Arfer Effeithiol |

Gweithredu model arweinyddiaeth newydd

Share this page

Nifer y disgyblion
1400
Ystod oedran
16-19
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Sefydlwyd Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant ym 1987 gan Archesgobaeth Caerdydd.  Mae’n cynnig darpariaeth chweched dosbarth ar ei gampws yn ardal Penylan y ddinas.  Mae’r coleg yn cyflogi tua 130 o aelodau staff ac yn darparu ar gyfer tua 1,400 o ddysgwyr, y mae bron bob un ohonynt yn astudio ar sail amser llawn a rhwng 16 a 19 oed.

Mae’r coleg yn cynnig dewis o 30 cwrs Safon Uwch, ynghyd â chyrsiau galwedigaethol lefel 3 ar draws wyth pwnc.  Mae cyrsiau UG a Safon Uwch yn cyfrif am 64% o’r cofrestriadau yn y coleg, gyda chyrsiau galwedigaethol lefel 3 yn cyfrif am 23% o gofrestriadau.  Mae cyrsiau lefel 2 yn cyfrif am 10% o gofrestriadau ac mae cyrsiau lefel 1 yn cyfrif am 2% o gofrestriadau.  Y meysydd pwnc sydd â chyfran fwyaf y ddarpariaeth yw gwyddoniaeth a mathemateg; busnes, gweinyddu a’r gyfraith; y celfyddydau, y cyfryngau a chyhoeddi; a’r gwyddorau cymdeithasol.

Mae’r coleg yn recriwtio dysgwyr o amrywiaeth eang o ysgolion, gan gynnwys pedair ysgol uwchradd Gatholig bartner.  Mae dysgwyr o amrywiaeth fawr o gefndiroedd economaidd gymdeithasol, ethnig a chrefyddol yn mynychu’r coleg.  Mae 34 y cant o ddysgwyr yn byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru fel y’u diffinnir gan gwintel cyntaf mynegai amddifadedd lluosog Cymru.  Mae 26 y cant o’r dysgwyr yn byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru.  Mae 36 y cant o boblogaeth y coleg o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig.  Mae 39 y cant o ddysgwyr y coleg yn dilyn y ffydd Gatholig.

Mae’r corff llywodraethol yn gweithio ar gynnig i ddiddymu’r coleg fel sefydliad addysg bellach dynodedig a’i ailgyfansoddi ar ffurf ysgol wirfoddol a gynorthwyir, yn ôl rheoliadau ysgolion, o dan reolaeth Cyngor Dinas Caerdydd.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae’r astudiaeth achos hon yn gysylltiedig â maes arolygu 5.1 y fframwaith arolygu cyffredin, sef ‘ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr, gan gynnwys y corff llywodraethol’.  Trwy ddefnyddio methodoleg yr arweinydd gwas, mae arweinwyr y coleg wedi datblygu timau hynod effeithiol ac ymgysylltiedig o staff sy’n cydweithio i sicrhau deilliannau eithriadol gan ddysgwyr.  Mae’r dull arweinyddiaeth gefnogol hwn yn modelu ac yn hyrwyddo gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol sydd wedi arwain at welliannau ar draws y coleg cyfan, gan gynnwys cydweithredu cadarn rhwng aelodau staff.

Rhoddwyd pwyslais sylweddol ar wella deilliannau i ddysgwyr ar draws ysgolion a cholegau.  Gellir a dylid cyflawni perfformiad uchel, cynaliadwy, trwy fabwysiadu dull sy’n hyrwyddo lles pawb yng nghymuned y coleg.  Mae model arweinyddiaeth gwas, gyda’i botensial i gyd-fynd â diwinyddiaeth Gristionogol ac ethos cynhwysol, cefnogol, yn galluogi’r coleg i wireddu’r uchelgais hwn.  Mae’r model yn caniatáu am integreiddio ymagweddau at ofal bugeiliol dysgwyr a staff o fewn fframwaith arweinyddiaeth sy’n berthnasol i’r coleg cyfan.  O ganlyniad, mae cyd-gymorth a chyflawni rhagoriaeth wedi dod yn ffocws i gymuned gyfan y coleg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer sy’n arwain y sector

Mae model arweinyddiaeth gwas yn mynnu mai’r arweinydd yw’r un sy’n dod i wasanaethu eraill.  Mae’n fodel radical.  Mae ymagwedd y coleg ei hun yn seiliedig ar dair egwyddor.  Yn gyntaf, ymrwymiad i les pawb.  Yn wahanol i ‘les y mwyafrif’, mae lles pawb yn pwysleisio urddas a hawliau pob un.  Yn ail, ystyrir pob pob person o’r un gwerth ac, o ganlyniad, rôl yr arweinydd yw gwasanaethu eraill.  Yn drydydd, mae pracsis, sef pan fydd arweinwyr yn myfyrio ar eu gweithredoedd er mwyn gwneud y mwyaf o weithredoedd yn y dyfodol er lles pawb.

Trwy ddefnyddio egwyddorion arweinyddiaeth gwas, datblygodd y coleg ei fodel arweinyddiaeth i integreiddio diwinyddiaeth â’r medrau y mae ar arweinwyr gwas eu hangen, ac ymddygiadau craidd y coleg.  Mae’r medrau cysylltiedig yn cynnwys: gwrando, ymwybyddiaeth, empathi, rhagwelediad, cysyniadoli, darbwyllo, iacháu, stiwardiaeth, a meithrin cymuned.  Mae datblygu’r medrau hyn ac ymrwymiad i dwf pobl yn ganolog i raglen hyfforddi arweinyddiaeth gwas y coleg.  Mae’r ymddygiadau yn deillio o athrawiaethau Jeswitaidd sy’n pwysleisio uchelgais i fod yn ddysgedig a doeth, chwilfrydig a gweithgar, huawdl a gonest, llawn ffydd a gobeithiol, tosturiol a chariadus, sylwgar a chraff, a bwriadol a phroffwydol.  Mae hunanfyfyrio mynych gan arweinwyr yn rhan hanfodol o ymagwedd ddynamig ac esblygol y coleg at arweinyddiaeth.  Mae hyn yn cynnwys cydnabod a mynd i’r afael â’r methiannau sydd ynghlwm wrth unrhyw ymdrech ddynol, a’u maddau.

Yn ddiweddar, mae uwch arweinwyr wedi ymestyn y rhaglen hyfforddiant ar arweinyddiaeth gwas i ddysgwyr y coleg.  Mae dysgwyr yn gallu gweithio ochr yn ochr â staff addysgu a gwasanaethau proffesiynol i ddatblygu’r medrau sy’n angenrheidiol ar gyfer arweinyddiaeth gwas lwyddiannus.  Caiff dysgwyr sy’n awyddus i wasanaethu ar y cyngor myfyrwyr neu arwain grwpiau neu weithgareddau o fewn y coleg eu croesawu i’r rhaglen.

Mae arweinwyr yn annog cymuned ac ethos trwy ddiwrnodau datblygu cymunedol i’r staff, rhaglenni lles staff a thrwy raglen addysg fyfyriol bwrpasol y coleg i ddysgwyr.  Yr un yw’r ymddygiadau yn y model arweinyddiaeth â’r ymddygiadau sy’n uchelgais i ddysgwyr ac sy’n cael eu hyrwyddo yn y rhaglen addysg fyfyriol.  Mae’r rhinweddau clasurol yng ngynllun proffil Jeswitaidd y disgybl yn dylanwadu’n gryf ar yr ymddygiadau hyn.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae cymuned y coleg yn amrywiol iawn; mae tua hanner y dysgwyr yn ymuno o ysgolion Catholig, daw pumed o ddysgwyr o gefndir Mwslimaidd a daw eraill o amryw ffydd neu ddim ffydd.  Mae gan y coleg gyfran uchel o bobl ifanc o ardaloedd difreintiedig yn economaidd gymdeithasol a dyma’r coleg mwyaf amrywiol yn ethnig yng Nghymru.  Mae model arweinyddiaeth gwas a’i integreiddio â rhaglen gofal bugeiliol y coleg yn helpu pob rhanddeiliad i uno fel cymuned.

Mae arweinwyr ar bob lefel yn ystyried mai eu rôl yw cefnogi a hwyluso newid a gwelliant.  Mae’r ymagwedd gefnogol hon wedi annog timau ar draws y coleg i gymryd risgiau wedi’u rheoli a’u cydlynu.  Mae dulliau atebolrwydd yn cael eu cymhwyso’n llorweddol ar draws y sefydliad, yn hytrach nag o’r brig i lawr.  Mae hyn wedi arwain at fwy o arloesi gan aelodau staff, sydd wedi effeithio’n gadarnhaol ar brofiad y dysgwr.  Mae’r coleg wedi llwyddo i dderbyn amrywiaeth gynyddol o ddysgwyr newydd ochr yn ochr â gwelliant parhaus yn neilliannau dysgwyr, sy’n cynnwys cyflawni graddau rhagorol gan ddysgwyr a chyfraddau cwblhau llwyddiannnus.  Mae arolwg blynyddol y coleg ei hun o ddysgu ac addysgu yn dangos gwelliannau arwyddocaol yn amgyffredion dysgwyr o’r coleg, sy’n cydnabod arloesi gan athrawon. Mae model arweinyddiaeth gwas wedi sicrhau bod diwylliant o gydgymorth, risg wedi’i rheoli a gwelliant parhaus, sydd wedi gwreiddio ar draws y coleg ac a ddylai barhau hyd yn oed ar ôl i’r arweinwyr presennol symud ymlaen.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Datblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol

Datblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol - Gwaith darparwyr addysg bellach, dysgu yn y gwaith a dysgu oedolion yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19 ...Read more
Arfer Effeithiol |

Llwyddiant gyda chynlluniau dysgu unigol ar-lein

Yn 2010, fe wnaeth Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd ddatblygu a gweithredu cynllun dysgu unigol ar-lein i helpu dysgwyr i asesu a chynllunio’u cynnydd yn barhaus. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Cyflenwi model newydd ar gyfer Bagloriaeth Cymru

Yng Ngholeg Catholig Dewi Sant, Caerdydd, mae bron pob un o’r dysgwyr lefel 3 yn dilyn model cyflwyno newydd ei ddatblygu ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Defnyddio technoleg fideo ar gyfer datblygiad proffesiynol

Mae Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant yn defnyddio technoleg fideo i ffilmio a myfyrio ar arferion addysgu. ...Read more
Adroddiad thematig |

Cyrsiau safon uwch mewn dosbarthiadau chweched a cholegau addysg bellach

pdf, 1.14 MB Added 08/11/2018

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais am gyngor yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018. ...Read more