Arfer Effeithiol |

Datblygu medrau a brwdfrydedd disgyblion tuag at ddysgu, trwy gynllunio ac addysgu creadigol

Share this page

Nifer y disgyblion
62
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

O ganlyniad i brosesau hunanarfarnu’r ysgol, gwelwyd yr angen i ddatblygu egwyddorion y cyfnod sylfaen oddi fewn i gyfnod allweddol 2.  Penderfynwyd ei roi fel blaenoriaeth yn y cynllun gwella ysgol.  Yn y cyfamser rhoddwyd cyfleoedd i staff arsylwi a chydweithio am gyfnodau yn y cyfnod sylfaen gan benderfynu ar agweddau penodol i’w datblygu.  Er enghraifft, adnabyddwyd yr angen i datblygu cylchdroi tasgau o fewn ardaloedd, datblygu llais y dysgwyr er mwyn datblygu eu cymhelliant at ddysgu a magu annibyniaeth.

Cafwyd cyfle i fod ar lawr dosbarth yn holi'r dysgwyr am eu gwaith yn ogystal â chael cyfarfodydd i drafod dulliau cynllunio.  Hefyd, rhoddwyd cyfle i uwch gymhorthydd y cyfnod sylfaen ddod i rannu profiadau ac arferion gyda cymorthyddion cyfnod allweddol 2.  Penderfynwyd ar ardaloedd penodol i’w defnyddio i ddatblygu'r medrau ac annibyniaeth y disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mewn dosbarth cymysg, pedwar oedran, penderfynwyd rhannu’r disgyblion i bum grŵp yn unol â’u gallu.  Rhoddwyd y grwpiau mewn ardaloedd penodol i weithio am y prynhawn.  Mae’r grwpiau yn  cylchdroi ar dasgau gwahanol am yr wythnos sydd yn atgyfnerthu’r cyd-destun, gydag un grŵp ffocws.  Ar ddiwedd bob wythnos mae’r grwpiau yn asesu eu dealltwriaeth ac yn cynnig syniadau am dasgau'r wythnos ganlynol.  Mae hyn yn ennyn eu diddordeb, yn datblygu eu medrau a’u chwilfrydedd tuag at ddysgu yn grefftus ac yn cryfhau eu hymrwymiad i’w gwaith.

Er mwyn cryfhau llais y dysgwyr ymhellach a chymhwyso eu medrau, mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd i drefnu ac arwain prosiectau a’u ffilmio ar ffurf ‘vlog.’  Mae hyn yn atgyfnerthu’r dysgu a chreadigrwydd y disgyblion yn ogystal â’u hannibyniaeth.  Gwelir enghraifft o hyn wrth i ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4 geisio ateb y cwestiwn, ‘Sut allwn ni ddysgu plant Cymru am y diwydiant copr yma ym Mynydd Parys?’

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae perthynas aeddfed rhwng staff a disgyblion sydd yn creu awyrgylch dysgu brwdfrydig ymhob dosbarth i ddisgyblion o bob gallu.   Mae hyn wedi sicrhau bod bron bob disgybl yn ymroi yn llwyr i’r tasgau â chymhelliant, ac yn canolbwyntio am gyfnodau estynedig yn annibynnol.  Mae’r datblygiad hwn wedi sicrhau bod yr ysgol yn datblygu ac yn gweithio tuag at y cwricwlwm newydd i Gymru, a bod y pedwar diben yn greiddiol i’r holl ddarpariaeth. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhannwyd yr arferion gydag ysgolion cyfagos gan gydweithio a chynnal nosweithiau agored yn yr ysgol.  Mae’r ysgol eisoes yn rhan o brosiect datblygu cynllunio creadigol consortiwm GwE fydd yn cael ei rannu ac yn cydlynu cwricwlwm dyfodol llwyddiannus o fewn y dalgylch.  

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif ffrwd - Adroddiad arfer dda

pdf, 1.52 MB Added 23/01/2020

Mae’r ffocws yn yr adroddiad hwn ar yr arfer effeithiol gan ysgolion o dan y fframwaith statudol presennol a’r trefniadau a amlinellwyd yng Nghod Ymarfer Cymru (2002). ...Read more