Chwilio

Children in fancy dress

Asesu ar gyfer Dysgu a medrau meddwl

Mae Ysgol Gynradd Gaer wedi codi safonau i ddysgwyr trwy sefydlu gweithdrefnau ‘asesu ar gyfer dysgu’. Mae’r rhain wedi cael effaith sylweddol o ran newid y diwylliant mewn ystafelloedd dosbarth. Trwy ddefnyddio hetiau lliw, mae disgyblion yn asesu eu hunain a’u cyfoedion. Mae’r broses hon wedi helpu disgyblion i atgyfnerthu eu dysgu trwy esbonio syniadau i bobl eraill. Darllen mwy >

Cyngor ysgol yn datblygu lles disgyblion ac yn gosod cyfeiriad strategol

Mae Ysgol Beca wedi uno nifer o grwpiau’r cyngor er mwyn helpu i weithio tuag at amlygu meysydd sy’n flaenoriaeth i’r ysgol a’i disgyblion. I ddechrau, casglodd y cyngor farn gan ddefnyddio holiaduron y disgyblion i sefydlu meysydd pryder. Mae dull gweithredu’r cyngor wedi datblygu ymdeimlad o berchenogaeth y disgyblion ar eu hysgol, a’u balchder ynddi. O ganlyniad, mae ymrwymiad a brwdfrydedd disgyblion tuag at fywyd a gwaith yr ysgol yn rhagorol. Darllen mwy >

children in classroom

Cabinet Disgyblion yn hybu annibyniaeth ac yn cefnogi bywyd ysgol

Mae Cabinet o ddisgyblion, gyda chynrychiolwyr o’r cyngor ysgol a phwyllgorau eraill, yn rhannu gwybodaeth yn llwyddiannus ac yn arwain mentrau ar draws yr ysgol. Mae cofnodion pwrpasol yn helpu i osod targedau effeithiol ar gyfer pob tymor. Yn gyffredinol, gwelwyd gwelliant cadarnhaol yn annibyniaeth disgyblion. Darllen mwy >

children doing crafts

Datblygu medrau a brwdfrydedd disgyblion tuag at ddysgu, trwy gynllunio ac addysgu creadigol

Mae Ysgol Gynradd Rhosybol wedi datblygu medrau ac annibyniaeth disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 trwy gynllunio ac addysgu’n fwy creadigol. Rhannwyd disgyblion yn grwpiau yn unol â’u gallu i gwblhau tasgau, trwy gydol yr wythnos. Roedd asesu a monitro dilyniant wedi cynnwys ffilmio dan arweiniad disgyblion, ar ffurf ‘blog fideo’. Darllen mwy >

bethesta

Mae lleisiau disgyblion o bwys

Mae Ysgol Pen-y-bryn yn annog disgyblion i leisio eu barn am yr ysgol mewn cyfarfodydd rheolaidd. Mae grwpiau o ddisgyblion yn trafod ac yn rhannu’r blaenoriaethau penodol sydd eu hangen i wella meysydd yn yr ysgol. O ganlyniad, mae medrau llythyrennedd, rhifedd a TGCh disgyblion wedi datblygu. Darllen mwy >

children at desk

Ymdrechu am ddysgu annibynnol i bob disgybl

Nododd Ysgol Plascrug fod y broses hunanarfarnu ar gyfer annibyniaeth ei dysgwyr yn hanfodol i ddatblygiad llwyddiannus y newidiadau arfaethedig i’r cwricwlwm. Mae’n sicrhau bod disgyblion yn berchen ar eu dysgu, a datblygwyd ‘Wythnosau Arloesi’ ar sail pynciau a awgrymwyd gan ddisgyblion. Roedd yr wythnosau hyn yn galluogi dysgwyr i fireinio eu prosesau sydd wrth wraidd pob profiad dysgu. Darllen mwy >

Cynllunio’r cwricwlwm i sicrhau profiadau creadigol i ddisgyblion

Wrth adolygu’r cwricwlwm, penderfynodd Ysgol y Dderi addasu ei chynllunio er mwyn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm. Mae staff a disgyblion yn cyfrannu ar y cyd ac maent yn hyblyg i newid. Mae ymwelwyr â’r ysgol wedi ysbrydoli a chyfoethogi cyfleoedd dysgu. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, a gwireddu newid. Darllen mwy >

Cwricwlwm seiliedig ar fedrau, gyda mwy o gyd-destunau lleol

Mae Ysgol Gynradd Kitchener wedi addasu ei gwricwlwm i ganolbwyntio’n fwy ar yr hyn mae disgyblion eisiau ei ddysgu, gan ddefnyddio cyd-destunau mwy lleol ar gyfer dysgu. Rhoddwyd amserlen hyblyg ar brawf, i alluogi archwilio meysydd yn fanylach a chynnig mwy o her. Mae sesiynau rheolaidd gyda rhieni hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu, a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

Gweithgareddau creadigol ac ysgogol trwy ddiwrnodau trochi disgyblion

Datblygodd uwch arweinwyr gynllun ar gyfer dysgu proffesiynol, gan alluogi staff i ymgymryd ag ymchwil ryngwladol i’r cwricwlwm. Bellach, mae’r holl staff yn gallu monitro, arfarnu ac adolygu newidiadau i’r cwricwlwm a chymryd rhan weithgar mewn cynllunio ar y cyd ar gyfer newid. Fel rhan o’r newidiadau hyn, mae diwrnodau trochi disgyblion yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau creadigol ac ysgogol, ac yn ystod pontio, mae pob disgyblion yn creu mapiau meddwl o’u diddordebau a meysydd ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu, a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

Pages