Gwneud y mwyaf o ymweliadau ac ymwelwyr i symbylu dysgu plant

Argraffu’r dudalen hon
Athrawes a phlant yn chwarae wrth fwrdd

Trwy fynd ar deithiau i safleoedd lleol a derbyn ymwelwyr, mae meithrinfa Cae'r Ffair yn ysbrydoli dysgu'r plant, sy'n gwella'u llythrennedd a'u rhifedd.


Ystod oedran: 2-4
Dyddiad arolygiad:  Chwefor 2016

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Cae’r Ffair Cyf yn lleoliad cyfrwng Cymraeg, ym mherchenogaeth breifat, ym mhentref Gorslas yn Sir Gaerfyrddin.

Caiff y lleoliad ei redeg gan reolwr gyfarwyddwr a thîm ymroddedig o 13 aelod staff amser llawn, hynod brofiadol.  Mae’r rhan fwyaf o’r staff wedi gweithio yn y feithrinfa ers iddi agor 12 mlynedd yn ôl.

Mae meithrinfa ddydd Cae’r Ffair wedi’i chofrestru i dderbyn 39 o blant ac mae ar agor o 8.00am tan 6.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r rhan fwyaf o blant sy’n mynychu’r feithrinfa yn siarad Cymraeg yn brif iaith iddynt ac mae’r plant sy’n mynychu yn dod o amrywiaeth lawn o gefndiroedd.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae’r lleoliad yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau dysgu cyfoethog a symbylol er mwyn sicrhau bod yr holl blant yn gwneud y cynnydd gorau posibl yn ystod eu cyfnod ym Meithrinfa Cae’r Ffair.

Mae ymarferwyr a staff yn cynllunio gyda’i gilydd fel tîm cyfan, gyda’r nod o roi profiadau dysgu newydd a diddorol i blant, sy’n eu hysgogi ac yn rhoi mwynhad iddynt.  Oherwydd bod lefel trosiant isel iawn ymhlith y staff, mae gan ymarferwyr gyd-ddealltwriaeth gadarn o sut i wneud y mwyaf o brofiadau dysgu er mwyn helpu plant i wneud cynnydd da.

Mae’r lleoliad yn credu’n gryf fod ymweliadau rheolaidd â’r gymuned ac ymwelwyr â’r feithrinfa yn cael effaith rymus ar safonau plant.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y sector

Y prif nod ym Meithrinfa Cae’r Ffair yw sicrhau bod yr holl blant yn cyrraedd eu potensial dysgu llawn.

Mae ymarferwyr yn credu mewn gosod disgwyliadau uchel ym mhob maes dysgu, trwy ganolbwyntio ar ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd plant ar draws y ddarpariaeth.

Gwneir defnydd effeithiol ar ymweliadau ac ymwelwyr i ysgogi a symbylu plant i ddysgu.  Trefnir ymweliadau ac ymwelwyr â’r feithrinfa bob tymor, yn gysylltiedig â thema’r lleoliad.  Mae enghreifftiau’n cynnwys ymweliadau â Llyn Llech Owain i ymestyn gwybodaeth plant am hanes Cymru ac ymweliadau gan yr heddlu a chlerigwyr lleol i’w helpu i ddysgu am eu cymuned a datblygu eu medrau ysbrydol, moesol a chymdeithasol.

Mae’r lleoliad wedi sylwi bod ymweliadau ac ymwelwyr yn ysbrydoli plant i siarad yn rhydd ac yn frwdfrydig am eu profiadau, gan eu helpu i ddatblygu medrau cyfathrebu cryf.  Mae’r defnydd adeiladol ar ymweliadau ag amrywiaeth o leoedd gwahanol, fel y siop leol, yn hybu medrau ysgrifennu a medrau rhif cynnar, er enghraifft deall dibenion ysgrifennu a defnyddio rhifau mewn sefyllfaoedd bob dydd.  Mae staff yn cynllunio’n ofalus ar gyfer yr ymweliadau, gan ddarparu gweithgareddau sy’n cyfateb i wahanol gamau datblygu plant, fel disgwyl i blant mwy abl ffurfio llythrennau’n gywir ac ysgrifennu geiriau syml ar eu rhestri siopa.

Mae staff yn ystyried yr hyn y mae plant eisoes yn ei wybod ac eisiau dysgu rhagor amdano pan fyddant yn dechrau cynllunio.  Gwneir hyn trwy greu mapiau’r meddwl ar ddechrau thema, gan ddangos barn, safbwyntiau, cwestiynau ac arsylwadau plant.  Mae staff yn gwneud yn siŵr eu bod yn ystyried hyn wrth gynllunio ar gyfer ymweliadau ac ymwelwyr.  Mae hyn yn golygu bod plant bob amser â diddordeb ac yn cymryd rhan, ac yn dysgu pethau newydd.  Er enghraifft, cafodd plant help i ddysgu geirfa newydd yn barod ar gyfer ymweliad gan gi sy’n anifail anwes.

Mae staff yn paratoi gweithgareddau penodol i helpu plant i elwa i’r eithaf ar ymweliadau.  Er enghraifft, rhoddant gardiau gweithgareddau gyda lluniau o anifeiliaid fferm arnynt i blant yn ystod ymweliad â fferm, a gall y plant roi tic i bob anifail a welant.  Yna, mae’r ymweliad yn fan cychwyn ar gyfer gwaith dros y pythefnos nesaf.  Er enghraifft, caiff plant eu hannog i ddatblygu eu medrau meddwl trwy gofio pa anifeiliaid a welont a pha rai na welont.  Mae staff yn creu llawer o weithgareddau yn seiliedig ar fferm, fel gemau loteri anifeiliaid, i’w helpu i ddysgu dilyn cyfarwyddiadau ac adnabod geiriau a rhifau.  Mae tasgau fwyfwy heriol yn cael eu cyflwyno’n aml i wahanol grwpiau o blant, gan gynnwys annog plant i roi gwahanol niferoedd o deganau anifeiliaid mewn ‘caeau’ wedi’u rhifo. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r lleoliad wedi darganfod bod plant yn mwynhau’r ymweliadau a’r ymwelwyr.  Mae ganddynt ddiddordeb, maent yn talu sylw ac maent yn hapus i ddysgu, felly datblygant yn ddysgwyr hyderus.

Oherwydd eu bod yn mwynhau dysgu, mae medrau ysgrifennu cynnar y rhan fwyaf o blant yn datblygu’n gynyddol wrth iddynt symud ymlaen drwy’r lleoliad; mae bron pob un o’r plant yn deall diben ysgrifennu ac yn dangos rheolaeth dda ar amrywiaeth o offer.

Mae medrau darllen cynnar y rhan fwyaf o blant yn datblygu’n dda iawn.  Mae dysgu rhagor am y lleoedd y gwnaethant ymweld â nhw ac am ymwelwyr gwahanol yn eu symbylu i ddatblygu diddordeb brwd mewn llyfrau a datblygu’n ddarllenwyr cynnar hyderus.

Mae medrau rhifedd y rhan fwyaf o blant yn datblygu’n eithriadol o dda.  Mae gan y rhan fwyaf o blant ymwybyddiaeth dda o rif, trefnu a didoli gwrthrychau, adnabod lliwiau a thrafod arian yn briodol.  

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Caiff yr arfer dda ei rhannu gyda’r wasg leol, trwy wefannau cymdeithasol fel Twitter a Facebook a thrwy wefan y feithrinfa.

Cysylltiadau: http://www.caerffair.com