Arfer Effeithiol |

Darparu cyfleoedd lleoliad gwaith mewn partneriaeth ag Addysg Uwch

Share this page

Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr/y sefydliad

Yn Ionawr 2012, ymunodd Rathbone Training â NCG, sef un o’r darparwyr addysg, hyfforddiant a hyfforddiant mewn medrau cyflogadwyedd mwyaf yn y DU.  Gan mwyaf, mae Rathbone yn darparu rhaglenni addysg a hyfforddiant yn gysylltiedig â gwaith i bobl ifanc 14-25 oed ledled y DU.

Mae Rathbone wedi mabwysiadu cenhadaeth ac amcanion NCG.  Cyflwynir amcanion yr elusen o fewn y fframwaith hwn.  Ein cenhadaeth yw “datblygu pobl trwy ddysgu a chyflawniad er eu lles eu hunain, y gymdeithas a’r economi”.  Prif weithgaredd y sefydliad yw trawsnewid bywydau pobl ifanc trwy ddatblygu medrau, addysg a chyflogaeth.

Prifysgol Caerdydd yw’r 12fed prifysgol fwyaf yn y DU o ran myfyrwyr, gyda chyfanswm o 28,540 ar gyfer 2013/14.  Mae’r Brifysgol wedi’i rhannu dros ddau safle, sef: campws Parc Cathays a champws Parc y Mynydd Bychan.  Mae campws Parc Cathays yn gartref i fwyafrif Ysgolion Academaidd y Brifysgol, sy’n rhannu safle 53 erw gydag Ysbyty Athrofaol Cymru, sef ysbyty â 900 o welyau sy’n un o’r ysbytai mwyaf yn y DU.  Mae enghreifftiau blaengar o ofal iechyd, addysg a gofal i gleifion yn integreiddio â chyfleusterau ymchwil byd-enwog i wneud hon yn ganolfan addysgu ac ymchwil bwysig.

Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013/14, amcangyfrifwyd mai cyfanswm yr incwm o gontractau ymchwil oedd £460 miliwn.  Roedd y Brifysgol yn y 5ed safle ymhlith prifysgolion y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 ar sail ansawdd ac yn 2ail ar sail effaith.  Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o Grŵp Russell, sef grŵp o 24 o brifysgolion blaenllaw yn y DU sy’n ddwys o ran ymchwil, a’r unig brifysgol Grŵp Russell yng Nghymru.

Mae cynllun strategol Prifysgol Caerdydd (2009/10 – 2013/14) yn cyfeirio at greu profiad addysgol ysbrydoledig a chyfoethog i’w myfyrwyr a fydd, o ganlyniad, yn cael ei gydnabod ac yn uchel ei barch gan gyflogwyr a chyrff proffesiynol.  Ar yr un pryd, bydd y Brifysgol, wrth gyflawni’r nod hwn, yn gweithredu fel catalydd ar gyfer gwella datblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru a’r DU. 

Mae Prifysgol Caerdydd yn dymuno ymgysylltu a rhannu arfer orau, er enghraifft ei gwaith partneriaeth gyda Rathbone Cymru.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae’r Brifysgol a Rathbone fel ei gilydd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cael profiad o leoliadau gwaith i atgyfnerthu dysgu ac addysgu mewn medrau sydd eu hangen i lwyddo mewn cyflogaeth gynaliadwy.  Arweiniodd hyn at greu rhaglen sydd yr un mor fuddiol ar gyfer dysgwyr y naill sefydliad a’r llall trwy gydweithio.

Mae dau faes allweddol, sef:  Darparu lleoedd i fyfyrwyr a datblygu’r cyfle ar gyfer ymchwil gymdeithasol

Mae Rathbone a’r Brifysgol (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Caerdydd) yn cynnal cyfle lleoliad i fyfyrwyr.  Modiwl dewisol yw hwn fel rhan o raglen radd yr ail flwyddyn, sy’n dwyn y teitl Gwybodaeth Ymarferol: Dadansoddi a Chael Profiad o Gyflogaeth (gyda Lleoliad), pan fydd myfyrwyr yn ennill credydau am gymryd rhan, ac mae’n cyfrif fel rhan o’u gradd.  Mae myfyrwyr yn mynychu darlithoedd a seminarau yn semester yr hydref (Medi i Ragfyr) ac yn mynychu lleoliad gwaith yn semester y gwanwyn (Ionawr i Ebrill).  Mae myfyrwyr yn cwblhau nifer ofynnol o oriau ar leoliad ond caiff hyd y cyfnod ei bennu yn ôl natur y prosiect.  Gall myfyrwyr drafod eu horiau mynychu gyda’r sefydliad sy’n lletya, sef Rathbone yn yr achos hwn.  Mae cynnwys y prosiect (lleoliad/interniaeth) yn darparu profiad dysgu ystyrlon i’r myfyriwr, sydd wedi’i ddiffinio’n glir gyda chynllun gwaith cytûn o’r dechrau.  Caiff myfyrwyr Prifysgol Caerdydd eu cynorthwyo gan Rathbone mewn sefyllfaoedd lleoliad gwaith go iawn.  Mae nifer o fyfyrwyr yn manteisio ar y cyfle a gallant gynorthwyo rhai o ddysgwyr Rathbone sydd ag anghenion cymhleth, yn ogystal â chael profiadau gwerthfawr o fywyd go iawn yn y gweithle.  Mae myfyrwyr y brifysgol hefyd yn cael profiad mewn rheoli digwyddiadau trwy gefnogi Seremoni Gwobrau Cyflawniad Rathbone a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ceir protocolau a gweithdrefnau clir, sydd wedi’u hymgorffori, ar gyfer gweithgarwch lleoliad gwaith a chytundeb partneriaeth rhwng y brifysgol a Rathbone Cymru.

Defnyddiwyd adroddiadau ymchwil myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i ddatblygu asesu effaith a nodi anghenion ymchwil yn Rathbone Cymru yn y dyfodol.  Yn unol â’r cefndir hwn, mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Caerdydd wedi creu a dilysu rhaglen radd newydd – Dadansoddeg Gymdeithasol B.Sc – gan wybod a hyderu y gall Rathbone Cymru gynorthwyo myfyrwyr ag elfennau allanol a gofynion academaidd y modiwl newydd, sef Ymchwil Byd Go Iawn (gyda lleoliad).  Mae’r modiwl wedi’i gynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr (neu dimau o fyfyrwyr) atgyfnerthu eu dulliau ymchwil trwy brofiad ymarferol mewn cynllunio, paratoi a gweithredu prosiect ymchwil ar y cyd â sefydliad allanol.  Mae hyn yn gofyn am oruchwyliaeth agos gan staff y brifysgol i sicrhau bod y meini prawf academaidd yn cael eu cyflawni, a chymorth manwl hefyd gan staff Rathbone Cymru â materion gweithredol o ddydd i ddydd.  Mae gweithio mewn partneriaeth a chydweithio yn allweddol i lwyddiant y rhaglen.

Caiff myfyrwyr Prifysgol Caerdydd eu paru â sefydliad allanol priodol sy’n lletya ar ddechrau’r flwyddyn academaidd a byddant yn treulio semester yr hydref yn gweithio gyda’r sefydliad i greu amserlen cynllunio ymchwil y byddant yn ei chynnal wedyn mewn lleoliad gwaith maes neu drwy ddadansoddi data uwchradd yn semester y Gwanwyn. 

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Hyd yn hyn, mae’r cydweithio wedi galluogi dysgwyr y ddau sefydliad i ddeall heriau a rhwystrau rhag dilyniant ei gilydd, gan gynnwys cael gwared ar stereoteipiau a gwella cydlyniad.

Mae dysgwyr Rathbone wedi gweld llwybr clir i Addysg Uwch, ac mae myfyrwyr y Brifysgol wedi cael profiad gwaith go iawn ym mhob agwedd ar sefydliad aml safle, cenedlaethol. 

Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn elwa ar gymhwyso theori academaidd mewn arfer ymchwil y byd go iawn.  Mae’r Brifysgol wedi nodi bod y priodoleddau canlynol yn bwysig o ran datblygu unigolyn graddedig cyflogadwy (UUK/CBI, 2009):  hunanreoli; gweithio mewn tîm; busnes ac ymwybyddiaeth fasnachol; datrys problemau; cyfathrebu a llythrennedd; cymhwyso rhifedd; a chymhwyso TG.  Mae’r modiwl newydd arloesol hwn yn ymgorffori’r medrau hyn o fewn rhaglenni astudio.  Mae cyfleoedd yn canolbwyntio ar arfer fyfyriol, yn annog gwydnwch, yn gwneud myfyrwyr yn agored i leoliadau anghyfarwydd ac yn helpu myfyrwyr i wneud ystyr o ystod o sefyllfaoedd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.  Mae pob un o’r rhain yn gwella profiad y myfyriwr.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Cyfarwyddwr Is-adrannol Rathbone a Staff y Brifysgol wedi rhoi nifer o gyflwyniadau i bartneriaid amrywiol i ehangu’r naill brosiect a’r llall.

Mae uwch staff yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod cynnydd dysgwyr a datblygiad y rhaglen.  Mae Rathbone wedi gweithio’n agos â’r Brifysgol i ddatblygu ac ehangu nifer y cyfleoedd lleoliad gwaith ar gyfer modiwlau arloesol newydd sydd â chredydau a marchnata rhaglenni gradd newydd.  Mae Cyfarwyddwr Cymru, Rathbone, wedi cydweithio â Dirprwy Gyfarwyddwr menter Q-Step a Rheolwr Lleoliadau Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Caerdydd i nodi a chynnig atebion ymarferol ac arloesol i hyrwyddo a marchnata’r rhaglenni hyn.  Mae hyn wedi cynnwys mynychu nosweithiau cyflwyniadau, digwyddiadau marchnata a chiniawau ffurfiol.