Chwilio

Cynnwys rhieni - Cyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni plant oedran ysgol

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018. Mae’r adroddiad yn astudiaeth Darllen mwy >

Cwricwlwm seiliedig ar fedrau, gyda mwy o gyd-destunau lleol

Mae Ysgol Gynradd Kitchener wedi addasu ei gwricwlwm i ganolbwyntio’n fwy ar yr hyn mae disgyblion eisiau ei ddysgu, gan ddefnyddio cyd-destunau mwy lleol ar gyfer dysgu. Rhoddwyd amserlen hyblyg ar brawf, i alluogi archwilio meysydd yn fanylach a chynnig mwy o her. Mae sesiynau rheolaidd gyda rhieni hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu, a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

laptop

Paru’r cwricwlwm i Gymru â gwerthoedd ysgolion a dyheadau athrawon

Roedd rhoi’r ‘wawffactor’ mewn dysgu yn golygu bod Ysgol Gynradd Llanisien Fach yn annog staff i gymryd risgiau er mwyn datblygu cwricwlwm cyfoethog a chreadigol. Mae’r ysgol eisoes wedi derbyn diwygio ac mae’n hyrwyddo’r gred fod unrhyw beth yn bosibl. Mae’r astudiaeth achos hon yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt ei chynnydd wrth hunanarfarnu, a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

lady and child

Mae hyrwyddo rhieni fel partneriaid yn cefnogi gwelliant ysgol

Mae bore coffi hamddenol rhwng rhieni ac uwch arweinwyr yn un yn unig o blith y strategaethau niferus a fabwysiadwyd gan Ysgol Gynradd Trelewis fel rhan o’i hymgais i ymgysylltu â rhieni. Mae ymglymiad ehangach rhanddeiliaid wedi arwain at ddarlun mwy trylwyr a chywir o berfformiad yr ysgol ei hun. Darllen mwy >

arty collage

Datblygu systemau ysgol gyfan i ysgogi gwelliant cyflym

Mae Ysgol Gymunedol Heolgerrig wedi gwella safonau mewn darllen a phresenoldeb yn ogystal â sicrhau gwelliannau trwy hunanarfarnu gonest a chywir. O ganlyniad i’w thaith i wella, mae’r ysgol wedi dod allan o’r categori mesurau arbennig erbyn hyn ac mae’n perfformio uwchlaw’r cyfartaledd mewn sawl maes. Darllen mwy >

school hall

Creu ysgol feithringar trwy ymagwedd gynhwysol at les

Mae ymagwedd gadarnhaol Ysgol Gynradd Tregatwg at les wedi creu cymuned feithringar lle mae disgyblion yn barod i ddysgu. Darllen mwy >

Galluogi rhieni i gefnogi dysgu eu plant

Mae Ysgol Gynradd Talysarn wedi helpu rhieni i oresgyn rhwystrau o ran cefnogi dysgu eu plant. Mae prosiect arall wedi datblygu medrau dwyieithog disgyblion a’u rhieni. Darllen mwy >

Meithrin partneriaethau effeithiol i wella deilliannau dysgu a lles

Mae Ysgol Gynradd Llanandras wedi meithrin partneriaethau effeithiol â sefydliadau, gan gynnwys cyngor y dref, yr ysgol uwchradd leol a Chymdeithas Alzheimer. Darllen mwy >

St Helens

Ymgysylltu â rhieni i wella presenoldeb disgyblion

Trwy gyfuniad o ddosbarthiadau ar ôl ysgol i ddisgyblion ac ymgysylltu ehangach â theuluoedd, mae staff yn Ysgol Gynradd San Helen wedi gostwng lefel absenoldeb disgyblion ac wedi creu amgylchedd dysgu cynhwysol. Darllen mwy >

Pages