Arfer Effeithiol |

Defnyddio cymorth targedig i gynyddu presenoldeb a gwella ymddygiad

Share this page

Nifer y disgyblion
621
Ystod oedran
11-16
Dyddiad arolygiad

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae ysgol y Fair Ddihalog yn ysgol gyfun Gatholig fach i ddysgwyr 11-16 oed ar gyrion gorllewinol Caerdydd, ac mae dros 700 o fyfyrwyr ar y gofrestr ar hyn o bryd.  Mae dros 30% o ddysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, gyda rhyw 10% yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol, 30% o ddysgwyr ag AAA ac mae rhyw ddwy ran o dair o fyfyrwyr yn dod o’r 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gan gynnwys canol Caerdydd, Butetown a Threlái.

Mae’r mesurau difreintedd sy’n wynebu’r cymunedau a wasanaethir yn golygu bod rhwystrau amrywiol rhag dysgu a allai effeithio’n hawdd ar gynnydd.  Mae’r ysgol wedi wynebu materion yn ymwneud â phresenoldeb a’r angen am ymddygiad effeithiol iawn ar gyfer strategaethau dysgu.  Mae llawer o ddysgwyr yr ysgol yn wynebu materion cymdeithasol anodd a chymhleth sydd wedi mynnu cymorth helaeth; mae ymgysylltiad rhieni yn fater i’r ysgol hefyd.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Yn 2011, wynebodd yr ysgol lawer o heriau oherwydd demograffeg benodol, difreintedd cymdeithasol a diffyg ymgysylltiad rhieni. Roedd y rhain yn cynnwys lefelau uchel o driwantiaeth ac absenoliaeth, gwaharddiadau cyfnod penodol ymhlith yr uchaf yng Nghymru, tlodi o ran uchelgeisiau a diffyg ymgysylltiad rhieni.  Roedd mesurau a roddwyd ar waith i fynd i’r afael â materion ymddygiad amlwg yn rhannol lwyddiannus.  Fodd bynnag, teimlai’r ysgol mai bregusrwydd sylfaenol oedd wrth wraidd y materion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.  Sefydlwyd cyfleuster anogaeth 11-16 yn 2012.  Rhoddwyd ymyriadau pwrpasol ar waith i bontio’r bwlch rhwng rhwystrau personol neu academaidd a chyflawni rhagoriaeth.  Fe’i bwriadwyd fel gwasanaeth cyfryngol cyffredinol rhwng y cartref a’r ysgol, a rhwng problemau ac atebion.  Mae’r diben yn cael ei adlewyrchu yn ei enw, “Y Bont” / “The Bridge”.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r broses o nodi angen unigol yn un strwythuredig a rhagweithiol.  Mae systemau rheoli llinell, hunangyfeirio a phrosesau trosglwyddo, gan ddefnyddio proffilio Boxall, yn uno gydag ymyriadau mwy penodol, teilwredig.  Mae dull amlasiantaeth (gyda dros 50 o ddarparwyr) yn sicrhau ymateb priodol.  Caiff cysondeb ei oruchwylio gan bennaeth cynorthwyol, sy’n gweithredu fel “Gwarchodwr” trwyadl yr holl atgyfeiriadau a phrosesau. Mae briffiau bugeiliol yn esbonio manylion yn ymwneud â’r holl atgyfeiriadau, a rhennir hyn gyda phob un o’r timau (ar sail angen gwybod).  Mae data gwaelodlin yn tanlinellu datblygiad rhaglenni personoledig a chynlluniau cymorth ymddygiadol, presenoldeb, dysgu a bugeiliol cysylltiedig. Defnyddir prawf gwydnwch i fonitro cynnydd disgyblion a rhaglenni fel cyfanrwydd. Mae ymgysylltiad rhieni ym mhob cam yn allweddol i nodi a chwalu rhwystrau ac i lwyddiant yn y pen draw.

Mae Y Bont yn amgylchedd diogel, strwythuredig iawn sy’n noddfa ar adeg dyngedfennol ym mywyd plentyn a / neu yn gyfle i ddatrys sefyllfaoedd neu amgylchiadau sy’n effeithio ar botensial disgyblion i ddysgu.  Caiff ei staffio gan ddau aelod o staff amser llawn, un ohonynt yn weithiwr ieuenctid profiadol gydag arbenigedd mewn datrys gwrthdaro, Arferion Cyfiawnder Adferol a chyflwyno rhaglenni pwrpasol.  Mae’r llall yn athro cymwysedig gyda phrofiad helaeth yn y pynciau craidd a phrosesau pontio.  Mae’r penodiadau allweddol hyn yn gwbl hanfodol i lwyddiant y Bont.

Mae’r cyfleuster mewn rhan dawel o’r ysgol.  Mae ei gynllun yn adlewyrchu amgylcheddau cartrefol ac academaidd, gan roi ymdeimlad o sefydlogrwydd a pharhad i ddisgyblion sydd â bywydau cwbl ddi-drefn.  Defnyddir ardal gegin i baratoi a rhannu prydau bwyd ac i greu awyrgylch cefnogol i’w gilydd.  Mae clybiau brecwast a chinio yn denu disgyblion sy’n agored i niwed, yn unig neu’n ofnus, ac mae “Gwrandawyr Myfyrwyr” ar gael ar rota i sgwrsio a chefnogi disgyblion eraill.  Mae soffas a chadeiriau esmwyth ar gael ar gyfer rhannu llyfrau, gemau a chyfarfodydd grŵp.  Mae ardal ar wahân wedi’i dynodi hefyd fel man gweithio a defnyddio TG.  Caiff ymdeimlad o deulu ei feithrin ac mae disgyblion yn cael eu hannog i ddysgu, rhannu a chwarae gyda’i gilydd yn adeiladol.  Mae bwyta a siarad gydag oedolion a rhai eraill yn ganolog i’r profiad hefyd.  Mae gweithgareddau grŵp bach yn mynd i’r afael â thargedau a nodwyd mewn cynlluniau personol, er enghraifft, trwy gynlluniau ymddygiad unigol.  Caiff moesau ac iaith briodol eu modelu gan staff, sy’n dangos ymddygiad cadarnhaol, cefnogol ac anogol fel modelau rôl.  Maent yn dangos anwyldeb ac yn creu cydbwysedd rhwng dysgu, addysgu a threfn. Mae cynlluniau “Pont i lwyddo” / “Bridge to success” yn bersonol iawn ac yn cael eu monitro gan Arweinwyr Cyfnodau Allweddol, yn yr un modd â rhaglenni ailintegreiddio hefyd.

Mae rhaglenni pwrpasol yn cynnwys:

  • medrau cyfathrebu
  • gwrthfwlio
  • ysgogwyr emosiynol neu gymdeithasol
  • ymddygiadau heriol
  • datblygu arweinwyr gwydn

Cedwir at holl bolisïau’r ysgol ac mae gwaith cyfwerth â chyfoedion yn cael ei ddarparu ar sail profion SCYA ac offer asesu eraill.  Fodd bynnag, mae gwaith yn adlewyrchu oedran datblygiadol, nid cronolegol disgyblion, ac mae cynllunio ar y cyd yn allweddol i lwyddiant, fel y mae cysylltu yn allweddol gyda Chynhwysiant.  Mae gweithgareddau a ddefnyddir ar gyfer ymgysylltu yn cynnwys deunyddiau testun, deunyddiau seiliedig ar fedrau neu ddeunyddiau trawsgwricwlaidd.  Mae sesiynau’n rheolaidd ac yn rhagweladwy, a gallant fod yn wythnosol neu fel bloc yn dilyn trafodaeth gydag Arweinwyr Cyfnodau Allweddol.  Hefyd, mae pwyslais ar ddatblygu iaith, medrau cyfathrebu, hunan-barch a llythrennedd emosiynol.  Ceir cyswllt rheolaidd rhwng y cartref a’r ysgol, ac mae bob amser yn gadarnhaol, ac mae’r gwaith partneriaeth hwn yn golygu y cynhelir ymweliadau mynych â’r cartref.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae Ysgol y Fair Ddihalog yn ysgol lwyddiannus iawn ac mae cynnydd y disgyblion ymhlith y gorau yng Nghymru.  Mae L1 a L2 yn gyson dros 97% ac mae ffigurau L2+ yn uwch nac amcangyfrifon D Ymddiriedolaeth Teulu Fischer a deilliannau wedi’u modelu.  Mae 85% o bynciau yn cael canlyniadau yng nghyfnod allweddol 4 sydd uwchlaw amcangyfrifon 5 Ymddiriedolaeth Teulu Fischer.  Rydym yn chwartel 1 ym mhob maes bron, gan gynnwys grwpiau fel disgyblion sy’n gymwys i gael PYDd a disgyblion ag AAA; mae hyn yn wir hefyd ar L5+ a L6+ yng nghyfnod allweddol 3.  Mae’r ysgol yn perfformio uwchlaw cyfartaleddau Cymru a’r awdurdod lleol yn aml.  Am y ddwy flynedd diwethaf, mae’r ysgol wedi bod yn y categori 1A Gwyrdd.  Mae presenoldeb hefyd yn gosod yr ysgol yn y chwartel cyntaf, a’r ffigurau gwaharddiadau yw’r pedwerydd isaf yng Nghaerdydd, lle mae gan ysgolion â demograffeg debyg rai o’r ffigurau gwaharddiadau uchaf yng Nghymru.  Nid ydym wedi cael unrhyw waharddiadau parhaol ers dros bedair blynedd.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer ar draws yr awdurdod mewn cyfarfodydd.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol

Adroddiad thematig |

Arsylwi ystafelloedd dosbarth yn effeithiol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd - Hydref 2014

pdf, 644.94 KB Added 01/10/2014

Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor am arsylwi ystafelloedd dosbarth yn effeithiol gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn 2013-2014. ...Read more
Adroddiad thematig |

Teithiau gwella deuddeg ysgol uwchradd - Rhagfyr 2013

pdf, 1.07 MB Added 01/12/2013

Dros y blynyddoedd, mae arolygwyr Estyn wedi ymweld ag ysgolion mewn cyfnodau datblygu amrywiol. ...Read more