Arfer Effeithiol |

Ymagwedd systematig at ddysgu

Share this page

Nifer y disgyblion
259
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Llwyn yr Eos ym Mhenparcau ar gyrion Aberystwyth yng Ngheredigion.  Mae 259 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 39 o ddisgyblion oedran meithrin rhan-amser.  Maent wedi eu rhannu’n 13 dosbarth, y mae pedwar ohonynt yn ddosbarthiadau canolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig.  Mae’r ysgol yn derbyn disgyblion ag anghenion penodol o ardaloedd amrywiol ledled Ceredigion.  Mae gan ddisgyblion yn nosbarthiadau’r ganolfan adnoddau amrywiaeth o anghenion cymdeithasol, meddygol a chyfathrebu.  Mae gan yr ysgol ganolfan anogaeth ar gyfer disgyblion ag anawsterau emosiynol a chymdeithasol, ac mae’n cynnwys uned cyfeirio disgyblion cyfnod allweddol 2 sy’n integreiddio i’r lleoliad prif ffrwd.

Cyfran gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dros y tair blynedd ddiwethaf yw tua 31%.  Mae hyn gryn dipyn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 19%.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan 40% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd gryn dipyn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.

Mae Ysgol Llwyn yr Eos yn darparu amgylchedd hynod gynhwysol i’r holl ddisgyblion lwyddo trwy greu ethos ysgol gyfan cryf sy’n rhoi lles wrth wraidd ei gwaith.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae nifer o gyfleoedd a heriau yn sgil cefndir yr ysgol, gan gynnwys hanes o asesiadau gwaelodlin isel a nifer fawr ar y cyfan o ddisgyblion sy’n cael eu derbyn o ysgolion eraill sydd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 2.

Mae’r ysgol yn mynd i’r afael â’r heriau hyn trwy set gyffredin o werthoedd ar y cyd, sy’n llywio ymagwedd gydlynus a systemig at ddysgu, a gweledigaeth gyffredinol, glir o lwyddiant.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gweithdrefnau ymyrraeth gynnar dwys
  • ymagwedd gyfannol/ysgol gyfan at y cwricwlwm
  • targedu meysydd strategol allweddol ar gyfer yr effaith gyffredinol fwyaf
  • herio unrhyw ganfyddiadau o allu greddfol a sicrhau’r disgwyliadau uchaf ar gyfer yr holl ddisgyblion

Mae pob ysgol yn diffinio mesurau sy’n dangos sut bydd ei gweledigaeth a’i nodau’n cael eu cyflawni.  Y flaenoriaeth yn Ysgol Llwyn yr Eos yw sicrhau bod pob disgybl ‘mewn lle i ddysgu’.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae pob disgybl yn Ysgol Llwyn yr Eos yn elwa ar gwricwlwm pwrpasol sydd wedi’i deilwra yn unol â’i anghenion penodol.

Dyma egwyddorion sylfaenol y ddarpariaeth hon:

  • Mae’r holl ddysgu yn ‘benodol i gyd-destun’ ac yn rhan o broses werthuso barhaus 
  • Ceir dealltwriaeth glir y dylai’r holl asesu fod ar waith i gefnogi dysgu disgyblion
  • Mae hon yn broses sy’n ‘cael ei harwain gan anghenion’ sy’n canolbwyntio ar y ‘plentyn cyfan’

Caiff defnydd effeithiol o asesu wrth nodi’r cam nesaf yn nysgu disgybl ei hwyluso’n effeithiol.  Er enghraifft, mae cydlynwyr pynciau a chyfnodau allweddol yn cyfarfod yn ffurfiol bob pythefnos i ddefnyddio gwybodaeth am ddisgyblion i gynllunio’r cam nesaf ymlaen.  Cynhelir cyfarfodydd anffurfiol sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid yn barhaus, ac maent yn ychwanegu at y broses hon.  O’r trafodaethau hyn, i ymateb yn uniongyrchol i’w hanghenion a nodwyd, caiff disgyblion eu cyfeirio at athrawon penodol, gwersi penodol a grwpiau ymyrraeth.  Mae dealltwriaeth gywir o gyflawniad a chyrhaeddiad disgyblion yn hanfodol.  Mae prosesau’r ysgol yn caniatáu ar gyfer addasu darpariaeth yn barhaus, sy’n cael ei ysgogi gan ddealltwriaeth ar y cyd o gryfderau pob disgybl, a’u meysydd i’w gwella.  Caiff cymorth ar gyfer disgyblion ei addasu’n rheolaidd, a gellir ei addasu a’i fireinio ar fyr rybudd.  Defnyddir offer diagnostig penodol i olrhain a monitro cynnydd, lles ac ymddygiad disgyblion yn effeithiol.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • defnydd gwybodus o asesiadau athrawon, wedi’i gyfuno â gwybodaeth a dealltwriaeth gref o anghenion penodol disgyblion, gan gynnwys eu datblygiad gwybyddol ac emosiynol a gwybodaeth gefndirol briodol; mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd barnau empathig, yn ogystal â barnau wedi’u gyrru gan ystadegau
  • proffilio parhaus ar gyfer yr holl ddisgyblion, sy’n asesu datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, ac yn mesur cynnydd trwy amrywiaeth o elfennau datblygiadol; defnyddir y wybodaeth hon i greu proffiliau realistig sy’n canolbwyntio ar y plentyn y gall yr holl randdeiliaid eu rhannu a gweithredu yn unol â nhw i ffurfio darpariaeth anogaeth yn y dyfodol, fel y bo’n berthnasol  
  • defnyddio system olrhain benodol a roddwyd ar brawf gan Ysgol Llwyn yr Eos, sy’n adlewyrchu’r holl gynnydd waeth pa mor fach ydyw, ac yn ystyried faint o amser y mae’r disgybl wedi’i dreulio yn yr ysgol; mae hyn yn hynod ddefnyddiol o ystyried nifer yr hwyr ddyfodiaid sy’n cael eu derbyn i’r ddau gyfnod allweddol bob tymor yn yr ysgol

Mae staff mewn dosbarthiadau prif ffrwd a chanolfannau adnoddau fel ei gilydd yn defnyddio’r prosesau holistaidd hyn yn llwyddiannus ac yn greadigol i asesu effaith a llywio darpariaeth yn y dyfodol.  Mae hyn yn cynnwys defnyddio arbenigedd staff yn effeithiol ar draws yr ysgol gyfan, a’r trefniadau addysgu hyblyg sy’n cael eu cymhwyso ar draws pob dosbarth.

Pwyntiau allweddol:

  • Mae monitro cynnydd yn ofalus yn sicrhau bod disgyblion yn derbyn cymorth ychwanegol am gyfnod mor hir ag y mae ei angen arnynt er mwyn gwneud cynnydd digonol.
  • Mae’n bwysig fod pob un o’r staff yn cydnabod ymrwymiad ar y cyd i hyrwyddo gwelliannau parhaus a chynaliadwy.
  • Mae’n hanfodol nodi a dathlu pob cynnydd bach.  Croniad o fuddugoliaethau bach sy’n cael eu rhannu a’u gwerthfawrogi gan yr holl randdeiliaid yw cynnydd yn yr ysgol, gan greu momentwm sy’n adeiladu ar y diwylliant presennol o gyflawni a llwyddo.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae prosesau monitro yn dangos bod y rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rheiny ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gwneud cynnydd da, a chynnydd da iawn yn aml, o’u gwahanol fannau cychwyn wrth iddynt symud trwy’r ysgol.  Cefnogir y farn hon trwy sicrhau ansawdd yn yr ysgol, ac fe’i dangosir trwy weithdrefnau olrhain, asesiadau athrawon a chanlyniadau profion cenedlaethol.

Caiff y cyfuniad llwyddiannus o strategaethau addysgu effaith eithriadol o gadarnhaol ar gyflawniad a lles disgyblion.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ddysgwyr hyderus a gwydn, sydd â lefelau uchel o hunan-barch.  Maent yn mwynhau’r ysgol ac yn dangos agweddau cadarnhaol iawn at eu dysgu.  Adlewyrchir y gydberthynas uniongyrchol rhwng lles, cynnydd a llwyddiant yn y ffyrdd canlynol hefyd:

  • cau’r bwlch yn barhaus rhwng perfformiad bechgyn a merched yn y blynyddoedd diwethaf
  • lefelau uchel o bresenoldeb disgyblion ar sail gynaledig
  • y ffaith na fu unrhyw waharddiadau yn yr ysgol am 17 mlynedd yn olynol

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu arfer dda ar lefel leol, sirol a chenedlaethol trwy annog ysgolion a lleoliadau eraill i ymweld i arsylwi’r ddarpariaeth hon ar waith.  Mae’r ysgol yn dangos i ddarparwyr addysgol eraill sut i gysylltu arfer yr ysgol a gofnodwyd yn yr astudiaeth hon yn llwyddiannus â blaenoriaethau lles cenedlaethol, fel menter y Rhaglen Academaidd, Ddiwylliannol a Rhagoriaeth (ACE) ac ‘Ymwybyddiaeth o Ymlyniad’.  Mae’r ysgol yn cyflwyno’i chanfyddiadau i gynulleidfaoedd amlasiantaethol, gan gynnwys ymarferwyr addysgu, arweinwyr lefel uwch a rheolwyr strategol ledled Cymru.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yng nghyfnod allweddol 2

pdf, 1.25 MB Added 13/07/2017

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth ym mhynciau gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg y Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnod allweddol 2 mewn ysgolion cynradd yng ...Read more