Arfer Effeithiol |

Dathlu amrywiaeth er mwyn cefnogi disgyblion gwybodus, cyfrifol a goddefgar

Share this page

Nifer y disgyblion
240
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn gymuned fywiog a chroesawgar, sy’n gwireddu’n llawn ei gweledigaeth i feithrin doniau pob un o’i disgyblion a’i staff.  Mae ansawdd uchel iawn y gofal a’r cymorth a ddarperir gan staff yn meithrin gwerthoedd cryf ar y cyd o oddefgarwch, parch a chynwysoldeb yn llwyddiannus ymhlith pob aelod o ‘Deulu Cleidda’.  Mae’r ethos hwn yn llywio agweddau cadarnhaol iawn disgyblion tuag at ddysgu yn uniongyrchol ac yn cefnogi eu datblygiad fel dinasyddion hyderus, galluog ac annibynnol.  Mae dathlu a pharchu gwahaniaeth yn ganolog i’r ysgol.  Mae’r ysgol wedi ceisio herio stereoteipiau o bob math ac mae wedi datblygu thema ‘amrywiaeth’ sy’n rhedeg o’r dosbarth meithrin i Flwyddyn 6.  Mae pob dosbarth yn defnyddio un o’r naw nodwedd warchodedig ac yn datblygu cyfleoedd dysgu arloesol ac amrywiol â materion, testunau cyfoethog a symbyliadau.  Mae’r ysgol wedi datblygu cysylltiadau hynod effeithiol â Stonewall Cymru, Paralympiaid, sefydliadau anabledd a Cymru dros Heddwch, i enwi dim ond rhai sy’n cefnogi datblygiad personol disgyblion.  Mae’r ysgol yn defnyddio ymwelwyr o’r gymuned a thu hwnt i ennyn diddordeb pob disgybl i fyfyrio ar eu gwerthoedd.  Er enghraifft, fe wnaeth ymweliad ysbrydoledig gan Baralympiad herio a llywio safbwyntiau disgyblion am anabledd a chyflawniad.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ysgol yn cynnig cyfle cyfartal i bob disgybl elwa ar y cwricwlwm.  Caiff disgyblion eu hannog i wneud penderfyniadau, bod yn ymholgar a meddwl yn annibynnol, a datblygu i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus.  Mae’r ysgol yn herio stereoteipiau yn agweddau, dewisiadau, disgwyliadau a chyflawniadau disgyblion yn gyson.  Lluniodd pob grŵp blwyddyn gynllun gyda disgyblion i ddysgu am wahanol fath o amrywiaeth, er enghraifft ‘ffydd’ ym Mlwyddyn 5, gwahanol deuluoedd a rhianta un rhyw ym Mlwyddyn 3, stereoteipio ym Mlwyddyn 4, anableddau corfforol yn y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 a rhywioldeb a ffydd yn heddwch y byd ym Mlwyddyn 6.  Ar ddiwedd y prosiect hwn, cafwyd dathliad ysgol gyfan.  Ym Mlwyddyn 5, cyfwelwyd â chynrychiolwyr o’r pum prif ffydd gyda’r un cwestiynau, gan y disgyblion.  Darganfuwyd elfennau tebyg, a rhannwyd llawenydd ffydd bersonol, gan gynnwys anffyddiaeth.  Roedd Malala Yousafsai yn thema ym Mlwyddyn  4 gyda ffocws ar gydraddoldeb o ran rhywedd ers adeg y ‘Swffragetiaid’, gan holi a yw bywyd wir yn gyfartal ar gyfer y ddau rywedd heddiw.  Dewiswyd y Bardd yn ein Heisteddfod eleni ar ôl ysgrifennu’r gerdd ‘Diversity’.  Dyfarnwyd gwobr ac acolâd arbennig i’r gerdd hon gan ‘Cymru dros Heddwch’ hefyd.  Ym Mlwyddyn 3, defnyddiwyd y gwaith llenyddol ‘And Tango Makes Three’ i ymdrin â rhianta un rhyw a gwahanol deuluoedd.  Datblygodd disgyblion ganllawiau ‘What we need to Thrive’ o ganlyniad i’r gwaith hwn.  Ar draws yr ysgol, caiff disgyblion eu hannog i herio syniadau, herio rhagdybiaethau a herio stereoteipiau, gan ddatblygu i fod yn ddysgwyr iach, moesegol, gwybodus, uchelgeisiol a medrus.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae disgyblion Cleidda yn cyflawni ar y lefel uchaf mewn dysgu, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.  'Mae bron pob un o’r disgyblion yn dangos agwedd wych at bob agwedd ar fywyd yr ysgol.  Maent yn ymdrochi yn eu dysgu gan barhau i ganolbwyntio a gyda brwdfrydedd mawr.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn datblygu amgyffrediad moesol cryf iawn.  Mae ganddynt ymwybyddiaeth ragorol o’r angen am oddefgarwch mewn cymdeithas.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn dangos gwerthfawrogiad brwd iawn o amrywiaethO ganlyniad i’r prosiect hwn, enillodd disgyblion ddealltwriaeth anarferol o soffistigedig o’r materion hyn.  Mae hyn yn grymuso disgyblion i ddatblygu fel dinasyddion gwybodus, cyfrifol a goddefgar yn llwyddiannus iawn.’ Estyn, Rhagfyr, 2017.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer arloesol ac effeithiol gyda’i chlwstwr uwchradd o ysgolion a gyda’i ‘Grŵp yr Ysgol ar gyfer Adolygu Cymheiriaid’. 

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol