Arfer Effeithiol |

Gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo buddsoddi mewn medrau a mynediad at addysg ôl-16

Share this page

Nifer y disgyblion
1800
Ystod oedran
16+
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/partneriaeth

Coleg Sir Benfro yw darparwr addysg a hyfforddiant ôl-16 mwya’r sir.  Mae ei brif safle yn Hwlffordd, ac mae gan y coleg ryw 1,800 o fyfyrwyr llawn-amser a 12,500 o fyfyrwyr rhan-amser, yn cynnwys llwybrau galwedigaethol, safon uwch, prentisiaethau a llwybrau graddau. 
 
Mae Iechyd a Pheirianneg yn feysydd cwricwlwm allweddol ar gyfer y coleg, ac mae’r astudiaeth achos hon yn ymwneud yn rhannol â gwella ac ehangu cyfleoedd i ddysgwyr sy’n dymuno astudio yn y meysydd hyn.

Bydd y coleg yn agor canolfan Safon Uwch newydd yn 2017 i ddarparu ar gyfer disgyblion o’r ddwy ysgol yng ngogledd y sir.  Y coleg a Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r cyfleuster newydd hwn ar y cyd.

Cyd-destun a chefndir yr arfer ragorol/sy’n arwain y sector

Yn rhanbarthol, mae’r coleg yn chwarae rhan bwysig trwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe a thrwy’r prosiect datblygol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu canolfan ynni môr ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau.  Mae’r coleg yn gweithio’n agos ag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a Phrifysgol Abertawe i sicrhau bod cyfleoedd i ddatblygu cynhyrchu ynni môr ac ynni cynaliadwy yn cael eu hyrwyddo i’r eithaf.  Yn fwy lleol, mae’r coleg wedi bod yn bartner arweiniol yn yr ad-drefniant o addysg ôl-16 yng ngogledd y sir, yn gweithio gydag ysgolion a’r awdurdod lleol i wella mynediad dysgwyr at ddarpariaeth Safon Uwch a gwella ehangder dewis cyrsiau galwedigaethol dysgwyr.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae’r pennaeth a’r uwch dîm arwain wedi bod yn effeithiol o ran sicrhau bod y coleg yn aelod arweiniol o bartneriaethau sy’n hyrwyddo adfywio economaidd yn Sir Benfro.  Drwy eu haelodaeth o ystod o gyrff rhanbarthol, fel Bwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol sydd newydd ei ffurfio ar gyfer De Orllewin a Chanolbarth Cymru, mae’r coleg wrth graidd y grwpiau gwneud penderfyniadau allweddol mewn perthynas â datblygu a buddsoddi mewn medrau yn y rhanbarth.

Yn lleol, mae’r pennaeth a’r uwch dîm arwain wedi gweithio’n agos gydag ysgolion a’r awdurdod lleol i gryfhau partneriaethau a chyfathrebu er mwyn gwella’r dewisiadau sydd ar gael i bobl ifanc yn Sir Benfro.  Mae’r pennaeth wedi arwain gwaith y coleg gyda chyfarwyddwr addysg yr awdurdod lleol a phenaethiaid Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Bro Gwaun, gan arwain at ddatblygu canolfan newydd ar gyfer addysg ôl-16.  Bydd darpariaeth SafonUwch yn cael ei chyflwyno yn y ganolfan hon, sydd wedi’i hariannu ar y cyd gan y coleg a Llywodraeth Cymru.  Agorodd y ganolfan yn haf 2017, ac fe’i goruchwylir gan bwyllgor canolfan Safon Uwch sy’n cynnwys cynrychiolaeth o blith penaethiaid ysgolion, y pennaeth a’r cyfarwyddwr addysg, ynghyd â chynrychiolaeth o blith llywodraethwyr ysgolion ac aelodau o gorff llywodraethol y coleg.
 
Mae’r coleg yn gweithio’n dda gydag ystod eang o bartneriaid cymunedol i ymgysylltu â grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd, fel cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, y rheini sydd mewn perygl o adael addysg a’r rhai sy’n anweithgar yn economaidd.  Mae’r coleg yn gweithio’n effeithiol iawn gyda’r ysgol arbennig leol i gefnogi pontio, integreiddio a dilyniant dysgwyr ar raglenni medrau byw’n annibynnol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

At ei gilydd, mae’r safonau a gyflawnir gan ddysgwyr yn y coleg yn dda. 

Mae’r coleg yn defnyddio’i gysylltiadau â’i bartneriaeth dysgu yn y gwaith yn effeithiol i alluogi dilyniant rhwng rhaglenni addysg bellach a rhaglenni dysgu yn y gwaith, neu gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth.

Un deilliant cadarnhaol o’r ymagwedd gyfannol at weithio mewn partneriaeth fu’r cyfleoedd gwell i grwpiau o ddysgwyr sy’n agored i niwed.  Mae’r ystod ragorol o bartneriaethau amlasiantaeth yn cefnogi’r dysgwyr hyn sy’n fwy agored i niwed yn dda iawn yn ystod eu rhaglenni.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Adolygiad o’r cwricwlwm 16-19 presennol yng Nghymru

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog Addysg at Estyn ar gyfer 2021-2022. ...Read more
Adroddiad thematig |

Sut defnyddiodd ysgolion a cholegau’r grant recriwtio, adfer a chodi safonau (RAChS) neu’r grant dal i fyny ar gyfer dysgwyr ôl-16

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y cymorth ar gyfer dysgwyr ôl-16 er mis Medi 2020 trwy’r grant ‘Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau: y Rhaglen Dysgu Carlam’ (y grant RACHS) mewn ysgolion a’r gr ...Read more
Adroddiad thematig |

Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr

Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr - Gwaith darparwyr addysg bellach, dysgu yn y gwaith a dysgu oedolion yn y gymuned yn ystod y pandemig COVID-19 ...Read more
Adroddiad thematig |

Partneriaethau ôl-16 - Cynllunio a darpariaeth ar y cyd rhwng ysgolion, a rhwng ysgolion a cholegau

Mae'r adroddiad hwn yn adrodd ar gynllunio a gwaith partneriaeth strategol ar gyfer addysg dysgwyr rhwng 16 ac 19 mlwydd oed mewn chweched dosbarth ysgolion a cholegau addysg bellach. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Gweithio mewn partneriaeth â sectorau i ddylunio ac adelidadu cyfleusterau newydd

Mae Coleg Sir Benfro’n gweithio gyda’r sectorau ynni a pheirianneg i gyflwyno addysg a hyfforddiant o’r ansawdd gorau yn lleol. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Llais y Dysgwr yng Ngholeg Sir Benfro

Ar ôl cymryd rhan yn y cynllun peilot cenedlaethol, rhoddodd Coleg Sir Benfro ei Strategaeth Llais y Dysgwr ar waith ym Medi 2010. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Sefydlu partneriaethau i helpu myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i ddatblygu medrau byw yn annibynnol

Mae Coleg Penfro wedi sefydlu partneriaethau cryf sydd wedi galluogi ei fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i ddatblygu’r medrau byw yn annibynnol fydd eu hangen arnynt yn y dyfodol. ...Read more
Adroddiad thematig |

Cynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn meysydd dysgu medrau byw yn annibynnol mewn colegau addysg bellach

pdf, 1.15 MB Added 16/06/2017

Mae’r adroddiad yn archwilio’r trefniadau ar gyfer mesur cynnydd dysgwyr ag anawsterau ac anableddau dysgu ar raglenni dysgu arbenigol mewn colegau addysg bellach (AB). ...Read more
Adroddiad thematig |

Arsylwi addysgu a dysgu yn effeithiol mewn colegau addysgu bellach

pdf, 546.81 KB Added 01/10/2015

Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi i ymateb i gais am gyngor ar ‘arsylwi addysg a dysgu’ yn effeithiol gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. ...Read more