Arfer Effeithiol |

Cynorthwyo llywodraethwyr i gyflawni eu rôl yn fwy effeithiol

Share this page

Nifer y disgyblion
179
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Bontnewydd rhyw ddwy filltir o dref Caernarfon yng Ngwynedd.  Mae’r ysgol yn gwasanaethu’r pentref a’r cylch cyfagos, gan gynnwys pentrefi Caeathro a Llanfaglan.  Mae’n darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 11 oed.  Cymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a phrif gyfrwng y dysgu a’r addysgu.  Fe addysgir Saesneg yn ffurfiol yng nghyfnod allweddol 2.  Daw oddeutu 75% o’r disgyblion o gartrefi ble siaredir Cymraeg, ac ychydig iawn o ddisgyblion sydd o gefndir ethnig lleiafrifol.  Derbynnir plant i’r ysgol, yn amser llawn yn ystod y tymor maent yn bedair oed.  Mae 179 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 21 yn y dosbarth meithrin mewn saith dosbarth oed cymysg.

Oddeutu 3% o’r disgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sy’n sylweddol is na’r cyfartaledd cenedlaethol.  Mae 20% o’r disgyblion ar gofrestr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol. Mae’r ffigurau hyn yn is na chanrannau Cymru.  Mae chwe disgybl â datganiad o anghenion addysgol arbennig.  Lleolir uned anghenion addysg arbennig ar safle’r ysgol a bydd disgyblion o’r uned yn integreiddio i’r prif lif am gyfnodau penodol yn wythnosol. 

Penodwyd y pennaeth a’r dirprwy i’w swyddi ym mis Medi 2009.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Barnwyd fod rôl y corff llywodraethol yn ragoriaeth yn ystod arolygiad yr ysgol yn Chwefror 2017. Mae taith yr ysgol i gyrraedd y safon hon wedi bod yn un graddol dros gyfnod o amser.

Yn dilyn penodi tîm rheoli newydd yn 2009, adnabuwyd angen i ddatblygu fframwaith newydd ar gyfer cefnogi'r corff llywodraethu i’w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau yn fwy effeithiol.  Roedd y weledigaeth a gyflwynodd y pennaeth yn seiliedig at egwyddorion cyd berchnogaeth, cyd weithio a chyfranogiad ar lefel uchel.  Daeth i’r amlwg fod angen darparu hyfforddiant mewn sawl maes i staff ac aelodau o’r corff llywodraethol, ac y byddai angen cynyddu cynhwysedd y tîm rheoli i gynnwys holl athrawon yr ysgol yn y tîm hyfforddi.

Seiliwyd yr holl broses ar yr egwyddor o ‘ddysgu gyda’n gilydd’ a hynny ar bob lefel – rhwng disgyblion; disgyblion a staff; staff a’r corff llywodraethol – gan ddefnyddio dull mentora fel prif gyfrwng yr hyfforddiant.

Lluniwyd rhaglen hyfforddi i’w chyflawni dros gyfnod o dair blynedd.  Y nôd oedd arfogi llywodraethwyr gyda’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol fel eu bod yn gallu cyflawni eu rôl fel cyfaill beirniadol yn well.  Bu i’r ysgol ganolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant dehongli data, hunanarfarnu a llunio blaenoriaethau gwella.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Cynlluniwyd rhaglen weithredol oedd yn cynnwys blwyddyn o ffocws ar ddatblygu sgiliau staff mewn dehongli data, hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwelliant.  Erbyn ail flwyddyn y cynllun, roedd cynhwysedd hyfforddi'r ysgol wedi datblygu’n sylweddol.  Penderfynwyd i ddatblygu agweddau penodol o’r hyfforddiant yn dymhorol a hynny dros gyfnod o ddwy flynedd.  Yn ystod tymor yr hydref, prif ffocws yr hyfforddiant oedd dadansoddi data.  Yn ystod tymhorau’r gwanwyn blaenoriaethwyd hyfforddiant ar hunanarfarnu gyda'r dasg o gynllunio gwelliant yn dilyn yn nhymhorau’r haf.

Bu cyfrifoldeb cwricwlaidd i bob llywodraethwr ar y cychwyn, am gyfnod o ddwy flynedd, gyda phob un yn cyd-weithio mewn pâr gyda chydlynydd y pwnc neu’r maes hwnnw.  Cydweithiodd bob pâr i ddadansoddi data eu maes penodol gan gywain y prif negeseuon mewn adroddiad cryno.  Darparwyd offeryn dadansoddi gyda sgaffald ysgrifennu.  Cyfrifoldeb y cydlynwyr oedd rhannu’r dadansoddiad i weddill y staff dysgu mewn cyfarfod staff a chyfrifoldeb y llywodraethwyr oedd rhannu’r dadansoddiad gyda gweddill y corff llywodraethol.  Roedd yr adroddiadau hyn, ynghyd â dadansoddiad manylach y pennaeth, yn ffurfio’r adroddiad safonau blynyddol.  Erbyn yr ail flwyddyn o weithredu, roedd dadansoddiadau’r llywodraethwyr wedi miniogi i gynnwys trywyddau penodol i’w dilyn, er enghraifft, y berthynas rhwng cyfraddau presenoldeb bechgyn Blwyddyn 2 ar gyflawniad deilliant 6 y Cyfnod Sylfaen.

O ganlyniad, mae lefel hyder y cydlynwyr a’r llywodraethwyr wedi cynyddu yn sylweddol,  fel eu bod yn gallu dadansoddi data yn hollol annibynnol gan gyflwyno adroddiadau manwl i fwydo’r adroddiad safonau blynyddol.

Yn ystod tymhorau’r gwanwyn, mae’r un llywodraethwyr a chydlynwyr yn dod at eu gilydd mewn seiadau dysgu unigol.  Yn ystod y cyfarfodydd hyn, mae llywodraethwyr yn cael y cyfle i holi am ddatblygiadau o fewn y pwnc gyda’r cydlynwyr yn cael y cyfle i rannu canlyniadau eu blaenoriaethau gweithredu.  Mae’r cyfarfodydd hyn yn cynnwys craffu ar gynlluniau gwaith, perthnasu gofynion y fframweithiau llythrennedd a rhifedd i’r pwnc a chyfle i fynd ar deithiau dysgu, gan gynnwys gweld athrawon a dysgwyr wrth eu gwaith.  Mae’r llywodraethwyr a’r cydlynwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i gydweithio, gyda’r llywodraethwyr yn nodi yn benodol gwerth yr ymarferiad nid yn unig i ddwysau eu gwybodaeth am safonau o fewn eu pwnc ond hefyd i weld safonau cyffredinol dysgu ac addysgu ar lawr dosbarth; dulliau asesu’r ysgol ar waith; cyfranogiad dysgwyr mewn dysgu; y gefnogaeth a roddwyd i ddysgwyr anghenion dysgu ychwanegol a lefelau cynhwysiad o fewn yr ysgol.

O ganlyniad i’r gweithgareddau yma, mae seiadau dysgu yn rhan allweddol o galendr hunanarfarnu’r ysgol gan sicrhau mewnbwn llwyr y llywodraethwyr i’r broses.
 
O fewn eu parau, mae’r llywodraethwyr a’r cydlynwyd hefyd yn craffu ar waith dysgwyr.  Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys hyfforddiant ar gyflawniad dysgwyr a chynnydd dros amser, yn ogystal â hyfforddiant mewn egwyddorion hunanarfarnu grymus, gan gynnwys mentora penodol wrth ysgrifennu adroddiadau hunanarfarnu miniog a meintiol.  Mae’r llywodraethwyr yn canmol y dull yma o weithio, gan ei fod yn eu cynorthwyo i berthnasu'r safonau ar lawr dosbarth gyda’r data perfformiad.

Er mwyn sicrhau nad oedd gwybodaeth llywodraethwyr yn gyfyngedig i un pwnc cynhaliwyd sawl sesiwn ‘speed dating’.  Pwrpas y sesiynau hyn oedd rhoi cyfle i lywodraethwyr ganfod llawer o wybodaeth gyffredinol ar draws ystod o feysydd mewn cyfnod amser byr.  Staff yr ysgol fu’n hwyluso’r sesiynau gan gynnal seiadau unigol byr wyneb yn wyneb i gyflwyno gwybodaeth neu ateb ymholiadau.  Gan fod y broses hyfforddi flaenorol wedi bod mor llwyddiannus, roedd lefel yr holi yn dreiddgar a llwyddodd y llywodraethwyr i ehangu eu gwybodaeth ar draws nifer o feysydd pwysig.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r holl arferion hyn wedi sefydlogi ac wedi aeddfedu.  O ganlyniad mae’r corff llywodraethu wedi llwyddo i chwarae eu rôl fel cyfaill beirniadol gyda llawer mwy o hyder, dealltwriaeth a mewnwelediad.  Mae’r corff wedi datblygu i fod yn flaengar, fel ei fod bellach yn cynllunio eu rhaglen datblygol gyda pherchnogaeth gynyddol.  Caiff llywodraethwyr newydd eu hanwytho yn gyflym i’r prosesau’r hyn o fewn sesiynau grwpiau bach.  Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn ansawdd y cydweithio sydd rhwng staff a llywodraethwyr; perchnogaeth y rhanddeiliaid wrth ddatblygu cyfeiriad strategol yr ysgol; a chyfranogiad o lefel uchel er mwyn sicrhau gwelliant.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r datblygiadau hyn wedi sicrhau fod blaenoriaethau strategol cytunedig yn deillio o wybodaeth o dystiolaeth hunanarfanu uniongyrchol.  Mae gan y corff llywodraethol weledigaeth hir dymor o’r hyn sydd angen ei ddatblygu o fewn yr ysgol.  Maent yn ymwybodol iawn o’r heriau sydd yn gwynebu’r ysgol ac yn lliwio’r data perfformiad.  Maent yn ymwybodol iawn o ble mae’r rhagoriaethau o fewn yr ysgol a’r meysydd lle mae angen datblygu ymhellach. Mae hyn wedi arwain at lunio Cynllun Gweithredu Ysgol cadarn, gyda ffocws ar anghenion y dysgwyr.  Mae’r corff llywodraethol yn sicrhau fod amser ac adnoddau’r ysgol yn cael eu defnyddio yn briodol er mwyn codi safonau a sicrhau lles disgyblion.

Mae’r broses o ddatblygu cyd berchnogaeth, mentora staff a llywodraethwyr wedi gwireddu’r weledigaeth o sicrhau cyfranogiad rhanddeiliaid ar lefel uchel ac mae’r daith dysgu yn parhau.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer dda gyda nifer o ysgolion o fewn y sir drwy gynllun ‘Herio a Chefnogi GwE’.  Roedd y broses yma o rannu ac arwain yn cynnwys mentora criwiau o benaethiaid dros gyfnod o amser fel eu bod hwythau yn gallu efelychu’r arfer yn eu hysgolion eu hunain.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif ffrwd - Adroddiad arfer dda

pdf, 1.52 MB Added 23/01/2020

Mae’r ffocws yn yr adroddiad hwn ar yr arfer effeithiol gan ysgolion o dan y fframwaith statudol presennol a’r trefniadau a amlinellwyd yng Nghod Ymarfer Cymru (2002). ...Read more