Arfer Effeithiol |

Meithrin annibyniaeth ymhlith disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
206
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol 

Mae Ysgol y Faenol ym Mhenrhosgarnedd yn ninas Bangor.  Mae’r ysgol dan reolaeth wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol Gwynedd.  Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.  Mae 212 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr yn cynnwys 20 oed meithrin rhan amser.  Mae 8 dosbarth un oedran yn yr ysgol.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae tua 5% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.  Mae hyn yn sylweddol is na’r ganran genedlaethol, sef 18%.  Mae tua 10% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Mae tua 22% o’r disgyblion o gefndir lleiafrifol ethnig.  Ychydig iawn sydd yn derbyn cymorth i ddysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae’r ysgol wedi adnabod tua 14% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sydd yn is na’r ganran genedlaethol, sef 21%. Penodwyd y pennaeth i’w swydd yn mis Medi 2017.    

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Trwy ei systemau monitro a sicrhau ansawdd, roedd yr arweinwyr wedi amlygu yr angen i wella cynllunio tymor byr a’r ddarpariaeth ar gyfer yr ardaloedd dysgu er mwyn datblygu annibyniaeth a hyder y disgyblion wrth iddynt oresgyn heriau.  Penderfynodd yr ysgol fuddsoddi mewn adnoddau a hyfforddiant arbenigol yn y maes hwn i holl staff y cyfnod sylfaen.

Yn dilyn yr hyfforddiant, mae’r staff wedi ymchwilio, addasu ac arbrofi â llawer o wahanol agweddau a systemau dysgu dros gyfnod.  Mae hyn wedi arwain at ddatblygu systemau cyson, graddol ac arloesol sy’n magu lefel arbennig o annibyniaeth yn y disgyblion o’r meithrin hyd at Blwyddyn 2.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

O ganlyniad i’r hyfforddiant, addaswyd y dull cynllunio tymor byr i gynnwys profiadau dysgu blaenorol, camau nesaf a llais y disgybl.  

Crëwyd sail rhesymegol ar gyfer y ddarpariaeth estynedig a pharhaus gan fanylu ar weithdrefnau addysgu er mwyn sicrhau cysondeb ar draws yr adran yn y cyfnod sylfaen.  Sefydlwyd dau grŵp ffocws.  Un yn gweithio o dan arweiniad aelod staff ac un grŵp symudol yn gweithio yn yr ardaloedd dysgu yn ymarfer ac yn atgyfnerthu sgiliau y mae’r disgyblion eisoes wedi eu dysgu. Buddsoddwyd amser ar y cychwyn yn modelu a meithrin annibyniaeth y disgyblion wrth iddynt weithio yn yr ardaloedd dysgu.  Cynlluniwyd themâu dychmygus ar draws y cwricwlwm a rhaglenni gwaith diddorol, gyda’r disgyblion yn rhan allweddol o’r cynllunio drwy sesiynau ‘Llais y Disgybl’.  Cynlluniodd yr athrawon heriau wedi eu cysylltu â lefelau’r cwricwlwm, er mwyn cyfoethogi yr ardaloedd dysgu yn defnyddio y cymeriad ‘Deio y Dinosor Dysgu’.  Nod y cymeriad yw cyflwyno’r meini prawf llwyddiant i’r disgyblion yn yr ardaloedd dysgu.  Drwy ddefnyddio’r cymeriad mae’r disgyblion yn dod yn fwy annibynnol a chymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu dysgu. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae egwyddorion y cyfnod sylfaen wedi eu sefydlu’n arbennig o dda yn yr ysgol.  Trwy gydweithio effeithiol ac arweiniad clir mae athrawon yn sicrhau bod cyfleoedd i’r holl ddisgyblion dderbyn amrediad o brofiadau dysgu ymarferol, ysgogol a chyfoethog ar draws y cyfnod.  O ganlyniad i’r ddarpariaeth hyn, mae’r disgyblion yn arddangos lefel arbennig o annibyniaeth ac maent yn dangos gwydnwch pan fyddent yn wynebu heriau newydd.

Mae’r disgyblion yn awyddus i gwblhau’r gweithgareddau yn yr ardaloedd ac yn cymryd balchder a pherchnogaeth o’u gwaith gan eu bod yn rhan o’i gynllunio.  Maent yn mwynhau'r heriau ac yn cael ymdeimlad o lwyddiant gan eu bod yn adolygu sgiliau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt mewn cyd-destun amrywiol.

O ganlyniad i ddefnyddio’r cymeriad  ‘Deio y Dinosor Dysgu’ yn yr ardaloedd, mae disgyblion yn dysgu’n annibynnol ac mae ganddynt, o oed cynnar, ddealltwriaeth dda o sut i wella eu gwaith.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae egwyddorion y cyfnod sylfaen wedi ei rannu gyda dosbarthiadau cyfnod allweddol 2 yr ysgol.

Mae’r ysgol yn rhannu ei harferion gyda’r llywodraethwyr a rhieni trwy gyfarfodydd penodol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Saesneg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 - Mehefin 2014

pdf, 659.67 KB Added 01/06/2014

Lluniwyd yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. ...Read more