Arfer Effeithiol

Datblygu medrau trosglwyddadwy dysgwyr

Share this page

             

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae’r cwricwlwm nodedig yng Ngholeg Elidyr yn pwysleisio dysgu trwy brofiad a dysgu ymarferol ac mae’n cynnig dull cyflawn o ddysgu sy’n defnyddio pynciau’r tir, pynciau galwedigaethol a chrefftau i helpu dysgwyr i ddatblygu medrau ar gyfer byw yn fwy annibynnol. 

Mae’r coleg wedi ymrwymo i’r gred fod pob un o’r dysgwyr, beth bynnag fo’u galluoedd neu’u hanghenion, yn gallu gwneud cyfraniad unigryw ac unigol at fywyd y gymuned trwy waith.  Fodd bynnag, erbyn 2011, roedd y newid ym mhroffil dysgwyr y coleg yn golygu bod y rhan fwyaf ohonynt yn annhebygol o gael swydd wedi iddyn nhw adael y coleg.  Y gyrchfan fwyaf tebygol ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr fyddai byw gyda chymorth mewn amgylchedd trefol.  Cydnabuwyd bod angen i staff ddatblygu dealltwriaeth newydd o sut gallai eu meysydd gwaith helpu dysgwyr i ddatblygu’r medrau roedd eu hangen arnynt i fanteisio ar y cyrchfannau o’u dewis.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Y cam cyntaf i’r coleg oedd sefydlu dealltwriaeth well o ddiben pob pwnc neu faes gwaith, trwy ofyn y cwestiynau canlynol: pa fedrau sydd eu hangen ar bob dysgwr i drosglwyddo’n llwyddiannus i’w cyrchfan yn y dyfodol a sut gall pob maes dysgu gyfrannu at ddatblygu’r medrau hyn?  Yr hyn a ddaeth i’r amlwg o drafodaethau oedd cydnabyddiaeth bod meysydd dysgu’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu ystod eang o fedrau trosglwyddadwy, ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu medrau galwedigaethol penodol yn ogystal.  Roedd y medrau hyn yn cynnwys llythrennedd, rhifedd, cyfathrebu, medrau cymdeithasol a medrau datrys problemau, yn ogystal â medrau yn gysylltiedig â gwaith, fel deall arferion gweithio, iechyd a diogelwch a gwaith tîm.

Darparodd y coleg hyfforddiant ar gyfer pob un o’r staff i wneud yn siŵr eu bod yn deall sut i integreiddio addysgu medrau trosglwyddadwy â’u haddysgu eu hunain sy’n benodol i bwnc.  Roedd cynlluniau sesiynau yn dangos yn glir sut byddai medrau trosglwyddadwy yn cael eu haddysgu ochr yn ochr â medrau galwedigaethol.  Datblygodd pob tiwtor ysgolion dilyniant ar gyfer eu maes gwaith neu’u maes pwnc eu hunain ac fe gafodd targedau eu gosod a’u hadolygu yn erbyn y rhain yn rheolaidd, yn unol â gallu pob dysgwr unigol.

Ar yr un pryd, penodwyd cydlynydd profiad gwaith gan y coleg.  Ei thasg gyntaf oedd ymestyn ystod y lleoliadau profiad gwaith allanol fel y gallai dysgwyr ddewis lleoliadau a oedd yn addas i’w diddordebau penodol ac yn cysylltu’n dda â’r dysgu roeddent yn ei wneud yn y coleg.  Cyfrannodd at asesu cynnydd yn y lleoliadau, gan sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â thargedau dysgwyr yn y gweithle.

Yn ychwanegol, cynhaliodd y coleg adolygiad trylwyr o’r cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith ar y safle.  Y flaenoriaeth oedd sicrhau bod y rhain yn adeiladu ar ddysgu blaenorol dysgwr tra’n datblygu’r medrau a’r hyder sydd eu hangen i fanteisio ar brofiad gwaith yn allanol.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae’r medrau sy’n cael eu datblygu gan ddysgwyr yng Ngholeg Elidyr yn eu galluogi i gymryd rhan yn llwyddiannus mewn profiad gwaith yn y coleg a’r tu allan.  Mae pob dysgwr yn cymryd rhan mewn profiad gwaith mewnol, gan gynnwys gwaith ar y fferm, yn y swyddfa ac yn yr ardd.

Mae llawer o’r dysgwyr yn mynd yn eu blaen i wneud profiad gwaith allanol rheolaidd ym Mlynyddoedd 2 a 3, gan gynnwys garddio a gweithio mewn siop gymunedol leol. 

Mae’r ffocws ar ddatblygu medrau yn paratoi dysgwyr yn eithriadol o dda ar gyfer bywyd ar ôl y coleg ac yn eu helpu i fagu hyder a hunan-barch.

Trwy gymryd rhan ym menter Datgloi Potensial Ysgolion Arbennig (UPOSS) AB yn Sir Gaerfyrddin, mae’r coleg wedi rhannu’r gwaith hwn gyda chynrychiolwyr o Goleg Sir Gâr, Gyrfa Cymru, Ysgol Arbennig Heol Goffa a’r awdurdod lleol. Yn ychwanegol, mae wedi rhannu’r arfer â cholegau arbenigol annibynnol eraill yng Nghymru trwy gyfleoedd rhwydweithio rheolaidd.

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Mae dull strwythuredig o gyfathrebu yn helpu hyrwyddo amgylchedd dysgu cynhwysol

Yng Ngholeg Elidyr, mae dull cydlynus o gyfathrebu yn helpu cynorthwyo dysgwyr dieiriau. Mae’r dull hwn yn cyfuno siarad, arwyddo ac adnoddau corfforol. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Caiff rhaglenni dysgu unigol eu teilwra i gefnogi anghenion dysgwyr

Mae Coleg Elidyr yn goleg preswyl arbenigol. Mae’n lletya pobl ifanc ag awtistiaeth ac anawsterau ac anableddau dysgu. ...Read more
Adroddiad thematig |

Cynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn colegau arbenigol annibynnol

pdf, 1.8 MB Added 24/05/2016

Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor am y trefniadau mewn colegau arbenigol annibynnol ar gyfer mesur cynnydd dysgwyr a’r graddau y caiff dysgwyr eu paratoi ar gyfer trosglwyddo i a ...Read more