Chwilio

Pupils playing together while Teacher observes

Ysgol yn datblygu profiad dysgu arloesol i ddisgyblion

Mae Ysgol Gynradd Cogan wedi gwella safonau a lles drwy’r ysgol gyfan. Mae ei diwylliant dysgu wedi rhoi’r hyder i staff rannu dulliau sy’n arwain at gyfleoedd dysgu gwell i ddisgyblion. Mae menter ‘bydis’ yn galluogi disgyblion i rannu eu gwaith a thrafod eu mwynhad wrth ddysgu. Mae hefyd yn darparu ffynhonnell effeithiol o fonitro anffurfiol i athrawon. Darllen mwy >

rainbow

Dathlu amrywiaeth er mwyn cefnogi disgyblion gwybodus, cyfrifol a goddefgar

Mae Ysgol Gynradd Clytha yn annog disgyblion i wneud penderfyniadau, bod yn chwilfrydig a meddwl yn annibynnol trwy herio stereoteipiau yn agweddau, dewisiadau, disgwyliadau a chyflawniadau disgyblion. Mae’r ysgol wedi datblygu cysylltiadau hynod effeithiol gydag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Stonewall Cymru, Athletwyr Paralympaidd a Chymru dros Heddwch i gefnogi datblygiad personol disgyblion. Mae’r ysgol yn defnyddio ymwelwyr o’r gymuned a thu hwnt i gael pob disgybl i fyfyrio ar eu gwerthoedd. Mae hyn wedi rhoi’r grym i ddisgyblion ddatblygu fel dinasyddion gwybodus, cyfrifol a goddefgar yn llwyddiannus iawn. Darllen mwy >

Hands

Gosod hawliau’r plentyn wrth wraidd datblygu’r cwricwlwm

Mae Ysgol Gynradd Hafod yn datblygu dyheadau disgyblion trwy werthoedd cyffredin, gan gynnwys cariad, symlrwydd a goddefgarwch. Mae disgyblion, sy’n dod o lawer o gefndiroedd amrywiol, yn dysgu trwy gwricwlwm arloesol sy’n defnyddio adnoddau lleol ac yn canolbwyntio ar y celfyddydau creadigol i wella medrau. Mae’r astudiaeth achos hon yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt ei chynnydd wrth hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, a gwireddu newid. Darllen mwy >

LLanfaes School Main.jpg

Creu ymwybyddiaeth o ddementia trwy ryngweithio â disgyblion ac estyn allan i’r gymuned

Er 2014, mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes wedi cydweithio â chartref gofal cyfagos i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith ei disgyblion. Mae nod yr ysgol i greu cenhedlaeth sy’n deall dementia wedi cael ei gydnabod gan sefydliadau elusennol a Llywodraeth Cymru. Darllen mwy >

Hendy CS Main.jpg

Elwa ar lais y disgybl i greu strategaethau gwrth-fwlio effeithiol

Addasodd staff a disgyblion yn Ysgol Gynradd Sirol Yr Hendy eu polisïau gwrthfwlio, gan sicrhau amgylchedd dim goddefgarwch lle mae’r holl ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu clywed. Darllen mwy >

Adolygiad o addysg perthnasoedd iach

Mae’r adroddiad yn arfarnu ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer addysg perthnasoedd iach mewn ysgolion yng Nghymru. Mae’n nodi strategaethau i gefnogi ysgolion i wella darpariaeth a deilliannau ar gyfer disgyblion. Mae cyfres o astudiaethau achos arfer orau yn dangos y modd y mae ysgolion yn cefnogi disgyblion yn llwyddiannus i ddatblygu a chynnal perthnasoedd iach. Darllen mwy >

Adolygiad o Addysg Perthnasoedd Iach - Deunydd hyfforddiant

Mae'r cyflwyniad PowerPoint hwn yn ffordd i ddarparwyr rhannu brif ganfyddiadau'r adroddiad a adolygu eu perfformiad eu hunain mewn maes thematig penodol. Mae'r cyflwyniadau yn crynhoi'r adroddiad ac yn cynnwys cyfres o gwestiynnau gall darparwyr ystyried wrth edrych i wella. Darllen mwy >

Severn (aspirations) - main picture

Darganfod ffyrdd newydd o ehangu profiadau disgyblion

Mae staff yn Ysgol Gynradd Severn yn chwilio’n gyson am ffyrdd newydd o ehangu gorwelion a dyheadau disgyblion. Caiff dysgu ei gyfoethogi trwy ymweliadau allanol ac ymwelwyr â’r ysgol. Darllen mwy >

Creu amgylchedd dysgu diddorol

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Monkton Priory yn 'ffenestr i'r byd' ar gyfer ei disgyblion ac yn ganolog i gymuned ddysgu sy'n seiliedig ar gydraddoldeb, parch a gwneud eich gorau. Darllen mwy >

Adolygiad o Gynlluniau Cydraddoldeb Anabledd ac arfer mewn ysgolion ac unedau cyfeirio - Mehefin 2011

Mae gwelliant nodedig wedi bod yn y cymorth a’r gefnogaeth a roddir i ddisgyblion ag anableddau mewn ysgolion prif ffrwd ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yn mynd i’r afael â chydraddoldeb anabledd yn well. Ond, mae ysgolion arbennig yn well yn cael gwared ar rwystrau i ddisgyblion ag anableddau na’r rhan fwyaf o ysgolion prif ffrwd ac unedau cyfeirio disgyblion. Darllen mwy >

Pages