Arfer Effeithiol |

Dull cydweithredol o ddatblygu gweithgareddau creadigol

Share this page

Nifer y disgyblion
420
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar gyrion tref Aberystwyth ac mae’n gweithredu’r dref ac ardaloedd gwledig gogledd Ceredigion. Mae tua hanner y disgyblion yn siarad Cymraeg gartref ac mae 2% yn teilyngu Prydau Ysgol am Ddim. Cafodd yr ysgol ei harolygu ym mis Tachwedd 2016 a llwyddodd i gyrraedd y safon Rhagorol ym mhob un o’r meysydd arolygu. Mae’r ysgol hefyd yn ysgol arloesi ac yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu agweddau o ddysgu proffesiynol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol wedi bod yn llwyddiannus wrth ddatblygu grwpiau o athrawon sy’n cydweithio mewn pedwarawdau er mwyn ffocysu ar agweddau cytunedig o ddysgu ac addysgu.  Rhan bwysig o’r broses yw’r cyfleoedd a ddarperir i athrawon gyd-gynllunio, cyd-arsylwi a chyd-werthuso.  Mae pwyslais mawr ar ddefnyddio syniadau’r disgyblion ar gyfer creu tasgau cyfoethog a diddorol sy’n ennyn eu medrau a’u chwilfrydedd tuag at ddysgu.  Mae rôl yr ysgol fel un arloesol wedi sicrhau cyfleoedd i ddatblygu’r broses hon drwy ddefnyddio themâu sy’n hybu’r argymhellion ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a’r Cwricwlwm Cymreig.  Pwysleisiwyd yr angen i athrawon i fod yn greadigol ac i fentro gwneud pethe mewn ffyrdd gwahanol i’r arfer, ond i gofio bod angen i’r gweithgareddau arwain at ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) y disgyblion. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu weithgaredd a adnabuwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Datblygwyd tasgau cyfoethog drwy ganolbwyntio ar y thema ‘T Llew Jones’ er mwyn gwau agweddau o’r celfyddydau ar draws yr wyth dosbarth yng nghyfnod allweddol 2.  Yn sgil y syniadau a gasglwyd o blith y disgyblion crëwyd mapiau meddwl a chytunwyd ar weithgareddau ysgrifennu creadigol, cyflwyniadau digidol, gweithgareddau drama, celf, cerddoriaeth greadigol a dawns.  Mireiniwyd y cynlluniau ac adnabuwyd cyfleoedd i weithio gyda’r gymuned leol gan fanteisio ar arbenigedd sefydliadau fel cwmni drama’r Arad Goch a’r Brifysgol yn Aberystwyth. 

Yn sgil rôl yr ysgol fel un arloesol manteisiwyd ar y cyfleoedd i gydweithio gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant gan blethu rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon i mewn i’r ‘pair creadigol’. 
Bu hyfforddeion y Brifysgol yn rhan o’r cynllunio gyda’r athrawon a llwyddwyd i ddatblygu cyfleoedd iddynt arsylwi a chymryd grwpiau yn ystod y gwersi.  Bu hyn yn llwyddiannus ac yn rhan bwysig o’u hyfforddiant fel darpar athrawon. 

Wrth werthuso’r gwersi yn wythnosol mewn sesiynau adlewyrchol, darparwyd cyfleoedd i athrawon profiadol a darpar athrawon gydweithio er mwyn gwella’r profiadau ar gyfer y disgyblion.  Penllanw’r gwaith oedd cael prynhawn o rannu arferion da ar ffurf cyflwyniad i holl ddisgyblion cyfnod allweddol 2, staff yr ysgol, llywodraethwyr, staff yr awdurdod lleol a myfyrwyr y Brifysgol. 

Pa effaith cafodd y gwaith ar ddarpariaeth a deilliannau’r disgyblion?

Llwyddodd y ddarpariaeth i gael effaith gadarnhaol ar fedrau llafar ac ysgrifennu’r disgyblion yng nghyfnod allweddol 2, gyda’r thema greadigol yn ennyn brwdfrydedd y bechgyn yn benodol - roedd y cyfleoedd ehangach i ddisgyblion weithio mewn grwpiau ac i chwarae rôl yn fodd iddynt ddatblygu mewn hyder a sicrhau cyfleoedd iddynt berfformio mewn cyd-destun Cymreig. 

Llwyddodd y gweithgareddau digidol a gyflwynwyd i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau TGCh trwy ddefnyddio rhaglenni creu ffilm, paratoi cyflwyniadau electronig a defnyddio sgrin werdd.  Nodwyd fod parodrwydd y disgyblion a’r staff i fentro a defnyddio rhaglenni newydd wedi cyfoethogi eu medrau cyfrifiadurol ar draws yr ysgol. 

Sut ydych chi wedi rhannu’r arfer dda?

Un o flaenoriaethau’r cynllun gwella ysgol oedd ymestyn y cyfleoedd i rannu arfer dda o safbwynt dysgu ac addysgu ar draws yr ysgol.  Llwyddwyd i wneud hyn yn effeithiol, gan sicrhau bod yr athrawon yn datblygu sgiliau arsylwi, gwerthusol a gwella’r ffyrdd y maent yn rhoi adborth effeithiol.  Cafwyd cyfleoedd i rannu’r arfer dda drwy rwydwaith ysgolion arloesol, mewn cynadleddau’r Consortiwm Rhanbarthol a chydag ysgolion lleol. 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Arsylwi athrawon ac adolygiad o feysydd dysgu a phrofiadau yn ysgogi cwricwlwm cyfoethog

Fe wnaeth trawsnewid y cwricwlwm yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth gymryd dros ddwy flynedd. ...Read more
Adroddiad thematig |

Arloesi'r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd

pdf, 940.23 KB Added 17/05/2018

Darganfyddwch ddull pedwar cam y gall eich ysgol ei ddefnyddio fel strwythur i gefnogi syniadau cwricwlaidd a dysgu proffesiynol. ...Read more