Arfer Effeithiol |

Defnyddio pypedau i hyrwyddo dealltwriaeth emosiynol plant

Share this page

Nifer y disgyblion
19
Ystod oedran
2-4
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Cylch Meithrin Hermon yn lleoliad cyfrwng Cymraeg sy’n cyfarfod yng Nghanolfan Hermon ym mhentref Hermon ger Crymych, yn awdurdod lleol Sir Benfro.

Mae’r lleoliad yn darparu addysg a gofal i blant rhwng dwy a phedair oed o ddydd Llun i ddydd Iau, o 9am tan 12pm yn ystod y tymor.  Mae wedi’i gofrestru i dderbyn hyd at 17 o blant mewn sesiwn.  Mae 13 o blant yn derbyn addysg gynnar a ariennir yn y lleoliad ar hyn o bryd.  Daw’r rhan fwyaf o’r plant o gartrefi Saesneg eu hiaith.  Nid oes yna unrhyw blant ag anghenion dysgu ychwanegol a nodwyd yn mynychu’r lleoliad ar hyn o bryd.  Caiff y lleoliad ei redeg gan dri aelod o staff.

Cyd-destun a chefndir

Mae Cylch Meithrin Hermon yn lleoliad cyfrwng Cymraeg hwyliog a bywiog, ag iddo awyrgylch croesawgar a chynhwysol.  Er mwyn gwneud y lleoliad yn gynaliadwy, addaswyd cofrestru i gynnwys plant dwy oed.  Wrth i faint a chyfansoddiad y grŵp newid, canfuwyd bod y lleoliad wedi mynd yn fwy swnllyd, ac nid oedd plant yn gwrando ar ei gilydd nac ar yr ymarferwyr yn ddigon da bob amser.  Roedd angen iddynt ddod o hyd i strategaeth i helpu rheoli ymddygiad plant yn llwyddiannus, a’u helpu i ddatblygu medrau gwrando effeithiol a medrau cymdeithasol cryf, fel y gallent uniaethu’n dda â’i gilydd yn y lleoliad.  I ddechrau, penderfynodd ymarferwyr ddefnyddio pypedau i ddal sylw plant yn ystod amser cylch.  Wedyn, aeth arweinydd y lleoliad ar gwrs hyfforddi i ddysgu am wahanol ddulliau rheoli ymddygiad.  Roedd y cwrs yn cynnwys hyfforddiant ynglŷn â sut i ddefnyddio pypedau i ddatblygu medrau personol a chymdeithasol plant, a chefnogi eu lles.  Fe wnaeth hyn helpu i ddeall potensial llawn defnyddio pypedau, ac ysbrydolwyd ymarferwyr i wneud mwy.  Fe wnaethant gyflwyno pyped crwban y môr yn ystod amser cylch, sy’n cuddio yn ei gragen os oes gormod o sŵn neu ymddygiad afreolus yn y grŵp.  Mae’n dweud wrth y plant sut mae’n teimlo ac yn eu hannog nhw i ddweud wrtho ef sut maen nhw’n teimlo hefyd.  Mae hyn yn eu helpu i ddechrau deall eu hemosiynau a sut i uniaethu â phlant eraill yn y grŵp.  Bu’n llwyddiant mawr, ac fe gaiff ei ddefnyddio trwy gydol y sesiwn erbyn hyn, nid yn ystod amser cylch yn unig.

Disgrifiad a natur y strategaeth a’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae ymarferwyr wedi gwneud y pypedau yn rhan ganolog o’r drefn ddyddiol.  Caiff plant eu hannog i ryngweithio â nhw yn rheolaidd, ac maent wedi dod mor gyfarwydd â’r pypedau fel bod y rhan fwyaf ohonynt yn hapus i siarad â nhw am sut maent yn teimlo.  Pan fydd Colin yn cuddio yn ei gragen, mae’r plant yn gwybod bod rhywbeth wedi achosi iddo fod yn ddigalon.  Mae hyn yn eu hannog i feddwl am sut mae plant eraill yn teimlo, ac am effaith eu gweithredoedd ar bobl eraill.  Wedyn, cânt eu hannog i feddwl am yr hyn y gallant ei wneud i wella’r sefyllfa.  Os bydd plant yn dechrau mynd yn rhy swnllyd neu’n cynhyrfu ei gilydd, mae ymarferwyr yn dod â Colin allan ac yn dangos i’r plant ei fod yn cuddio yn ei gragen.  Yn aml, mae plant yn ymateb ar unwaith am eu bod eisiau i Colin fod yn hapus.  Mae ymarferwyr yn defnyddio Colin i helpu hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol trwy ofyn iddo ddweud pan fydd plentyn yn haeddu sticer i ddathlu pa mor dda y mae’n gwneud ac awgrymu pwy ddylai fod yn helpwr y diwrnod. 

Mae’r pypedau’n mynd ar deithiau gyda’r lleoliad, ac fe’u defnyddir i helpu plant llai hyderus i ymdopi â sefyllfaoedd newydd.  Maent yn helpu cyflwyno testunau a syniadau newydd i’r plant, er enghraifft i ddechrau dysgu am wahanol ddiwylliannau a thraddodiadau.  Bydd gwahanol blant yn mynd â Colin adref gyda nhw bob wythnos.  Mae hyn yn helpu datblygu cysylltiadau cryf â rhieni a gwybod sut gallant gynorthwyo eu plant i ddatblygu medrau cymdeithasol a medrau cyfathrebu penodol.  Mae plant yn dewis gweithgaredd yn ymwneud â Colin gartref, neu cânt eu harwain tuag at weithgaredd y credir y bydd yn hynod ddefnyddiol ar gyfer y plentyn.  Pan fyddant yn dod â Colin yn ôl, caiff plant eu hannog i siarad am yr hyn wnaethon nhw gyda’i gilydd.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae defnyddio’r pypedau wedi helpu creu ethos teuluol cynnes a chroesawgar yn y lleoliad.  Caiff ymddygiad plant ei reoli mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol, a defnyddir strategaethau yn gyson.  O ganlyniad, mae bron pob un o’r plant yn deall sut y disgwylir iddynt ymddwyn, ac y dylent fod yn barchus ac ystyriol o’i gilydd.  Er enghraifft, maent yn deall bod angen iddynt reoli eu hymddygiad os bydd Colin yn encilio i’w gragen am fod gormod o sŵn.  Mae bron pob un o’r plant yn dod yn ymwybodol o wahanol deimladau ac emosiynau, ac maent yn dechrau deall sut i fynegi’r rhain yn briodol. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r lleoliad yn gweithio’n agos gyda lleoliadau cyfrwng Cymraeg eraill yn yr ardal, ac maent yn cyfarfod â’i gilydd i rannu syniadau ac arferion.  Rhannwyd strategaethau â lleoliadau eraill sy’n cynnig addysg a ariennir ledled y sir yn ystod cyfarfod rhwydwaith rheolaidd.  Mae athrawon cyswllt yr awdurdod lleol yn annog ymarferwyr eraill i ymweld â’r lleoliad i weld arfer dda.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol