîm arolygu yn ystod yr arolygiad.  Fel rhanddeiliaid allweddol, teimlwn y dylai staff a llywodraethwyr hefyd gael cyfle i leisio eu barn ar agweddau amrywiol ar yr ysgol cyn yr arolygiad.  Rydym eisoes wedi arbrofi â holiaduron cyn-arolygiad i staff a llywodraethwyr mewn sampl o ysgolion.  Maent wedi bod yn boblogaidd ymhlith staff a llywodraethwyr ac mae’r gyfradd ymateb wedi bod yn uchel.  Maent wedi helpu timau arolygu i ddyfeisio trywyddau ymholi priodol o ganlyniad. 

Gan fod y canfyddiadau yn ffurfio rhan o’r dystiolaeth cyn-arolygiad, rydym wedi penderfynu peidio â’u cyhoeddi yn yr adroddiad ôl-arolygiad gan na fyddant o bosibl yn adlewyrchu barn derfynol, gytûn y tîm arolygu, sy’n seiliedig ar ystod ehangach o dystiolaeth na’r holiaduron cyn-arolygiad yn unig.

Ar arolygiadau peilot, pwy ddylai lenwi’r holiadur i staff? A ddylai’r ysgol ei anfon at yr holl gyflogeion neu at staff addysgu yn unig?  A ddylai staff asiantaeth yn yr ysgol ei lenwi?  Beth os yw athro’n sâl ac yn absennol o’r ysgol?

Ar yr arolygiadau peilot, mae’r holiadur i staff ar gyfer athrawon a chynorthwywyr dysgu sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan yr ysgol ac sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol ag addysgu a dysgu.  Nid yw ar gyfer staff asiantaeth.  Nid yw ar gyfer aelodau staff eraill chwaith, fel gofalwyr, staff ffreutur, ac ati.  Pan fydd athro neu gynorthwyydd cymorth dysgu yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch, yna lle’r pennaeth yw penderfynu, er lles yr aelod staff a chan roi ystyriaeth lawn i’w iechyd a’i les, p’un a yw am roi gwybod iddo am y cyfle i lenwi holiadur cyn-arolygiad ai peidio.

Pryd caiff adroddiadau’r arolygiadau peilot eu cyhoeddi?

Mae’r arolygiadau peilot yn mynd rhagddynt, ond ceir rhestr o’r adroddiadau a gyhoeddwyd hyd yn hyn isod: