Bydd yr holl ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn cael eu harolygu o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd, a ddechreuodd ar 1 Medi 2016.
Mae pob arolygiad yn defnyddio’r Fframwaith Arolygu Cyffredin. Mae un fframwaith ar gyfer ysgolion, colegau arbenigol annibynnol, unedau cyfeirio disgyblion, a darparwyr dysgu yn y gwaith, a fframwaith arall ar gyfer pob sector arall (meithrinfeydd nas cynhelir, addysg bellach, addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon, gwasanaethau addysg llywodraeth leol a Chymraeg i oedolion).
Mae ysgolion, colegau arbenigol annibynnol, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr dysgu yn y gwaith yn cael 3 wythnos o rybudd ysgrifenedig o arolygiad; mae gwasanaethau
addysg llywodraeth leol yn cael 10 wythnos o rybudd ac mae pob sector arall (meithrinfeydd nas cynhelir, addysg bellach, hyfforddiant ac addysg gychwynnol athrawon a Chymraeg i oedolion) yn cael 4 wythnos o rybudd.
Yng Nghymru, mae Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi yn arwain arolygiadau o dimau troseddau ieuenctid, mae Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi yn arwain arolygiadau o garchardai, gan gynnwys sefydliadau i droseddwyr ifanc, ac mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn arwain arolygiadau o gartrefi diogel i blant. Mae Estyn yn ymuno â’r timau hyn i arolygu ansawdd addysg a hyfforddiant. O Fedi 2017 ymlaen, caiff y pum maes arolygu eu defnyddio i arolygu adran Addysg, Medrau a Gwaith arolygiadau Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi. Mae’r trefniadau arolygu ar gyfer timau troseddau ieuenctid a chartrefi diogel i blant yn cael eu hadolygu.
Ym Medi 2017, daeth trefniadau newydd ar gyfer arolygu pob ysgol, coleg arbenigol annibynnol, uned cyfeirio disgyblion a darparwr dysgu yn y gwaith i rym.
Gwyliwch ein hanimeiddiad byr am y modd yr ydym wedi newid arolygiadau.
Trosolwg o’r newidiadau
Mae ysgolion, colegau arbenigol annibynnol, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr dysgu yn y gwaith:
-
yn cael 15 diwrnod gwaith o rybudd ysgrifenedig am arolygiad
-
yn cael eu barnu o dan 5 maes arolygu, sef:
-
yn cael eu barnu gan ddefnyddio graddfa 4 pwynt:
Beth fydd yn digwydd nesaf
Erbyn diwedd y cylch arolygu presennol, bydd ymgynghoriad wedi bod ynglŷn â’r fframwaith arolygu ar gyfer meithrinfeydd nas cynhelir, addysg bellach, addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon, gwasanaethau addysg llywodraeth leol, Cymraeg i oedolion a dysgu oedolion, a byddant wedi cael eu hadolygu gyda threfniadau newydd ar waith.