Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Cefnogi lles a dysgu yn ystod COVID-19 – dulliau o golegau addysg bellach

Diweddarwyd y dudalen hon ar 20/08/2021

Rydym ni’n rhannu cipolygon bras i’r modd y mae colegau addysg bellach yn cefnogi eu dysgwyr a’u cymuned wrth ymateb i’r amgylchiadau anodd o ganlyniad i COVID-19.

Mae llawer o golegau addysg bellach yn sefydliadau mawr ar sawl safle sy’n cwmpasu ardal ddaearyddol eang.  Mewn amgylchiadau arferol, mae colegau’n defnyddio amgylcheddau gwaith realistig yn y coleg, fel salonau gwallt a harddwch, tai bwyta hyfforddi neu weithdai cerbydau modur a pheirianneg.

Ysgrifennwyd y dulliau hyn yn dilyn galwad ymgysylltu, ac maent yn adlewyrchu’r sefyllfa ar yr adeg honno.

Efallai y gall colegau addysg bellach addasu’r rhain yn unol â’u cyd-destun eu hunain.

Mae’r cipolygon hyn yn dangos sut gwnaeth colegau addysg bellach gefnogi eu dysgwyr yn ystod y pandemig. Darganfyddwch sut gwnaethon nhw flaenoriaethu lles ac iechyd meddwl, a sicrhau cadw pellter cymdeithasol ar y campws.

Hysbysu pawb

Mewn un coleg, mae arweinwyr yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar gyfer unrhyw un sydd â chwestiynau neu bryderon am COVID-19 mewn ardal wedi’i dynodi’n glir ar wefan y coleg. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys dolenni cyfleus â chanllawiau’r llywodraeth, yn ogystal ag esbonio sut mae’r coleg yn parhau i weithredu yn ystod y cyfnod clo. Mae’r coleg wedi postio arweiniad ychwanegol ar ei safle i gefnogi ei bolisi diogelu a’i god dinasyddiaeth i adlewyrchu’r amgylchiadau eithriadol a’r ffyrdd diwygiedig o weithio.  Mae’n cynnwys manylion clir yn ymwneud ag ailagor ei gampysau yn raddol o 15 Mehefin 2020 i ymateb i ganllawiau diweddaraf y llywodraeth. Mae’r holl wybodaeth ar gael yn ddwyieithog, ac mae cyfleuster sgwrsio byw yn weithredol yn ystod oriau coleg arferol i helpu ateb unrhyw ymholiadau neu bryderon.

Darpariaeth ddigidol arloesol

Mae athrawon mewn un coleg yn parhau i ddarparu gweithgareddau dysgu a chymorth i ddysgwyr trwy ddefnyddio dulliau arloesol a gyflwynir trwy amrywiaeth o blatfformau ar-lein a chymwysiadau symudol. Mae enghreifftiau’n cynnwys athrawon yn creu eu fideos a’u podlediadau eu hunain, postio adnoddau fideo ar flogiau, sefydlu ystafelloedd dosbarth rhithwir i alluogi cydweithio a rhyngweithio â dysgwyr, a defnyddio blogiau i rannu enghreifftiau diddorol o waith dysgwyr. Crëwyd ardal gymunedol ar-lein hefyd i athrawon rannu enghreifftiau o arfer arloesol ac effeithiol gyda’u cydweithwyr.

Tîm cefnogi lles

Mae staff mewn un coleg yn cynnal cymorth ar gyfer lles ac iechyd meddwl myfyrwyr trwy ddefnyddio amrywiaeth o fecanweithiau ymgysylltu yn ystod y cyfnod pan na fydd cyfleusterau ar y campws ar gael. Mae dulliau cysylltu a chymorth yn cynnwys galwadau ffôn a fideo, negeseuon testun, e-bost, negeseuon ar-lein trwy blatfformau dysgu amrywiol, a sgwrsio byw rhithwir sydd ar gael trwy’r wefan a chymwysiadau symudol. Mae tîm o 20 swyddog lles yn ymweld â chartrefi dysgwyr hefyd i wirio ar eu lles, pan na fu ffurfiau eraill o gysylltu yn llwyddiannus nac yn briodol. Maen nhw hefyd wedi dosbarthu parseli bwyd ac offer TG i’r rhai sydd fwyaf angen cymorth ychwanegol. Mae’r coleg yn dosbarthu tua 300 o barseli bwyd yr wythnos, ac wedi rhoi benthyg dros fil o ddarnau o offer hyd yma. Mae ardal lles newydd ar-lein sy’n cynnwys dolenni i weithgareddau fel ioga a thechnegau myfyrio wedi cael ei chreu yn ystod y cyfnod clo hefyd i helpu hyrwyddo a chefnogi lles dysgwyr a staff.

Cefnogi anghenion unigol

Mewn un coleg, mae staff cymorth wedi llunio a diweddaru cynlluniau cymorth unigol ar gyfer yr holl ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn ôl asesiad, i adlewyrchu ffyrdd newydd o weithio yn ystod y cyfnod clo. Caiff gweithredu a gwerthuso’r cynlluniau hyn ei oruchwylio gan gydlynydd ADY y coleg. Rhoddwyd cymorth un i un i ddysgwyr trwy alwad ffôn neu fideo i’w cynorthwyo â chwblhau eu gwaith.  Mae anogwyr dysgu yn rhoi arweiniad a chymorth ychwanegol i ddysgwyr a staff yn ôl yr angen. Mae defnyddio galwadau fideo wedi bod yn hynod fuddiol ar gyfer y dysgwyr hynny sydd angen cymorth gweledol â’u dysgu.

Annog adborth gan ddysgwyr

Cyflwynodd un coleg arolwg i ddysgwyr ychydig cyn cyhoeddi’r cyfnod clo, a chyflwynodd ddysgu o bell yn lle darpariaeth ar y campws. Er gwaethaf y tarfu sydyn hwn ar weithgareddau dysgu, roedd y gyfradd ymateb i’r arolwg yn agos at ddisgwyliadau arferol. Er mwyn cael adborth ar effaith y trefniadau newydd ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm ac effeithiolrwydd mecanweithiau cymorth parhaus, mae’r coleg wedi penderfynu parhau â chyfarfodydd rheolaidd cyngor y campws a chynrychiolwyr dysgwyr, ac mae bellach yn cynnal y rhain o bell trwy ddefnyddio platfformau rhithwir tra bydd campysau’r coleg ar gau. Mae’r cyfarfodydd hyn yn darparu cyfleoedd pwysig i ddysgwyr roi adborth a chodi unrhyw bryderon am effeithiolrwydd y trefniadau newydd, a gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella, yn ogystal. Mae gweithdrefnau presennol ar gyfer adborth a chwynion unigol yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn hefyd, ac mae tiwtoriaid personol yn defnyddio galwadau ‘gwirio’ rheolaidd i gasglu adborth ychwanegol.

Gwneud dilyniant yn hawdd

Gall dysgwyr presennol mewn un coleg fanteisio’n hawdd ar gyngor a chyfleoedd dilyniant yn ystod y cyfnod clo. Yn hytrach na gorfod gwneud cais ar gyfer lefel nesaf eu cwrs, anfonir gwahoddiad at ddysgwyr trwy’r e-bost a neges destun i ddod i’r coleg am gyfweliad dilyniant. Gall dysgwyr sydd eisiau symud ymlaen i ddilyn cwrs gwahanol yn y coleg gwblhau cais ar-lein er mwyn sicrhau lle amodol ar y cwrs cyn cyfweliad yn ddiweddarach yn yr haf. Agorwyd hyb cyflogaeth y coleg o ganol mis Gorffennaf hefyd i ddarparu cymorth wyneb yn wyneb, a chyngor ar ddilyniant.

Cefnogi pontio i’r coleg

Mae un coleg wedi gweithio i gefnogi pontio ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11 o’i ysgolion uwchradd partner. Mae wedi cysylltu â’r ysgolion ac wedi ymateb i geisiadau i helpu darparu ffocws ar ddilyniant i ddisgyblion Blwyddyn 11 ar gyfer parhau â’u hastudiaethau. Mae’r gweithgareddau a ddarperir wedi eu teilwra i hwyluso dilyniant ar bynciau lefel UG unigol fel economeg, y gyfraith, Addysg Grefyddol a chemeg. Mae’r coleg wedi darparu mynediad i’w amgylchedd dysgu rhithwir i alluogi dysgwyr i elwa ar yr adnoddau hyn.

Cynghorion ar gyfer athrawon

Mae un coleg wedi creu canllaw ar gyfer athrawon, yn amlinellu ei ddeg prif brotocol ar gyfer dysgu o bell. Mae’r llyfryn wedi’i gynllunio i helpu athrawon i weithio’n dda, gweithio’n ddiogel a chreu cymuned ddysgu gadarnhaol.  Mae cynghorion ar gyfer athrawon yn cynnwys datblygu cod ymddygiad dosbarth, sefydlu amseroedd yn ystod yr wythnos pan fydd athrawon ar gael i ateb cwestiynau, a syniadau ar sut i annog dysgu ar y cyd ar-lein. Hefyd, mae’r canllaw yn cynnig cyngor i staff ar sut i ddatblygu gweithgareddau i ymestyn a herio dysgwyr ar sut i ddelio ag iaith amhriodol neu ymddygiad gwael yn ystod sesiynau ar-lein.

Cryfhau cyfathrebu mewnol

Fe wnaeth un coleg adolygu a chryfhau ei weithdrefnau cyfathrebu yn dilyn gosod cyfyngiadau’r cyfnod clo. Mae uwch arweinwyr yn darparu diweddariadau rheolaidd i staff ar bolisi, iechyd a lles trwy gylchlythyr wythnosol. Erbyn hyn, cynhelir cyfarfodydd staff a chyfarfodydd tîm ar-lein, ac mae rheolwyr yn ymgysylltu â staff dros y ffôn neu drwy blatfformau ar-lein. Defnyddiwyd flogiau hefyd i rannu diweddariadau fideo defnyddiol, a chynhaliwyd arolwg lles staff i wirio sut mae staff yn teimlo yn ystod y cyfnod clo, a rhoi cyfle iddyn nhw awgrymu camau ar gyfer gwella lles staff a dysgwyr.

Gwneud campysau’n ddiogel

Mae uwch arweinwyr mewn un coleg wedi ymweld â phob un o gampysau’r coleg i wneud yn siŵr fod yr holl drefniadau cadw pellter cymdeithasol a diogelwch angenrheidiol wedi cael eu rhoi ar waith drwyddi draw. Mae trefniadau’n cynnwys marciau ar lawr ar gyfer cadw pellter cymdeithasol, a seiliwyd i ddechrau ar yr arweiniad dau fetr, ac a gynlluniwyd fel bod modd eu haddasu’n hawdd i adlewyrchu unrhyw newidiadau dilynol mewn arweiniad; systemau unffordd ar gyfer cyrraedd, gadael a symud o gwmpas campysau ble bynnag y bo modd; ac ardaloedd wedi’u hynysu ar gyfer gollwng a chasglu dysgwyr ar ddechrau a diwedd y diwrnod coleg. Mae’r coleg wedi trefnu bod mygydau, menyg, gel diheintio dwylo ac unrhyw offer amddiffynnol personol angenrheidiol arall ar gael, lle bo’n briodol. Rhoddwyd sylw penodol hefyd i wneud yn siŵr bod rheolau cadw pellter cymdeithasol digonol yn cael eu cynnal ar gyfer staff, a bod ardaloedd ymarferol fel gweithdai, labordai a salonau yn ddiogel rhag COVID-19.

Croesawu dysgwyr yn ôl

Yn dilyn y trefniadau cychwynnol i lacio’r cyfnod clo o ddiwedd mis Mai 2020, mae un coleg wedi ailddechrau gwaith adeiladu ar ddau gampws, ac mae staff wedi dychwelyd yn raddol i gampysau’r coleg. Mae arweinwyr wedi defnyddio protocolau cenedlaethol i sicrhau trefniadau gweithio diogel o ran COVID-19 mewn colegau i roi’r trefniadau angenrheidiol ar waith, sydd wedi galluogi’r rhan fwyaf o staff i ddychwelyd i gampysau’r coleg yn ystod mis Mehefin 2020. Maent wedi diweddaru’r holl asesiadau risg i gynnwys materion yn gysylltiedig â COVID-19, ac mae’r coleg wedi croesawu dros 250 o ddysgwyr, ar draws sawl maes galwedigaethol, yn ôl i’r coleg yn ystod tair wythnos gyntaf ailagor cyfleusterau’r coleg yn raddol i gwblhau eu cymwysterau trwy gynnal asesiadau ymarferol hanfodol. 

Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Mewn un coleg, cynhaliwyd arolwg o ddysgwyr a staff i gael adborth ar eu profiadau yn ystod y cyfnod clo, a helpu llywio cynllunio ar gyfer cyflwyno dysgu yn y dyfodol a threfniadau gweithio staff wrth i gyfyngiadau gael eu llacio’n raddol. Y negeseuon allweddol gan ddysgwyr yw eu bod yn gweld eisiau eu ffrindiau, eu tiwtoriaid ac amgylchedd y coleg. Er bod llawer o ddysgwyr yn dweud eu bod yn ymdopi’n dda â chyflwyno o bell, mae lleiafrif ohonynt yn cyfaddef eu bod weithiau yn ei chael yn anodd cynnal cymhelliant a chynnal ymgysylltiad mewn gweithgareddau dysgu o bell. Mae ychydig o staff yn awgrymu yr hoffent barhau i weithio o gartref.  Mae arweinwyr y coleg yn defnyddio’r adborth i greu cynlluniau manwl, a fyddai’n cwmpasu ystod o senarios cenedlaethol a lleol a allai ddigwydd pan fydd y flwyddyn addysgu newydd yn dechrau ym mis Medi 2020, ac y gellir eu haddasu yn unol â nhw.