Chwilio

Parent helps child learn

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni a theuluoedd

Penododd Ysgol Gynradd Gymunedol Glenboi Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd i hyrwyddo ymglymiad teuluol, sydd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar agweddau disgyblion at ddysgu a lles. Mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn cynorthwyo rhieni mewn angen ac wedi sefydlu Cyngor Rhieni effeithiol. Mae hyder rhieni i gefnogi dysgu eu plant gartref wedi gwella. Mae cysylltu â theuluoedd wedi rhoi dull llwyddiannus i’r ysgol o gyfleu gwybodaeth bwysig am flaenoriaethau’r ysgol gyda rhieni. Darllen mwy >

Pupils using leadership skills

Datblygu medrau arwain

Caiff disgyblion yn Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig Sant Joseph eu hannog i ymgymryd ag ystod eang o gyfrifoldebau i wella eu medrau arwain. Mae Senedd yr Ysgol yn cynnwys plant o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6. Caiff hyn effaith ar annibyniaeth disgyblion, eu medrau cydweithio a’u hagweddau at ddysgu. Trwy ddatblygu camau gweithredu a fydd yn effeithio ar yr ysgol, mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn datblygu i fod yn unigolion hyderus. Mae’r ymdeimlad hwn o berchnogaeth yn sicrhau eu bod wedi eu cymell ac yn eu helpu i wella eu medrau datrys problemau. Darllen mwy >

Children playing in playground

Diwylliant yr ysgol yn canolbwyntio ar hawliau plant

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw wedi gwreiddio hawliau plant yn ei diwylliant, gan wella lles disgyblion. Mae ymdeimlad o berchnogaeth o’u hysgol gan y disgyblion, ac maent yn cyfrannu at ei gwelliant. Mae ymddygiad disgyblion yn rhagorol ac mae lefel yr ymrwymiad i ddysgu wedi gwella hefyd. Mae hawliau plant wedi dod yn rhan wirioneddol ac ystyrlon o fywyd dyddiol pob disgybl, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn presenoldeb. Darllen mwy >

Children gather around computer

Ysgol yn datblygu llais y disgybl

Mae llais y disgybl yn ganolog i bob agwedd ar fywyd yr ysgol yn Ysgol Dolbadarn. Nod yr ysgol yw i bob disgybl gymryd perchenogaeth ar yr hyn y maent yn ei ddysgu a mynegi eu barn am weithgareddau allgyrsiol. O ganlyniad i hyn, mae disgyblion yn datblygu’u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau yn llwyddiannus. Trwy roi cyfle i ddisgyblion ddweud eu dweud yn rheolaidd am gynnwys eu gwersi, mae tystiolaeth yn dangos bod gan ddisgyblion fwy o ddiddordeb a brwdfrydedd ynghylch eu haddysg, a mwy o berchenogaeth arni. Darllen mwy >

Pupils working together in classroom

Datblygu gwerthoedd personol cryf yn yr ysgol

Caiff disgyblion yn Ysgol Gynradd Coed Efa eu hannog i gymryd rhan mewn grwpiau cyfranogiad disgyblion, sydd wedi eu helpu i ddatblygu gwerthoedd personol cryf. Trwy ymgymryd ag ystod eang o gyfrifoldebau, mae disgyblion wedi gwella eu medrau arwain. Mae’r cynllun wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau ymddygiad a lles, ac mae wedi gwella addysgu a dysgu. Mae disgyblion yn parhau i ddangos cymhelliant a diddordeb gan eu bod yn cael dweud eu dweud ynglŷn â beth maent yn ei ddysgu, a sut. Darllen mwy >

boys writing

Mae’r Awdurdod lleol yn creu gwasanaeth Addysg a Phlant cwbl integredig

Ar ôl i Gyngor Sir Ddinbych greu Gwasanaeth Addysg a Phlant cyfunol, gwelwyd gwelliannau mewn cyfathrebu, cynllunio strategol a defnydd o adnoddau. Mae gweithwyr proffesiynol wedi gallu deall anghenion disgyblion yn well a nodi pobl ifanc sy’n agored i niwed yn gynharach. Mae’r gwasanaeth wedi gwella amgylcheddau dysgu hefyd, a’r cymorth a roddir i unigolion a theuluoedd. Darllen mwy >

Pupils and staff at Brynsierfel Primary

Codi safonau lles ymhlith disgyblion a staff

Mae gan Ysgol Gymraeg Brynsierfel weithdrefn effeithiol ar gyfer olrhain a monitro lles disgyblion yn ddyddiol. Mae’r ysgol yn cynnal sesiynau ymyrraeth i hyrwyddo agweddau cadarnhaol, sy’n galluogi disgyblion i rannu eu pryderon, trafod eu teimladau a gwella eu medrau hunanreolaeth. Mae gwasanaethau yn yr ysgol yn trafod moeswersi, ac mae sesiynau i hyrwyddo perthnasoedd iach a chadarnhaol, yn ogystal â dosbarthiadau i rieni. Mae system ‘Bydis Buarth’ ar waith hefyd i annog disgyblion i gynnwys eu holl gyfoedion mewn gweithgareddau. Darllen mwy >

Cyngor ysgol yn datblygu lles disgyblion ac yn gosod cyfeiriad strategol

Mae Ysgol Beca wedi uno nifer o grwpiau’r cyngor er mwyn helpu i weithio tuag at amlygu meysydd sy’n flaenoriaeth i’r ysgol a’i disgyblion. I ddechrau, casglodd y cyngor farn gan ddefnyddio holiaduron y disgyblion i sefydlu meysydd pryder. Mae dull gweithredu’r cyngor wedi datblygu ymdeimlad o berchenogaeth y disgyblion ar eu hysgol, a’u balchder ynddi. O ganlyniad, mae ymrwymiad a brwdfrydedd disgyblion tuag at fywyd a gwaith yr ysgol yn rhagorol. Darllen mwy >

three girls

Gwella lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu trwy gyfoethogi’r cwricwlwm

A hithau wedi’i hysbrydoli a’i hymrymuso gan y cwricwlwm newydd, mae Ysgol Gynradd Maes yr Haul wedi cyflwyno clybiau amser cinio ac ar ôl ysgol i ehangu’r amrywiaeth o gyfleoedd i ddisgyblion, gan eu hannog nhw i roi cynnig ar weithgareddau newydd i wella lles. Mae’r rhain yn cynnwys dysgu am dyfu planhigion yn y clwb garddio a datblygu medrau meddwl yn y clwb codio. O ganlyniad, mae safonau disgyblion wedi gwella ac mae hyder ac arbenigedd staff wedi datblygu. Darllen mwy >

dysgu

Helpu dysgwyr â’u medrau Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth gyda darpariaeth ychwanegol

Ar gais dysgwyr, mae Dysgu Cymraeg Morgannwg wedi ymestyn eu hamrywiaeth o gyrsiau Cymraeg i helpu datblygu medrau y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau darllen/trafod mewn amrywiaeth o feysydd, a gynhelir yn ystod misoedd yr haf gyda chymorth tiwtoriaid profiadol. Darllen mwy >

Pages