Chwilio

Pupils uses laptop and shows good behaviour

Lleihau ymddygiad heriol trwy strategaeth rheoli cadarnhaol

Mae Ysgol Tŷ Bronllys wedi datblygu ymagwedd ataliol at reoli ymddygiad, gan ganolbwyntio ar y rhesymau dros ddigwyddiad a chyflwyno strategaeth rheoli ymddygiad yn gadarnhaol. Roedd hyfforddiant ar reoli ymddygiad wedi’i integreiddio i gyfnodau sefydlu’r holl staff, ac wedyn rhoddwyd cyfle i ddilyn cymhwyster wedi’i achredu. Rhoddir cynllun cymorth ymddygiad cadarnhaol unigol i ddisgyblion, sy’n rhoi arweiniad ar sut gall staff fodloni eu hanghenion cymorth. Mae hyn wedi cynyddu presenoldeb, cyflawniad academaidd ac wedi gwella lles i’r holl ddisgyblion. Darllen mwy >

Pupils and staff at Brynsierfel Primary

Codi safonau lles ymhlith disgyblion a staff

Mae gan Ysgol Gymraeg Brynsierfel weithdrefn effeithiol ar gyfer olrhain a monitro lles disgyblion yn ddyddiol. Mae’r ysgol yn cynnal sesiynau ymyrraeth i hyrwyddo agweddau cadarnhaol, sy’n galluogi disgyblion i rannu eu pryderon, trafod eu teimladau a gwella eu medrau hunanreolaeth. Mae gwasanaethau yn yr ysgol yn trafod moeswersi, ac mae sesiynau i hyrwyddo perthnasoedd iach a chadarnhaol, yn ogystal â dosbarthiadau i rieni. Mae system ‘Bydis Buarth’ ar waith hefyd i annog disgyblion i gynnwys eu holl gyfoedion mewn gweithgareddau. Darllen mwy >

yoga

Defnyddio ioga i wella safonau ymddygiad a gwella medrau canolbwyntio

Mae sesiynau ioga yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ofalgar ac yn helpu disgyblion i ymlacio, tawelu a chymdeithasu. Mae’r sesiynau hyn wedi gwella medrau canolbwyntio, meithrin gwydnwch ac annog disgyblion i ymroi i ddysgu. Darllen mwy >

group

Ymddygiadau llwyddiannus trwy raglen wobrau

Mae rhaglen wobrau a fu ar brawf yn yr Unol Daleithiau wedi cael ei rhoi ar waith yn ysgol arbennig annibynnol Aran Hall. Mae’r rhaglen wedi helpu mwyafrif y disgyblion i reoli’u hymddygiad eu hunain yn llwyddiannus. O ganlyniad, mae disgyblion bellach yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn trin eraill gydag urddas a pharch. Mae disgyblion wedi dysgu sut i ddefnyddio’r gymuned yn ddiogel, a mynd i’r coleg ac i leoliadau profiad gwaith. Yn sgil hyn, mae disgyblion wedi ennill achrediad perthnasol ar gyfer eu gwaith. Darllen mwy >

Ymateb graddedig hynod effeithiol sy’n hyrwyddo cynhwysiant yn llwyddiannus

Mae Ysgol Coedcae wedi gwneud defnydd effeithiol o fedrau staff i sicrhau bod cymorth targedig i ddysgwyr agored i niwed. Mae ffocws cadarnach ar gynwysoldeb wedi galluogi mwy o ddisgyblion i gynnal eu lle yn yr ysgol heb angen symud wedi’i reoli i ddarparwr arall. Mae sesiynau mentora unigol yn y bore, sesiynau grŵp storïau cymdeithasol a grwpiau darllen carlam pwrpasol, ynghyd â chlybiau anogaeth peth cyntaf yn y bore, yn rhan o strategaeth i feithrin ymddiriedaeth rhwng disgyblion agored i niwed a’r oedolion sy’n weithwyr allweddol iddynt. Darllen mwy >

Cartoon people

Cael yr hinsawdd yn gywir

Mae arweinwyr yn Ysgol Bro Pedr wedi gweithio’n llwyddiannus gyda staff a disgyblion i sefydlu hinsawdd yn yr ysgol sy’n cefnogi addysgu a dysgu effeithiol. Mae athrawon yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw bellach yn gallu canolbwyntio ar addysgu trwy gydol eu gwersi, yn hytrach na threulio amser yn delio â chamymddwyn a thanberfformio. O ganlyniad, mae lles staff a hyder ac ymddygiad disgyblion wedi gwella. Darllen mwy >

school hall

Creu ysgol feithringar trwy ymagwedd gynhwysol at les

Mae ymagwedd gadarnhaol Ysgol Gynradd Tregatwg at les wedi creu cymuned feithringar lle mae disgyblion yn barod i ddysgu. Darllen mwy >

Hendy CS Main.jpg

Elwa ar lais y disgybl i greu strategaethau gwrth-fwlio effeithiol

Addasodd staff a disgyblion yn Ysgol Gynradd Sirol Yr Hendy eu polisïau gwrthfwlio, gan sicrhau amgylchedd dim goddefgarwch lle mae’r holl ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu clywed. Darllen mwy >

Oak Field main.jpg

Gwella deilliannau disgyblion trwy ddarpariaeth anogaeth hynod effeithiol

Mae’r ystafell anogaeth, emosiynol, lles a medrau yn Ysgol Gynradd Oak Field yn sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fod yn barod i ddysgu. Darllen mwy >

young boy

Dull cydweithredol o gefnogi ymddygiad cadarnhaol

Bu Ysgol y Gogarth yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i fabwysiadu a datblygu dull o gefnogi ymddygiad sy’n seiliedig ar athrawon, dadansoddwyr ymddygiad a gweithwyr proffesiynol eraill yn gweithio gyda’i gilydd yn agos. Y nod yw addysgu disgyblion ynglŷn â’r medrau sydd eu hangen i gyrraedd eu llawn botensial a lleihau rhwystrau rhag dysgu. Darllen mwy >

Pages