Arfer Effeithiol |

Mae lleisiau disgyblion o bwys

Share this page

Nifer y disgyblion
126
Ystod oedran
7-11
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae cyfranogiad plant neu ‘Llais y Plentyn’ , wedi bod yn rhan annatod o fywyd Ysgol Pen-y-bryn ers blynyddoedd.  Mae’r gweithdrefnau a’r cyfleoedd i ddisgyblion yn cael eu datblygu a’u gwella’n barhaus.

Yn 2009, bu’r ysgol yn rhan o grŵp peilot ‘Grŵp Effeithiolrwydd’ a oedd yn flaenoriaeth genedlaethol.  O ganlyniad, sefydlwyd grwpiau gwahanol i’r cynghorau ysgol ac Eco arferol,  sef  grwpiau ‘Plant Pesda’ er mwyn cael llais ac effaith ar y dysgu ac addysgu.

Un penderfyniad allweddol oedd cyllido amserlen benodol ar gyfer cyfarfodydd y grŵp.  Fel uwch dîm rheoli a chydlynwyr, sylweddolwyd yn fuan iawn bod y disgyblion yn cynnig sylwadau treiddgar a chywir wrth fonitro ac arfarnu nifer o feysydd er mwyn datblygu gwelliannau.

Mae cyfranogiad y disgyblion yn rhan greiddiol o weledigaeth yr ysgol.  Mae pob un disgybl yn adnabod y bod hawl ganddynt holi a rhannu syniadau a bod y rhain yn cael eu gweithredu er lles pawb yn yr ysgol.  Mae’r grwpiau yn adrodd yn ôl ar eu gwaith yn gyson i’r disgyblion ac i’r llywodraethwyr a’r rhieni. Trefnir cyfarfod blynyddol lle y caiff y rhieni gyflwyniadau gan y grwpiau yn esbonio’u gwaith wrth ddatblygu blaenoriaethau. Daw llond neuadd o rieni bob blwyddyn.  Dyma ble mae’r negeseuon pwysig ynglŷn â diogelwch y we, newidiadau yn y cwricwlwm, gwella presenoldeb, pwysigrwydd bwyta’n iach, ailgylchu, blaenoriaethau cenedlaethol, y siarter iaith ac unrhyw flaenoriaeth ysgol sy’n gyfredol.  Rhennir holiaduron yn y nosweithiau yma lle y ceir gwybodaeth ddefnyddiol gan y rhieni.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r gwahanol grwpiau yn gyfrifol am feysydd penodol yn effeithiol.

Mae gan bob grŵp eu rôl ac mae pob disgybl yn deall beth yw cyfrifoldeb pob grŵp.  Mae pob grŵp yn wahanol, gyda blaenoriaethau penodol i’w gweithredu er mwyn gwella meysydd pwrpasol.  Caiff pawb wybodaeth gyfredol drwy gyflwyniad, rhannu pamffledi, polisïau wedi eu haralleirio mewn iaith plant, arddangosfeydd amlwg yn esbonio’r gweithredu a’r canlyniadau neu ymweliadau i’r dosbarthiadau i addysgu maes penodol sydd yn flaenoriaeth.

Wrth gychwyn y grŵp effeithiolrwydd ‘Plant Pesda’ yn 2009, roedd aelodau’r grŵp yn cael eu dewis gan yr uwch dim rheoli a’r athrawon.  Bellach, mae’r gynrychiolaeth yn cael eu dewis gan aelodau o ddisgyblion Blwyddyn 6 ar ôl llunio meini prawf. 

Dyma’r grŵp sydd yng ngofal gweithredu gwelliannau y tu mewn i’r dosbarth, sef y ddarpariaeth, yr addysgu a’r dysgu.  Yn dilyn llunio holiadur a dadansoddi’r ymatebion, maent yn gyfrifol am gynllunio tasgau darllen a deall ar ffurf y profion cenedlaethol a’u cyflwyno i bob dosbarth.  Maent hefyd yn rhan o brosiect creu ‘ap y Ddraig’ gydag ysgolion tebyg ac yn cydweithio ag ysgolion yn y dalgylch ar dasgau cyswllt drwy dabledi cyfrifiadurol.  O ganlyniad, maent yn dysgu eu cyd-ddisgyblion ar sut i ddefnyddio tabledi cyfrifiadurol a’r meddalwedd defnyddiol sydd ar gael yn llwyddiannus.   Bu iddynt greu tasgau mathemateg pen amrywiol a chreu adnoddau trawsgwricwlaidd i’r athrawon eu defnyddio.  Aethpwyd ati i greu pamffled i rieni yn esbonio’r cwricwlwm newydd a llunio polisïau cyfredol fel y ‘Polisi e ddiogelwch’.  Maent yn llunio’r rhain yn benodol mewn iaith sydd yn haws i’w ddeall ac yn mynd i’r dosbarthiadau i’w gyflwyno.  Ar adegau mae aelodau yn cael cyfle i arsylwi gwersi a rhoi eu barn pan fydd angen penodi staff newydd.

Ffordd arall o sut mae’r disgyblion yn rhannu gwybodaeth am ddatblygiad strategol yr ysgol gyda’u cyfoedion yw drwy’r cyngor ysgol.  Mae aelodau’r cyngor ysgol yn cael eu hethol yn dilyn ysgrifennu araith sydd yn rhan o’r cynllun  iaith. Yma, maent yn ymgyfarwyddo a blaenoriaethau'r cynllun datblygu ysgol gyfredol ac yn mynegi barn gan esbonio pam y dylent gael eu hethol i’r swydd. Yn dilyn y cyfarfod cyntaf ym mis Medi 2017, penderfynodd y cyngor ysgol weithredu blaenoriaeth i wella presenoldeb.  Bu iddynt drefnu cystadleuaeth llunio poster i’r ysgol gyfan a chyfansoddi cerddi a rap i hybu presenoldeb.  O ran blaenoriaeth arall, bu iddynt arwain a gweithredu’r Siarter Iaith drwy gynllunio gemau buarth newydd a mynd i addysgu ym mhob dosbarth.  Bu iddynt ddadansoddi data a gwybodaeth o holiaduron am y Siarter Iaith a dewis camau gweithredu gan fynd i’r dosbarthiadau i esbonio’r camau a’u disgwyliadau.  Enghraifft arall yw’r cyngor yn derbyn argymhellion gan gyd-ddisgyblion ar gyfer gwelliannau yn amgylchedd tu allan i’r dosbarth. Y grŵp yma sydd wedi arwain i’r ysgol i dderbyn Cam 5 o gynllun Ysgolion Iach.

Mae’r Grŵp Eco yn cael eu hethol gan eu cyd ddisgyblion. Y grŵp hwn sydd yn gyfrifol bod yr ysgol yn parhau i fod mor ‘wyrdd ‘a phosib drwy gynnig gwelliannau i arbed ynni.  Maent yn rhoi cyfrifoldebau i bob dosbarth, gan fonitro’r gweithredu, ac yn ailgylchu a gwella’r defnydd o’r ychydig o dir gwyrdd sydd gan yr ysgol.  Maent hefyd yn trefnu a chynnal gweithgareddau masnach deg drwy gyflwyno tasgau i bob dosbarth.

Mae’r cyngor chwaraeon yn cael eu hethol gan ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 a’r cydlynydd addysg gorfforol,  gan enwebu rhai disgyblion sydd yn fwy abl a thalentog yn y maes.  Mae’r cyngor yn hybu ffitrwydd a chynnal gweithgareddau ar ôl ysgol i ddosbarthiadau yn eu tro, ac yn cefnogi gwaith y cynllun ysgolion iach.  Mae’n arferiad i rai ohonynt drosglwyddo i gyngor chwaraeon Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Trwy waith y grwpiau amrywiol mae medrau llythrennedd, rhifedd a TGCH y disgyblion yn cael eu datblygu yn dda neu well.  Mae’r ymdeimlad o berchnogaeth sydd gan yr holl ddysgwyr am eu dysgu yn amlwg.  Maent yn rhan o ethos gynhwysol sy’n cael effaith gadarnhaol iawn ar eu hymrwymiad i lwyddo a’u mwynhau o fod yn yr ysgol.  Mae gwelliannau parhaus mewn darpariaeth yn cael effaith cadarnhaol ar gyflawniad pob disgybl.  Mae data mewnol yn dangos bod bron pob un yn gwneud cynnydd da iawn.  Mae effaith amlwg i strategaethau'r ysgol, gan gynnwys cyfranogiad plant, sy’n rhoi cyfleoedd ymestynnol y byd go iawn i aelodau o’r grwpiau amrywiol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

  • Yr ysgol yn croesawu ysgolion eraill i drafod gyda’r grwpiau yn gyson, rhai ochr arall i’r wlad yn Abertawe, eraill ar draws yr awdurdod a phellach.

  • gwahoddir aelodau o’r grŵp i roi cyflwyniad o’u gwaith a’i effaith, er enghraifft ynglŷn ar strategaethau darllen mewn cynhadledd GwE.

  • gwahoddir y cydlynwyr, y dirprwy a’r pennaeth i roi cyflwyniadau mewn hyfforddiant llythrennedd, rhifedd, asesu ar gyfer dysgu, cynllun ysgolion iachac effaith cyfranogiad plant yn y meysydd hyn sicrhau gwybodaeth gyson ar wefan yr ysgol

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol