Arfer Effeithiol |

Rheoli ymddygiad

Share this page

Nifer y disgyblion
232
Ystod oedran
3-19
Dyddiad arolygiad

 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae nifer sylweddol o ddisgyblion yn Heronsbridge yn cael anawsterau yn rheoli eu hymddygiad.  Mae’r ysgol yn credu, trwy leihau eu rhwystrau rhag dysgu, er enghraifft trwy wella eu cyfathrebu, y bydd disgyblion yn dysgu rheoli eu hymddygiad, dod yn fwy annibynnol, cyflawni lles gwell a chyflawni llwyddiant cynaliadwy.

Fodd bynnag, fe wnaethom gydnabod bod y dulliau amrywiol o gofnodi, adrodd a dadansoddi deilliannau ymddygiadol yn ei gwneud yn anodd i staff arfarnu llwyddiant ymyriadau gyda disgyblion yn gywir.  Ein nod strategol felly oedd cyfuno ein rhaglen lwyddiannus o hyfforddi staff mewn rheoli ymddygiad gyda system gofnodi gyson er mwyn dangos tystiolaeth o’r deilliannau ar gyfer disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Er 2006, mae Heronsbridge wedi bod yn defnyddio rhaglen cymorth ymddygiad sydd ar gael yn fasnachol.  Mae’r rhaglen yn ategu ein hathroniaeth i ddarparu cymorth cadarnhaol a rhagweithiol i ddisgyblion, gan ddefnyddio dull anuniongyrchol. 

Mae’r rhaglen yn darparu arweiniad manwl mewn rheoli ymddygiad, ac mae ein hyfforddiant yn sicrhau bod gan staff ddull cyson o reoli ymddygiad disgyblion ar draws yr ysgol.  Mae hyfforddiant yn y fethodoleg hon bellach yn orfodol ar gyfer pob un o’r staff yn Heronsbridge. 

Mae tîm cymorth ymddygiad ysgol yn darparu cymorth parhaus i staff a disgyblion.  Mae’r tîm yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill fel nyrsys, therapyddion, cwnselwr yr ysgol, seicolegydd cynorthwyol ac israddedigion seicoleg Prifysgol Caerdydd (yn ystod eu lleoliad blwyddyn yn yr ysgol).

I wella ein heffeithiolrwydd a’n heffeithlonrwydd wrth gofnodi a dadansoddi gwybodaeth am ymddygiad, mabwysiadodd yr ysgol system wybodaeth i reoli data ar y we i gefnogi ein rhaglen ymddygiad.  Gweithiodd staff yn yr ysgol yn agos â’r cwmni masnachol gwreiddiol i ddatblygu a theilwra system i adlewyrchu ein gofynion penodol.  Yn 2011, fe wnaethom gyflwyno’r system wybodaeth newydd i reoli data yn lle’r dull blaenorol ar bapur.  Erbyn hyn, mae staff yn gwneud cofnodion o’r holl achosion ymddygiad ar-lein.  Mae’r system yn galluogi staff i gofnodi, monitro ac olrhain ymddygiad disgyblion mewn modd cyson.  Mae hyn yn cynnwys ymddygiad blaenorol, ymddygiadau a ddangosir a strategaethau lleddfu llwyddiannus.

Mae uwch reolwyr yn yr ysgol yn cael negeseuon e-bost awtomataidd cyn gynted ag y caiff digwyddiadau eu cofnodi, sy’n golygu bod gwybodaeth ar gael ar unwaith.  Mae digwyddiadau sy’n cael eu cofnodi ar y system yn cael eu dadansoddi bob wythnos a phob mis er mwyn amlygu patrymau a thueddiadau mewn ymddygiadau.  Mae hyn wedi galluogi i ni nodi a chyflwyno hyfforddiant penodol ar gyfer staff i gefnogi anghenion unigol disgyblion.  Yn ychwanegol, mae’n galluogi’r ysgol i gyfeirio disgyblion yn effeithiol am ymyriadau a therapïau ychwanegol fel therapi lleferydd ac iaith a therapi galwedigaethol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Ers cyflwyno’r pecyn rheoli ymddygiad hwn, mae nifer y digwyddiadau difrifol wedi lleihau 66% dros gyfnod o dair blynedd.  Mae uwch reolwyr bellach yn arfarnu data yn gywir ar effaith ymyriadau penodol ar ddeilliannau disgyblion unigol.  Mae’r wybodaeth hon yn galluogi’r ysgol i nodi ac asesu lefelau risg er mwyn creu cynlluniau cymorth personol penodol a chynhwysfawr ar gyfer disgyblion.  Caiff yr holl achosion eu monitro a’u trafod ar lefel uwch reolwyr a bydd uwch arweinydd yn rhoi adroddiad ar bob digwyddiad difrifol.

Mae dadansoddi patrymau ymddygiad gan ddefnyddio’r system gwybodaeth reoli yn helpu staff i ennill dealltwriaeth well o natur yr anhawster y gallai disgybl fod yn ei brofi.  Adroddwyd gan Estyn bod ymddygiad yn y dosbarth ac yn ystod adegau anstrwythuredig o’r dydd, yn eithriadol o dda.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu arfer dda?

Mae pecyn pwrpasol Heronsbridge, gan gynnwys y system gwybodaeth reoli, wedi cael ei fabwysiadu gan ysgolion arbennig eraill.  Yn ychwanegol, datblygwyd fforwm trafod ar draws ysgolion ynghylch rheoli ymddygiad disgyblion. 

Mae staff wedi cyflwyno darlithoedd i athrawon ar systemau rheoli ymddygiad fel rhan o’r diploma mewn anawsterau dysgu difrifol/anawsterau dysgu dwys a lluosog mewn anghenion addysgol arbennig ar gyfer Prifysgol Fetropolitan Abertawe.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad ar ysgolion arbennig a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) tymor yr haf 2021

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o 39 galwad ymgysylltu ac ychydig iawn o ymweliadau a wnaed ag ysgolion arbennig a gynhelir ac UCDau rhwng dechrau mis Chwefror 2021 a diwedd mis Mai 2 ...Read more
Arfer Effeithiol |

Mae disgyblion yn gweithio gyda staff i ddylanwadu ar yr hyn y maent yn ei ddysgu

Mae cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad disgyblion sy’n cael eu trefnu’n fedrus yn Ysgol Arbennig Heronsbridge yn cyfrannu at ddatblygu hunanhyder a medrau cymdeithasol disgyblion. ...Read more
Adroddiad thematig |

Cyfranogiad disgyblion: canllaw arfer orau

pdf, 1.48 MB Added 07/12/2016

Mae’r adroddiad yn archwilio pedair o nodweddion ysgolion lle mae cyfranogiad disgyblion yn gadarn ac mae’n nodi’r cyfraniad y gall cyfranogiad disgyblion ei wneud at wella ysgol, yn ogystal â’r ma ...Read more
Adroddiad thematig |

Cymorth a chydweithio rhwng ysgolion - Mehefin 2015

pdf, 503.1 KB Added 01/06/2015

Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2015-2015. ...Read more
Adroddiad thematig |

ADCDF: Cynnydd mewn addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang - Mehefin 2014

pdf, 609.54 KB Added 01/06/2014

Cyhoeddir yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn y cylch gwaith Gweinidogol i Estyn ar gyfer 2013-2014. ...Read more