Arfer Effeithiol

Monitro profiad y dysgwr

Share this page

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Tyfodd contractau ITEC 100% yn Awst 2011.  Yn ystod y cyfnod twf hwn, roedd profiad a deilliannau dysgwyr o’r pwys mwyaf ac yn cyd-fynd â’r Strategaeth Cynnwys Dysgwyr, felly roedd angen system adrodd weithredol a oedd yn ein galluogi ni i weld hyn yn ganolog – yn uniongyrchol oddi wrth y dysgwr. Roedd cynnal profiad cadarn i ddysgwyr yn allweddol ar gyfer cynyddu boddhad cyffredinol dysgwyr, lefelau cadw, dilyniant a deilliannau.  Hefyd, yn sgil y cynnydd yn nifer y dysgwyr a’r ehangu dilynol i’n cadwyn gyflenwi, byddai angen i unrhyw system newydd gael ei darparu ar draws y gadwyn gyflenwi.

Roedd angen system:

a.         a fyddai’n galluogi ITEC i weld y data diweddaraf oll am brofiad y dysgwr

b.         a fyddai’n hawdd ei mabwysiadu’n gyson ar draws y gadwyn gyflenwi

c.         na fyddai’n cael ei chyfyngu gan ddaearyddiaeth na materion hygyrchedd

ch.        a fyddai’n gallu cael ei defnyddio ar draws pob rhaglen

d.         a fyddai’n caniatáu i ni archwilio data am ddysgwyr yn ganolog i edrych ar batrymau, ymateb i dueddiadau ac amlygu grwpiau neu unigolion nad oeddent yn derbyn y profiad gorau posibl.

dd.       a fyddai’n gydnaws â phroses Llais y Dysgwr, neu y gellid ei chymharu’n hawdd â’r broses hon.

Cytunwyd bod dull tryloyw, effeithiol ac a oedd yn canolbwyntio ar berfformiad yn angenrheidiol. Datblygwyd cysyniad ‘IDRIS’ - ITEC Data Responsiveness Internal Survey System, a oedd yn caniatáu am ddatblygu system berfformio, ar y we, gan ddileu rhwystrau rhag mynediad a mynd i’r afael â chyfyngiadau o ran amser ac adnoddau. Mae’r system yn darparu gwybodaeth gyfredol am foddhad a chyfraddau ymateb ar gyfer pob rhaglen.

Erbyn hyn, mae’r system yn cynnwys partneriaid presennol i sicrhau safoni a sicrhau ein bod yn gallu cael golwg gyfannol gyfredol a mesur cyfraddau boddhad ar gyfer ITEC.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

1.         Mae IDRIS yn system aml-lwyfan yn ymwneud â phrofiad dysgwyr ac mae’n darparu data byw i fonitro ansawdd dysgu.

2.         Ar yr wyneb, mae’n feddalwedd hwylus i’r defnyddiwr, sy’n sicrhau adborth diffuant gan ddysgwyr trwy gyfrifiadur, gliniadur neu ddyfais symudol.

3.         Gofynnir i ddysgwyr roi eu hadborth drwy IDRIS ar dair adeg yn ystod eu taith fel dysgwyr (cyfnod sefydlu, canol y tymor ac adeg gadael) ac mae fforymau rheolaidd i ddysgwyr yn eu cefnogi.

4.         Mae’r offeryn yn caniatáu am gyfuno data i fwrw golwg ar dueddiadau yn ogystal â chaniatáu i ddysgwyr roi sylwadau penodol ar eu profiad.

5.         Mae’r data yn cael ei adolygu a’i drafod ym mhob cyfarfod o’r uwch dîm rheoli, gan weithredu pryd bynnag y bydd angen yn dod i’r amlwg.

6.         Mae IDRIS ar gael yn Gymraeg hefyd.  Mae lefel o gysondeb â phroses Llais y Dysgwr wedi’i darparu i IDRIS o ran cwestiynau a chategorïau.  Mae hyn yn galluogi i ITEC a’r isgontractwyr sy’n bartneriaid iddo feincnodi o gymharu â’i gilydd ac ar draws rhwydwaith cyfan Cymru.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Y prif feysydd i’w gwella a nodwyd ar draws arfarniadau mewnol IDRIS:

  • Swm ac Ansawdd yr offer / adnoddau sydd ar gael mewn canolfannau
  • Gwybodaeth a roddwyd am yr opsiynau sydd ar gael ar ôl cwblhau rhaglen
  • Adborth i ddysgwyr ar eu safbwyntiau
  • Sicrhau bod hyfforddiant yn berthnasol, neu fod dysgwyr yn deall diben meysydd penodol o fewn eu dysgu

Newidiadau a wnaed gan ITEC ers datblygu IDRIS – Ar draws y ddarpariaeth

  • IDRIS yn fyw – yn yr holl ddarpariaeth, gan gynnwys partneriaid
  • Rolau ychwanegol – Cydlynydd Pontio
  • Newidiadau i adeiladau – Cwmbrân / Pen-y-bont ar Ogwr
  • Offer TG newydd i bob canolfan
  • CSD – Canolfannau Storio Dysgwyr
  • Peilot o gwricwlwm ymgysylltu newydd, yn cynnwys pecynnau cynlluniau dysgu unigol a dysgu cyfunol
  • Recriwtio tiwtoriaid – defnyddio micro addysgu ymhellach
  • Gwelliant i ddogfennau a phroses Taith y Dysgwr, gan gynnwys cyfnod sefydlu a ‘fideo’ ar gwnsela
  • Diwrnodau datblygu partneriaid a rhannu arfer orau

Newidiadau a wnaed gan ITEC ers datblygu IDRIS – Yn lleol

  • Treialu cynrychiolwyr dysgu (Llwynypia)
  • Oriau presenoldeb sy’n addas ar gyfer trefniadau teithio
  • Clybiau brecwast a boreau coffi
  • Digwyddiadau chwaraeon ac ymweliadau diwylliannol
  • Mwy o siaradwyr gwadd
  • Newid strwythur i atal gorlenwi
  • ‘Diwrnodau’ Cymraeg, diwrnodau ADCDF
  • Datblygu gweithdai
  • Setiau teledu ac offer
  • Teithiau cerdded a digwyddiadau elusennol

Asesiad o Effaith

Mae IDRIS wedi’i alinio â chwestiynau Llais y Dysgwr, felly gallwn fesur / meincnodi yn erbyn canlyniadau Llais y Dysgwr.  Er bod ITEC wedi cael canlyniadau da yn Llais y Dysgwr 2013, dangosodd y canlyniadau fod canran y sgorau da iawn a gafwyd islaw cyfartaledd y sector.  Mae Asesiad o Effaith wedi dangos bod defnyddio IDRIS i amlygu’r gwelliannau gofynnol a gweithredu newidiadau yn sgil hynny wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ddarpariaeth ITEC a’r safonau a gyflawnir gan ein dysgwyr, gan wella ein proffil sgorau da iawn:

Darpariaeth

Trwy ddefnyddio’r canlyniadau o IDRIS dros gyfnod 5 mis rhwng Hydref 2013 ac Ionawr 2014, mesurwyd y cynnydd canlynol yng nghanran y dysgwyr sy’n rhoi sgôr Da Iawn:-

Y prif feysydd i’w gwella a nodwyd trwy arfarniadau IDRIS yn fewnol a’r cynnydd yng nghanran y sgorau da iawn a roddwyd:

  • Swm ac ansawdd yr offer / adnoddau sydd ar gael mewn canolfannau – cynnydd o 19%
  • Gwybodaeth a roddir ar yr opsiynau sydd ar gael ar ôl cwblhau rhaglen – cynnydd o 10.5%
  • Adborth i ddysgwyr ar eu safbwyntiau – cynnydd o 8%
  • Sicrhau bod hyfforddiant yn berthnasol, neu fod dysgwyr yn deall diben meysydd penodol o fewn eu dysgu - cynnydd o 28.4%

At hynny, wrth adolygu holl brif feysydd Llais y Dysgwr / IDRIS, mesurwyd y cynnydd cadarnhaol canlynol yng nghanran y sgorau da iawn:-

  • Gwybodaeth a Chyngor – cynnydd o 12%
  • Cymorth (Cymorth Dysgu Ychwanegol) – cynnydd o 24.4%
  • Cymorth (materion personol) – cynnydd o 7.6%
  • Ymatebolrwydd – cynnydd o 1.2%
  • Iechyd a Lles – cynnydd o 3.3%
  • Addysgu a Hyfforddi at ei gilydd – cynnydd o 25%
  • Addysgu a Hyfforddi (amser un i un) – cynnydd o 36.2%
  • Addysgu a Hyfforddi (gwrando) – cynnydd o 3.3%
  • Sgôr gyffredinol ar gyfer y ddarpariaeth – cynnydd o 28.6%
  • Wedi bodloni disgwyliadau – cynnydd o 23%

Safonau

  • Mae 594 o ddysgwyr wedi cwblhau arfarniadau ar safle IDRIS, 129 ohonynt wedi gorffen. Y PPR ar gyfer y garfan hon o ddysgwyr yw 72.5% o gymharu â 61% ar gyfer y garfan gyfan.
  • ASR y dysgwyr hynny sydd wedi gorffen ac sydd wedi bod yn rhan o strategaeth ymatebolrwydd ITEC ac wedi cwblhau o leiaf 1 rhan o Arfarniad y Dysgwr yn IDRIS:-
    • Ymgysylltu – 90.9% (o gymharu â 70.5% yn gyfan gwbl)
    • Hyfforddeiaeth Lefel 1 – 69.8% (o gymharu â 56% yn gyfan gwbl)
    • Camau- 57.8% (o gymharu â 62.4% yn gyfan gwbl)
  • Cyfathrebiadau ASR ESW y dysgwyr hynny sydd wedi gorffen ac sydd wedi bod yn rhan o strategaeth ymatebolrwydd ITEC ac wedi cwblhau o leiaf 1 rhan o Arfarniad y Dysgwr yn IDRIS:-
    • Ymgysylltu – 100% (o gymharu â 67% yn gyfan gwbl)
    • Hyfforddeiaeth Lefel 1 – 72.7% (o gymharu â 67.5% yn gyfan gwbl)
    • Camau - 63.2% (o gymharu â 66.4% yn gyfan gwbl)
  • Rôl y cydlynydd pontio – o ganlyniad i’r cymorth / arweiniad a gynigiwyd gan y rôl newydd, mae’r gyfradd bresenoldeb ar gyfer y garfan hon o ddysgwyr yn Llwynypia wedi cynyddu o 46% i 89%. (gweler hefyd y mesuriadau cymorth uchod)

Y ffordd ymlaen:

Mae cynlluniau ar waith i ymestyn a datblygu system IDRIS ymhellach:-

  • Ymestyn y defnydd o IDRIS i systemau Arfarnu Cyflogwyr a Rhanddeiliaid
  • Ymestyn y defnydd o holiadur IDRIS ar ffonau symudol i’r ddarpariaeth NEET anodd ei chyrraedd ac i ddarpariaeth arall heblaw darpariaeth Llywodraeth Cymru
  • Ymestyn systemau adborth fel eu bod yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol pellach e.e. Facebook a dulliau testun
  • Dadansoddi tueddiadau a meincnodi data yn barhaus (digonoldeb y data)
  • Cymharu a meincnodi yn erbyn canlyniadau newydd Llais y Dysgwr

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu arfer dda?

Mae System IDRIS ITEC wedi’i datblygu ymhellach er mwyn i bob is-gontractwr Prentisiaethau / Partner ei defnyddio’n allanol.

Mae ITEC yn gweithio gyda naw phrif bartner. Mae ein modiwl ar gyfer prif gontractwr wedi’i sefydlu ar dri ffactor craidd – perfformiad, ansawdd a datblygiad. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth o’r safon uchaf i’n cwsmeriaid.

Ein partneriaid presennol:

MVRRS - De Cymru: Iechyd a Gofal Cymdeithasol

LMJ - De Cymru: Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rheoli

Plato - Gogledd Cymru: Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Adwerthu, Gweinyddu, Rheoli

ELT - De Cymru: Rheoli

PTAS - Cymru’n genedlaethol: Trenau

Rossett - Cymru’n genedlaethol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal plant

ISA - De Cymru: Trin Gwallt a Harddwch

Bwrdd Iechyd ABM - De Cymru: Gweinyddu

Cafodd y system ei harddangos i bob partner trwy ddiwrnodau rhannu ymarfer a datblygu ITEC, ac roedd staff ITEC wrth law i roi cymorth i bob is-gontractwr wrth iddynt roi’r system ar brawf yn eu sefydliadau eu hunain.  Mae’r system yn adlewyrchu Llais y Dysgwr ac arfarniadau mewnol sy’n galluogi’r is-gontractwyr sy’n bartneriaid i ni feincnodi eu sgorau boddhad dysgwyr nid yn unig yn erbyn eu sgorau eu hunain ond sgorau eraill ar draws rhwydwaith Cymru gyfan.

Mae’r data byw’n cael ei ddadansoddi fesul is-gontractwr / partner ar ffurf siartiau boddhad i bob pwnc, cyfraddau ymateb a rhestri cynllunio misol i helpu partneriaid i flaengynllunio ar gyfer dal data.  Gellir mynd at sylwadau dysgwyr trwy adroddiad sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am gyfraddau boddhad dysgwyr.  Gall yr adroddiadau hyn gael eu dadansoddi fesul rhaglen, yn ôl oedran / rhyw / ethnigrwydd, ac yn ôl dyddiadau, fel y gellir cymharu ac integreiddio data.  Mae’n bosibl mynd at ddata ar ymatebolrwydd trwy system Porth Partneriaid ‘byw’ ITEC ar y fewnrwyd.