Arweiniad atodol: cyflwr y sbectrwm awtistiaeth (CSA)


Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru.  Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:

  • ysgolion a safleoedd meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
  • ysgolion cynradd
  • ysgolion uwchradd
  • ysgolion pob oed
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol
  • addysg bellach
  • colegau arbenigol annibynnol
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • addysg a hyfforddiant athrawon
  • Cymraeg i oedolion
  • dysgu yn y gwaith
  • dysgu yn y sector cyfiawnder

Rydym hefyd:         

  • yn adrodd i Senedd Cymru ac yn darparu cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
  • yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu

Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi.  Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:

Yr Adran Gyhoeddiadau

Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan:  www.estyn.llyw.cymru

Hawlfraint y Goron 2021:  Gellir ailddefnyddio’r adroddiad hwn yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei ailddefnyddio’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.  Rhaid cydnabod y deunydd fel hawlfraint y Goron a rhaid nodi teitl yr adroddiad/y cyhoeddiad penodol.

Ynglŷn â’r arweiniad hwn

Arweiniad atodol

Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Fodd bynnag, rydym yn llunio arweiniad atodol hefyd i helpu arolygwyr i ystyried ymhellach agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant. 

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector yr ydym yn ei arolygu, oni bai eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).       

Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.    

Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i ennill dealltwriaeth o’n trefniadau arolygu hefyd. Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran gwerthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.   

Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:

  • Bydd arolygwyr yn mynd ati i arolygu gyda meddylfryd cadarnhaol, i sicrhau mai’r profiad dysgu proffesiynol gorau posibl fydd hwn ar gyfer y staff ym mhob darparwr  
  • Bydd arolygwyr yn arolygu ar sail dull sy’n cael ei arwain gan y dysgwr
  • Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
  • Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol, graff  
  • Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, cyhyd â phosibl  
  • Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymateb i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac yn defnyddio’r ystod gynyddol o offer a dulliau arolygu sydd ar gael  
  • Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr  

Rydym wedi ymgynghori â Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru er mwyn datblygu’r arweiniad hwn.


Cyflwyniad

Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adrannau canlynol yn ychwanegu at y wybodaeth yn yr arweiniad atodol ar anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’r wybodaeth sy’n dilyn yn benodol i angen dysgu ychwanegol ac/neu anabledd. 

Bydd yr arolygydd cofnodol yn ymwybodol o’r proffil ADY mewn ysgol, a bydd yn trefnu darpariaeth addas yn ystod yr arolygiad er mwyn gwneud yr ymholiadau dilynol. Mae angen i holl aelodau’r tîm arolygu fod yn ymwybodol o’r ystyriaethau cyffredinol ar gyfer arfer ystafell ddosbarth effeithiol a dylent farnu effeithiolrwydd safonau disgyblion a’r addysgu mewn perthynas â chynlluniau addysg unigol (CAUau), cynlluniau datblygu unigol (CDUau) neu ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig disgyblion.

Hefyd, dylai arolygwyr ystyried cyngor i leoliadau addysgol o ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gyflwr y sbectrwm awtistiaeth yn ‘Cymorth i Blant a Phobl Ifanc sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig mewn Lleoliadau Addysgol’ (Llywodraeth Cymru, Hawlfraint y Goron, Ionawr 2019): https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-01/ffyrdd-o-gefnogi-dysgwyr-ag-anhwylder-ar-y-sbectrwm-awtistig-asd.pdf  

Rydym wedi defnyddio’r term ‘anghenion dysgu ychwanegol’ yn yr arweiniad hwn, ond rydym yn cydnabod y gellir defnyddio ‘anghenion addysgol arbennig’ yn y cyd-destun hwn hefyd yn ystod cyfnod gweithredu’r diwygiadau. 

Diffiniadau

  • Mae Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth (CSA) yn anhwylder datblygiadol treiddiol sy’n cael ei nodweddu gan ddiffygion mewn rhyngweithio a chyfathrebu cymdeithasol a chan ymddygiad cyfyngedig ac ailadroddus, gan gynnwys gwahaniaethau synhwyraidd, sy’n cyfyngu neu’n amharu ar weithrediad bob dydd.  (Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders 5th edition DSM-V, 2013)
  • Mae CSA yn ddiagnosis meddygol ac argymhellir asesiad yn y ddogfen gan NICE (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal) ‘Autism Spectrum Disorder in under 19s: recognition, referral and diagnosis’ (Medi 2011, diweddarwyd Rhagfyr 2017 rhan 1.1.3) i’w gynnal gan grŵp amlddisgyblaethol neu ‘dîm awtistiaeth’, gan gynnwys fel y grŵp craidd, pediatregydd neu seiciatrydd y glasoed, therapydd lleferydd ac iaith a seicolegydd clinigol neu addysg.
  • Mae termau eraill am Gyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth yn cynnwys ‘anhwylder y sbectrwm awtistiaeth’, ‘ASA’, ‘bod ar y sbectrwm’ neu ‘awtistiaeth’. Mae’n debygol y bydd arolygwyr yn gweld amrywiad yn y termau a ddefnyddir mewn gwahanol ddarparwyr.  Dylai arolygwyr ddefnyddio’r term CSA neu gyfeirio at ddisgyblion / dysgwyr / plant awtistig, pa bynnag un sydd fwyaf perthnasol.
  • Mae cyflwr y sbectrwm awtistiaeth yn anabledd cydnabyddedig fel y dosberthir yn y Swyddfa dros Faterion Pobl Anabl: Deddf Cydraddoldeb 2010 Llywodraeth EM.  Fodd bynnag, nid oes anableddau dysgu cysylltiedig gan ddysgwyr â CSA bob amser.
  • Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod gan 1 ym mhob 68 o ddysgwyr CSA, neu o bosibl 1 ym mhob dosbarth ysgol gynradd sydd â chofrestriad dosbarth deuol, neu tua 3 mewn grŵp blwyddyn ysgol uwchradd o 200 o ddysgwyr (Canolfan Wybodaeth y GIG, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, Brugha, T. et al (2012). Estimating the prevalence of autism spectrum conditions in adults: extending the 2007 Adult Psychiatric Morbidity Survey. Leeds: Canolfan Wybodaeth y GIG ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol). Mae gan ddysgwyr â CSA gyfradd uchel o anawsterau cydafiach; hynny yw, efallai bod ganddynt anghenion ychwanegol eraill hefyd, neu efallai eu bod wedi cael diagnosis fod ganddynt anawsterau cydsymud datblygiadol (DCD), hypersymudedd, dyslecsia neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ymhlith cyflyrau eraill.                     
  • Mae gan hyd at 29% o ddysgwyr â CSA anhwylder gorbryder cymdeithasol cydafiach, mae gan 28% ohonynt ADHD cydafiach, mae 84% yn bodloni’r meini prawf ar gyfer o leiaf un anhwylder gorbryder arall, ac mae gan 70% ohonynt anhwylder cydafiach (Rosenblatt, M 2008. I Exist: the message from adults with autism in England. London: The National Autistic Society, tud.3).
  • Mae’n bwysig cydnabod bod dysgwyr â CSA ar ‘sbectrwm’, ac o’r herwydd, mae ganddynt anawsterau amrywiol ac anghenion dysgu gwahanol iawn. Mae gan ryw hanner y dysgwyr â CSA anhawster dysgu cysylltiedig tra bod dysgwyr eraill yn rhagori’n academaidd ond yn gallu cael anawsterau dwysach o ran rhyngweithio a chyfathrebu cymdeithasol.
  • Anhwylder cyfathrebu yw CSA, felly, gallai dysgwyr ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu, gan gynnwys symbolau gweledol a ffotograffau, gwrthrychau cyfeirio go iawn, systemau cyfnewid lluniau, dyfeisiau a thechnolegau cynhyrchu lleferydd neu iaith arwyddion Makaton.
  • Bydd pum gwaith yn fwy o ddynion â menywod yn cael diagnosis â CSA; fodd bynnag, mae gwaith ymchwil presennol yn awgrymu bod nifer y merched sydd wedi cael diagnosis o CSA yn hanesyddol, wedi cael ei danamcangyfrif, o ganlyniad i amlygu angen gwahanol.

Meysydd arolygu

Maes arolygu 1: Dysgu

Ystyriaethau cyffredinol o ran deilliannau ar gyfer dysgwyr â CSA.

A yw disgyblion…?

  • Yn gallu dilyn cyfarwyddiadau staff â’r adnoddau priodol?
  • Yn datblygu eu medrau, gan gynnwys gallu gweithio’n fwy annibynnol, yn unol â’u hanghenion a’u galluoedd?
  • Yn datblygu o ran hyder ac yn dod yn ddyfeisgar o ran cefnogi eu dysgu eu hunain?
  • Yn gallu cymryd rhan mewn deialog ystyrlon gyda staff a disgyblion eraill, yn unol â’u hanghenion cyfathrebu?
  • Yn gallu adnabod a ydynt wedi cyflawni amcanion dysgu?
  • Yn datblygu’r gallu i gyfathrebu i ddiwallu eu hanghenion a mynegi barn rydd neu o blith ystod o ddewisiadau?
  • Yn datblygu medrau cymdeithasol o fannau cychwyn unigol?

Maes arolygu 2: Lles ac agweddau at ddysgu

Ystyriaethau cyffredinol o ran deilliannau effeithiol i ddisgyblion â CSA

A yw disgyblion…?

  • Yn cael cyfleoedd rhesymol i ymdawelu a hunanreoleiddio os byddant yn orbryderus?
  • Yn gallu rhyngweithio â strategaethau i aros yn ddiogel neu adfer cyflwr pwyllog?
  • Yn gallu cymryd rhan mewn ystod o gyfleoedd allgyrsiol a chyfleoedd llais y disgybl?
  • Wedi eu cymell ac yn ymgysylltu â thasgau o ganlyniad i feini prawf llwyddiant wedi’u cyfleu yn glir?
  • Yn gallu datblygu eu gallu dros gyfnod i ymgymryd yn well â thasgau?
  • Yn gallu rheoli trosglwyddiadau rhwng tasgau, gwersi ac amgylcheddau?
  • Yn gallu cynnal eu disgwyliadau uchel eu hunain neu bobl eraill o ymddygiad ac ymgysylltiad, yn unol â’u gallu?
  • Yn gallu defnyddio amrywiaeth o ddulliau cofnodi mewn tasgau er mwyn cyflawni deilliannau gwersi?
  • Yn gallu myfyrio ar eu cynnydd a’u datblygiad dros gyfnod?

Syniadau buddiol ar gyfer hyrwyddo lles disgyblion, a’u hagweddau at ddysgu

Gall defnyddio dull effeithiol o gyfathrebu’n rheolaidd â rhieni neu ofalwyr helpu cynnal lles disgyblion a’u parodrwydd i ddysgu yn llwyddiannus. Gall safleoedd a chymwysiadau rhyngweithiol ar-lein, sesiynau adborth wythnosol wyneb yn wyneb neu mewn ffurf ysgrifenedig mewn llyfr ‘cartref-ysgol’ gynorthwyo cyswllt agos yn y cynllunio ar gyfer dysgwyr â CSA.

Gall ymgysylltiad y dysgwyr eu hunain â dulliau cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn eu helpu i roi mewnbwn i’r hyn sy’n bwysig ac sy’n gweithio iddyn nhw, er enghraifft wrth greu proffil un dudalen neu fel rhan o’u CAU, CDU neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig.  

Gall fod yn fuddiol caniatáu ar gyfer seibiannau cymdeithasol ar adegau anstrwythuredig pan fydd dysgwyr â CSA yn gweld y gofynion cymdeithasol yn heriol. Gall defnyddio ‘cyfeillion’ i helpu dysgwyr â CSA lywio trwy ddisgwyliadau cymdeithasol adegau anstrwythuredig prysur fod yn fuddiol hefyd.

Pan fo modd, gall caniatáu elfen o ddewis yn eu dysgu i ddysgwyr â CSA gynorthwyo agweddau tuag at ddysgu. Mae gan lawer o ddysgwyr â CSA ddiddordebau arbennig, neu ystod o ddiddordebau penodol a all helpu cymell a bod yn llwybr at brofiadau dysgu cyfoethog sy’n ennyn diddordeb ac yn cynnal cymhelliant. 

Maes arolygu 3: Addysgu a phrofiadau dysgu

Ystyriaethau cyffredinol o ran arfer ystafell ddosbarth effeithiol ar gyfer disgyblion â CSA

A yw athrawon / staff cymorth…?

  • Yn defnyddio enw’r dysgwr i gael ei sylw cyn rhoi cyfarwyddiadau?
  • Yn defnyddio ystod o adnoddau addas i gynnal cymhelliant ac ymgysylltiad?
  • Yn defnyddio iaith syml a manwl gywir, gan osgoi idiomau, cyfarwyddiadau â sawl cam ac esboniadau haenog?
  • Yn galluogi dysgwyr i gymryd rhan mewn tasgau pâr a grŵp gyda chymorth priodol?
  • Yn rhannu tasgau yn ddarnau llai, wedi’u cyflwyno’n weledol, lle bo’n briodol?
  • Yn caniatáu amser prosesu er mwyn i ddysgwyr allu prosesu ac ymateb?
  • Yn hyrwyddo annibyniaeth gyda strwythur a systemau gwaith targedig?
  • Yn cynnal ymgysylltiad a chymhelliant trwy system wobrwyo?
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o anghenion y disgyblion? A ydynt yn gallu cynorthwyo â datblygu medrau a dealltwriaeth newydd? A ydynt yn datblygu medrau annibyniaeth disgyblion yn briodol? A yw staff cymorth yn meddu ar wybodaeth ddigonol am y pwnc sy’n cael ei addysgu, ac anghenion y disgyblion?
  • Yn ystyried ac yn cynllunio ar gyfer effaith a symbyliad yr amgylchedd ar ddysgwyr?
  • Yn gwneud disgwyliadau a rheolau’n eglur, gan gynnwys y cymhellion i gydymffurfio?
  • Yn gwneud defnydd effeithiol o feysydd diddordeb arbennig i wella ymgysylltiad a chynnydd? Gallai maes diddordeb arbennig i rywun â CSA fod yn rhywbeth fel deinosoriaid, ‘Y Titanic’, y gofod a’r bydysawd neu dechnolegau fel cyfrifiaduron llechen neu lwyfannau fideo ar-lein.
  • Yn gosod disgwyliadau uchel o ran ymgysylltiad a chynnydd trwy dasgau a osodir ar lefel her briodol?
  • Yn deall ac yn cynllunio ar gyfer gwahaniaethau synhwyraidd disgyblion â CSA?
  • Sut mae’r ysgol yn sicrhau bod dysgwyr â CSA yn cael eu cynnwys yn ystyrlon yn y cwricwlwm prif ffrwd, mewn gweithgareddau dosbarth cyfan, grŵp a phâr?

Syniadau buddiol ar gyfer addasu adnoddau ac addysgu  

Yn aml iawn, mae disgyblion â CSA yn meddu ar gryfder mewn dysgu gweledol. Gall adnoddau gweledol fel amserlenni, systemau gwaith, rheolau a chyfarwyddiadau eglur, helpu darparu sefydlogrwydd, hyrwyddo annibyniaeth a lleihau’r gorbryder sy’n gysylltiedig â thasgau gwaith, newid a throsglwyddiadau.

Mae meddylfryd cyfyngedig, ailadroddus a llym yn rhan o’r meini prawf diagnostig ar gyfer CSA. O’r herwydd, mae ffyrdd cymhelliant estynedig fel cymhellion gweledol, pethau sy’n tynnu sylw a gwobrau yn aml yn effeithiol. Mae ‘amser dewis’ neu ‘amser aur’ yn rhoi nod penodol i’w gyflawni i ddysgwyr.

Weithiau, bydd egwyl symud yn helpu disgyblion â CSA i leihau’r gorbryder sy’n gysylltiedig ag ystafell ddosbarth brysur, canolbwyntio o’r newydd ac ymdawelu. Gall cyfnod byr o ymgysylltu mewn amgylchedd gwahanol neu ar dasg wahanol helpu cyflawni cyflwr lle maent yn barod i ddysgu.

Weithiau, bydd disgyblion â CSA yn ymateb yn ffafriol i allu defnyddio ‘tegan cyffwrdd’ neu rywbeth i’w ddal i gynorthwyo canolbwyntio ac ymgysylltu. Gall plastisin neu wrthrych bach cyffyrddol helpu disgyblion i ganolbwyntio a hunanreoleiddio, yn enwedig pan fydd gofyn iddynt eistedd neu wrando ar gyfarwyddyd oedolyn.

Mae rhannu tasg neu gynllunio adnoddau yn helpu dysgwyr â CSA i gwblhau tasgau sy’n gofyn am weithredu mewn sawl cam. Mae fformat sy’n debyg i rysáit coginio, ‘Mae angen i mi gael…’, ‘yn gyntaf…’, ‘wedyn…’, ‘nawr…’, ‘yna…’, ‘yn olaf…’ a ‘nawr, galla’ i…’ er enghraifft, yn gallu helpu disgyblion i ddatblygu annibyniaeth mewn tasgau a pheidio â dibynnu ar anogaeth gan oedolyn.

Yn aml, mae dysgwyr â CSA yn ei chael yn anodd deall a chyffredinoli rheolau cymdeithasol. Mae nifer fach o reolau eglur o ran ymddygiad neu baramedrau eraill, yn diffinio ffiniau cymdeithasol, sydd weithiau’n annelwig.

Mae lleoli dysgwyr â CSA y terfir arnynt yn hawdd yn nhu blaen yr ystafell, neu’n agos at y tu blaen, a rhoi cyfarwyddiadau neu geisiadau iddynt gan ddefnyddio eu henw, yn sicrhau bod dysgwyr yn deall y wybodaeth.

Yn aml, mae gan ddysgwyr â CSA lefelau gorbryder uwch. Gall olrhain heriau y maent yn eu hwynebu gan ddefnyddio model ymddygiad/canlyniad blaenorol helpu staff i nodi adegau problemus y dydd, yr amgylchedd, tasgau, dillad, tywydd neu unrhyw ffactorau eraill a allai gyfrannu at heriau na all dysgwyr eu hunain eu disgrifio.

Maes arolygu 4: Gofal, cymorth ac arweiniad

  • A yw unrhyw gymorth ychwanegol yn targedu datblygiad medrau bywyd ac yn meithrin annibyniaeth?
  • A yw’r ysgol wedi rhoi ystyriaeth ddigon da i anghenion disgyblion o ran addasu’r amgylchedd ffisegol?
  • Sut mae’r ysgol yn sicrhau bod dysgwyr â CSA yn cael cyfle i gymryd rhan yn llawn yn yr agweddau cymdeithasol ehangach ar fywyd ysgol?
  • A yw’r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol o dargedau ar CAUau, CYUau, CDUau neu ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig i wneud y mwyaf o gymorth a chynnydd?
  • A yw data cyrhaeddiad ar gyfer dysgwyr â CSA yn dangos bod cynnydd yn cael ei wneud? Pa mor dda y mae dysgwyr â CSA yn gwneud cynnydd mewn perthynas â’u mannau cychwyn dros gyfnod?
  • A yw targedau mewn CAUau, CYUau a CDUau yn berthnasol a phriodol i ddysgwyr â CSA?
  • A gynhelir cyfarfodydd adolygu blynyddol ar gyfer disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig, yn unol â chanllawiau cenedlaethol? A gaiff dysgwyr a rhieni eu hannog i ddefnyddio dulliau cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gymryd rhan yn llawn yn yr adolygiadau hyn?
  • A yw’r ysgol yn darparu lefel briodol o her o ran y cwricwlwm a her gymdeithasol i ddysgwyr â CSA?
  • A gaiff mesurau priodol eu nodi mewn asesiadau risg i sicrhau nad yw disgyblion â CSA dan anfantais? Er enghraifft, eu cynnwys mewn ymweliadau oddi ar y safle neu weithdrefnau trin yn gadarnhaol?
  • A roddir ffocws priodol i ddatblygiad personol a chymdeithasol ac annibyniaeth i wneud y mwyaf o fedrau dysgwyr â CSA?

Gall amgylchedd â symbyliadau isel fod yn fuddiol i ddysgwyr â CSA. Gall cael ardal mewn ystafell ddosbarth neu ardal waith sy’n llai prysur gyda llai o wybodaeth weledol ddieithr helpu dysgwyr â CSA i ganolbwyntio ar y dasg dan sylw. Mewn ystafelloedd lle mae llai o ofod rhydd, gall bwrdd mewn ardal dawelach o’r dosbarth, sy’n ddelfrydol yn edrych i ffwrdd oddi wrth y man gweithgarwch, er enghraifft, ar wal wag, fod yn fuddiol.

Yn aml, bydd gorbryder yn digwydd yn sgil llawer o ryngweithio cymdeithasol, cyfathrebu, ceisiadau i fod yn hyblyg a disgwyliadau i weithio yn ôl agenda rhywun arall. Gall dysgwyr â CSA newid o ymddangos yn bwyllog i fod yn ofidus iawn, yn gyflym iawn. Mae hyn yn debygol o ddigwydd o ganlyniad i orbryder gwaelodol wrth ymdopi â gofynion amgylchedd sy’n achosi straen. Gall gofod, ystafell neu ardal dawel y mae dysgwyr â CSA yn gwybod ei fod/bod yn ddiogel, fod yn llwyddiannus iawn wrth alluogi dysgwyr â CSA i ymdawelu a dychwelyd at ddysgu.        

Gall aelod allweddol o staff sy’n adnabod yr unigolyn fod yn effeithiol wrth helpu’r dysgwr â CSA i deimlo’n ddiogel.

Pan fydd dysgwyr â CSA yn profi lefelau uwch o orbryder, gall eu rhoi i eistedd yn agos at gefn ystafell neu’r drws fod yn effeithiol. Gall system ‘ymneilltuo’, er enghraifft ar ffurf cerdyn, leihau gorbryder ymhellach.

Mae’r gallu i gyrraedd gwersi’n hwyr, neu adael gwersi’n gynnar i osgoi adegau prysur mewn coridorau ac ystafelloedd cotiau, yn gallu cynorthwyo dysgwyr â CSA i aros yn bwyllog.

Gall cyfleoedd i fewngofnodi ac allgofnodi ar ddechrau neu ddiwedd y dydd gydag aelod allweddol o staff helpu dysgwyr â CSA i ymgyfarwyddo â’r amgylchedd newydd, datrys problemau ynghylch unrhyw bryderon sydd gan y disgyblion, neu ddatrys problemau a allai fod wedi digwydd trwy gydol y dydd. Mae rhai dysgwyr â CSA yn cael anhawster â chysylltiad corfforol, neu chwaraeon sy’n cynnwys gwlychu neu fynd yn fwdlyd. Gall addasiadau rhesymol fel ymgymryd â gweithgarwch corfforol yn y gampfa neu ar beiriannau ymarfer corff alluogi disgyblion i gyflawni nodau trwy ddulliau amgen.

Maes arolygu 5: Arweinyddiaeth a rheolaeth

A yw arweinwyr yn yr ysgol…?

  • Yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr â CSA?
  • Yn sicrhau bod pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant sylfaenol mewn CSA?
  • Yn sicrhau pan fydd dysgwyr yn cael diagnosis fod ganddynt CSA, y gofynnir am gyngor priodol gan asiantaethau allanol, lle bo’n berthnasol, fel timau athrawon arbenigol neu seicolegydd addysg, yn unol â’u gweithdrefnau cyfeirio, a bod unrhyw gyngor yn cael ei weithredu.
  • Yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o CSA yn yr ysgol, a gyda rhieni?