Arfer Effeithiol |

Therapi cerdd yn helpu datblygiad emosiynol ac ymddygiadol

Share this page

Nifer y disgyblion
140
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad

 

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Christchurch (C.I.W.) Voluntary Aided Primary School yn gwasanaethu ardal ganolog Abertawe. O’r 140 o ddisgyblion ar y gofrestr, mae 67% ohonynt yn byw mewn ardaloedd o ddifreintedd cymdeithasol uchel, mae gan 12% ohonynt hawl i gael prydau ysgol am ddim, mae 22% ohonynt yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, ac mae gan tua 27% ohonynt anghenion dysgu ychwanegol.

Yn Ysgol Christchurch, rydym yn ymdrechu i fodloni anghenion pob disgybl a’u galluogi i gyflawni eu llawn botensial yn ddeallusol, yn gymdeithasol, yn ysbrydol, yn emosiynol ac yn gorfforol. Nodwyd bod gan 27% o blant anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys anawsterau emosiynol a chymdeithasol, felly gwnaethom gyflwyno dull arloesol i fynd i’r afael â’r dylanwadau sylfaenol sy’n effeithio ar ymddygiad disgyblion ac yn cyfyngu ar eu gallu i wireddu eu potensial, o bryd i’w gilydd.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Caiff Cerdd a Therapi Cerdd eu defnyddio i wrthweithio dau brif rwystr rhag dysgu: helbul emosiynol a’r ymddygiad amhriodol cysylltiedig. Cerdd yw’r cyfrwng ar gyfer ymgysylltu â’r plant. Caiff ei ddefnyddio i strwythuro eu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol ac, yn ei dro, eu dilyniant. Mae’r broses hon yn cynnwys pedwar prif gam.

  • Meithrin perthynas drwy therapi cerdd byrfyfyr.
  • Siarad am emosiynau ac archwilio anawsterau.
  • Dechrau dysgu fel grŵp drwy gerdd.
  • Perfformio.

Caiff disgyblion sy’n cael therapi cerdd eu nodi gan athrawon dosbarth drwy gyfathrebu â’r CydAAA, therapydd cerdd cymwysedig a’r pennaeth. Caiff sesiynau eu cynnal yn unigol, mewn parau neu mewn grwpiau bach, yn ôl anghenion y plentyn. Mae’r disgyblion yn darganfod lle diogel drwy’r gerddoriaeth i archwilio eu teimladau a dysgu strategaethau i reoli eu hymddygiad eu hunain.

Mae disgyblion sy’n cael therapi cerdd hefyd yn perfformio yn y ‘Grŵp Clychau’. Mae’r grŵp hwn yn helpu disgyblion i wella eu gallu i ganolbwyntio, meithrin sgiliau perthynas a chael profiad o sut y caiff rheolau eu gwneud mewn grŵp. Yn ogystal, mae’n adeiladu hunan-barch ac yn rhoi cyfle iddynt berfformio a chyflawni.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Caiff disgyblion eu hasesu ar ddechrau’r therapi dan bedwar pennawd datblygu: gwybyddol, emosiynol, cymdeithasol a cherddoroldeb. Ar ôl chwe mis o therapi cerdd yn unig, roedd pob un o’r disgyblion yn dangos gwelliant sylweddol ar eu sgorau gwaelodlin. Roedd hyn yn amlwg yn eu hymddygiad yn yr ysgol o ddydd i ddydd. Gwnaethom nodi mwy o ymdeimlad o gyfiawnder, mwy o empathi tuag at eraill, a gallu gwell i ymddiried mewn eraill wrth alluogi eraill i ddibynnu arnynt. Yn ei dro, gwnaethom nodi bod eu hymddygiad yn yr ystafell ddosbarth yn well, a chanolbwyntio’n well oedd y brif fantais.

Mae’r disgyblion eu hunain yn teimlo eu bod wedi gwneud cynnydd ac maent yn edrych ymlaen at y sesiynau.

Isod, ceir rhai dyfyniadau gan y disgyblion eu hunain.

‘Mae’n tawelu eich ymennydd er mwyn i chi feddwl mwy’. - Disgybl Blwyddyn 6
‘Mae’r gerddoriaeth yn gwthio’r pryderon o’m pen ac mae fy mhen yn teimlo’n llawn cerddoriaeth’. - Disgybl Blwyddyn 5
‘Mae’n fy helpu i ymbwyllo. Weithiau, dw i’n cynhyrfu am bethau ac mae’r sesiynau’n fy helpu i ymdopi â phethau’. - Disgybl Blwyddyn 6
‘‘Rydym yn gweithio’n well fel tîm’. - Disgybl Blwyddyn 5

Mae ymchwil ac arfer wedi dangos bod therapi cerdd yn ddull effeithiol o leihau’r pryderon a’r ymddygiad cysylltiedig sy’n deillio o helbul emosiynol. Bu hyn yn amlwg yn y cynnydd a wnaed gan y plant yn Christchurch y nodwyd bod ganddynt anawsterau cymdeithasol ac emosiynol. Rydym wedi gweld gwelliannau yn yr ystafell ddosbarth ac yn ystod amser chwarae, a chredwn fod targedu gwraidd y broblem yn ateb tymor hwy mwy effeithiol na rheoli’r symptomau â disgyblaeth fwy traddodiadol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Pawb dros bob un

Adroddiad thematig |

Arfer orau mewn addysgu a dysgu yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2 - Mai 2015

pdf, 513.03 KB Added 01/05/2015

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr chylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. ...Read more