Arfer Effeithiol |

Menter fusnes yn gwella medrau

Share this page

Nifer y disgyblion
60
Ystod oedran
4-11
Dyddiad arolygiad

 

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gynradd Llanyrafon yn nhref Cwmbrân yn Nhorfaen, ac mae’n darparu addysg ar gyfer 370 o ddisgyblion 4-11 oed. Mae’r ysgol yn un boblogaidd, gyda 64% o’r disgyblion presennol yn dod o’r tu allan i’w dalgylch. Mae’r nifer ar y gofrestr wedi cynyddu’n raddol dros 5 mlynedd. Yn gyffredinol, mae sgorau gwaelodlin disgyblion wrth ddechrau yn yr ysgol yn dda o gymharu â chyfartaleddau’r Awdurdod Lleol. Mae gan ryw 5.4% o blant yr hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r Saesneg yn iaith ychwanegol i ryw 4% o blant, ac nid oes unrhyw blant yn siarad Cymraeg fel mamiaith. Nodwyd bod gan ryw 31% o blant anghenion dysgu ychwanegol.

Yn ogystal ag ymateb i’r alwad o’r byd masnach a diwydiant am fwy o entrepreneuriaid o Gymru, nododd yr ysgol gyfle i ddatblygu safon medrau sylfaenol a medrau allweddol y plant mewn cyd-destun go iawn ac ystyrlon.

Mabwysiadodd yr ysgol Fenter Busnes fel cyfrwng i sicrhau gwelliant mewn Llythrennedd (yn enwedig llefaredd ac ysgrifennu), Rhifedd, Medrau Meddwl, TGCh a datblygu agweddau ar addysg bersonol a chymdeithasol – yn ychwanegol at wella medrau dysgu annibynnol y disgyblion.

Mae datblygu prosiectau Menter Busnes yn cefnogi datganiad cenhadaeth yr ysgol yn llawn:

DYSGU AR GYFER BYWYD; YMRWYMIAD I RAGORIAETH

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Yn Ysgol Gynradd Llanyrafon, mae menter busnes yn digwydd ym mhob grŵp blwyddyn a chynigia gyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso a datblygu eu medrau mewn cyd-destunau go iawn ac ystyrlon. Caiff disgyblion eu hannog i weithio’n annibynnol, i ddewis â phwy maent yn dymuno gweithio a chyfrannu at y prosesau cynllunio ac asesu. Mae’r plant yn cael eu hannog i gyflwyno, trafod a cheisio atebion i broblemau a osodwyd o fewn cyd-destunau go iawn a heriol.

Mae disgyblion yn cael cyfle i gyfranogi mewn menter busnes nifer o weithiau yn ystod eu hamser yn yr ysgol hon, ac mae hyn yn annog disgyblion i adeiladu ar eu profiadau, eu gwybodaeth a’u llwyddiannau blaenorol. Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae prosiectau wedi galluogi’r ysgol i ddatblygu cysylltiadau da iawn gyda’r gymuned leol drwy ymweliadau gan fusnesau ac entrepreneuriaid lleol. Mae’r ysgol yn datblygu’r fframwaith llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm ond roedd wedi ymgorffori medrau 3-19 yn flaenorol, fel bod holl elfennau’r prosiect menter busnes yn seiliedig ar fedrau. Mae’r staff yn cynllunio ar y cyd er mwyn sicrhau parhad a chydlyniant.

Un amcan clir fu datblygu medrau ysgrifennu a llefaredd disgyblion. Mae’r cyd-destun bywyd go iawn yn cynnig cyfleoedd perthnasol ac ysgogol i’r staff annog disgyblion i ysgrifennu’n rhugl yn ogystal â’u cyflwyno i fedrau llefaredd lefel uchel oedolion a phlant mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Mae disgyblion o bob gallu yn cyfranogi ac yn cael y cyfle i chwarae rhan arweiniol. Mae hyn yn gwella eu medrau bywyd yn fawr, ac yn gwella eu hyder a’u lles.

Wrth ymgymryd â phrosiectau menter busnes, mae disgyblion yn cymryd perchnogaeth lawn ar y broses. Byddant yn gwneud y canlynol:

  • ymdrin â chyllidebau;
  • trafod benthyciadau a chyfraddau llog gydag oedolion;
  • caffael cynhyrchion;
  • defnyddio arddull ysgrifennu llythyrau ffurfiol i ymgeisio am swyddi o fewn cwmni;
  • defnyddio TGCh mewn cyd-destun go iawn i gyflwyno cynlluniau busnes/anfon negeseuon
  • e-bost at gwmnïau;
  • gweithio gyda’i gilydd i gynllunio strategaethau marchnata;
  • defnyddio medrau creadigol i hysbysebu a hyrwyddo’u cynnyrch/cynhyrchion; a
  • chyfranogi mewn cyfweliadau swyddi.

Pen draw’r prosiect yw bod disgyblion yn gwahodd rhieni a’r gymuned yn ehangach i fynychu prynhawn lle maent yn gwerthu eu cynhyrchion. Codwyd £2,000 mewn un prynhawn yn ystod y digwyddiad gwerthu diwethaf yn yr Haf 2013.

Y disgyblion sy’n penderfynu beth i’w wneud â’r elw. Mae enghreifftiau o sut caiff yr elw ei wario yn cynnwys: talu i’r dosbarth fynychu’r sinema a phrynu eitemau fel gemau gwlyb amser chwarae a chelfi awyr agored. Mae hyn yn sicrhau bod disgyblion yn cynnal ymdeimlad gwirioneddol o reolaeth a pherchnogaeth.

Mae disgyblion yn dangos llawer iawn o fwynhad, ffocws ac ymrwymiad wrth gyfranogi mewn prosiectau menter busnes, ac mae hyn yn effeithio’n hynod gadarnhaol ar eu lles.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae cyfranogi yn y prosiect menter busnes wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygu lles y disgyblion a’u medrau cymdeithasol a medrau bywyd.

Barnodd Estyn bod medrau cymdeithasol a medrau bywyd y disgyblion yn “rhagorol”.

Trwy gyfranogi mewn prosiectau olynol, mae disgyblion yn dangos safonau llefaredd rhagorol. Disgrifiodd Estyn fedrau llefaredd disgyblion ar ddiwedd CA2 yn rhai “eithriadol”.

Mae ysgrifennu mewn cyd-destun go iawn wedi cefnogi datblygiad y disgyblion, gyda’r rhan fwyaf o blant yn cyflawni o leiaf 2 is-lefel bob blwyddyn mewn ysgrifennu. Mae data 2012/13 yn dangos bod 92% o ddisgyblion B6 wedi cyflawni gwelliant o 2 is-lefel; cyflawnodd 45% welliant o 3 neu fwy is-lefel; cyflawnodd 9% 4 is-lefel.

 

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Arfer orau mewn addysgu a dysgu yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2 - Mai 2015

pdf, 513.03 KB Added 01/05/2015

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr chylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. ...Read more