Chwilio

Governor working with pupils

Corff llywodraethol yn helpu cryfhau gwelliant ysgol

Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Trinant yn dod ag amrywiaeth o gryfderau ac arbenigedd i’r ysgol. Mae’r corff llywodraethol wedi ymrwymo’n llawn i wella’r ysgol ac yn ymgymryd â’u cyfrifoldebau o ddifrif. Mae eu gwaith yn dilyn pecyn cymorth hunanwella’r ysgol ac yn cysylltu â phroses hunanwerthuso’r ysgol. Mae hyfforddiant wedi cael effaith gadarnhaol ar effeithiolrwydd y corff llywodraethol. Maent yn cymryd rhan yn rheolaidd ym mywyd yr ysgol, sy’n galluogi iddynt weithio fel rhan o dîm ac yn rhannu nod cyffredin o ran ceisio lefel uchel o lwyddiant i ddisgyblion. Darllen mwy >

Teacher using electronic whiteboard

Creu fframwaith strategol

Datblygodd arweinwyr yn Ysgol Stryd y Rhos y cyswllt rhwng hunanwerthuso, rheoli perfformiad a gosod targedau i greu cynnydd cryf a chynaledig gan ddisgyblion. Sefydlodd yr ysgol fframwaith i sicrhau bod eu gweledigaeth a’u blaenoriaethau yn cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus. Mae gosod targedau i ddatblygu safonau llythrennedd a rhifedd wedi cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion. O ganlyniad i’r dull hwn, mae mwyafrif y disgyblion yn gadael yr ysgol gyda medrau yn uwch na’r disgwyl. Darllen mwy >

children doing crafts

Datblygu medrau a brwdfrydedd disgyblion tuag at ddysgu, trwy gynllunio ac addysgu creadigol

Mae Ysgol Gynradd Rhosybol wedi datblygu medrau ac annibyniaeth disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 trwy gynllunio ac addysgu’n fwy creadigol. Rhannwyd disgyblion yn grwpiau yn unol â’u gallu i gwblhau tasgau, trwy gydol yr wythnos. Roedd asesu a monitro dilyniant wedi cynnwys ffilmio dan arweiniad disgyblion, ar ffurf ‘blog fideo’. Darllen mwy >

Adolygu dulliau o fodloni anghenion disgyblion mwy abl a thalentog i ymateb i ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru

I fodloni anghenion disgybl mwy abl a thalentog, mae Ysgol Gynradd Langstone wedi canolbwyntio ar ddatblygu addysgeg sy’n cael ei harwain gan bedwar “diben craidd” y cwricwlwm. Mae cyfuniad o bynciau dosbarth a dull prosiect ysgol gyfan yn rhoi ehangder a chydbwysedd gofalus o gyfleoedd i ddisgyblion. Rhoddir amser i astudio agweddau ar bynciau yn fanwl a datblygu, atgyfnerthu a gwreiddio gwybodaeth a medrau yn gynyddol ar draws yr ysgol. Darllen mwy >

People sitting down

Gwella medrau arweinwyr canol i ysgogi gwelliannau mewn addysgu

Mae arweinwyr yn Ysgol Gyfun y Brenin Harri’r Vlll wedi ymgorffori rhaglen adolygu cymheiriaid yn llwyddiannus, sydd wedi galluogi arweinwyr canol i gryfhau eu medrau a’u gallu i ysgogi gwelliannau mewn addysgu a safonau yn sylweddol. Trwy gymryd rhan mewn ystod gynhwysfawr o weithgareddau hunanarfarnu sy’n canolbwyntio’n glir ar y berthynas rhwng addysgu effeithiol a chynnydd disgyblion, mae arweinwyr canol bellach yn cyfrannu’n effeithiol at wella’r ysgol. Darllen mwy >

Sesiynau trafod yn amlygu cyfleoedd am ddiwygio pellgyrhaeddol

Cynhaliodd pennaeth Ysgol y Faenol gyfres o sesiynau trafod i staff, gan eu galluogi i amlygu cyfleoedd pellgyrhaeddol i wreiddio pedwar diben diwygio’r cwricwlwm. Mae mentrau sy’n deillio o’r rhain yn cynnwys prosiectau llefaredd, prosiectau dysgu cydweithredol a chryfhau llais y disgybl. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

Datblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm

Addasodd staff yn Ysgol Gynradd Cwmfelinfach ddarpariaeth y cwricwlwm yn frwd er mwyn canolbwyntio’n gliriach ar ddatblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm. Mae hyn wedi cynnwys trosglwyddo medrau o sesiynau TGCh i waith trawsgwricwlaidd, gan gynyddu ymwneud disgyblion â’u cymuned leol, a gweithio ar y cyd ag ysgol gyfagos. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

children and piano

Arsylwi athrawon ac adolygiad o feysydd dysgu a phrofiadau yn ysgogi cwricwlwm cyfoethog

Fe wnaeth trawsnewid y cwricwlwm yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth gymryd dros ddwy flynedd. Gydag arweinyddiaeth angerddol, hunanarfarnu cryf a chynllunio gofalus, mae’r ysgol bellach yn cyflwyno profiadau cwricwlaidd cyfoethog i’w ddisgyblion. Mae’r astudiaeth achos hon yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, gwireddu newid ac arfarnu newid. Darllen mwy >

child and rocket

Esblygu arferion y cyfnod sylfaen yng nghyfnod allweddol 2 yn cynhyrchu cwricwlwm arloesol

Mae dysgu ac addysgu yng nghyfnod allweddol 2 yn adeiladu ar arferion y cyfnod sylfaen yn Ysgol Heulfan. Mae plant yn ffynnu trwy ddarganfod yn annibynnol a thrwy bynciau cyffrous, a hynny wedi’i ategu gan gefnogaeth athrawon a nodau cyffredinol ar draws yr ysgol. Mae’r astudiaeth achos hon yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt ei chynnydd wrth hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, a gwireddu newid. Darllen mwy >

penguins

Llais y disgybl yn arwain y ffordd o ran arfarnu cwricwlwm llwyddiannus

Mae gwaredu ofn bod yn anghywir yn ganolog i ysbrydoli dysgu ac addysgu creadigol yn Ysgol Cynwyd Sant. Yn sgil ffocws cryf ar lais y disgybl, mae’r ysgol gynradd wedi annog staff i arbrofi â ffyrdd gwahanol o gynnig profiadau dysgu gan ddefnyddio cyd-destunau bywyd go iawn. Mae’r astudiaeth achos yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt ei chynnydd wrth hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, a gwireddu newid. Darllen mwy >

Pages