Esbonio beth yw gwaith ymgysylltu

Share this page

Rhoddodd gweithgarwch ymgysylltu, gan gynnwys galwadau ffôn, cyfarfodydd rhithiol ac ymweliadau wyneb-yn-wyneb, gyfoeth o wybodaeth i ni am ein darparwyr yn ystod y cyfnod rhwng gwanwyn 2021 a gwanwyn 2022, pan ailddechreuom arolygu.
Diweddarwyd y dudalen hon ar 19/03/2024

Ailddechrau ymweliadau ymgysylltu – pan fydd hi’n ddiogel ac yn briodol

Rhoddodd gweithgarwch ymgysylltu, gan gynnwys galwadau ffôn, cyfarfodydd rhithiol ac ymweliadau wyneb-yn-wyneb, gyfoeth o wybodaeth i ni am ein darparwyr yn ystod y cyfnod rhwng gwanwyn 2021 a gwanwyn 2022, pan ailddechreuom arolygu.

Cyhoeddom sawl adroddiad a oedd yn crynhoi ein canfyddiadau o sectorau gwahanol. Roeddent yn edrych ar elfennau fel:

  • sut roedd darparwyr wedi ymateb i les dysgwyr yn ystod y pandemig

  • sut y cefnogodd darparwyr ddysgu o bell

  • sut roedd ysgolion ac UCDau yn llwyddo i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru a’u hymagwedd at roi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg ar waith.

Cawsom adborth cadarnhaol gan benaethiaid, a oedd wedi gwerthfawrogi’r cyfle i siarad â ni y tu allan i’r cylch arolygu arferol. Roeddent yn gwerthfawrogi’r drafodaeth agored a gonest am ddiwygio’r cwricwlwm a rhannu’r heriau digynsail a wynebwyd yn sgil y pandemig.

Bydd cynnal gweithgarwch ymgysylltu yn parhau i fod yn elfen bwysig o’n gwaith.

Rydym yn bwriadu ymweld â sampl o ysgolion fel rhan o’n gweithgarwch rheolaidd yn y dyfodol. Gobeithiwn y bydd hyn yn parhau i roi ffynhonnell werthfawr o dystiolaeth ynghylch ystod o faterion y tu allan i’r cylch arolygu arferol. Efallai y byddwn yn cyhoeddi adroddiadau cryno wedi’u seilio ar y wybodaeth ddiweddaraf a geir o’r gweithgarwch ymgysylltu hwn, yn dibynnu ar ddatblygiadau allweddol ar adegau gwahanol.

Rhan o Y broses arolygu